Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1663 (Cy.158)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

25 Mehefin 2002

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2002

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(b) a (10)(aa) a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1), ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “athro neu athrawes berthnasol” (“relevant teacher”) yw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes (pa un a ddisgrifir y swydd y cyflogir y person ynddi yn swydd addysgu ai peidio) mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach ac eithrio—

    (a)

    person a gyflogir i addysgu cyrsiau addysg uwch yn unig, a

    (b)

    person nad addysgu yw ei brif alwedigaeth neu broffesiwn ac a gyflogir gan y coleg ar sail dros dro neu achlysurol i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar arferion diwydiannol, masnachol neu broffesiynol cyfredol;

  • ystyr “cymhwyster addysgu AB cam 3” (“stage 3 FE teaching qualification”) yw cymhwyster y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “cymhwyster addysgu AB cam 2” (“stage 2 FE teaching qualification”) yw cam canol y cymhwyster addysgu AB cam 3 y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “cymhwyster addysgu AB cam 1” (“stage 1 FE teaching qualification”) yw cam rhagarweiniol y cymhwyster addysgu AB cam 3 y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “cymhwyster Rheoliadau 1999” (“1999 Regulations qualification”) yw cymhwyster sy'n rhoi i berson statws athro neu athrawes gymwysedig o fewn ystyr rheoliad 10 o Reoliadau 1999;

  • ysytyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999(3);

  • ystyr “sefydliad o fewn y sector addysg bellach” (“institution within the further education sector”) yw sefydliad o fewn ystyr “institutions within the further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(4);

  • ystyr “swydd cam 3” (“stage 3 post”) yw swydd addysgu y mae cymhwyster addysgu AB cam 3, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;

  • ystyr “swydd cam 2” (“stage 2 post”) yw swydd addysgu rhan-amser y mae cymhwyster addysgu AB cam 2, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;

  • ystyr “swydd cam 1” (“stage 1 post”) yw swydd addysgu rhan-amser y mae cymhwyster addysgu AB cam 1, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;

  • ystyr “Tystysgrif Addysg” (“Certificate of Education”) yw cymhwyster o'r enw hwnnw ac a ddyfarnwyd cyn 1 Awst 2002 gan sefydliad yn y sector addysg uwch.

Athrawon perthnasol i feddu ar gymwysterau

3.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob person sy'n mynd yn athro neu athrawes berthnasol ar neu wedi 1 Gorffennaf 2002 mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru ac na fu ar unrhyw adeg cyn y dyddiad hwnnw yn—

(a)athro neu athrawes berthnasol (mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr);

(b)athro neu athrawes—

(i)yng Nghymru neu Loegr, mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg leol, coleg technoleg dinasol, coleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau neu academi ddinasol neu, cyn 1 Medi 1999, ysgol a gynhelid â grant neu ysgol arbennig a gynhelid â grant;

(ii)yn yr Alban, ysgol a gynorthwyir â grant neu ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg;

(iii)yng Ngogledd Iwerddon, ysgol a reolir o dan awdurdod bwrdd addysg a llyfrgelloedd lleol, ysgol a gynhelir, ysgol integredig a gynhelir â grant neu ysgol ramadeg wirfoddol;

(c)athro neu athrawes mewn sefydliad (yng Nghymru neu Loegr) a oedd, cyn 1 Ebrill 2001 yn sefydliad allanol o fewn ystyr “external institution” yn adran 6(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(5);

(ch)athro neu athrawes—

(i)yn yr Alban, mewn coleg addysg bellach,

(ii)yng Ngogledd Iwerddon, mewn sefydliad addysg bellach o fewn ystyr “institution of further education” yng Ngorchymyn Addysg Bellach (Gogledd Iwerddon) 1997(6);

(d)athro neu athrawes mewn sefydliad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw sy'n darparu addysg sy'n gyfwerth ag addysg uwchradd neu addysg bellach ac sy'n rhan o system gyhoeddus addysg y wladwriaeth neu'r diriogaeth dan sylw.

(2Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi ac sydd ar unrhyw adeg yn cael ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, erbyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(1) (os digwydd), ddal—

(a)cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

(b)Tystysgrif Addysg;

(c)cymhwyster addysgu AB cam 3; neu

(ch)cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 3.

(3Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi a gyflogir ar unrhyw adeg yn rhan-amser o dan gontract i weithio am gyfran benodol o'r cyfnod y cyflogir athro neu athrawes lawnmamser i weithio ynddo, erbyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(1) (os digwydd), ddal—

(a)cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

(b)Tystysgrif Addysg;

(c)cymhwyster addysgu AB cam 3; neu

(ch)cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 3.

(4Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi ac a gyflogir ar unrhyw adeg yn rhan-amser ac nad yw'n dod o fewn paragraff (3), cyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(2) (os digwydd), ddal—

(a)cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

(b)Tystysgrif Addysg;

(c)cymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3 (gan ddibynnu pa un ai mewn swydd cam 1, swydd cam 2 neu swydd cam 3 y cyflogir yr athro neu'r athrawes); neu

(ch)cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3 (gan ddibynnu pa un ai mewn swydd cam 1, cam 2 neu gam 3 y cyflogir yr athro neu'r athrawes).

(5At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae cymhwyster yn gyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o safon cywerth â, neu o safon uwch na, y cymhwysterau hynny ac os pennir ef gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a

(b)caiff person sy'n dal cymhwyster addysgu AB cam 3 ei drin fel petai hefyd yn dal cymhwyster addysgu AB cam 2 a chaiff person sy'n dal, neu sy'n cael ei drin fel petai'n dal, cymhwyster addysgu AB cam 2 ei drin fel petai hefyd yn dal cymhwyster cam 1.

Dyddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3

4.—(1Y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(2) a (3) yw'r dyddiad y mae'r athro neu'r athrawes wedi ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, neu'n rhan-amser arno o dan gontract fel a grybwyllir yn rheoliad 3(3), am gyfnod o, neu am gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn—

(a)ddwy flynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno, os cyflogir yr athro neu'r athrawes yn llawnamser; a

(b)pedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno, os cyflogir yr athro neu'r athrawes yn rhan-amser.

(2Y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(4) yw—

(a)os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 1, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, ddwy flynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno;

(b)os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 2, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno mewn swydd cam 2 neu swydd cam 3 am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, bedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno;

(c)os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 3, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno mewn swydd cam 3 am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, bedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arNo.

(3Y “cwrs perthnasol” y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a (2) yw—

(a)at ddibenion paragraff (1), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 3 y gallai fod yn rhesymol i'r athro neu'r athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes fynd yn athro neu'n athrawes berthnasol gyntaf a chael ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, neu'n rhan-amser o dan gontract fel a grybwyllir yn rheoliad 3(3);

(b)at ddibenion paragraff (2)(a), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 1 y gallai fod yn rhesymol i athro neu athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes fynd yn athro neu athrawes berthnasol;

(c)at ddibenion paragraff (2)(b), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 2 y gallai fod yn rhesymol i'r athro neu i'r athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes ddechrau ar swydd cam 2 neu swydd cam 3 am y tro cyntaf; a

(ch)at ddibenion paragraff (2)(c), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 3 y gall fod yn rheysmol i athro neu athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes ddechrau ar swydd cam 3 am y tro cyntaf.

(4Wrth gyfrif y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (3) ni chyfrifir y cyfnodau canlynol—

(a)unrhyw gyfnodau pryd mae'r athro neu'r athrawes yn absennol oherwydd salwch, seibiant mamolaeth neu seibiant rhieiniol ; a

(b)unrhyw gyfnodau eraill y mae o dan yr holl amgylchiadau yn rhesymol i'w gadael allan o'r cyfrif.

Diwygio Rheoliadau 1999

5.  Diwygir Rheoliad 4 o Reoliadau 1999 fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (2)(b) ar ôl “sefydliad addysg bellach” mewnosodir “a gynhelir gan awdurdod addysg lleol”; a

(b)am baragraff (3) amnewidir—

(3) Mae'r gofynaid ym mharagraff (1) yn ychwanegol at y gofynion sy'n ymwneud â chymwysterau ar gyfer cyflogaeth mewn ysgolion a sefydliadau o fewn y sector addysg bellach a gynhwysir yn Rhan IV o'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002 yn y drefn honNo. .

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mehefin 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar bersonau penodol a gyflogir yn athrawon mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach i feddu ar gymwysterau. Bydd y gofynion yn gymwys i athrawon sy'n bodloni'r diffiniad o “athro neu athrawes berthnasol” yn rheoliad 2 ac a gyflogir mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach ar ôl 1 Gorffennaf 2002 os nad ydynt wedi addysgu mewn ysgolion a gynhelir neu sefydliadau addysg bellach a ariennir yn gyhoeddus o'r blaen (rheoliad 3(1)). Yn rhinwedd adran 218(13) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 bydd y Rheoliadau yn gymwys i bersonau a gymerir ymlaen i ddarparu gwasanaethau fel athrawon ond sydd heb gontract cyflogaeth, yn ogystal â'r personau hynny a gyflogir o dan gontract cyflogaeth.

Mae rheoliadau 3(2), (3) a (4) a 4 yn darparu ar gyfer lefelau o gymwsyterau ac ar gyfer y cyfnodau y mae rhaid cael y cymwysterau ynddynt.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999.

Pennir y safonau ar gyfer rhai o'r cymhwysterau y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r safonau hynny oddi wrth Sefydliad Hyfforddiant Cenedlaethol Addysg Bellach (Cymru), Canolfan Quadrant, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5WF.

(1)

1988 p.40; mewnosodwyd adran 218(10)(aa) gan adran 93 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13) a pharagraff 49(c) o Atodlen 8 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(5)

1992 p.13; diddymwyd adran 6(5) gan adrannau 149 a 153 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) a pharagraffau 1 a 20 o Atodlen 9 ac Atodlen 11 iddi.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill