(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 157 o Ddeddf Tai 1985 (“Deddf 1985”), os yw trawsgludiad neu grant yn cael ei gyflawni yn unol â Rhan V o Ddeddf 1985 (yr hawl i brynu) gan awdurdod lleol neu gymdeithas tai (y landlord) a bod y tŷ annedd hwnnw wedi'i leoli mewn:
Parc Cenedlaethol,
ardal sydd wedi'i dynodi o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ardal o harddwch naturiol eithradol, neu
ardal sydd wedi'i dynodi drwy orchymyn Cynulliad Cendlaethol Cymru yn ardal wledig,
fe all y trawsgludiad neu'r grant gynnwys cyfamod sy'n cyfyngu ar hawl y tenant i werthu'r tŷ annedd yn y modd a nodwyd yn yr adran honNo.
O dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”) mae gan denant landlord cymdeithasol cofrestredig hawl mewn amgylchiadau penodol i gaffael yr annedd y mae ef neu hi yn byw ynddi. Mae hyn yn ddarostyngedig i adran 17 o Ddeddf 1996 sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol drwy orchymyn i ddynodi ardaloedd gwledig mewn perthynas ag anheddau lle na fydd yr hawl sy'n cael ei rhoi gan adran 16 yn codi.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi ardaloedd gwledig at ddibenion adran 157 o Ddeddf 1985 ac adran 17 o Ddeddf 1996. Mae'n disodli Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 1980. Yn ychwanegol, ar gyfer tenantiaethau a ddechreuodd ar 7 Chwefror 2003 neu ar ôl hynny, mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Erthygl 3(b) o Orchymyn Diwygio Cyfraith Prydlesi a Thai (Tenantiaethau wedi'u Heithrio) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig) (Cymru) 1997. Ar gyfer tenantiaethau a ddechreuodd cyn 7 Chwefror 2003, mae erthygl 3(b) o Orchymyn Diwygio Cyfraith Prydlesi a Thai (Tenantiaethau wedi'u Heithrio) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig) (Cymru) 1997 yn parhau i fod yn effeithiol ac ni fydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tenantiaethau hynny.