- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gwnaed
15 Mawrth 2016
Yn dod i rym
16 Mawrth 2016
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mawrth 2016.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
mae “etholaeth Cynulliad” (“Assembly constituency”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(3);
ystyr “etholiad comisiynydd heddlu a throseddu” (“PCC election”) yw etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yn unol â Phennod 6 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011(4);
mae “rhanbarth etholiadol Cynulliad” (“Assembly electoral region”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
3. Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2011(5); a
(b)Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2012(6).
4. Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yw’r swm a restrir yng ngholofn 4 o’r tabl yn Atodlen 1.
5.—(1) Rhaid i gyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau etholaeth eu hadennill mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu mewn cysylltiad â gwasanaethau penodedig beidio â bod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob etholaeth Cynulliad yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 1.
(2) Y gwasanaethau penodedig yw—
(a)gwneud trefniadau ar gyfer yr etholiad;
(b)cynnal yr etholiad;
(c)cyflawni holl ddyletswyddau swyddog canlyniadau etholaeth mewn cysylltiad â’r etholiad.
6.—(1) Rhaid i gyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau etholaeth eu hadennill mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu mewn cysylltiad â threuliau penodedig beidio â bod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob etholaeth Cynulliad yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 1.
(2) Y treuliau penodedig yw—
(a)penodi a thalu personau i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaeth;
(b)treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos y swyddog canlyniadau etholaeth ac unrhyw berson a benodir i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaeth;
(c)costau’r broses enwebu;
(d)argraffu neu gynhyrchu fel arall y papurau pleidleisio;
(e)argraffu neu gynhyrchu fel arall neu brynu deunyddiau pleidleisio drwy’r post;
(f)argraffu neu gynhyrchu fel arall gardiau pleidleisio, a threfnu i’w dosbarthu;
(g)argraffu neu gynhyrchu fel arall yr holl hysbysiadau a dogfennau etholiad, a’u cyhoeddi;
(h)rhentu, gwresogi, goleuo, glanhau, addasu neu adfer unrhyw adeilad neu ystafell;
(i)darparu a chludo cyfarpar;
(j)darparu cyfarpar a meddalwedd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a chostau cysylltiedig;
(k)darparu diogelwch, gan gynnwys storio blychau pleidleisio, papurau pleidleisio a dogfennau gwirio yn ddiogel;
(l)cynnal y gwirio a’r cyfrif;
(m)darparu a chael hyfforddiant;
(n)darparu deunyddiau ysgrifennu a thalu costau postio, ffonio, argraffu, cyfieithu a bancio a chostau eitemau amrywiol eraill.
7. Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yw’r swm a restrir yng ngholofn 4 o’r tabl yn Atodlen 2.
8.—(1) Rhaid i gyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol eu hadennill mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu mewn cysylltiad â gwasanaethau penodedig beidio â bod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob rhanbarth etholiadol Cynulliad yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 2.
(2) Y gwasanaethau penodedig yw—
(a)gwneud trefniadau ar gyfer yr etholiad;
(b)cynnal yr etholiad;
(c)cyflawni holl ddyletswyddau swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn cysylltiad â’r etholiad.
9.—(1) Rhaid i gyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol eu hadennill mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu, mewn cysylltiad â threuliau penodedig, beidio â bod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob rhanbarth etholiadol Cynulliad yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2.
(2) Y treuliau penodedig yw—
(a)penodi a thalu personau i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau rhanbarthol;
(b)treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos y swyddog canlyniadau rhanbarthol ac unrhyw berson a benodir i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau rhanbarthol;
(c)costau’r broses enwebu;
(d)argraffu neu gynhyrchu fel arall hysbysiadau etholiad, a’u cyhoeddi;
(e)argraffu neu gynhyrchu fel arall y papurau pleidleisio;
(f)darparu deunyddiau ysgrifennu a thalu costau postio, ffonio, argraffu, cyfieithu a bancio a chostau eitemau amrywiol eraill.
10. Mewn etholiad etholaeth Cynulliad nas ymleddir—
(a)nid yw erthyglau 4 i 6 yn gymwys; a
(b)y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau a threuliau yw £1,750.00 (un fil a saith gant a hanner o bunnoedd) am bob etholaeth.
11. Mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad nas ymleddir—
(a)nid yw erthyglau 7 i 9 yn gymwys; a
(b)y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau a threuliau yw £350.00 (tri chant a hanner o bunnoedd) am bob rhanbarth.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
15 Mawrth 2016
Erthyglau 4, 5(1) a 6(1)
1. Etholaeth Cynulliad | 2. Cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am y gwasanaethau penodedig | 3. Cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am y treuliau penodedig | 4. Cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy |
|---|---|---|---|
| Aberafan | £4,730.00 | £78,300.00 | £83,030.00 |
| Aberconwy | £4,730.00 | £74,791.00 | £79,521.00 |
| Alun a Glannau Dyfrdwy | £4,730.00 | £78,247.00 | £82,977.00 |
| Arfon | £4,730.00 | £53,033.00 | £57,763.00 |
| Blaenau Gwent | £4,730.00 | £83,885.00 | £88,615.00 |
| Bro Morgannwg | £4,730.00 | £154,592.00 | £159,322.00 |
| Brycheiniog a Sir Faesyfed | £4,730.00 | £82,353.00 | £87,083.00 |
| Caerffili | £4,730.00 | £82,797.00 | £87,527.00 |
| Canol Caerdydd | £4,730.00 | £97,476.00 | £102,206.00 |
| Castell-nedd | £4,730.00 | £87,369.00 | £92,099.00 |
| Ceredigion | £4,730.00 | £92,231.00 | £96,961.00 |
| Cwm Cynon | £4,730.00 | £74,772.00 | £79,502.00 |
| De Caerdydd a Phenarth | £4,730.00 | £124,167.00 | £128,897.00 |
| De Clwyd | £4,730.00 | £77,729.00 | £82,459.00 |
| Delyn | £4,730.00 | £76,748.00 | £81,478.00 |
| Dwyfor Meirionnydd | £4,730.00 | £66,589.00 | £71,319.00 |
| Dwyrain Abertawe | £4,730.00 | £67,269.00 | £71,999.00 |
| Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr | £4,730.00 | £97,561.00 | £102,291.00 |
| Dwyrain Casnewydd | £4,730.00 | £87,003.00 | £91,733.00 |
| Dyffryn Clwyd | £4,730.00 | £87,230.00 | £91,960.00 |
| Gogledd Caerdydd | £4,730.00 | £120,200.00 | £124,930.00 |
| Gorllewin Abertawe | £4,730.00 | £67,494.00 | £72,224.00 |
| Gorllewin Caerdydd | £4,730.00 | £112,966.00 | £117,696.00 |
| Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro | £4,730.00 | £96,423.00 | £101,153.00 |
| Gorllewin Casnewydd | £4,730.00 | £89,112.00 | £93,842.00 |
| Gorllewin Clwyd | £4,730.00 | £97,530.00 | £102,260.00 |
| Gŵyr | £4,730.00 | £73,880.00 | £78,610.00 |
| Islwyn | £4,730.00 | £74,543.00 | £79,273.00 |
| Llanelli | £4,730.00 | £90,871.00 | £95,601.00 |
| Merthyr Tudful a Rhymni | £4,730.00 | £83,531.00 | £88,261.00 |
| Mynwy | £4,730.00 | £105,161.00 | £109,891.00 |
| Ogwr | £4,730.00 | £90,819.00 | £95,549.00 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £4,730.00 | £91,963.00 | £96,693.00 |
| Pontypridd | £4,730.00 | £80,025.00 | £84,755.00 |
| Preseli Sir Benfro | £4,730.00 | £94,370.00 | £99,100.00 |
| Rhondda | £4,730.00 | £78,984.00 | £83,714.00 |
| Sir Drefaldwyn | £4,730.00 | £65,864.00 | £70,594.00 |
| Torfaen | £4,730.00 | £77,098.00 | £81,828.00 |
| Wrecsam | £4,730.00 | £64,516.00 | £69,246.00 |
| Ynys Môn | £4,730.00 | £100,671.00 | £105,401.00 |
Erthyglau 7, 8(1) a 9(1)
1. Rhanbarth Etholiadol Cynulliad | 2. Cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am y gwasanaethau penodedig | 3. Cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am y treuliau penodedig | 4. Cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy |
|---|---|---|---|
| Canol De Cymru | £2,400.00 | £17,573.00 | £19,973.00 |
| Canolbarth a Gorllewin Cymru | £2,400.00 | £15,157.00 | £17,557.00 |
| Dwyrain De Cymru | £2,400.00 | £16,529.00 | £18,929.00 |
| Gogledd Cymru | £2,400.00 | £16,645.00 | £19,045.00 |
| Gorllewin De Cymru | £2,400.00 | £14,089.00 | £16,489.00 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer taliadau am wasanaethau a threuliau swyddogion canlyniadau mewn cysylltiad â chynnal etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd i’w cynnal ar y cyd ag etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu (yn unol â Phennod 6 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011) ar yr un dyddiad yn 2016. Mae’r symiau a ddynodir yn y Gorchymyn hwn fel y cyfansymiau mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau penodedig ac am dreuliau penodedig swyddogion canlyniadau wedi cymryd i ystyriaeth y darpariaethau a gynhwysir yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Cyfuno Etholiadau a Diwygio) 2016 (O.S. 2016/272) sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y costau hyn yn cael eu rhannu’n gyfartal rhwng etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu.
Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2011 (O.S. 2011/632 (Cy. 92)) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2012 (O.S. 2012/2478 (Cy. 270)). Fe’i gwneir o dan erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236). Mae erthygl 23 yn darparu bod hawl gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol i adennill taliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarparwyd neu dreuliau yr aed iddynt mewn cysylltiad ag etholiad Cynulliad.
Mae erthyglau 4, 5 a 6 o’r Gorchymyn hwn yn pennu’r cyfansymiau mwyaf sy’n adenilladwy gan swyddogion canlyniadau etholaethau pob etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynwyr heddlu a throseddu.
Mae’r tabl yn Atodlen 1 yn rhestru, yn ôl etholaeth, y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau penodedig (colofn 2), y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau penodedig (colofn 3) a’r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy (colofn 4).
Mae erthyglau 7, 8 a 9 yn pennu’r cyfansymiau mwyaf sy’n adenilladwy gan swyddogion canlyniadau rhanbarthol pob etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynwyr heddlu a throseddu.
Mae’r tabl yn Atodlen 2 yn rhestru, yn ôl rhanbarth etholiadol, y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau penodedig (colofn 2), y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau penodedig (colofn 3) a’r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy (colofn 4).
Yn achos etholiad nas ymleddir mewn etholaeth Cynulliad, mae erthygl 10 yn darparu nad yw erthyglau 4 i 6 yn gymwys. Yn lle hynny, y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy yw £1,750 am bob etholaeth Cynulliad.
Yn achos etholiad nas ymleddir mewn rhanbarth y Cynulliad, mae erthygl 11 yn darparu nad yw erthyglau 7 i 9 yn gymwys. Yn lle hynny, y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy yw £350 am bob rhanbarth y Cynulliad.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 1 iddi, trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys