RHAN 2CYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.
PENNOD 3YMYRRAETH MEWN MARCHNADOEDD AMAETHYDDOL
21Datganiad yn ymwneud ag amodau eithriadol yn y farchnad
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod amodau eithriadol yn y farchnad, caiff Gweinidogion Cymru wneud a chyhoeddi datganiad (“datganiad amodau eithriadol yn y farchnad”) yn unol â’r adran hon.
(2)
Mae “amodau eithriadol yn y farchnad”—
(a)
os oes aflonyddwch dwys mewn marchnadoedd amaethyddol neu fygythiad difrifol o aflonyddwch dwys mewn marchnadoedd amaethyddol, a
(b)
os yw’r aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch yn cael effaith andwyol sylweddol, neu’n debygol o gael effaith andwyol sylweddol, ar gynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru o ran y prisiau y gellir eu cael am un neu ragor o gynhyrchion amaethyddol.
(3)
Rhaid i ddatganiad amodau eithriadol yn y farchnad—
(a)
datgan bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod amodau eithriadol yn y farchnad;
(b)
disgrifio’r amodau eithriadol yn y farchnad o dan sylw drwy bennu—
(i)
yr aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch mewn marchnadoedd amaethyddol;
(ii)
y sail dros ystyried bod yr aflonyddwch yn ddwys, neu bod bygythiad difrifol o aflonyddwch dwys;
(iii)
unrhyw gynnyrch amaethyddol y mae’r aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch yn effeithio arno neu’n debygol o effeithio arno;
(iv)
y sail dros ystyried bod yr aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch yn cael, neu’n debygol o gael, effaith andwyol sylweddol ar gynhyrchwyr amaethyddol o ran y prisiau y gellir eu cael am y cynnyrch amaethyddol o dan sylw;
(c)
pennu tan pa ddyddiad y mae’r pwerau a roddir gan adran 22 neu y cyfeirir atynt yno ar gael i’w defnyddio mewn perthynas â’r amodau eithriadol yn y farchnad.
(4)
Ni chaniateir i’r dyddiad a bennir o dan is-adran (3)(c) fod yn hwyrach na diwrnod olaf y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad.
(5)
Mae datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith o ddechrau’r diwrnod y caiff ei gyhoeddi tan ddiwedd y diwrnod a bennir o dan is-adran (3)(c).
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu datganiad amodau eithriadol yn y farchnad drwy wneud a chyhoeddi datganiad, o dan yr is-adran hon, sy’n nodi bod y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad wedi ei ddirymu o’r dyddiad a bennir yn y datganiad.
(7)
Mae is-adran (8) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o saith niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod a bennir o dan is-adran (3)(c) mewn datganiad amodau eithriadol yn y farchnad sy’n cael effaith o dan yr adran hon, yn ystyried bod amodau eithriadol yn y farchnad yn dal i fodoli.
(8)
Caiff Gweinidogion Cymru estyn y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad drwy wneud a chyhoeddi datganiad o dan yr is-adran hon sy’n pennu—
(a)
y caiff y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad ei estyn am gyfnod (nad yw’n fwy na thri mis) a bennir yn y datganiad, a
(b)
bod y pwerau a roddir gan adran 22(2) neu y cyfeirir atynt yno ar gael i’w defnyddio yn ystod y cyfnod hwnnw.
(9)
Nid yw’r ffaith bod datganiad amodau eithriadol yn y farchnad wedi dod i ben neu wedi ei ddirymu yn atal Gweinidogion Cymru rhag gwneud a chyhoeddi datganiad amodau eithriadol yn y farchnad arall yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n rhannol â’r un amodau eithriadol yn y farchnad.
(10)
Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw ddatganiad a wneir ac a gyhoeddir o dan yr adran hon gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei gyhoeddi.
(11)
Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ddatganiad yn cael ei gyhoeddi yn gyfeiriadau at ei gyhoeddi’n electronig.