Search Legislation

Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025

Newidiadau dros amser i: Adran 47

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025, Adran 47 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 13 Awst 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Section 47:

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

47Ymgynghori cyn cyflwyno, newid neu ddiddymu’r ardollLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon ac adran 48 yn nodi’r camau y mae rhaid i brif gyngor eu cymryd cyn cyflwyno, newid neu ddiddymu’r ardoll yn ei ardal.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at newid yr ardoll yn gyfeiriadau‍ (pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau o dan adran 34 sy’n galluogi prif gynghorau i ychwanegu swm ychwanegol at yr ardoll) at—

(a)ychwanegu swm ychwanegol at yr ardoll;

(b)newid swm ychwanegol sydd wedi ei ychwanegu at yr ardoll;

(c)dileu swm ychwanegol sydd wedi ei ychwanegu at yr ardoll.

(3)Ni chaiff prif gyngor gymryd unrhyw gamau o dan yr adran hon i newid yr ardoll yn ei ardal tan ddiwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth yr ardoll yn effeithiol yn ei ardal.

(4)Rhaid i’r prif gyngor—

(a)hysbysu ACC am ei gynnig i gyflwyno, newid neu ddiddymu’r ardoll (yn ôl y digwydd),

(b)cyhoeddi adroddiad sy’n nodi ei gynnig, gan gynnwys—

(i)pan fo’n cynnig cyflwyno’r ardoll, y materion a nodir yn is-adran (5);

(ii)pan fo’n cynnig newid yr ardoll, amcangyfrif o enillion yr ardoll mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl newid yr ardoll, a gwybodaeth ynghylch sut y mae’r prif gyngor yn bwriadu defnyddio’r enillion hynny ac ynghylch sut y bydd y defnydd hwnnw at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor;

(iii)pan fo’n cynnig diddymu’r ardoll, ddatganiad yn nodi pa effaith y disgwylir i ddiddymu’r ardoll ei chael ar refeniw y cyngor mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl diddymu’r ardoll,

(c)anfon yr adroddiad hwnnw i ACC, a

(d)ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol, ac ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod y briodol, am ei gynnig.

(5)Y materion y cyfeirir atynt yn is-adran (4)(b)(i) yw—

(a)amcangyfrif o enillion yr ardoll mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl cyflwyno’r ardoll ac amcangyfrif o’r costau y mae’r prif gyngor yn debygol o fynd iddynt mewn cysylltiad â’r cynnig,

(b)gwybodaeth ynghylch sut y mae’r prif gyngor yn bwriadu defnyddio’r enillion hynny ac ynghylch sut y bydd y defnydd hwnnw at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor, ac

(c)cynigion y prif gyngor ar gyfer aelodaeth o’r fforwm partneriaeth ardoll sydd i’w sefydlu gan y cyngo‍r, sy’n pennu’r personau y mae’r cyngor yn bwriadu eu gwahodd i fod yn aelodau o’r fforwm.

(6)At ddibenion is-adran (4)(d), yr “ymgyngoreion gorfodol” yw—

(a)pobl leol,

(b)y cyngor ar gyfer cymuned yn ardal y prif gyngor,

(c)y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)) ar gyfer ardal y prif gyngor,

(d)y prif gyngor ar gyfer ardal sy’n cyffinio ag ardal y cyngor sy’n ymgynghori,

(e)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal y prif gyngor,

(f)cyd-bwyllgor corfforedig sy’n cynnwys o leiaf un prif aelod gweithrediaeth o’r prif gyngor yn aelod ohono,

(g)sefydliadau sydd—

(i)yn cynrychioli busnesau sy’n gweithio ym maes twristiaeth, neu sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, yn ardal y prif gyngor;

(ii)yn hybu neu’n hwyluso twristiaeth yn ardal y cyngor,

(h)pan mai cyflwyno’r ardoll yw’r cynnig, pob person a bennir yn yr adroddiad yn rhinwedd is-adran (5)(c) nad yw fel arall yn ymgynghorai gorfodol, ac

(i)pan mai newid yr ardoll neu ei ddiddymu yw’r cynnig, pob aelod o’r fforwm partneriaeth ardoll a sefydlir gan y cyngo‍r nad yw fel arall yn ymgynghorai gorfodol.

(7)Rhaid i’r prif gyngor ystyried ei gynnig gan roi sylw i unrhyw sylwadau a ddaw i’w law yn ystod yr ymgynghoriad o dan is-adran (4)(d).

(8)Rhaid i’r prif gyngor wedyn—

(a)hysbysu ACC ynghylch a yw’r cyngor yn bwriadu bwrw ymlaen â’i gynnig,

(b)cyhoeddi adroddiad (“adroddiad terfynol”) sy’n cydymffurfio ag is-adran (9), ac

(c)anfon yr adroddiad hwnnw i ACC.

(9)Rhaid i’r adroddiad terfynol—

(a)nodi—

(i)a yw’r prif gyngor yn bwriadu bwrw ymlaen â’i gynnig, a

(ii)os yw’r cyngor yn bwriadu bwrw ymlaen â’i gynnig, fanylion y cynnig (gan gynnwys esboniad o unrhyw newidiadau a wnaed i’r cynnig fel y’i nodwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd o dan is-adran (4)(b)), a

(b)crynhoi’r sylwadau a ddaeth i’w law yn ystod yr ymgynghoriad.

(10)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

  • mae i “prif aelod gweithrediaeth” (“senior executive member”) yr un ystyr ag yn adran 77(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

  • mae “rheoli a gwella cyrchfannau” (“destination management and improvement”) i’w ddehongli yn unol ag adran 44.

(11)Gall camau a gymerir gan brif gyngor cyn i’r adran hon ddod i rym (gan gynnwys unrhyw gamau sy’n ymwneud ag anfon hysbysiad neu adroddiad i ACC) fodloni gofynion yr adran hon (ac adran 66(3) (gofynion o ran cyhoeddi)).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 47 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources