Search Legislation

Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025

Newidiadau dros amser i: RHAN 5

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, RHAN 5. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rhagolygol

RHAN 5LL+CYR ATHROFA DYSGU CYMRAEG GENEDLAETHOL

38Yr Athrofa Dysgu Cymraeg GenedlaetholLL+C

(1)Sefydlir yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel corff corfforedig.

(2)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at yr “Athrofa Dysgu Cymraeg” yn gyfeiriadau at y corff hwnnw.

(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch yr Athrofa Dysgu Cymraeg.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 38 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

Amcan a swyddogaethau’r Athrofa Dysgu CymraegLL+C

39Hwyluso a chefnogi dysgu Cymraeg gydol oesLL+C

(1)Amcan yr Athrofa Dysgu Cymraeg yw cefnogi pobl i ddysgu Cymraeg, a hwyluso’u cynnydd, fel bod rhagor o bobl (o bob oedran) yn dysgu’r iaith.

(2)Er mwyn cyflawni’r amcan hwn, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg—

(a)rhoi cyfeiriad ac arweiniad strategol i ddarparwyr dysgu Cymraeg;

(b)darparu, neu hwyluso darpariaeth, deunyddiau dysgu Cymraeg;

(c)cynllunio ar gyfer datblygu’r gweithlu addysg at ddiben gwella dulliau addysgu’r Gymraeg;

(d)gwneud trefniadau i ddarparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg—

(i)i’r gweithlu addysg,

(ii)yn y gweithle, a

(iii)i bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(e)gwneud trefniadau i wella lefelau gallu yn y Gymraeg—

(i)ymysg y gweithlu addysg,

(ii)yn y gweithle, a

(iii)ymysg dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(f)dylunio a datblygu darpariaeth dysgu Cymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol, neu hwyluso gwaith dylunio a datblygu o’r fath;

(g)datblygu a chynnal cwricwlwm cenedlaethol dysgu Cymraeg ar gyfer dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(h)casglu a chyhoeddi data, o leiaf unwaith bob 12 mis, ar ddysgwyr Cymraeg sydd dros oedran ysgol gorfodol.

(3)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (2)(c), (d)(i) ac (e)(i), rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg roi sylw i’r asesiad sydd yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg yn rhinwedd adran 25(2)(a) (asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg y mae ei angen mewn awdurdodau lleol).

(4)Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg hefyd—

(a)cydlynu a chomisiynu ymchwil ar addysgu neu ddysgu Cymraeg;

(b)rhoi cyngor i unrhyw berson ar addysgu neu ddysgu Cymraeg;

(c)rhoi cymorth ariannol i unrhyw‍ berson mewn perthynas ag addysgu neu ddysgu Cymraeg;

(d)gwneud unrhyw beth arall sy’n gysylltiedig â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg a hwyluso’u cynnydd, os yw’n ystyried bod hynny’n briodol er mwyn cyflawni targed a osodir gan y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg o dan adran 24(8).

(5)At ddiben diwallu gwahanol anghenion pobl sydd dros oedran ysgol gorfodol ac sy’n dysgu (neu sy’n dymuno dysgu) Cymraeg, rhaid i’r ddarpariaeth dysgu Cymraeg a ddylunnir ac a ddatblygir yn unol ag is-adran (2)(f)—

(a)cynnwys amrywiaeth o lefelau a gweithgareddau dysgu;

(b)cynnwys amrywiaeth o leoliadau dysgu a dulliau astudio;

(c)cael ei threfnu yn y fath fodd fel ei bod yn hwyluso cynnydd dysgwyr‍ drwy’r gwahanol lefelau dysgu.

(6)Rhaid seilio’r cwricwlwm cenedlaethol dysgu Cymraeg y cyfeirir ato yn is-adran (2)(g) a’r lefelau dysgu y cyfeirir atynt yn is-adran (5)(a) ac (c) ar—

(a)y lefelau cyfeirio cyffredin a nodir yn y Tabl yn Atodlen 1, a

(b)y Cod a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6.

(7)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “darparwr dysgu Cymraeg‍” (“Welsh language learning provider”) yw person a ariennir gan yr Athrofa Dysgu Cymraeg i ddarparu addysgu Cymraeg i bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol;

  • mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 39 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

40Swyddogaethau ychwanegolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi swyddogaethau ychwanegol i’r Athrofa Dysgu Cymraeg.

(2)Rhaid i swyddogaeth a roddir o dan is-adran (1) ymwneud â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg neu hwyluso’u cynnydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 40 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

41Hybu cyfle cyfartalLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu’r canlynol—

(a)cynyddu cyfranogiad mewn rhaglenni dysgu Cymraeg gan bobl dros oedran ysgol gorfodol sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol;

(b)cadw dysgwyr dros oedran ysgol gorfodol sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd‍ rhaglenni dysgu Cymraeg;

(c)lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn dysgu Cymraeg rhwng grwpiau gwahanol o ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.

(2)Yn yr adran ho‍n—

  • ystyr “grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” (“under-represented groups”) yw grwpiau o bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn rhaglenni dysgu Cymraeg o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;

  • ystyr “rhaglenni dysgu Cymraeg” (“Welsh language learning programmes”) yw rhaglenni dysgu Cymraeg a ddarperir gan yr Athrofa Dysgu Cymraeg neu gan ddarparwr dysgu Cymraeg.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 41 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

42Hybu arloesedd a gwelliant parhausLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu’r canlynol—

(a)arloesedd a gwelliant parhaus mewn perthynas â dysgu Cymraeg;

(b)codi safonau o ran dysgu Cymraeg er mwyn cynyddu’r niferoedd sy’n siarad a defnyddio’r Gymraeg, a gwella eu gallu.

(2)At ddibenion is-adran (1), rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg roi sylw i bwysigrwydd—

(a)sicrhau bod y rhai hynny sy’n addysgu’r Gymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol yn cael eu galluogi i ddarparu addysg o safon uchel;

(b)datblygiad proffesiynol parhaus y rhai hynny sy’n addysgu’r Gymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(c)ystyried barn dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 42 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

43Hybu cydlafurio mewn perthynas â dysgu CymraegLL+C

Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu’r canlynol—

(a)cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg;

(b)cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg ac ysgolion‍ a gynhelir a rhwng darparwyr dysgu Cymraeg ac ysgolion meithrin a gynhelir;

(c)cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg a darparwyr addysg drydyddol eraill yng Nghymru;

(d)cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg a chyflogwyr yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 43 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

44Hybu cydlynu mewn perthynas â dysgu CymraegLL+C

Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu’r canlynol—

(a)cydlynu yn narpariaeth dysgu Cymraeg yng Nghymru i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(b)rhannu arfer orau mewn perthynas â dulliau addysgu a throsglwyddo’r Gymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 44 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

45Cymhwyso safonau’r GymraegLL+C

(1)Yn Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc.: safonau) i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1), yn y tabl, o dan y pennawd “Cyffredinol”, ar ôl y cofnod ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd mewnosoder—

“Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (“The National Institute for Learning Welsh”) Safonau cyflenwi gwasanaethau
Safonau llunio polisi
Safonau gweithredu
Safonau cadw cofnodion.

(2)Yn rheoliad 3 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 (O.S. 2017/90) (Cy. 33)‍ ym mharagraff (3), ar ôl “Corfforaethau Addysg Uwch yng Nghymru” mewnosoder “Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 45 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

CyffredinolLL+C

46Cynllun strategolLL+C

(1)Rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg, ar gyfer pob cyfnod cynllunio, lunio cynllun strategol.

(2)Rhaid i’r cynllun strategol nodi sut y mae’r Athrofa Dysgu Cymraeg yn bwriadu—

(a)arfer ei swyddogaethau er mwyn cyflawni ei hamcan, a

(b)arfer ei swyddogaethau yn unol ag adrannau 41 i 44.

(3)Wrth lunio’r cynllun strategol rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg ymgynghori â’r personau canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)Comisiynydd y Gymraeg;

(c)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(d)y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (rhif y cwmni 07550507);

(e)darparwyr dysgu Cymrae‍g;

(f)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(4)Rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg gyflwyno’r cynllun strategol i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 3 mis cyn dechrau’r cyfnod cynllunio y mae’n ymwneud ag ef.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun strategol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y cytunir arnynt â’r Athrofa Dysgu Cymraeg.

(6)Rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg gyhoeddi’r cynllun strategol sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(7)Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg adolygu‘r cynllun strategol a chyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i‘w gymeradwyo, ac mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys i gynllun diwygiedig fel y maent yn gymwys i’r cynllun gwreiddiol.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod cynllunio” yw—

(a)cyfnod cyntaf sy’n dechrau â dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau ac yn dod i ben â dyddiad a bennir felly, a

(b)pob cyfnod dilynol o 3 blynedd neu unrhyw gyfnod arall a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 46 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

47Adroddiad blynyddolLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo‘n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i‘r Athrofa Dysgu Cymraeg—

(a)llunio a chyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno, a

(b)anfon copi o‘i hadroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o‘r adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 47 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources