- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod amodau eithriadol yn y farchnad, caiff Gweinidogion Cymru wneud a chyhoeddi datganiad (“datganiad amodau eithriadol yn y farchnad”) yn unol â’r adran hon.
(2)Mae “amodau eithriadol yn y farchnad”—
(a)os oes aflonyddwch dwys mewn marchnadoedd amaethyddol neu fygythiad difrifol o aflonyddwch dwys mewn marchnadoedd amaethyddol, a
(b)os yw’r aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch yn cael effaith andwyol sylweddol, neu’n debygol o gael effaith andwyol sylweddol, ar gynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru o ran y prisiau y gellir eu cael am un neu ragor o gynhyrchion amaethyddol.
(3)Rhaid i ddatganiad amodau eithriadol yn y farchnad—
(a)datgan bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod amodau eithriadol yn y farchnad;
(b)disgrifio’r amodau eithriadol yn y farchnad o dan sylw drwy bennu—
(i)yr aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch mewn marchnadoedd amaethyddol;
(ii)y sail dros ystyried bod yr aflonyddwch yn ddwys, neu bod bygythiad difrifol o aflonyddwch dwys;
(iii)unrhyw gynnyrch amaethyddol y mae’r aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch yn effeithio arno neu’n debygol o effeithio arno;
(iv)y sail dros ystyried bod yr aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch yn cael, neu’n debygol o gael, effaith andwyol sylweddol ar gynhyrchwyr amaethyddol o ran y prisiau y gellir eu cael am y cynnyrch amaethyddol o dan sylw;
(c)pennu tan pa ddyddiad y mae’r pwerau a roddir gan adran 22 neu y cyfeirir atynt yno ar gael i’w defnyddio mewn perthynas â’r amodau eithriadol yn y farchnad.
(4)Ni chaniateir i’r dyddiad a bennir o dan is-adran (3)(c) fod yn hwyrach na diwrnod olaf y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad.
(5)Mae datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith o ddechrau’r diwrnod y caiff ei gyhoeddi tan ddiwedd y diwrnod a bennir o dan is-adran (3)(c).
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu datganiad amodau eithriadol yn y farchnad drwy wneud a chyhoeddi datganiad, o dan yr is-adran hon, sy’n nodi bod y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad wedi ei ddirymu o’r dyddiad a bennir yn y datganiad.
(7)Mae is-adran (8) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o saith niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod a bennir o dan is-adran (3)(c) mewn datganiad amodau eithriadol yn y farchnad sy’n cael effaith o dan yr adran hon, yn ystyried bod amodau eithriadol yn y farchnad yn dal i fodoli.
(8)Caiff Gweinidogion Cymru estyn y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad drwy wneud a chyhoeddi datganiad o dan yr is-adran hon sy’n pennu—
(a)y caiff y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad ei estyn am gyfnod (nad yw’n fwy na thri mis) a bennir yn y datganiad, a
(b)bod y pwerau a roddir gan adran 22(2) neu y cyfeirir atynt yno ar gael i’w defnyddio yn ystod y cyfnod hwnnw.
(9)Nid yw’r ffaith bod datganiad amodau eithriadol yn y farchnad wedi dod i ben neu wedi ei ddirymu yn atal Gweinidogion Cymru rhag gwneud a chyhoeddi datganiad amodau eithriadol yn y farchnad arall yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n rhannol â’r un amodau eithriadol yn y farchnad.
(10)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw ddatganiad a wneir ac a gyhoeddir o dan yr adran hon gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei gyhoeddi.
(11)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ddatganiad yn cael ei gyhoeddi yn gyfeiriadau at ei gyhoeddi’n electronig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: