Search Legislation

Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025

Newidiadau dros amser i: RHAN 4

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, RHAN 4. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rhagolygol

RHAN 4LL+CCYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG

Y Fframwaith CenedlaetholLL+C

24Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu CymraegLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio fframwaith (“Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg”), sy’n nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn gweithredu cynigion strategaeth y Gymraeg mewn perthynas ag—

(a)addysg Gymraeg,

(b)darpariaeth Gymraeg mewn addysg drydyddol,

(c)dysgu Cymraeg gydol oes, a

(d)caffael y Gymraeg.

(2)Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at “strategaeth y Gymraeg” yn gyfeiriad at y strategaeth ar hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg a fabwysiedir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler adran 1 am yr hyn y mae rhaid ei gynnwys yn y strategaeth).

(3)Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg nodi, yn benodol, y camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg drwy—

(a)cynyddu’r‍ swm o addysg Gymraeg a ddarperir;

(b)gwella’r ddarpariaeth o addysgu’r Gymrae‍g;

(c)hybu addysg Gymraeg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg‍”,‍ er mwyn cynyddu nifer y disgyblion sy’n mynychu’r ysgolion hynny;‍

(d)annog dilyniant o ran addysgu’r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng—

(i)addysg feithrin ac addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol,

(ii)ysgolion cynradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd a gynhelir, a

(iii)addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol ac addysg drydyddol.

(4)Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg nodi, yn benodol, y camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i ddarparu cyfleoedd ar gyfer personau o bob oed yng Nghymru i ddysgu Cymraeg ac i gynnal a gwella eu gallu yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i’r canlynol—

(a)drwy ofal plant i’r rheini sydd o dan oedran ysgol gorfodol;

(b)drwy addysg feithrin;

(c)drwy addysg drydyddol;

(d)yn y gweithle ac yn y gymuned.

(5)Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg hefyd osod targedau ar awdurdodau lleol sy’n adlewyrchu unrhyw darged cenedlaethol yn strategaeth y Gymraeg a bennir o dan adran 1(1)(c).

(6)Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg gynnwys—

(a)asesiad o’r addysg Gymraeg a ddarperir ar y pry‍d ymhob awdurdod lleol;

(b)dadansoddiad o’r swm o addysg Gymraeg y mae ei ange‍n ymhob awdurdod lleol er mwyn cyflawni unrhyw darged a osodir.‍

(7)Caiff y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg osod targedau pellach sydd i’w cyflawni gan awdurdodau lleol at ddiben gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol yn ardal pob awdurdod lleol.

(8)Caiff y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg hefyd osod targedau ar yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (gweler Rhan 5) sy’n adlewyrchu unrhyw darged yn strategaeth y Gymraeg yn ymwneud â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg a hwyluso’u cynnydd, gan gynnwys targedau—

(a)i gynyddu nifer y bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol sy’n dysgu Cymraeg;

(b)i wella gallu yn y Gymraeg ymhlith pobl sydd dros oedran ysgol gorfodol sy’n dysgu Cymraeg (drwy gyfeirio at y Cod a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6).

(9)Caiff y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, ar gyfer achosion gwahanol, neu ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adrannau (3) i (8) er mwyn diwygio’r hyn y mae’n ofynnol ei gynnwys yn y Fframwaith Cenedlaethol, neu y caniateir ei gynnwys ynddo.

(11)Yn is-adran (1)(b), ystyr “darpariaeth Gymraeg mewn addysg drydyddol” yw—

(a)addysgu’r Gymraeg mewn addysg drydyddol yng Nghymru, a

(b)addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

25Y Fframwaith Cenedlaethol: darpariaeth bellach ar y gweithlu addysgLL+C

(1)Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg nodi’r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a chefnogaeth ar gael ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru at ddiben gwella gallu yn y Gymraeg (drwy gyfeirio at y Cod a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6).

(2)Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg hefyd—

(a)cynnwys asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg y mae ei angen ymhob awdurdod lleol at ddibenion cyflawni unrhyw darged a osodir o dan adran 24(5) a (7), a

(b)nodi’r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd, ar sail yr asesiad hwnnw, er mwyn sicrhau bod nifer yr ymarferwyr addysg sy’n gweithio yng Nghymru yn ateb y galw‍.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

26Gweithredu’r Fframwaith CenedlaetholLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg.

(2)Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)cymryd pob cam rhesymol i gyflawni targedau a osodir gan y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg mewn perthynas â’i ardal;

(b)ar gais Gweinidogion Cymru, ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru er mwyn—

(i)eu galluogi i gyflawni’r hyn sy’n ofynnol o dan adran 24(6) ac adran 25(2)(a);

(ii)pennu targedau o dan adran 24(5), neu adran 24(7).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

27Fframwaith Cenedlaethol: darpariaeth bellach am gynnwys, adolygu a diwygioLL+C

(1)Wrth lunio neu ddiwygio’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, rhaid i Weinidogion Cymru nodi’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd, yn unol ag adran 24(3) a (4)‍ ac adran 25, dros gyfnodau o 10 mlynedd.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd pob cyfnod o 5 mlynedd, adolygu a diwygio’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg er mwyn diweddaru’r camau hynny.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd, cyn diwedd pob cyfnod o 5 mlynedd, adolygu’r targedau a osodir gan y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg yn unol ag adran 24(5) a (8) a gosod targedau newydd os ydynt o’r farn bod angen gwneud hynny.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i’w gilydd—

(a)diwygio’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, gan gynnwys ei ddiwygio er mwyn—

(i)addasu cam sy’n bodoli eisoes heb newid y cyfnod y mae’n gymwys iddo;

(ii)ychwanegu cam y maent yn bwriadu ei gymryd dros weddill y cyfnod y mae camau eraill y Fframwaith Cenedlaethol yn gymwys iddo;

(iii)dileu cam;

(b)llunio Fframwaith Cenedlaethol newydd (a gellir cyflawni gofynion is-adran (2) a (3) drwy wneud hynny).

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, mae adrannau 26 ac 28(1) a (2) yn gymwys fel y maent yn gymwys i lunio’r Fframwaith Cenedlaethol.

(6)O ran y cyfnod o 5 mlynedd yn is-adrannau (2) a (3)—

(a)mae’r cyfnod cyntaf yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg gerbron Senedd Cymru am y tro cyntaf, a

(b)mae pob cyfnod dilynol yn dechrau drannoeth y diwrnod y mae’r cyfnod 5 mlynedd blaenorol yn dod i ben.

(7)Mae is-adran (6) yn gymwys i Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg newydd fel y mae’n gymwys i’r Fframwaith Cenedlaethol cyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

28Ymgynghori a chyhoeddi’r Fframwaith CenedlaetholLL+C

(1)Wrth‍ lunio’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)pob awdurdod lleol;

(b)yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (gweler Rhan 5);

(c)Comisiynydd y Gymraeg;

(d)Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(e)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(f)y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (rhif y cwmni 07550507);

(g)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg;

(b)gosod y Fframwaith Cenedlaethol gerbron Senedd Cymru.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru osod y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg cyntaf gerbron Senedd Cymru o dan is-adran (2)(b) cyn 31 Gorffennaf 2028.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

29Adrodd ar y Fframwaith CenedlaetholLL+C

(1)Rhaid i’r adroddiad blynyddol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gynnwys gwybodaeth am weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg.

(2)Rhaid i’r cynllun blynyddol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 78(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 nodi sut y byddant yn gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

Cynlluniau lleolLL+C

30Cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysgLL+C

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol lunio cynllun (“cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg”) sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol—

(a)yn hybu a hwyluso, yn ei ardal—

(i)addysg Gymraeg, a

(ii)defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion;

(b)yn cyflawni’r ddyletswydd a osodir arno o dan adran 26(2)(a) (cymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r targedau a osodir gan Weinidogion Cymru yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg).

(2)Rhaid i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg hefyd, i’r graddau y mae rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn gwneud hynny’n ofynnol, nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau addysg i hybu a hwyluso—

(a)addysgu’r Gymraeg, a

(b)addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg,

mewn perthynas â phlant o oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn ddisgyblion mewn ysgolion.

(3)Rhaid i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg nodi, yn benodol, y camau y bydd yr awdurdod lleol yn eu cymryd—

(a)i arfer ei swyddogaethau addysg—

(i)er mwyn gwella’r ddarpariaeth o addysg Gymrae‍g yn ei ardal,

(ii)er mwyn gwella’r broses o gynllunio darpariaeth addysg Gymraeg yn ei ardal,

(iii)er mwyn cynyddu nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy’n cael addysg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg” yn ei ardal,

(iv)er mwyn cynyddu nifer yr ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg” yn ei ardal, a

(v)er mwyn sicrhau bod digon o ymarferwyr addysg yn gweithio yn ei ardal,

at ddiben cyflawni targedau a osodir arno yn rhinwedd adran 24(5);

(b)i hybu a darparu gwybodaeth am yr addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg‍” yn ei ardal;

(c)i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 23 mewn cysylltiad ag addysg drochi hwyr yn ei ardal;

(d)i hwyluso dilyniant o ran addysgu’r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng—

(i)addysg feithrin ac addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol,

(ii)ysgolion cynradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd a gynhelir, a

(iii)addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol ac addysg drydyddol.

(4)Rhaid i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg hefyd gynnwys—

(a)gwybodaeth am yr ymarferwyr addysg sy’n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol;

(b)adroddiad ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r cynllun blaenorol (yn achos pob cynllun ac eithrio’r un cyntaf).

(5)Wrth lunio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)rhoi sylw i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg;

(b)ymgynghori ar ddrafft o’r cynllun â’r canlynol—

(i)ei awdurdodau lleol cyfagos;

(ii)pennaeth pob ysgol a‍ phennaeth pob ysgol feithrin a gynhelir y mae’n eu cynnal;

(iii)corff llywodraethu pob ysgol a‍ chorff llywodraethu pob ysgol feithrin a gynhelir y mae’n eu cynnal;

(iv)pennaeth pob sefydliad addysg bellach yn ei ardal;

(v)mewn perthynas ag unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn ei ardal, y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, ac os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;

(vi)Prif Arolygydd ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(vii)yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol;

(viii)Comisiynydd y Gymraeg;

(ix)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(x)Mudiad Meithrin Cyf (rhif y cwmni 02164058);

(xi)personau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

31Cyfnod cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysgLL+C

(1)Mae pob cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yn cael effaith am gyfnod o 5 mlynedd, ac mae—

(a)y cyfnod cyntaf o 5 mlynedd yn dechrau ar ddyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a

(b)pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dilyn yn dechrau drannoeth y diwrnod y mae’r cyfnod 5 mlynedd blaenorol yn dod i ben.

(2)Ond rhaid i bob cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg nodi’r camau y mae awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd yn unol ag adran 30(3) dros gyfnod o 10 mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

32Cymeradwyo cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysgLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg i Weinidogion Cymru ar ffurf drafft.

(2)Wrth gyflwyno’r cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg ar ffurf drafft, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a wnaed o dan adran 30(5)(b), ac ymateb yr awdurdod lleol i’r ymgynghoriad hwnnw.

(3)Mewn perthynas â chynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg a gyflwynir ar ffurf drafft o dan is-adran (1), caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cymeradwyo’r cynllun,

(b)cymeradwyo’r cynllun ag addasiadau y cytunwyd arnynt â’r awdurdod lleol, neu

(c)gwrthod y cynllun a rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol i ailystyried y cynllun.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg ar ffurf drafft a gyflwynir o dan is-adran (1), rhaid i’r cyfarwyddyd—

(a)rhoi rhesymau dros y penderfyniad;

(b)pennu erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol gyflwyno drafft pellach o’r cynllun i Weinidogion Cymru.

(5)Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys i ddrafft pellach fel y maent yn gymwys i ddrafft a gyflwynir o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

33Cyhoeddi a gweithredu cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysgLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’w gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg gael ei gymeradwyo, ei gyhoeddi a’i anfon—

(a)at gorff llywodraethu pob ysgol ‍a chorff llywodraethu pob ysgol feithrin a gynhelir y mae’n eu cynnal;

(b)at bennaeth pob sefydliad addysg bellach yn ei ardal;

(c)mewn perthynas ag unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn ei ardal—

(i)at y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, at y corff crefyddol priodol.

(2)Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg a gymeradwyir.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

34Adolygu a diwygio cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysgLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol adolygu ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yn gyson, a’i ddiwygio os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried—

(a)bod awdurdod lleol yn annhebygol o gyflawni targed sy’n gymwys iddo yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, a

(b)bod angen diwygio cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol yn unol â hynny.

(3)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdod lleol—

(a)yn nodi eu bod yn ystyried bod awdurdod lleol yn annhebygol o gyflawni targed sy’n gymwys iddo yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried diwygio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg.

(4)Pan fo awdurdod lleol yn cael cyfarwyddyd o dan is-adran (3) ond yn penderfynu peidio â diwygio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg, rhaid i’r awdurdod lleol roi rhesymau i Weinidogion Cymru dros beidio â gwneud hynny.

(5)Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu diwygio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg o dan is-adran (1) neu mewn ymateb i gyfarwyddyd o dan is-adran (3), rhaid iddo gyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru ar ffurf drafft.

(6)Mae adrannau 30 i 33 a gweddill yr adran hon yn gymwys i gynllun diwygiedig yn yr un modd ag y maent yn gymwys i’r cynllun gwreiddiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

35RheoliadauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â chynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol—

(a)ffurf a chynnwys cynllun;

(b)amseriad llunio cynllun;

(c)y broses ymgynghori wrth lunio cynllun drafft;

(d)gweithdrefn cymeradwyo cynllun;

(e)sut a phryd i gyhoeddi cynllun;

(f)adrodd ar weithredu’r cynllun.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd wneud darpariaeth i alluogi dau neu ragor o awdurdodau lleol i lunio cynllun lleol strategol Cymraeg mewn addysg ar y cyd, a chaiff unrhyw reoliadau o’r fath wneud darpariaeth sy’n cymhwyso adrannau 30 i 34 gydag addasiadau at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

36Diwygio Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013LL+C

(1)Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer Rhan 4 (Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg).

(3)Yn adran 1 (trosolwg) hepgorer is-adrannau (13) a (14).

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

CyffredinolLL+C

37DehongliLL+C

Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “addysg Gymraeg” yw—

(i)addysgu’r Gymraeg, a

(ii)addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg,

mewn ysgol, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol;

(b)mae cyfeiriadau at “ysgol‍” yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir sydd â disgyblion o oedran ysgol gorfodol;

(c)ystyr “addysg feithrin” yw addysg amser llawn neu ran-amser sy’n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol (pa un a’i darperir mewn ysgolion neu mewn lleoliadau eraill);

(d)ystyr “gofal plant” yw unrhyw ffurf ar ofal neu weithgaredd o dan oruchwyliaeth ar gyfer plentyn, ac eithrio—

(i)gofal a ddarperir ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth i’r plentyn,

(ii)addysg (neu unrhyw weithgaredd arall o dan oruchwyliaeth) a ddarperir gan ysgol yn ystod oriau ysgol ar gyfer disgybl cofrestredig, neu

(iii)unrhyw ffurf ar ofal iechyd ar gyfer plentyn;

(e)mae cyfeiriadau at gategorïau iaith “Prif Iaith - Cymraeg”, “Dwy Iaith” a “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” i’w darllen yn unol â Rhan 3;

(f)ystyr “ymarferydd addysg” yw—

(i)athro neu athrawes ysgol o fewn yr ystyr a roddir i “school teacher” yn adran 122 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), a

(ii)gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol o fewn yr ystyr a roddir gan Atodlen 2 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (dccc 5);

(g)ystyr “llywodraethwr sefydledig” mewn perthynas ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, yw person a benodwyd yn llywodraethwr sefydledig yn unol â rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32).

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources