2002 Rhif 1663 (Cy.158)
ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(b) a (10)(aa) a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 19881, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “athro neu athrawes berthnasol” (“relevant teacher”) yw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes (pa un a ddisgrifir y swydd y cyflogir y person ynddi yn swydd addysgu ai peidio) mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach ac eithrio—

    1. (a)

      person a gyflogir i addysgu cyrsiau addysg uwch yn unig, a

    2. (b)

      person nad addysgu yw ei brif alwedigaeth neu broffesiwn ac a gyflogir gan y coleg ar sail dros dro neu achlysurol i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar arferion diwydiannol, masnachol neu broffesiynol cyfredol;

  • ystyr “cymhwyster addysgu AB cam 3” (“stage 3 FE teaching qualification”) yw cymhwyster y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “cymhwyster addysgu AB cam 2” (“stage 2 FE teaching qualification”) yw cam canol y cymhwyster addysgu AB cam 3 y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “cymhwyster addysgu AB cam 1” (“stage 1 FE teaching qualification”) yw cam rhagarweiniol y cymhwyster addysgu AB cam 3 y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “cymhwyster Rheoliadau 1999” (“1999 Regulations qualification”) yw cymhwyster sy'n rhoi i berson statws athro neu athrawes gymwysedig o fewn ystyr rheoliad 10 o Reoliadau 1999;

  • ysytyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 19993;
  • ystyr “sefydliad o fewn y sector addysg bellach” (“institution within the further education sector”) yw sefydliad o fewn ystyr “institutions within the further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19924;
  • ystyr “swydd cam 3” (“stage 3 post”) yw swydd addysgu y mae cymhwyster addysgu AB cam 3, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;

  • ystyr “swydd cam 2” (“stage 2 post”) yw swydd addysgu rhan-amser y mae cymhwyster addysgu AB cam 2, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;

  • ystyr “swydd cam 1” (“stage 1 post”) yw swydd addysgu rhan-amser y mae cymhwyster addysgu AB cam 1, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;

  • ystyr “Tystysgrif Addysg” (“Certificate of Education”) yw cymhwyster o'r enw hwnnw ac a ddyfarnwyd cyn 1 Awst 2002 gan sefydliad yn y sector addysg uwch.

Athrawon perthnasol i feddu ar gymwysterau3.

(1)

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob person sy'n mynd yn athro neu athrawes berthnasol ar neu wedi 1 Gorffennaf 2002 mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru ac na fu ar unrhyw adeg cyn y dyddiad hwnnw yn—

(a)

athro neu athrawes berthnasol (mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr);

(b)

athro neu athrawes—

(i)

yng Nghymru neu Loegr, mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg leol, coleg technoleg dinasol, coleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau neu academi ddinasol neu, cyn 1 Medi 1999, ysgol a gynhelid â grant neu ysgol arbennig a gynhelid â grant;

(ii)

yn yr Alban, ysgol a gynorthwyir â grant neu ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg;

(iii)

yng Ngogledd Iwerddon, ysgol a reolir o dan awdurdod bwrdd addysg a llyfrgelloedd lleol, ysgol a gynhelir, ysgol integredig a gynhelir â grant neu ysgol ramadeg wirfoddol;

(c)

athro neu athrawes mewn sefydliad (yng Nghymru neu Loegr) a oedd, cyn 1 Ebrill 2001 yn sefydliad allanol o fewn ystyr “external institution” yn adran 6(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19925;

(ch)

athro neu athrawes—

(i)

yn yr Alban, mewn coleg addysg bellach,

(ii)

yng Ngogledd Iwerddon, mewn sefydliad addysg bellach o fewn ystyr “institution of further education” yng Ngorchymyn Addysg Bellach (Gogledd Iwerddon) 19976;

(d)

athro neu athrawes mewn sefydliad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw sy'n darparu addysg sy'n gyfwerth ag addysg uwchradd neu addysg bellach ac sy'n rhan o system gyhoeddus addysg y wladwriaeth neu'r diriogaeth dan sylw.

(2)

Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi ac sydd ar unrhyw adeg yn cael ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, erbyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(1) (os digwydd), ddal—

(a)

cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

(b)

Tystysgrif Addysg;

(c)

cymhwyster addysgu AB cam 3; neu

(ch)

cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 3.

(3)

Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi a gyflogir ar unrhyw adeg yn rhan-amser o dan gontract i weithio am gyfran benodol o'r cyfnod y cyflogir athro neu athrawes lawnmamser i weithio ynddo, erbyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(1) (os digwydd), ddal—

(a)

cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

(b)

Tystysgrif Addysg;

(c)

cymhwyster addysgu AB cam 3; neu

(ch)

cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 3.

(4)

Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi ac a gyflogir ar unrhyw adeg yn rhan-amser ac nad yw'n dod o fewn paragraff (3), cyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(2) (os digwydd), ddal—

(a)

cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

(b)

Tystysgrif Addysg;

(c)

cymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3 (gan ddibynnu pa un ai mewn swydd cam 1, swydd cam 2 neu swydd cam 3 y cyflogir yr athro neu'r athrawes); neu

(ch)

cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3 (gan ddibynnu pa un ai mewn swydd cam 1, cam 2 neu gam 3 y cyflogir yr athro neu'r athrawes).

(5)

At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)

mae cymhwyster yn gyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o safon cywerth â, neu o safon uwch na, y cymhwysterau hynny ac os pennir ef gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a

(b)

caiff person sy'n dal cymhwyster addysgu AB cam 3 ei drin fel petai hefyd yn dal cymhwyster addysgu AB cam 2 a chaiff person sy'n dal, neu sy'n cael ei drin fel petai'n dal, cymhwyster addysgu AB cam 2 ei drin fel petai hefyd yn dal cymhwyster cam 1.

Dyddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 34.

(1)

Y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(2) a (3) yw'r dyddiad y mae'r athro neu'r athrawes wedi ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, neu'n rhan-amser arno o dan gontract fel a grybwyllir yn rheoliad 3(3), am gyfnod o, neu am gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn—

(a)

ddwy flynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno, os cyflogir yr athro neu'r athrawes yn llawnamser; a

(b)

pedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno, os cyflogir yr athro neu'r athrawes yn rhan-amser.

(2)

Y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(4) yw—

(a)

os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 1, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, ddwy flynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno;

(b)

os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 2, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno mewn swydd cam 2 neu swydd cam 3 am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, bedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno;

(c)

os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 3, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno mewn swydd cam 3 am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, bedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arNo.

(3)

Y “cwrs perthnasol” y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a (2) yw—

(a)

at ddibenion paragraff (1), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 3 y gallai fod yn rhesymol i'r athro neu'r athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes fynd yn athro neu'n athrawes berthnasol gyntaf a chael ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, neu'n rhan-amser o dan gontract fel a grybwyllir yn rheoliad 3(3);

(b)

at ddibenion paragraff (2)(a), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 1 y gallai fod yn rhesymol i athro neu athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes fynd yn athro neu athrawes berthnasol;

(c)

at ddibenion paragraff (2)(b), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 2 y gallai fod yn rhesymol i'r athro neu i'r athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes ddechrau ar swydd cam 2 neu swydd cam 3 am y tro cyntaf; a

(ch)

at ddibenion paragraff (2)(c), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 3 y gall fod yn rheysmol i athro neu athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes ddechrau ar swydd cam 3 am y tro cyntaf.

(4)

Wrth gyfrif y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (3) ni chyfrifir y cyfnodau canlynol—

(a)

unrhyw gyfnodau pryd mae'r athro neu'r athrawes yn absennol oherwydd salwch, seibiant mamolaeth neu seibiant rhieiniol ; a

(b)

unrhyw gyfnodau eraill y mae o dan yr holl amgylchiadau yn rhesymol i'w gadael allan o'r cyfrif.

Diwygio Rheoliadau 19995.

Diwygir Rheoliad 4 o Reoliadau 1999 fel a ganlyn—

(a)

ym mharagraff (2)(b) ar ôl “sefydliad addysg bellach” mewnosodir “a gynhelir gan awdurdod addysg lleol”; a

(b)

am baragraff (3) amnewidir—

“(3)

Mae'r gofynaid ym mharagraff (1) yn ychwanegol at y gofynion sy'n ymwneud â chymwysterau ar gyfer cyflogaeth mewn ysgolion a sefydliadau o fewn y sector addysg bellach a gynhwysir yn Rhan IV o'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002 yn y drefn honNo. ”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar bersonau penodol a gyflogir yn athrawon mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach i feddu ar gymwysterau. Bydd y gofynion yn gymwys i athrawon sy'n bodloni'r diffiniad o “athro neu athrawes berthnasol” yn rheoliad 2 ac a gyflogir mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach ar ôl 1 Gorffennaf 2002 os nad ydynt wedi addysgu mewn ysgolion a gynhelir neu sefydliadau addysg bellach a ariennir yn gyhoeddus o'r blaen (rheoliad 3(1)). Yn rhinwedd adran 218(13) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 bydd y Rheoliadau yn gymwys i bersonau a gymerir ymlaen i ddarparu gwasanaethau fel athrawon ond sydd heb gontract cyflogaeth, yn ogystal â'r personau hynny a gyflogir o dan gontract cyflogaeth.

Mae rheoliadau 3(2), (3) a (4) a 4 yn darparu ar gyfer lefelau o gymwsyterau ac ar gyfer y cyfnodau y mae rhaid cael y cymwysterau ynddynt.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999.

Pennir y safonau ar gyfer rhai o'r cymhwysterau y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r safonau hynny oddi wrth Sefydliad Hyfforddiant Cenedlaethol Addysg Bellach (Cymru), Canolfan Quadrant, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5WF.