NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae datblygiad yng Nghymru yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol os yw’n bodloni’r meini prawf a bennir mewn rheoliadau(1) neu os pennir ei fod yn ddatblygiad o’r fath yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol(2).

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y modd y bydd Gweinidogion Cymru yn ymdrin â cheisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o’r fath.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth mewn perthynas â—

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.

(1)

Gweler adran 62D(3) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) a Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/53) (Cy. 23) (“Rheoliadau Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig”).

(2)

Gweler adran 62D(4) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.