RHAN 2SAFONAU YMDDYGIAD AELODAU O’R SENEDD

Comisiynydd Safonau y Senedd

22Comisiynydd Safonau y Senedd: ymchwiliadau

(1)

Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Ar ôl adran 10A (pŵer y Comisiynydd i ymchwilio ar ei ysgogiad ei hun) (a fewnosodir gan adran 20 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

“10BCyhoeddi gwybodaeth ynghylch ymchwiliadau

(1)

Caiff y Comisiynydd gyhoeddi gwybodaeth sy’n—

(a)

cadarnhau bod ymchwiliad y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael ei gynnal;

(b)

enwi’r Aelod o’r Senedd sy’n destun yr ymchwiliad;

(c)

disgrifio mewn termau cyffredinol y mater yr ymchwilir iddo;

(d)

cadarnhau bod ymchwiliad wedi dod i ben, wedi ei atal dros dro neu wedi ei ailagor.

(2)

Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)

ymchwiliad o dan adran 10 y bydd y Comisiynydd yn cyflwyno adroddiad arno i’r Senedd ar ganlyniad yr ymchwiliad, a

(b)

ymchwiliad o dan adran 10A.

(3)

Ni chaiff gwybodaeth a gyhoeddir o dan yr adran hon gynnwys—

(a)

enw’r person a wnaeth y gŵyn neu wybodaeth a fyddai’n galluogi’r person i gael ei enwi,

(b)

unrhyw dystiolaeth a gafwyd gan y Comisiynydd yn ystod yr ymchwiliad, nac

(c)

unrhyw farn, casgliad neu ddynodiad ynghylch a oes sail i’r gŵyn.

(4)

Cyn cyhoeddi gwybodaeth o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i—

(a)

yr angen am degwch,

(b)

yr angen i osgoi rhagfarnu unrhyw ymchwiliad troseddol neu achos troseddol, ac

(c)

yr angen i osgoi niwed i unrhyw berson.

(5)

Caiff y Rheolau Sefydlog neu reolau sy’n ymwneud ag ystyried cwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd sydd wedi eu mabwysiadu gan y Senedd o dan y Rheolau Sefydlog bennu categorïau o ymchwiliad na chaniateir cyhoeddi gwybodaeth mewn cysylltiad â hwy o dan yr adran hon.

(6)

Nid oes unrhyw beth yn yr adran hon yn cyfyngu ar unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynydd i gyhoeddi neu ddatgelu fel arall wybodaeth.”

(3)

Yn adran 11 (pŵer i alw am dystion a dogfennau)—

(a)

yn y pennawd, yn lle “dystion a dogfennau” rhodder “dystiolaeth”;

(b)

yn is-adran (1)—

(i)

ym mharagraff (a), hepgorer “neu”;

(ii)

ym mharagraff (b), ar ôl “reolaeth” mewnosoder “neu

(c)

rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd mewn ysgrifen, wedi ei gwirhau drwy ddatganiad o wirionedd,”;

(c)

ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

“(1A)

Mae’r pŵer o dan is-adran (1)(a) yn cynnwys y pŵer i’w gwneud yn ofynnol i berson ddod gerbron y Comisiynydd—

(a)

yn bersonol,

(b)

drwy gyswllt fideo byw, neu

(c)

drwy gyswllt sain byw.”

(4)

Yn adran 12 (tystion a dogfennau: hysbysu)—

(a)

yn y pennawd, yn lle “Tystion a dogfennau” rhodder “Tystiolaeth”;

(b)

o flaen is-adran (1), mewnosoder—

“A1

Yr unig fodd i ofyniad o dan adran 11(1)(a) gael ei orfodi ar berson yw i’r Comisiynydd roi i’r person hysbysiad mewn ysgrifen sy’n pennu—

(a)

yr amser a’r dyddiad y mae’r person i ddod gerbron y Comisiynydd,

(b)

os yw’r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol bod yn bresennol yn bersonol, ym mha le y mae’n ofynnol bod yn bresennol,

(c)

os yw’r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol bod yn bresennol drwy gyswllt fideo byw neu gyswllt sain byw, fanylion sut y gall y person gymryd rhan yn y cyswllt fideo byw neu’r cyswllt sain byw, a

(d)

y pynciau penodol y mae’n ofynnol i’r person roi tystiolaeth yn eu cylch.”

(c)

yn is-adran (1)—

(i)

yn lle “11” rhodder “11(1)(b)”;

(ii)

hepgorer paragraff (a);

(d)

ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

“(1A)

Yr unig fodd i ofyniad o dan adran 11(1)(c) gael ei orfodi ar berson yw i’r Comisiynydd roi hysbysiad mewn ysgrifen i’r person sy’n pennu—

(a)

ar ba ddyddiad y mae rhaid rhoi’r dystiolaeth,

(b)

i ba gyfeiriad y caniateir anfon y dystiolaeth (pa un ai â llaw, drwy’r post neu yn electronig),

(c)

y pynciau penodol y mae’n ofynnol i’r person roi tystiolaeth yn eu cylch neu’r cwestiynau penodol y mae rhaid i’r person eu hateb yn y dystiolaeth, a

(d)

y gofyniad i wirhau’r dystiolaeth drwy ddatganiad o wirionedd.”;

(e)

hepgorer is-adrannau (2) a (3);

(f)

ar ôl is-adran (1A) (fel y’i mewnosodir gan baragraff (d)) mewnosoder—

“(2)

Caniateir rhoi hysbysiad o dan yr adran hon drwy—

(a)

ei roi â llaw i’r person,

(b)

ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)

ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw, neu

(d)

ei anfon drwy e-bost i gyfeiriad e-bost y person.

(3)

Rhoddir hysbysiad yn unol ag is-adran (2)(a)—

(a)

os yw’r person yn gorff corfforaethol, drwy ei roi â llaw i un o swyddogion y corff,

(b)

os yw’r person yn bartneriaeth, drwy ei roi â llaw i bartner, neu

(c)

os yw’r person yn gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, drwy ei roi â llaw i aelod o gorff llywodraethu’r gymdeithas.

(4)

At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—

(a)

yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff yn y Deyrnas Unedig;

(b)

yn achos partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth yn y Deyrnas Unedig;

(c)

mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person (pa un ai preswylfa’r person neu fan lle yr oedd y person yn cynnal busnes neu’n cael ei gyflogi) neu, os yw’r person wedi darparu cyfeiriad lle caniateir rhoi hysbysiad o dan yr adran hon, y cyfeiriad hwnnw.

(5)

At ddibenion is-adran (2)(d)—

(a)

cyfeiriad e-bost person yw—

(i)

unrhyw gyfeiriad e-bost a gyhoeddir am y tro gan y person hwnnw fel y cyfeiriad ar gyfer cysylltu â’r person hwnnw, neu

(ii)

os nad oes cyfeiriad a gyhoeddir o’r fath, unrhyw gyfeiriad e-bost y mae’r person wedi cytuno i gael hysbysiad ynddo o dan yr adran hon;

(b)

mae hysbysiad a anfonir drwy e-bost yn cael ei drin fel pe bai wedi ei roi 48 o oriau ar ôl iddo gael ei anfon, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(6) Yn yr adran hon—

ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff;

ystyr “wedi cytuno” (“agreed”) yw wedi cytuno mewn ysgrifen.””

(5)

Yn adran 13 (llwon a chadarnhadau)—

(a)

daw’r geiriau “unrhyw berson sy’n rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd, a” yn is-baragraff (i);

(b)

ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

“(ii)

unrhyw berson sy’n gweithredu fel cyfieithydd neu ddehonglydd mewn cysylltiad â thystiolaeth a roddir i’r Comisiynydd, a”.

(6)

Yn adran 15 (tramgwyddau)—

(a)

yn is-adran (1)—

(i)

ym mharagraff (a), ar ôl “hysbysiad,” mewnosoder “neu”;

(ii)

hepgorer paragraffau (c) a (d);

(b)

ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

“(1A)

Mae person y dyroddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1) yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw—

(a)

yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol â chyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol ei chyflwyno o dan yr hysbysiad, neu

(b)

yn mynd ati’n fwriadol i newid, atal, celu neu ddinistrio unrhyw ddogfen o’r fath.

(1B)

Mae person y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1A) yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw—

(a)

yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol â rhoi tystiolaeth ynghylch y pynciau a bennir yn yr hysbysiad,

(b)

yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol ag ateb unrhyw gwestiwn yn yr hysbysiad, neu

(c)

yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol â gwirhau’r dystiolaeth â datganiad o wirionedd.”

(c)

yn is-adran (2), yn lle “is-adran (1)” rhodder “is-adrannau (1), (1A) ac (1B)”;

(d)

yn is-adran (4), yn lle “(1)(a), (b) neu (c) neu o dan is-adran” rhodder “(1), (1A), (1B) neu”;

(e)

ym mharagraff 5(a), hepgorer “heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol”.

(7)

Yn adran 20(1) (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

“ystyr “cyswllt fideo byw” (“live video link”), mewn perthynas â rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd, yw cyswllt teledu byw neu drefniant arall sy’n galluogi’r person sy’n rhoi tystiolaeth, y Comisiynydd ac unrhyw berson arall sy’n cymryd rhan yn yr achos i weld a chlywed ei gilydd;”;

“ystyr “cyswllt sain byw” (“live audio link), mewn perthynas â rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd, yw cyswllt ffôn byw neu drefniant arall sy’n galluogi’r person sy’n rhoi tystiolaeth, y Comisiynydd ac unrhyw berson arall sy’n cymryd rhan yn yr achos i glywed ei gilydd;”