Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026

Newidiadau dros amser i: Adran 22

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026, Adran 22. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

22Comisiynydd Safonau y Senedd: ymchwiliadauLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 10A (pŵer y Comisiynydd i ymchwilio ar ei ysgogiad ei hun) (a fewnosodir gan adran 20 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

10BCyhoeddi gwybodaeth ynghylch ymchwiliadau

(1)Caiff y Comisiynydd gyhoeddi gwybodaeth sy’n—

(a)cadarnhau bod ymchwiliad y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael ei gynnal;

(b)enwi’r Aelod o’r Senedd sy’n destun yr ymchwiliad;

(c)disgrifio mewn termau cyffredinol y mater yr ymchwilir iddo;

(d)cadarnhau bod ymchwiliad wedi dod i ben, wedi ei atal dros dro neu wedi ei ailagor.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)ymchwiliad o dan adran 10 y bydd y Comisiynydd yn cyflwyno adroddiad arno i’r Senedd ar ganlyniad yr ymchwiliad, a

(b)ymchwiliad o dan adran 10A.

(3)Ni chaiff gwybodaeth a gyhoeddir o dan yr adran hon gynnwys—

(a)enw’r person a wnaeth y gŵyn neu wybodaeth a fyddai’n galluogi’r person i gael ei enwi,

(b)unrhyw dystiolaeth a gafwyd gan y Comisiynydd yn ystod yr ymchwiliad, nac

(c)unrhyw farn, casgliad neu ddynodiad ynghylch a oes sail i’r gŵyn.

(4)Cyn cyhoeddi gwybodaeth o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i—

(a)yr angen am degwch,

(b)yr angen i osgoi rhagfarnu unrhyw ymchwiliad troseddol neu achos troseddol, ac

(c)yr angen i osgoi niwed i unrhyw berson.

(5)Caiff y Rheolau Sefydlog neu reolau sy’n ymwneud ag ystyried cwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd sydd wedi eu mabwysiadu gan y Senedd o dan y Rheolau Sefydlog bennu categorïau o ymchwiliad na chaniateir cyhoeddi gwybodaeth mewn cysylltiad â hwy o dan yr adran hon.

(6)Nid oes unrhyw beth yn yr adran hon yn cyfyngu ar unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynydd i gyhoeddi neu ddatgelu fel arall wybodaeth.

(3)Yn adran 11 (pŵer i alw am dystion a dogfennau)—

(a)yn y pennawd, yn lle “dystion a dogfennau” rhodder “dystiolaeth”;

(b)yn is-adran (1)—

(i)ym mharagraff (a), hepgorer “neu”;

(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “reolaeth” mewnosoder neu

(c)rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd mewn ysgrifen, wedi ei gwirhau drwy ddatganiad o wirionedd,;

(c)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Mae’r pŵer o dan is-adran (1)(a) yn cynnwys y pŵer i’w gwneud yn ofynnol i berson ddod gerbron y Comisiynydd—

(a)yn bersonol,

(b)drwy gyswllt fideo byw, neu

(c)drwy gyswllt sain byw.

(4)Yn adran 12 (tystion a dogfennau: hysbysu)—

(a)yn y pennawd, yn lle “Tystion a dogfennau” rhodder “Tystiolaeth”;

(b)o flaen is-adran (1), mewnosoder—

(A1)Yr unig fodd i ofyniad o dan adran 11(1)(a) gael ei orfodi ar berson yw i’r Comisiynydd roi i’r person hysbysiad mewn ysgrifen sy’n pennu—

(a)yr amser a’r dyddiad y mae’r person i ddod gerbron y Comisiynydd,

(b)os yw’r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol bod yn bresennol yn bersonol, ym mha le y mae’n ofynnol bod yn bresennol,

(c)os yw’r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol bod yn bresennol drwy gyswllt fideo byw neu gyswllt sain byw, fanylion sut y gall y person gymryd rhan yn y cyswllt fideo byw neu’r cyswllt sain byw, a

(d)y pynciau penodol y mae’n ofynnol i’r person roi tystiolaeth yn eu cylch.

(c)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “11” rhodder “11(1)(b)”;

(ii)hepgorer paragraff (a);

(d)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Yr unig fodd i ofyniad o dan adran 11(1)(c) gael ei orfodi ar berson yw i’r Comisiynydd roi hysbysiad mewn ysgrifen i’r person sy’n pennu—

(a)ar ba ddyddiad y mae rhaid rhoi’r dystiolaeth,

(b)i ba gyfeiriad y caniateir anfon y dystiolaeth (pa un ai â llaw, drwy’r post neu yn electronig),

(c)y pynciau penodol y mae’n ofynnol i’r person roi tystiolaeth yn eu cylch neu’r cwestiynau penodol y mae rhaid i’r person eu hateb yn y dystiolaeth, a

(d)y gofyniad i wirhau’r dystiolaeth drwy ddatganiad o wirionedd.;

(e)hepgorer is-adrannau (2) a (3);

(f)ar ôl is-adran (1A) (fel y’i mewnosodir gan baragraff (d)) mewnosoder—

(2)Caniateir rhoi hysbysiad o dan yr adran hon drwy—

(a)ei roi â llaw i’r person,

(b)ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw, neu

(d)ei anfon drwy e-bost i gyfeiriad e-bost y person.

(3)Rhoddir hysbysiad yn unol ag is-adran (2)(a)—

(a)os yw’r person yn gorff corfforaethol, drwy ei roi â llaw i un o swyddogion y corff,

(b)os yw’r person yn bartneriaeth, drwy ei roi â llaw i bartner, neu

(c)os yw’r person yn gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, drwy ei roi â llaw i aelod o gorff llywodraethu’r gymdeithas.

(4)At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff yn y Deyrnas Unedig;

(b)yn achos partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth yn y Deyrnas Unedig;

(c)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person (pa un ai preswylfa’r person neu fan lle yr oedd y person yn cynnal busnes neu’n cael ei gyflogi) neu, os yw’r person wedi darparu cyfeiriad lle caniateir rhoi hysbysiad o dan yr adran hon, y cyfeiriad hwnnw.

(5)At ddibenion is-adran (2)(d)—

(a)cyfeiriad e-bost person yw—

(i)unrhyw gyfeiriad e-bost a gyhoeddir am y tro gan y person hwnnw fel y cyfeiriad ar gyfer cysylltu â’r person hwnnw, neu

(ii)os nad oes cyfeiriad a gyhoeddir o’r fath, unrhyw gyfeiriad e-bost y mae’r person wedi cytuno i gael hysbysiad ynddo o dan yr adran hon;

(b)mae hysbysiad a anfonir drwy e-bost yn cael ei drin fel pe bai wedi ei roi 48 o oriau ar ôl iddo gael ei anfon, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(6) Yn yr adran hon—

  • ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff;

  • ystyr “wedi cytuno” (“agreed”) yw wedi cytuno mewn ysgrifen.”

(5)Yn adran 13 (llwon a chadarnhadau)—

(a)daw’r geiriau “unrhyw berson sy’n rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd, a” yn is-baragraff (i);

(b)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

(ii)unrhyw berson sy’n gweithredu fel cyfieithydd neu ddehonglydd mewn cysylltiad â thystiolaeth a roddir i’r Comisiynydd, a.

(6)Yn adran 15 (tramgwyddau)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)ym mharagraff (a), ar ôl “hysbysiad,” mewnosoder “neu”;

(ii)hepgorer paragraffau (c) a (d);

(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Mae person y dyroddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1) yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw—

(a)yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol â chyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol ei chyflwyno o dan yr hysbysiad, neu

(b)yn mynd ati’n fwriadol i newid, atal, celu neu ddinistrio unrhyw ddogfen o’r fath.

(1B)Mae person y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1A) yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw—

(a)yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol â rhoi tystiolaeth ynghylch y pynciau a bennir yn yr hysbysiad,

(b)yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol ag ateb unrhyw gwestiwn yn yr hysbysiad, neu

(c)yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol â gwirhau’r dystiolaeth â datganiad o wirionedd.

(c)yn is-adran (2), yn lle “is-adran (1)” rhodder “is-adrannau (1), (1A) ac (1B)”;

(d)yn is-adran (4), yn lle “(1)(a), (b) neu (c) neu o dan is-adran” rhodder “(1), (1A), (1B) neu”;

(e)ym mharagraff 5(a), hepgorer “heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol”.

(7)Yn adran 20(1) (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

  • ystyr “cyswllt fideo byw” (“live video link”), mewn perthynas â rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd, yw cyswllt teledu byw neu drefniant arall sy’n galluogi’r person sy’n rhoi tystiolaeth, y Comisiynydd ac unrhyw berson arall sy’n cymryd rhan yn yr achos i weld a chlywed ei gilydd;;

  • ystyr “cyswllt sain byw” (“live audio link), mewn perthynas â rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd, yw cyswllt ffôn byw neu drefniant arall sy’n galluogi’r person sy’n rhoi tystiolaeth, y Comisiynydd ac unrhyw berson arall sy’n cymryd rhan yn yr achos i glywed ei gilydd;

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill