(1)Mae’r adran hon ac adran 48 yn nodi’r camau y mae rhaid i brif gyngor eu cymryd cyn cyflwyno, newid neu ddiddymu’r ardoll yn ei ardal.
(2)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at newid yr ardoll yn gyfeiriadau (pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau o dan adran 34 sy’n galluogi prif gynghorau i ychwanegu swm ychwanegol at yr ardoll) at—
(a)ychwanegu swm ychwanegol at yr ardoll;
(b)newid swm ychwanegol sydd wedi ei ychwanegu at yr ardoll;
(c)dileu swm ychwanegol sydd wedi ei ychwanegu at yr ardoll.
(3)Ni chaiff prif gyngor gymryd unrhyw gamau o dan yr adran hon i newid yr ardoll yn ei ardal tan ddiwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth yr ardoll yn effeithiol yn ei ardal.
(4)Rhaid i’r prif gyngor—
(a)hysbysu ACC am ei gynnig i gyflwyno, newid neu ddiddymu’r ardoll (yn ôl y digwydd),
(b)cyhoeddi adroddiad sy’n nodi ei gynnig, gan gynnwys—
(i)pan fo’n cynnig cyflwyno’r ardoll, y materion a nodir yn is-adran (5);
(ii)pan fo’n cynnig newid yr ardoll, amcangyfrif o enillion yr ardoll mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl newid yr ardoll, a gwybodaeth ynghylch sut y mae’r prif gyngor yn bwriadu defnyddio’r enillion hynny ac ynghylch sut y bydd y defnydd hwnnw at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor;
(iii)pan fo’n cynnig diddymu’r ardoll, ddatganiad yn nodi pa effaith y disgwylir i ddiddymu’r ardoll ei chael ar refeniw y cyngor mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl diddymu’r ardoll,
(c)anfon yr adroddiad hwnnw i ACC, a
(d)ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol, ac ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod y briodol, am ei gynnig.
(5)Y materion y cyfeirir atynt yn is-adran (4)(b)(i) yw—
(a)amcangyfrif o enillion yr ardoll mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl cyflwyno’r ardoll ac amcangyfrif o’r costau y mae’r prif gyngor yn debygol o fynd iddynt mewn cysylltiad â’r cynnig,
(b)gwybodaeth ynghylch sut y mae’r prif gyngor yn bwriadu defnyddio’r enillion hynny ac ynghylch sut y bydd y defnydd hwnnw at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor, ac
(c)cynigion y prif gyngor ar gyfer aelodaeth o’r fforwm partneriaeth ardoll sydd i’w sefydlu gan y cyngor, sy’n pennu’r personau y mae’r cyngor yn bwriadu eu gwahodd i fod yn aelodau o’r fforwm.
(6)At ddibenion is-adran (4)(d), yr “ymgyngoreion gorfodol” yw—
(a)pobl leol,
(b)y cyngor ar gyfer cymuned yn ardal y prif gyngor,
(c)y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)) ar gyfer ardal y prif gyngor,
(d)y prif gyngor ar gyfer ardal sy’n cyffinio ag ardal y cyngor sy’n ymgynghori,
(e)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal y prif gyngor,
(f)cyd-bwyllgor corfforedig sy’n cynnwys o leiaf un prif aelod gweithrediaeth o’r prif gyngor yn aelod ohono,
(g)sefydliadau sydd—
(i)yn cynrychioli busnesau sy’n gweithio ym maes twristiaeth, neu sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, yn ardal y prif gyngor;
(ii)yn hybu neu’n hwyluso twristiaeth yn ardal y cyngor,
(h)pan mai cyflwyno’r ardoll yw’r cynnig, pob person a bennir yn yr adroddiad yn rhinwedd is-adran (5)(c) nad yw fel arall yn ymgynghorai gorfodol, ac
(i)pan mai newid yr ardoll neu ei ddiddymu yw’r cynnig, pob aelod o’r fforwm partneriaeth ardoll a sefydlir gan y cyngor nad yw fel arall yn ymgynghorai gorfodol.
(7)Rhaid i’r prif gyngor ystyried ei gynnig gan roi sylw i unrhyw sylwadau a ddaw i’w law yn ystod yr ymgynghoriad o dan is-adran (4)(d).
(8)Rhaid i’r prif gyngor wedyn—
(a)hysbysu ACC ynghylch a yw’r cyngor yn bwriadu bwrw ymlaen â’i gynnig,
(b)cyhoeddi adroddiad (“adroddiad terfynol”) sy’n cydymffurfio ag is-adran (9), ac
(c)anfon yr adroddiad hwnnw i ACC.
(9)Rhaid i’r adroddiad terfynol—
(a)nodi—
(i)a yw’r prif gyngor yn bwriadu bwrw ymlaen â’i gynnig, a
(ii)os yw’r cyngor yn bwriadu bwrw ymlaen â’i gynnig, fanylion y cynnig (gan gynnwys esboniad o unrhyw newidiadau a wnaed i’r cynnig fel y’i nodwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd o dan is-adran (4)(b)), a
(b)crynhoi’r sylwadau a ddaeth i’w law yn ystod yr ymgynghoriad.
(10)Yn yr adran hon—
ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
mae i “prif aelod gweithrediaeth” (“senior executive member”) yr un ystyr ag yn adran 77(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
mae “rheoli a gwella cyrchfannau” (“destination management and improvement”) i’w ddehongli yn unol ag adran 44.
(11)Gall camau a gymerir gan brif gyngor cyn i’r adran hon ddod i rym (gan gynnwys unrhyw gamau sy’n ymwneud ag anfon hysbysiad neu adroddiad i ACC) fodloni gofynion yr adran hon (ac adran 66(3) (gofynion o ran cyhoeddi)).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 47 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)