Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 157 o Ddeddf Tai 1985 (“Deddf 1985”), os yw trawsgludiad neu grant yn cael ei gyflawni yn unol â Rhan V o Ddeddf 1985 (yr hawl i brynu) gan awdurdod lleol neu gymdeithas tai (y landlord) a bod y tŷ annedd hwnnw wedi'i leoli mewn:

  • Parc Cenedlaethol,

  • ardal sydd wedi'i dynodi o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ardal o harddwch naturiol eithradol, neu

  • ardal sydd wedi'i dynodi drwy orchymyn Cynulliad Cendlaethol Cymru yn ardal wledig,

fe all y trawsgludiad neu'r grant gynnwys cyfamod sy'n cyfyngu ar hawl y tenant i werthu'r tŷ annedd yn y modd a nodwyd yn yr adran honNo.

O dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”) mae gan denant landlord cymdeithasol cofrestredig hawl mewn amgylchiadau penodol i gaffael yr annedd y mae ef neu hi yn byw ynddi. Mae hyn yn ddarostyngedig i adran 17 o Ddeddf 1996 sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol drwy orchymyn i ddynodi ardaloedd gwledig mewn perthynas ag anheddau lle na fydd yr hawl sy'n cael ei rhoi gan adran 16 yn codi.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi ardaloedd gwledig at ddibenion adran 157 o Ddeddf 1985 ac adran 17 o Ddeddf 1996. Mae'n disodli Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 1980. Yn ychwanegol, ar gyfer tenantiaethau a ddechreuodd ar 7 Chwefror 2003 neu ar ôl hynny, mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Erthygl 3(b) o Orchymyn Diwygio Cyfraith Prydlesi a Thai (Tenantiaethau wedi'u Heithrio) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig) (Cymru) 1997. Ar gyfer tenantiaethau a ddechreuodd cyn 7 Chwefror 2003, mae erthygl 3(b) o Orchymyn Diwygio Cyfraith Prydlesi a Thai (Tenantiaethau wedi'u Heithrio) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig) (Cymru) 1997 yn parhau i fod yn effeithiol ac ni fydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tenantiaethau hynny.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill