- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.![]()
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, RHAN 3.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rhagolygol
(1)Mae’r Rhan hon—
(a)yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi categori iaith i bob ysgol (gweler adrannau 9 i 13), ac, yn unol â hynny, ynghylch—
(i)y swm o addysg Gymraeg sydd i’w ddarparu yn yr ysgol, a
(ii)nod dysgu Cymraeg yr ysgol;
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gael cynllun cyflawni addysg Gymraeg (gweler adrannau 14 i 19) sy’n nodi (ymhlith pethau eraill) sut y mae’r ysgol yn bwriadu cyflawni ei nod dysgu Cymraeg;
(c)yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr o gategori iaith pob ysgol yn ei ardal (gweler adran 22);
(d)yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol hybu addysg drochi hwyr yn y Gymraeg (gweler adran 23).
(2)At ddibenion y Rhan hon—
(a)ystyr “addysg Gymraeg” yw—
(i)addysgu’r Gymraeg, a
(ii)addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg,
mewn ysgol, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol;
(b)ystyr “addysg feithrin Gymraeg” yw—
(i)addysgu’r Gymraeg, a
(ii)addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
mewn ysgol neu ysgol feithrin a gynhelir, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol;
(c)mae cyfeiriadau at “ysgol” yn golygu ysgol a gynhelir sydd â disgyblion o oedran ysgol gorfodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Dynodir categori iaith i bob ysgol, yn unol â’r Rhan hon, sy’n penderfynu—
(a)yn unol ag adran 10, yr isafswm o addysg Gymraeg a ddarperir yn yr ysgol, a
(b)nod dysgu Cymraeg yr ysgol (gweler adran 11).
(2)Y categorïau iaith yw—
(a)y categori “Prif Iaith - Cymraeg”;
(b)y categori “Dwy Iaith”;
(c)y categori “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg”.
(3)Caniateir dynodi mwy nag un categori iaith ar gyfer ysgol a chaiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas ag ysgol o’r fath, gan gynnwys darpariaeth sy’n cymhwyso’r Rhan hon gydag addasiadau.
(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i ysgol arbennig gymunedol (ond gweler adran 20).
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Mae is-adran (2) yn nodi’r isafswm o addysg Gymraeg ar gyfer pob categori iaith, fel canran o’r addysg a hyfforddiant a ddarperir dros flwyddyn ysgol yn ystod sesiynau ysgol ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol.
(2)Yr isafswm yw—
(a)80% ar gyfer y categori “Prif Iaith - Cymraeg”;
(b)50% ar gyfer y categori “Dwy Iaith”;
(c)10% ar gyfer y categori “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg”.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2) er mwyn newid yr isafswm ar gyfer unrhyw gategori iaith, ond ni chaniateir i’r isafswm fod yn llai na 80% ar gyfer y categori “Prif Iaith - Cymraeg”, 50% ar gyfer y categori “Dwy Iaith”, a 10% ar gyfer y categori “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg”.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ydynt am arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r categori “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg” o fewn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y daw’r adran hon i rym, ac wedi hynny, o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dilyn eu penderfyniad diweddaraf.
(5)Wrth benderfynu a ydynt am arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ystyried effaith debygol yr isafsymiau ar gyflawni’r targedau a bennir gan strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 1.
(6)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sicrhau bod yr ysgol yn darparu’r isafswm o addysg Gymraeg, o leiaf, ar gyfer y categori iaith a ddynodir i’r ysgol ymhob un o’r blynyddoedd ysgol y mae cynllun cyflawni addysg Gymraeg i gael effaith ar ei chyfer (gweler adrannau 14(3) a 15(5)).
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Y nod dysgu Cymraeg ar gyfer ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg” yw bod disgyblion, erbyn iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol, yn ddefnyddwyr Cymraeg hyfedr (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin C1 neu C2), o leiaf.
(2)Y nod dysgu Cymraeg ar gyfer ysgolion categori “Dwy Iaith” yw bod disgyblion, erbyn iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol—
(a)yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2) o leiaf, fel nod cychwynnol;
(b)wedi hynny, mewn perthynas â grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a’r grwpiau blwyddyn sy’n dilyn—
(i)yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2) o leiaf, a
(ii)yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B2, o leiaf, o ran rhyngweithio llafar.
(3)Y nod dysgu Cymraeg ar gyfer ysgolion categori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” yw bod disgyblion, erbyn iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol—
(a)yn ddefnyddwyr Cymraeg sylfaenol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin A1 neu A2) o leiaf, fel nod cychwynnol;
(b)wedi hynny, mewn perthynas â grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a’r grwpiau blwyddyn sy’n dilyn tan i’r nod ym mharagraff (c) ddod yn gymwys, yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2) o leiaf;
(c)wedi hynny, mewn perthynas â grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a’r grwpiau blwyddyn sy’n dilyn—
(i)yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2) o leiaf, a
(ii)yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B2, o leiaf, o ran rhyngweithio llafar.
(4)Mewn perthynas â’r nodau dysgu Cymraeg ar gyfer ysgol gynradd, tybir bod disgyblion yr ysgol yn parhau ag addysg mewn ysgolion o’r un categori iaith hyd nes iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
(5)Wrth ystyried y blynyddoedd ysgol a’r grwpiau blwyddyn sydd i’w pennu mewn rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i effaith debygol y nodau dysgu ar gyflawni’r targedau a bennir gan strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 1.
(6)Yn yr adran hon—
mae i “lefel cyfeirio gyffredin B2 o ran rhyngweithio llafar” (“B2 common reference level for oral interaction”) yr ystyr a roddir—
yn y Tabl yn Atodlen 1, gan yr ail frawddeg yn y golofn “Nodweddion cyffredinol” ar gyfer lefel cyfeirio gyffredin B2, i’r graddau y mae’n gymwys i ryngweithio llafar, a
gan unrhyw ddarpariaeth bellach ynghylch y lefel cyfeirio gyffredin honno, a rhyngweithio llafar, yn y Cod a lunnir o dan adran 6;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o ddisgyblion mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Caiff trefniadau asesu a wneir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau o dan adran 56 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4) wneud darpariaeth at ddiben sicrhau cynnydd disgyblion tuag at gyflawni nod dysgu Cymraeg ysgol.
(2)At y diben hwn, caiff y trefniadau asesu (ymysg pethau eraill)—
(a)cyfeirio at fath o ddefnyddiwr Cymraeg neu lefel cyfeirio gyffredin a nodir yn y Tabl yn Atodlen 1;
(b)cyfeirio at y Cod a lunnir o dan adran 6;
(c)gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â disgyblion sy’n mynychu ysgol categori “Prif Iaith Saesneg - rhannol Gymraeg” sydd ag esemptiad dros dro o’r gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg o dan adran 18 neu 19.
(3)Yn adran 7 (cod cynnydd) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Wrth lunio’r Cod Cynnydd o dan is-adran (1), a’i gadw o dan adolygiad o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r nodau dysgu Cymraeg a osodir gan adran 11 o Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (dsc [ ]).”
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach am gategorïau iaith ysgolion.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol lunio cynllun cyflawni mewn perthynas â’r Gymraeg (“cynllun cyflawni addysg Gymraeg”)—
(a)sy’n nodi categori iaith ar gyfer yr ysgol (gan ystyried y swm o addysg Gymraeg a ddarperir ar y pryd gan yr ysgol);
(b)sy’n nodi’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol ar yr adeg y llunnir y cynllun cyflawni;
(c)sy’n esbonio sut y bydd y corff llywodraethu yn sicrhau bod yr ysgol yn cyflawni’r ddyletswydd o dan adran 10(6) (darparu’r swm o addysg Gymraeg a bennir ar gyfer categori iaith yr ysgol);
(d)sy’n nodi’r camau y bydd y corff llywodraethu yn eu cymryd i hybu addysg drochi hwyr yn unol ag adran 23(3);
(e)sy’n nodi cynigion y corff llywodraethu—
(i)ar y swm o addysg Gymraeg y bwriedir ei ddarparu yn yr ysgol yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun cyflawni yn cael effaith, a
(ii)ar gynnal y swm hwnnw o addysg Gymraeg, a chynyddu’r swm pan fo hynny’n rhesymol ymarferol;
(f)sy’n nodi, os yw’r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol—
(i)y swm o addysg feithrin Gymraeg a ddarperir ar yr adeg y llunnir y cynllun cyflawni;
(ii)cynigion y corff llywodraethu ar y swm o addysg feithrin Gymraeg y bwriedir ei ddarparu yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun cyflawni yn cael effaith amdano;
(iii)cynigion y corff llywodraethu ar gynnal y swm hwnnw o addysg feithrin Gymraeg, a chynyddu’r swm pan fo hynny’n rhesymol ymarferol;
(g)sy’n nodi cynigion y corff llywodraethu, at ddiben cyflawni nod dysgu Cymraeg yr ysgol, ar sut y bydd yn—
(i)hybu ethos a diwylliant Cymraeg o fewn yr ysgol;
(ii)hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn yr ysgol;
(iii)hwyluso gwelliant parhaus yn addysg Gymraeg yr ysgol;
(h)sy’n nodi, os yw’r ysgol yn ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu “Dwy Iaith”, gynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd yn cynorthwyo rhieni nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus—
(i)i gefnogi dysgu eu plant;
(ii)i gefnogi cyfraniad eu plant at ethos a diwylliant Cymraeg yr ysgol;
(i)sy’n nodi cynigion y corff llywodraethu ar gyfer paratoi am y newid, os yw’n bwriadu cynyddu’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol gyda golwg ar newid ei chategori iaith (gweler adran 17).
(2)Wrth lunio’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg, rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol—
(a)rhoi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol (gweler adran 30);
(b)ymgynghori â’r canlynol—
(i)pennaeth yr ysgol (os nad yw’r person hwnnw yn aelod o’r corff llywodraethu);
(ii)disgyblion cofrestredig yr ysgol;
(iii)rhieni’r disgyblion cofrestredig;
(iv)staff yr ysgol;
(v)yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;
(vi)unrhyw bersonau eraill a bennir mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru.
(3)Mae pob cynllun cyflawni addysg Gymraeg yn cael effaith am gyfnod o dair blwyddyn ysgol, ac mae—
(a)cyfnod y cynllun cyflawni cyntaf yn dechrau â’r flwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a
(b)cyfnod pob cynllun cyflawni dilynol yn dechrau â’r flwyddyn ysgol sy’n dechrau yn union ar ôl i’r cynllun cyflawni blaenorol ddod i ben.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)diwygio hyd y cyfnod y mae cynllun cyflawni addysg Gymraeg yn cael effaith amdano;
(b)gwneud darpariaeth am ffurf a chynnwys cynllun cyflawni.
(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys i ysgol arbennig gymunedol (ond gweler adran 20).
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gyflwyno drafft o’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg a lunnir o dan adran 14 i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol.
(2)Rhaid cyflwyno’r drafft o leiaf 9 mis cyn dechrau’r cyfnod y mae’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg i gael effaith amdano.
(3)Wrth gyflwyno’r drafft, rhaid i’r corff llywodraethu ddarparu crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn unol ag adran 14(2)(b).
(4)Caiff yr awdurdod lleol—
(a)cymeradwyo’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg fel y’i cyflwynwyd (gan gynnwys y categori iaith a bennir ynddo),
(b)cymeradwyo’r cynllun cyflawni ag addasiadau y cytunwyd arnynt â chorff llywodraethu’r ysgol, neu
(c)gwrthod y cynllun cyflawni a rhoi cyfarwyddyd i’r corff llywodraethu i ailystyried y cynllun cyflawni.
(5)Effaith cymeradwyo cynllun cyflawni addysg Gymraeg ysgol o dan is-adran (4)(a) neu (b) yw dynodi’r categori iaith a nodir yn y cynllun cyflawni fel categori iaith yr ysgol.
(6)Os yw awdurdod lleol yn gwrthod drafft o’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg, rhaid i’r cyfarwyddyd o dan is-adran (4)(c)—
(a)rhoi rhesymau dros y penderfyniad;
(b)pennu erbyn pryd y mae rhaid i’r corff llywodraethu gyflwyno drafft pellach o’r cynllun cyflawni i’r awdurdod lleol.
(7)Mae is-adrannau (4) i (6) yn gymwys i gynllun cyflawni addysg Gymraeg drafft a gyflwynir gan gorff llywodraethu ysgol mewn ymateb i gyfarwyddyd o dan is-adran (4)(c) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ddrafft a gyflwynir o dan is-adran (1).
(8)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gyhoeddi’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg a gymeradwyir.
(9)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gymryd pob cam rhesymol i weithredu’r cynigion a nodir yn rhinwedd adran 14(1)(e), (f), (g), (h) ac (i) yn y cynllun cyflawni addysg Gymraeg a gymeradwyir.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol adolygu ei gynllun cyflawni addysg Gymraeg o leiaf unwaith cyn diwedd y cyfnod y mae’r cynllun cyflawni yn cael effaith amdano.
(2)Caiff corff llywodraethu ysgol ddiwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg yn unol â’r adran hon (ond gweler adran 17 am ddarpariaeth bellach os yw’r corff llywodraethu yn bwriadu newid categori iaith yr ysgol).
(3)Wrth adolygu neu ddiwygio’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg, rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol roi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol (gweler adran 30).
(4)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gyflwyno drafft o gynllun cyflawni addysg Gymraeg diwygiedig yr ysgol i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol.
(5)Wrth gyflwyno’r drafft, rhaid i’r corff llywodraethu ddarparu crynodeb o’r diwygiadau a gynigir a’r rhesymau drostynt.
(6)Caiff yr awdurdod lleol—
(a)cymeradwyo’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg diwygiedig fel y’i cyflwynwyd,
(b)cymeradwyo’r cynllun cyflawni diwygiedig ag addasiadau y cytunwyd arnynt â’r corff llywodraethu, neu
(c)gwrthod y cynllun cyflawni diwygiedig a rhoi cyfarwyddyd i’r corff llywodraethu i ailystyried.
(7)Os yw awdurdod lleol yn gwrthod cynllun cyflawni addysg Gymraeg diwygiedig, o ran y cyfarwyddyd o dan is-adran (6)(c)—
(a)rhaid iddo rhoi rhesymau dros y penderfyniad;
(b)rhaid iddo bennu erbyn pryd y mae rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol—
(i)cyflwyno drafft pellach o’r cynllun cyflawni i’r awdurdod lleol, neu
(ii)hysbysu’r awdurdod lleol nad yw bellach yn cynnig diwygio ei gynllun cyflawni;
(c)caiff ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r ysgol ymgynghori â’r personau a restrir yn adran 14(2)(b) os nad oes ymgynghoriad o’r fath wedi digwydd.
(8)Mae is-adrannau (5) i (7) yn gymwys i gynllun cyflawni addysg Gymraeg diwygiedig a gyflwynir mewn ymateb i gyfarwyddyd o dan is-adran (6)(c) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i gynllun cyflawni diwygiedig a gyflwynir o dan is-adran (4).
(9)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol—
(a)cyhoeddi’r cynllun cyflawni addysg Gymraeg a gymeradwyir, fel y’i diwygiwyd;
(b)cymryd pob cam rhesymol i weithredu’r cynigion a nodir yn rhinwedd adran 14(1)(e), (f), (g), (h) ac (i)yn y cynllun cyflawni addysg Gymraeg a gymeradwyir, fel y’i diwygiwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff llywodraethu ysgol yn cynnig diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol at ddiben newid categori iaith yr ysgol.
(2)Ni chaniateir newid categori iaith ysgol—
(a)o gategori “Dwy Iaith” i gategori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”;
(b)o gategori “Prif Iaith – Cymraeg” i gategori “Dwy Iaith” neu gategori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”.
(3)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol ymgynghori â’r personau a restrir yn adran 14(2)(b) cyn cyflwyno cynllun cyflawni diwygiedig drafft i’r awdurdod lleol o dan adran 16(4).
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff llywodraethu ysgol—
(a)yn llunio neu’n diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg cyntaf yr ysgol, a
(b)o’r farn nad yw’n rhesymol ymarferol i’r ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg sy’n ofynnol ar gyfer ysgol categori iaith “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg” (gweler adran 10(2)(c)).
(2)Rhaid i gynllun cyflawni addysg Gymraeg drafft yr ysgol a gyflwynir i’r awdurdod lleol o dan adran 15(1) neu 16(4) nodi—
(a)y rhesymau pam, ym marn corff llywodraethu’r ysgol, nad yw’n rhesymol ymarferol i’r ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg;
(b)cynigion y corff llywodraethu ar gyfer sicrhau y gall yr ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg (o leiaf);
(c)erbyn pa ddyddiad y bydd y cynigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (b) wedi cael eu gweithredu, dyddiad sydd heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o dair blynedd y mae’r cynllun cyflawni yn cael effaith amdano;
(d)gwybodaeth am y gefnogaeth y mae ei hangen ym marn y corff llywodraethu er mwyn galluogi’r ysgol i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg.
(3)Os yw’r awdurdod lleol (yn unol ag adran 15 neu 16) yn cymeradwyo cynllun cyflawni addysg Gymraeg ar gyfer ysgol sy’n nodi’r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)—
(a)mae corff llywodraethu’r ysgol wedi’i esemptio rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg tan ddiwedd y cyfnod o dair blynedd y mae’r cynllun cyflawni cyntaf yn cael effaith amdano;
(b)bernir mai’r categori iaith “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” a ddynodir yn gategori iaith yr ysgol ar gyfer y cyfnod hwnnw;
(c)rhaid i’r corff llywodraethu gymryd pob cam rhesymol i weithredu’r cynigion a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(b) erbyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-adran (2)(c).
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff llywodraethu ysgol sydd wedi ei hesemptio yn unol ag adran 18(3)(a)—
(a)yn llunio ail gynllun cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol, a
(b)yn parhau o’r farn nad yw’n rhesymol ymarferol i’r ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg ar gyfer ysgol categori iaith “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg”.
(2)Rhaid i’r ail gynllun cyflawni addysg Gymraeg a gyflwynir i’r awdurdod lleol o dan adran 15(1) nodi —
(a)pam na chafodd y cynigion y cyfeirir atynt yn adran 18(2)(b) eu gweithredu, neu pam nad oedd y cynigion hynny wedi llwyddo;
(b)pam, ym marn y corff llywodraethu, nad yw’n rhesymol ymarferol o hyd i’r ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg;
(c)cynigion pellach y corff llywodraethu ar gyfer sicrhau y gall yr ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg (o leiaf);
(d)erbyn pa ddyddiad y bydd y cynigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (c) wedi eu gweithredu, dyddiad sydd heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o dair blynedd y mae’r cynllun cyflawni drafft yn cael effaith amdano;
(e)gwybodaeth am y gefnogaeth y mae ei hangen ym marn y corff llywodraethu er mwyn i’r ysgol allu darparu’r isafswm o addysg Gymraeg.
(3)Os yw’r awdurdod lleol (yn unol ag adran 15) yn cymeradwyo cynllun cyflawni addysg Gymraeg ar gyfer ysgol sy’n nodi’r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)—
(a)mae corff llywodraethu’r ysgol wedi ei esemptio rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg tan y dyddiad a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(d);
(b)bernir mai’r categori iaith “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” a ddynodir yn gategori iaith yr ysgol tan y dyddiad a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(d);
(c)rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol gymryd pob cam rhesymol i weithredu’r cynigion a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(c), erbyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-adran (2)(d);
(d)rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu’r canlynol i Weinidogion Cymru—
(i)y rhesymau pam y mae cynllun cyflawni yr ysgol wedi ei gymeradwyo;
(ii)gwybodaeth am unrhyw gefnogaeth sydd wedi ei chynnig i gorff llywodraethu’r ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arbennig gymunedol lunio cynllun mewn perthynas â’r Gymraeg (“cynllun cyflawni addysg Gymraeg ysgol arbennig gymunedol”) sy’n nodi—
(a)y swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol;
(b)os yw’r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol, y swm o addysg feithrin Gymraeg a ddarperir;
(c)cynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd—
(i)yn hybu ethos a diwylliant Cymraeg o fewn yr ysgol;
(ii)yn hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn yr ysgol;
(d)os yw’r ysgol yn darparu swm o addysg Gymraeg neu addysg feithrin Gymraeg sy’n cyfateb i’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu “Dwy Iaith”, gynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd yn cynorthwyo rhieni nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus—
(i)i gefnogi dysgu eu plant;
(ii)i gefnogi cyfraniad eu plant at ethos a diwylliant Cymraeg yr ysgol.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgol arbennig gymunedol, gan gynnwys ynghylch—
(a)hyd ac amseriad cynllun;
(b)ymgynghori ar gynllun;
(c)cymeradwyo cynllun;
(d)adolygu a diwygio cynllun.
(3)Ni ddynodir categori iaith i ysgol arbennig gymunedol yn unol â’r Rhan hon, oni bai bod corff llywodraethu’r ysgol yn dymuno i gategori iaith gael ei ddynodi (“dynodiad gwirfoddol”).
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas â dynodiad gwirfoddol, gan gynnwys darpariaeth sy’n cymhwyso’r Rhan hon gydag addasiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir lunio cynllun mewn perthynas â’r Gymraeg (“cynllun cyflawni addysg feithrin Gymraeg”) sy’n nodi—
(a)y swm o addysg feithrin Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol feithrin;
(b)cynigion y corff llywodraethu—
(i)ar y swm o addysg feithrin Gymraeg y bwriedir ei ddarparu yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun cyflawni addysg feithrin Gymraeg yn cael effaith amdano, a
(ii)ar gynnal y swm hwnnw o addysg feithrin Gymraeg, a chynyddu’r swm pan fo hynny’n rhesymol ymarferol;
(c)cynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd yn—
(i)hybu ethos a diwylliant Cymraeg o fewn yr ysgol feithrin;
(ii)hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn yr ysgol feithrin;
(d)os yw’r ysgol feithrin yn darparu swm o addysg feithrin Gymraeg sy’n cyfateb i’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu “Dwy Iaith”, gynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd yn cynorthwyo rhieni nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus—
(i)i gefnogi dysgu eu plant;
(ii)i gefnogi cyfraniad eu plant at ethos a diwylliant Cymraeg yr ysgol feithrin.
(2)Wrth lunio’r cynllun cyflawni addysg feithrin Gymraeg rhaid i’r corff llywodraethu roi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol feithrin (gweler adran 30).
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch cynlluniau cyflawni addysg feithrin Gymraeg, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)hyd ac amseriad cynllun;
(b)ymgynghori ar gynllun;
(c)cymeradwyo cynllun;
(d)adolygu a diwygio cynllun.
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Rhaid i awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr sy’n cynnwys y materion canlynol—
(a)categori iaith pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, fel a nodir yng nghynllun cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol a gymeradwywyd o dan adran 15 neu 16;
(b)cofnod o bob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod sydd wedi ei hesemptio dros dro, o dan adran 18 neu 19, rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg, a’r dyddiad y daw’r esemptiad i ben;
(c)categori iaith arfaethedig ysgolion yn ei ardal y gwneir cynigion ar eu cyfer o dan adran 41 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1) (cynigion i sefydlu ysgolion prif ffrwd);
(d)categori iaith arfaethedig ysgolion arfaethedig nad ydynt wedi eu cynnwys yn y gofrestr o dan baragraff (c) ond sydd o ddisgrifiad a nodir mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (3).
(2)Yn adran 41 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1), ar ôl is-adran (2), mewnosoder—
“(3)Gweler adran 22(1) o Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (dsc[ ]) am ddarpariaeth ynghylch cofrestr o gategorïau iaith arfaethedig ysgolion y gwnaed cynigion yn eu cylch o dan yr adran hon.”
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach am gofrestr a gynhelir o dan is-adran (1) mewn cysylltiad ag—
(a)y materion sydd i’w cynnwys yn y gofrestr;
(b)ffurf y gofrestr;
(c)sut a phryd i gyhoeddi’r gofrestr.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
(1)Yn yr adran hon, ystyr “addysg drochi hwyr“ yw addysg ddwys yn y Gymraeg—
(a)ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol sy’n 7 oed o leiaf ac sy’n mynychu neu yn dymuno mynychu ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu ysgol categori “Dwy Iaith”, a
(b)sy’n trochi plant yn y Gymraeg er mwyn eu galluogi i elwa’n llawn o addysg mewn ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu ysgol categori “Dwy Iaith”.
(2)Rhaid i bob awdurdod lleol—
(a)annog cynnydd yn y galw yn ei ardal am addysg drochi hwyr a chynnydd mewn cyfranogiad ynddi;
(b)gwneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor i’r personau canlynol ynghylch yr addysg drochi hwyr sydd ar gael yn ei ardal—
(i)plant o oedran ysgol gorfodol yn ei ardal,
(ii)rhieni plant yn ei ardal,
(iii)plant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ond sy’n byw y tu allan i’w ardal,
(iv)cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, a
(v)unrhyw bersonau eraill y mae’n eu hystyried yn briodol;
(c)cymryd pob cam rhesymol i ddarparu addysg drochi hwyr sy’n ateb y galw amdani yn ei ardal.
(3)Pan fo corff llywodraethu ysgol wedi cael gwybodaeth (yn rhinwedd is-adran (2)(b)(iv)) am yr addysg drochi hwyr sydd ar gael yn ardal yr awdurdod lleol y mae’r ysgol wedi ei lleoli ynddi, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod disgyblion yr ysgol a’u rhieni yn ymwybodol—
(a)o’r addysg sydd ar gael, a
(b)sut i gael mynediad at yr addysg honno.
(4)Gweler hefyd adran 14(1)(d) mewn cysylltiad â gwneud darpariaeth ynghylch addysg drochi hwyr yng nghynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolion.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)(5)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: