(1)Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 10A (pŵer y Comisiynydd i ymchwilio ar ei ysgogiad ei hun) (a fewnosodir gan adran 20 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—
(1)Caiff y Comisiynydd gyhoeddi gwybodaeth sy’n—
(a)cadarnhau bod ymchwiliad y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael ei gynnal;
(b)enwi’r Aelod o’r Senedd sy’n destun yr ymchwiliad;
(c)disgrifio mewn termau cyffredinol y mater yr ymchwilir iddo;
(d)cadarnhau bod ymchwiliad wedi dod i ben, wedi ei atal dros dro neu wedi ei ailagor.
(2)Mae’r adran hon yn gymwys i—
(a)ymchwiliad o dan adran 10 y bydd y Comisiynydd yn cyflwyno adroddiad arno i’r Senedd ar ganlyniad yr ymchwiliad, a
(b)ymchwiliad o dan adran 10A.
(3)Ni chaiff gwybodaeth a gyhoeddir o dan yr adran hon gynnwys—
(a)enw’r person a wnaeth y gŵyn neu wybodaeth a fyddai’n galluogi’r person i gael ei enwi,
(b)unrhyw dystiolaeth a gafwyd gan y Comisiynydd yn ystod yr ymchwiliad, nac
(c)unrhyw farn, casgliad neu ddynodiad ynghylch a oes sail i’r gŵyn.
(4)Cyn cyhoeddi gwybodaeth o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i—
(a)yr angen am degwch,
(b)yr angen i osgoi rhagfarnu unrhyw ymchwiliad troseddol neu achos troseddol, ac
(c)yr angen i osgoi niwed i unrhyw berson.
(5)Caiff y Rheolau Sefydlog neu reolau sy’n ymwneud ag ystyried cwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd sydd wedi eu mabwysiadu gan y Senedd o dan y Rheolau Sefydlog bennu categorïau o ymchwiliad na chaniateir cyhoeddi gwybodaeth mewn cysylltiad â hwy o dan yr adran hon.
(6)Nid oes unrhyw beth yn yr adran hon yn cyfyngu ar unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynydd i gyhoeddi neu ddatgelu fel arall wybodaeth.”
(3)Yn adran 11 (pŵer i alw am dystion a dogfennau)—
(a)yn y pennawd, yn lle “dystion a dogfennau” rhodder “dystiolaeth”;
(b)yn is-adran (1)—
(i)ym mharagraff (a), hepgorer “neu”;
(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “reolaeth” mewnosoder “neu
(c)rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd mewn ysgrifen, wedi ei gwirhau drwy ddatganiad o wirionedd,”;
(c)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Mae’r pŵer o dan is-adran (1)(a) yn cynnwys y pŵer i’w gwneud yn ofynnol i berson ddod gerbron y Comisiynydd—
(a)yn bersonol,
(b)drwy gyswllt fideo byw, neu
(c)drwy gyswllt sain byw.”
(4)Yn adran 12 (tystion a dogfennau: hysbysu)—
(a)yn y pennawd, yn lle “Tystion a dogfennau” rhodder “Tystiolaeth”;
(b)o flaen is-adran (1), mewnosoder—
“(A1)Yr unig fodd i ofyniad o dan adran 11(1)(a) gael ei orfodi ar berson yw i’r Comisiynydd roi i’r person hysbysiad mewn ysgrifen sy’n pennu—
(a)yr amser a’r dyddiad y mae’r person i ddod gerbron y Comisiynydd,
(b)os yw’r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol bod yn bresennol yn bersonol, ym mha le y mae’n ofynnol bod yn bresennol,
(c)os yw’r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol bod yn bresennol drwy gyswllt fideo byw neu gyswllt sain byw, fanylion sut y gall y person gymryd rhan yn y cyswllt fideo byw neu’r cyswllt sain byw, a
(d)y pynciau penodol y mae’n ofynnol i’r person roi tystiolaeth yn eu cylch.”
(c)yn is-adran (1)—
(i)yn lle “11” rhodder “11(1)(b)”;
(ii)hepgorer paragraff (a);
(d)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Yr unig fodd i ofyniad o dan adran 11(1)(c) gael ei orfodi ar berson yw i’r Comisiynydd roi hysbysiad mewn ysgrifen i’r person sy’n pennu—
(a)ar ba ddyddiad y mae rhaid rhoi’r dystiolaeth,
(b)i ba gyfeiriad y caniateir anfon y dystiolaeth (pa un ai â llaw, drwy’r post neu yn electronig),
(c)y pynciau penodol y mae’n ofynnol i’r person roi tystiolaeth yn eu cylch neu’r cwestiynau penodol y mae rhaid i’r person eu hateb yn y dystiolaeth, a
(d)y gofyniad i wirhau’r dystiolaeth drwy ddatganiad o wirionedd.”;
(e)hepgorer is-adrannau (2) a (3);
(f)ar ôl is-adran (1A) (fel y’i mewnosodir gan baragraff (d)) mewnosoder—
“(2)Caniateir rhoi hysbysiad o dan yr adran hon drwy—
(a)ei roi â llaw i’r person,
(b)ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,
(c)ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw, neu
(d)ei anfon drwy e-bost i gyfeiriad e-bost y person.
(3)Rhoddir hysbysiad yn unol ag is-adran (2)(a)—
(a)os yw’r person yn gorff corfforaethol, drwy ei roi â llaw i un o swyddogion y corff,
(b)os yw’r person yn bartneriaeth, drwy ei roi â llaw i bartner, neu
(c)os yw’r person yn gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, drwy ei roi â llaw i aelod o gorff llywodraethu’r gymdeithas.
(4)At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—
(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff yn y Deyrnas Unedig;
(b)yn achos partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth yn y Deyrnas Unedig;
(c)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person (pa un ai preswylfa’r person neu fan lle yr oedd y person yn cynnal busnes neu’n cael ei gyflogi) neu, os yw’r person wedi darparu cyfeiriad lle caniateir rhoi hysbysiad o dan yr adran hon, y cyfeiriad hwnnw.
(5)At ddibenion is-adran (2)(d)—
(a)cyfeiriad e-bost person yw—
(i)unrhyw gyfeiriad e-bost a gyhoeddir am y tro gan y person hwnnw fel y cyfeiriad ar gyfer cysylltu â’r person hwnnw, neu
(ii)os nad oes cyfeiriad a gyhoeddir o’r fath, unrhyw gyfeiriad e-bost y mae’r person wedi cytuno i gael hysbysiad ynddo o dan yr adran hon;
(b)mae hysbysiad a anfonir drwy e-bost yn cael ei drin fel pe bai wedi ei roi 48 o oriau ar ôl iddo gael ei anfon, oni phrofir i’r gwrthwyneb.
(6) Yn yr adran hon—
ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff;
ystyr “wedi cytuno” (“agreed”) yw wedi cytuno mewn ysgrifen.””
(5)Yn adran 13 (llwon a chadarnhadau)—
(a)daw’r geiriau “unrhyw berson sy’n rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd, a” yn is-baragraff (i);
(b)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—
“(ii)unrhyw berson sy’n gweithredu fel cyfieithydd neu ddehonglydd mewn cysylltiad â thystiolaeth a roddir i’r Comisiynydd, a”.
(6)Yn adran 15 (tramgwyddau)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)ym mharagraff (a), ar ôl “hysbysiad,” mewnosoder “neu”;
(ii)hepgorer paragraffau (c) a (d);
(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Mae person y dyroddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1) yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw—
(a)yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol â chyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol ei chyflwyno o dan yr hysbysiad, neu
(b)yn mynd ati’n fwriadol i newid, atal, celu neu ddinistrio unrhyw ddogfen o’r fath.
(1B)Mae person y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1A) yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw—
(a)yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol â rhoi tystiolaeth ynghylch y pynciau a bennir yn yr hysbysiad,
(b)yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol ag ateb unrhyw gwestiwn yn yr hysbysiad, neu
(c)yn gwrthod neu’n methu heb esgus rhesymol â gwirhau’r dystiolaeth â datganiad o wirionedd.”
(c)yn is-adran (2), yn lle “is-adran (1)” rhodder “is-adrannau (1), (1A) ac (1B)”;
(d)yn is-adran (4), yn lle “(1)(a), (b) neu (c) neu o dan is-adran” rhodder “(1), (1A), (1B) neu”;
(e)ym mharagraff 5(a), hepgorer “heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol”.
(7)Yn adran 20(1) (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “cyswllt fideo byw” (“live video link”), mewn perthynas â rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd, yw cyswllt teledu byw neu drefniant arall sy’n galluogi’r person sy’n rhoi tystiolaeth, y Comisiynydd ac unrhyw berson arall sy’n cymryd rhan yn yr achos i weld a chlywed ei gilydd;”;
“ystyr “cyswllt sain byw” (“live audio link), mewn perthynas â rhoi tystiolaeth i’r Comisiynydd, yw cyswllt ffôn byw neu drefniant arall sy’n galluogi’r person sy’n rhoi tystiolaeth, y Comisiynydd ac unrhyw berson arall sy’n cymryd rhan yn yr achos i glywed ei gilydd;”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 22 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 26(1)