Cyflwyniad
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (“
2.Fe’u lluniwyd gan Adran Materion Gwledig Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf.
3.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf, a phan na fo angen esboniad na sylw ar adran unigol o’r Ddeddf, nis rhoddir.
Trosolwg Cyffredinol O’R Ddeddf
4.Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith statudol newydd ar gyfer Rheoli Tir yn Gynaliadwy (“RhTG”) yng Nghymru.
5.Mae’r Ddeddf yn sefydlu’r amcanion RhTG yn fframwaith trosfwaol ar gyfer polisi amaethyddol, gan ei fod yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i arfer swyddogaethau penodol yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy. Gwneir darpariaeth ar gyfer monitro ac adrodd manwl: y bwriad yw caniatáu asesu cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion, darparu sylfaen dystiolaeth bwysig, a hwyluso craffu ac atebolrwydd.
6.Mae’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu cymorth ar gyfer amaethyddiaeth, ac mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth. Mae’r Ddeddf hon yn rhestru dibenion penodol y caiff cymorth ei ddarparu ar eu cyfer (er y caiff hefyd ei ddarparu ar gyfer dibenion eraill nad ydynt wedi eu rhestru). Mae’r dibenion hyn yn cynnwys dibenion sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd, newid yn yr hinsawdd, nwyon tŷ gwydr, ansawdd yr aer ac ansawdd dŵr ac iechyd anifeiliaid. Rhaid i Weinidogion Cymru arfer y pŵer o gymorth yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion RhTG. Y bwriad yw y bydd y dull integredig hwn yn galluogi’r cynhyrchiant cynaliadwy o fwyd a nwyddau eraill ochr yn ochr â chyflawni’r camau gweithredu i gefnogi’r amcanion eraill sy’n ymwneud â RhTG.
7.Caniateir hefyd arfer y pŵer o gymorth mewn cysylltiad â gweithgareddau penodol sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth. Diffinnir rhain yn y Ddeddf fel “gweithgareddau ategol”.
8.Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth arall sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chynhyrchion amaethyddol sy’n disodli’r ddarpariaeth bresennol (sydd â therfyn amser iddi) ar gyfer Cymru yn Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (y cyfeirir ati drwy’r Nodyn Esboniadol hwn fel “Deddf 2020”). (Mae hefyd yn diddymu’r Atodlen honno ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2020.)
9.Mae’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 er mwyn ehangu pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf honno, fel eu bod yn gallu gwneud rheoliadau sy’n caniatáu i denant daliad amaethyddol gael gafael ar weithdrefnau cymrodeddu, pan fo landlord wedi gwrthod cais i amrywio tenantiaeth, neu gais am ganiatâd, a wnaed at ddibenion y tenant i gael mynediad at fathau penodol o gymorth (gan gynnwys cymorth a ddarperir o dan adran 8).
10.Mae’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 i ganiatáu i’r tenant o dan denantiaeth busnes fferm gael gafael ar weithdrefnau cymrodeddu, pan fo landlord wedi gwrthod cais i amrywio’r denantiaeth, neu gais am ganiatâd, pan wnaed y cais at ddibenion penodedig. Y dibenion hynny yw: yn gyntaf, galluogi’r tenant i gael gafael ar fathau penodol o gymorth (gan gynnwys cymorth a ddarperir o dan adran 8); ac yn ail, cydymffurfio â dyletswydd statudol. Mae adran 8A(7) o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â chymrodeddu o’r fath. Mae geiriad hefyd wedi ei fewnosod yn Neddf 1995 yn nodi’r gofynion gweithdrefnol ar gyfer unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 8A.
11.Mae’r Ddeddf yn diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 er mwyn galluogi ychwanegu amodau pellach at drwyddedau cwympo coed ac i alluogi trwyddedau i gael eu diwygio, eu hatal dros dro neu eu dirymu mewn amgylchiadau penodol.
12.Mae’r Ddeddf yn diwygio Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 er mwyn gwahardd y defnydd o faglau (ac atalyddion cebl eraill) a thrapiau glud.
13.Mae’r Ddeddf yn cynnwys 57 o adrannau a 3 Atodlen. Rhennir y Bil i 6 Rhan fel a ganlyn:
Rhan 1 - Rheoli Tir yn Gynaliadwy
Rhan 2 - Cymorth ar gyfer amaethyddiaeth etc.
Rhan 3 – Materion sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chynhyrchion amaethyddol
Rhan 4 – Coedwigaeth
Rhan 5 - Bywyd Gwyllt
Rhan 6 – Cyffredinol
Atodlen 1 – Cynhyrchion amaethyddol sy’n berthnasol i ddarpariaethau safonau marchnata
Atodlen 2 - Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol etc. sy’n ymwneud â Rhannau 1 i 3
Atodlen 3 – Diwygiadau canlyniadol etc. i’r Rheoliad CMO
Sylwebaeth Ar Yr Adrannau
Rhan 1 - Rheoli Tir Yn Gynaliadwy
Yr amcanion
14.Mae’r Rhan hon o’r Ddeddf yn nodi pedwar amcan RhTG ac yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i arfer swyddogaethau penodol yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion hynny. Yr amcan yw sicrhau bod y sector amaethyddol yng Nghymru yn cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy, yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt, a hefyd yn hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.
15.Un o nodweddion pob un o’r amcanion yw’r bwriad i ddiwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau – sef rhywbeth sy’n adlewyrchu’r “egwyddor datblygu cynaliadwy” yn adran 5 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn ogystal, bwriedir i bob amcan ategu’r nodau llesiant yn adran 4 o’r Ddeddf honno, a gynlluniwyd i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
16.Mae’r fframwaith RhTG, sy’n cynnwys yr amcanion RhTG a’r ddyletswydd RhTG, wedi ei ddatblygu drwy broses ymgynghori gynhwysfawr a gofnodwyd yn Brexit a’n Tir(1), Ffermio Cynaliadwy a’n Tir(2), a Phapur Gwyn y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)(3). Maent hefyd yn cyd-fynd â rhaglenni a mentrau rhyngwladol megis rhaglen y Cenhedloedd Unedig, “Decade on Ecosystem Restoration 2021-2030”, a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2019.
Adran 1 - Yr amcanion rheoli tir yn gynaliadwy
17.Mae adran 1 yn sefydlu pedwar amcan RhTG.
18.Mae is-adran (2) yn darparu mai’r amcan cyntaf yw cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy. Yn ymarferol, mae hyn yn debygol o ofyn am ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn gymdeithasol, sy’n hyrwyddo safonau uchel o iechyd a lles anifeiliaid ac sy’n diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i wneud yr un fath.
19.Mae is-adran (6) yn darparu, at ddibenion yr amcan cyntaf, fod ffactorau perthnasol o ran pa un a yw bwyd a nwyddau eraill yn cael eu cynhyrchu mewn modd cynaliadwy yn cynnwys gwytnwch busnesau amaethyddol o fewn y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt a’u cyfraniad i’r economi leol, ymysg pethau eraill.
20.Mae is-adran (3) yn darparu mai’r ail amcan yw lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd.
21.Mae lliniaru newid yn yr hinsawdd yn debygol o gynnwys lleihau newid yn yr hinsawdd drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gweithredol ac allyriadau nwyon tŷ gwydr ymgorfforedig yn ogystal â chynnal a chynyddu gallu’r tir amaethyddol i ddal ac atafaelu carbon. Allyriadau gweithredol yw’r rheini sy’n cael eu hallyrru wrth gwblhau gweithred, ac allyriadau ymgorfforedig yw’r rheini sy’n cael eu hallyrru gan gynnyrch neu ddeunydd wrth eu cynhyrchu a’u cludo (e.e. allyriadau yn sgil cynhyrchu gwrtaith).
22.Mae addasu i newid yn yr hinsawdd yn debygol o gynnwys gweithredu i leihau effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Gall y camau gweithredu hyn gynnwys, er enghraifft, newidiadau mewn arferion er mwyn sicrhau’r cynhyrchiant parhaus o fwyd a nwyddau eraill, mesurau rheoli llifogydd yn naturiol a’r defnydd o goed i roi cysgod.
23.Mae is-adran (4) yn darparu mai’r trydydd amcan yw cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision y maent yn eu darparu. Gall cynnal gwytnwch ecosystemau ofyn am reoli ecosystemau yn weithredol a chamau gweithredu i atal dirywiad. Gall gwella gwytnwch ecosystemau ofyn am, er enghraifft, fesurau megis creu cynefinoedd a newidiadau mewn arferion (e.e. camau gweithredu yn ymwneud ag ansawdd dŵr).
24.Mae is-adran (7) yn disgrifio ffactorau penodol sydd (ymysg eraill) yn berthnasol i wytnwch ecosystemau at ddibenion y trydydd amcan. Gall ecosystemau gwydn, er enghraifft, fod yn fwy bioamrywiol, a all fod o gymorth i arafu a gwrthdroi dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac â’r gallu i addasu’n fwy i newid, gan gynnwys effeithiau newid yn yr hinsawdd.
25.Gall y manteision a geir gan ecosystemau gwydn gynnwys, er enghraifft, aer glân, dŵr glân, storio carbon yn well, gwell iechyd pridd a chynnydd ym mhresenoldeb ac effeithiolrwydd peillwyr.
26.Mae is-adran (5) yn darparu mai’r pedwerydd amcan yw cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd.
27.Mae’r pedwerydd amcan yn ymwneud â diogelu, cynnal a gwella adnoddau diwylliannol a chefn gwlad, a hyrwyddo mynediad ac ymgysylltiad â hwy. Mae cefn gwlad yn cynnwys, er enghraifft, tir amaeth a choetir, yn ogystal â phrydferthwch yr amgylchedd naturiol. Gall adnoddau diwylliannol gynnwys, er enghraifft, safleoedd ac adeiladau hanesyddol. Mae’r amcan hwn hefyd yn ymwneud â chynnal y Gymraeg, er enghraifft drwy gefnogi pobl a chymunedau sy’n defnyddio’r Gymraeg, yn ogystal â hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth a chyfleoedd i’w defnyddio a’i lledaenu.
28.Mae is-adran (8) yn diffinio “adnoddau diwylliannol” at ddibenion y pedwerydd amcan.
Y ddyletswydd
Adran 2 - Dyletswydd Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r amcanion
29.Mae adran 2(1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru arfer swyddogaethau penodol yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno’n briodol.
30.Er mwyn cydymffurfio â’r ddyletswydd hon, bydd angen i Weinidogion Cymru ystyried pob un o’r pedwar amcan RhTG pan fyddant yn arfer swyddogaeth y mae’r ddyletswydd yn gymwys iddi ac wedi hyn bydd angen arfer y swyddogaeth yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion hynny (i’w hystyried gyda’i gilydd), i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno’n briodol. Bwriedir i’r amcanion RhTG ategu ei gilydd, ac, mewn rhai achosion, golyga hyn y caiff camau gweithredu eu cymryd sy’n cyfrannu at yr holl amcanion, er nid o reidrwydd yn gyfartal. Mewn achosion eraill, efallai na fydd hyn yn bosibl, er enghraifft, pan nad yw arfer swyddogaeth benodol yn cael unrhyw effaith mewn cysylltiad ag un neu ragor o’r amcanion.
31.Ym mhob achos, bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru arfer swyddogaethau perthnasol yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at yr amcanion (i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno’n briodol). Golyga hyn pan fo mwy nag un opsiwn i Weinidogion Cymru, bydd angen iddynt ddewis yr opsiwn y maent yn ystyried sy’n fwyaf buddiol yn nhermau ei gyfraniad at gyflawni’r amcanion RhTG.
32.Mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru y mae’r ddyletswydd yn gymwys iddynt wedi eu nodi yn is-adrannau (2) a (3) ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 3.
33.Mae is-adran (2) yn darparu bod y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn gymwys iddynt yn:
swyddogaethau o dan y Ddeddf hon (adran 2(2)(a));
swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad arall sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer (i) amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu (ii) gweithgareddau ategol (adran 2(2)(b));
swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad arall sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i Weinidogion Cymru reoleiddio (i) amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu (ii) gweithgareddau ategol (adran 2(2)(c)).
34.Mae is-adran (3) yn darparu nad yw’r ddyletswydd RhTG ond yn gymwys i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2)(b) a (2)(c) i’r graddau bod y swyddogaethau hynny’n cael eu harfer i ddarparu cymorth ar gyfer neu i reoleiddio, (a) amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu (b) gweithgareddau ategol (ac nid felly i’r graddau yr arferir y swyddogaethau hynny at ryw ddiben arall).
35.Diffinnir “amaethyddiaeth” yn adran 51; diffinnir “gweithgaredd ategol” yn adran 52; a diffinnir “swyddogaethau” yn adran 54.
36.Gall gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth gynnwys, er enghraifft, gweithgareddau neu ddigwyddiadau hamdden pan fo prif ddefnydd y tir yn parhau’n amaethyddol yn bennaf e.e. gweithgareddau neu ddigwyddiadau a gynhelir ar gyfer nifer penodol o ddyddiau yn unig yn ystod unrhyw flwyddyn benodol.
Adran 3 - Eithriadau rhag y ddyletswydd yn adran 2
37.Mae adran 3 yn darparu nad yw’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys i’r swyddogaethau a restrir ym mharagraffau (a) i (f).
38.Mae’r swyddogaethau a eithrir yn ymwneud yn bennaf â chynllun y taliad sylfaenol, gan gynnwys darpariaeth ganlyniadol a throsiannol sy’n ymwneud â chynllun y taliad sylfaenol a’r polisi amaethyddol cyffredin. Mae cynllun y taliad sylfaenol yn system cymorth incwm cynhwysol nad yw’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion RhTG.
Monitro ac adrodd
39.Mae’r darpariaethau monitro ac adrodd yn gosod gofynion ar Weinidogion Cymru i fonitro ac adrodd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r amcanion RhTG. Mae’r darpariaethau yn manylu ar y gofyniad i osod dangosyddion a thargedau, yn ogystal â llunio adroddiad. Mae’r darpariaethau adrodd a monitro yn gwneud darpariaeth ar gyfer craffu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r Senedd. Maent hefyd yn gweithredu i ddarparu sylfaen dystiolaeth barhaus ar gyfer cefnogi tueddiadau polisi’r dyfodol a’r arferion gorau i’w canfod.
Adran 4 - Dangosyddion a thargedau rheoli tir yn gynaliadwy
40.Mae adran 4 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi dangosyddion a thargedau er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion RhTG drwy arfer y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys iddynt.
41.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio datganiad sy’n nodi dangosyddion sydd i’w cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion RhTG drwy arfer y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys iddynt, a thargedau mewn perthynas â’r dangosyddion hynny.
42.Bydd dangosyddion yn darparu metrigau mewn modd y gellir mesur cyfraniad cam gweithredu tuag at yr amcanion RhTG. Bydd targedau yn nodi’r lefel o gynnydd a ddymunir yn erbyn y metrig y mae dangosydd penodol yn ei fanylu.
43.Er enghraifft, gellir mynd i’r afael â’r trydydd amcan (“cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu”) drwy sawl dangosydd. Gallai un ohonynt fod yn ostyngiad yn lefelau llygryddion mewn afonydd sy’n llifo is-law gweithgareddau amaethyddol ac ategol. Wedi hyn, byddai targed penodol yn cael ei osod yn erbyn y dangosydd hwnnw a byddai’r dangosydd a’r targed yn cael eu hadrodd arnynt yn yr adroddiad RhTG a lunnir o dan adran 6.
44.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i’r datganiad gynnwys, yn isafswm, o leiaf un dangosydd neilltuol ar gyfer pob amcan RhTG, ac o leiaf un targed neilltuol sy’n ymwneud ag o leiaf un dangosydd neilltuol ar gyfer pob amcan RhTG. Mae hyn er mwyn sicrhau y cyfrifir cynnydd yn gywir ac yn effeithiol.
45.Mae is-adrannau (3) i (5) yn darparu y caiff y datganiad hefyd nodi dangosyddion pellach (y caiff pob un fod ar gyfer un amcan RhTG neu ar gyfer mwy nag un), a thargedau pellach (y caiff pob un ymwneud ag un dangosydd, pa un a yw’n cael ei nodi o dan is-adran (2) neu is-adran (3), neu â mwy nag un).
46.Mae is-adran (6) yn darparu y caiff dangosydd neu darged ymwneud â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.
47.Mae is-adran (7) yn darparu y caniateir gosod targed drwy gyfeirio at unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
48.Mae is-adran (8) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r datganiad a’i osod gerbron Senedd Cymru yn ddim hwyrach na 31 Rhagfyr 2025.
49.Mae is-adran (9) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru adolygu a diwygio’r datganiad ar unrhyw adeg ac mae is-adran (10) yn darparu bod is-adrannau (2) i (8) yn gymwys mewn perthynas â datganiad diwygiedig fel y maent yn gymwys i’r datganiad gwreiddiol.
50.Mae is-adran (11) yn darparu pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r datganiad, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyhoeddi’r datganiad diwygiedig a’i osod gerbron Senedd Cymru.
Adran 5 - Camau i’w cymryd wrth lunio neu ddiwygio dangosyddion a thargedau
51.Mae adran 5 yn nodi’r camau y mae rhaid eu cymryd wrth lunio neu ddiwygio dangosyddion a thargedau.
52.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i adroddiadau, polisïau a materion eraill penodol wrth lunio neu ddiwygio dangosyddion a thargedau.
53.Mae hyn yn ceisio sicrhau bod y gwaith monitro ac adrodd ar RhTG yn rhoi ystyriaeth briodol i nodau, polisïau a gwaith adrodd ar gynaliadwyedd ehangach, i’r graddau y maent yn berthnasol.
54.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac unrhyw bersonau eraill y maent yn eu hystyried yn briodol wrth lunio neu ddiwygio dangosyddion a thargedau.
Adran 6 - Adroddiadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy
55.Mae adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiadau RhTG ac yn manylu ar gynnwys ac amseru’r adroddiadau hynny.
56.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio adroddiad mewn perthynas â phob cyfnod adrodd (fel y’i diffinnir gan is-adran (9)).
57.Mae is-adran (1)(a) yn darparu bod rhaid i’r adroddiad nodi asesiad Gweinidogion Cymru o’r cynnydd cronnus a wnaed, ers i adran 2 ddod i rym, tuag at gyflawni’r amcanion RhTG drwy arfer y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys iddynt.
58.Mae is-adran (1)(b) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad nodi asesiad Gweinidogion Cymru o’r cynnydd a wnaed, yn ystod y cyfnod adrodd, tuag at gyflawni’r amcanion hynny drwy arfer y swyddogaethau hynny.
59.Mae is-adran (2) yn datgan bod rhaid i’r adroddiad nodi, mewn perthynas â phob dangosydd yn y datganiad (neu’r datganiad diwygiedig) a gyhoeddir o dan adran 4, y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r dangosydd hwnnw yn ystod y cyfnod adrodd a sut y mae hynny wedi cyfrannu at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy.
60.Mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i’r adroddiad nodi, mewn perthynas â phob targed yn y datganiad (neu’r datganiad diwygiedig), pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd ai peidio.
61.Mae is-adrannau (4) i (6) yn pennu’r ddarpariaeth y mae rhaid i’r adroddiad ei gwneud yn ddibynnol ar a yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd (is-adran (4)), nad yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd (is-adran (5)), neu nad yw Gweinidogion Cymru hyd yma wedi gallu penderfynu pa un a yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd ai peidio (is-adran (6)).
62.Mae is-adran (7) yn nodi materion eraill y caiff adroddiadau RhTG eu hasesu ac adrodd arnynt. Gall y rhain gynnwys y blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd allweddol mewn perthynas â chyflawni’r amcanion RhTG, a’r effaith y mae’r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r amcanion hynny yn ei chael ar gyflawni nodau eraill e.e. nod Cymru sero net 2050.
63.Mae is-adran (8) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl pob cyfnod adrodd, gyhoeddi’r adroddiad sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd a’i osod gerbron y Senedd.
64.Mae is-adran (9) yn diffinio’r “cyfnod adrodd” ac mae is-adran (10) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru drwy reoliadau i ddiwygio is-adran (9). Mae’r pŵer hwn i wneud rheoliadau yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio, er enghraifft, hyd y cyfnod adrodd. Mae’r pŵer hwn i wneud rheoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol (adran 50(6) a (7)).
Adran 7 - Camau i’w cymryd wrth lunio adroddiadau
65.Mae adran 7 yn nodi’r adroddiadau, y polisïau a’r materion eraill y mae rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt wrth lunio adroddiadau RhTG. Mae’n ceisio sicrhau bod adrodd ar RhTG yn cael ei gwblhau yng nghyd-destun adrodd a chamau gweithredu cynaliadwyedd ehangach a wneir yng Nghymru a bod data priodol yn cael ei ystyried wrth adrodd am gynnydd tuag at yr amcanion RhTG. Mae hefyd yn ceisio annog dull cydlynus wrth adrodd am gamau gweithredu amgylcheddol a chamau gweithredu eraill ledled Cymru.
Rhan 2 - Cymorth Ar Gyfer Amaethyddiaeth Etc.
Pennod 1 - Pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth
66.Mae’r Bennod hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu cymorth ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, amaethyddiaeth yng Nghymru a gweithgareddau ategol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru. Mae’r pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth, gan gynnwys drwy gyfrwng cynllun neu gynlluniau cymorth (ac wrth sefydlu cynllun neu gynlluniau o’r fath bydd angen i Weinidogion Cymru gydymffurfio â’r ddyletswydd RhTG).
67.Mae’r pŵer i ddarparu cymorth, yn ymarferol, yn rhoi’r gallu i Weinidogion Cymru gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy sydd â’r bwriad i gefnogi ymrwymiadau amgylcheddol a hinsawdd Llywodraeth Cymru a chefnogi llesiant dinasyddion ymhellach wrth iddo ymwneud ag amaethyddiaeth yng Nghymru.
Adran 8 - Pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth
68.Mae adran 8 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu cymorth ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, amaethyddiaeth a gweithgareddau ategol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru. Caiff cymorth fod yn gymorth ariannol, neu fel arall, er enghraifft gallai Gweinidogion Cymru ddewis arfer y pŵer i wneud taliad am gamau gweithredu neu i ddarparu cymorth a chyngor cyfarwyddol.
69.Mae adran 8(2) yn nodi rhestr (nad yw’n gynhwysfawr) o ddibenion y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth yng Nghymru ar eu cyfer, neu mewn cysylltiad â hwy . Nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu cyfyngu gan y dibenion a restrir yn adran 8(2) a chaniateir iddynt ddarparu cymorth at ddibenion eraill, cyhyd â bod y dibenion eraill ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth a/neu weithgareddau ategol yng Nghymru. Mae’r dibenion a restrir yn adran 8(2) yn rhoi cyd-destun yn nhermau’r nodau polisi y rhagwelir cefnogaeth ar eu cyfer. Mae’r dibenion yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion RhTG y manylir arnynt yn adran 1.
70.Mae’r diben yn is-adran (2)(a) yn cyfeirio at annog cynhyrchu bwyd mewn modd sy’n amgylcheddol gynaliadwy. Er enghraifft, gellid darparu cymorth ar gyfer tyfu cnydau mewn modd sy’n lleihau neu’n dileu’r angen am wrtaith artiffisial.
71.Mae’r diben yn is-adran (2)(b) yn cyfeirio at helpu cymunedau gwledig i ffynnu, ac i gryfhau’r cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a’u cymunedau. Er enghraifft, gallai’r cymorth a roddir at y diben hwn fod yn anelu at hybu gwytnwch economaidd busnesau amaethyddol drwy ffermydd yn arallgyfeirio a chryfhau busnesau fferm er mwyn cefnogi a chyfrannu tuag at gymunedau (lleol) gwledig ffyniannus, fel cefnogi ac annog cynnydd mewn bioamrywiaeth neu wytnwch ecosystemau ar ffermydd, drwy brosiectau cydweithredol fel perllannau cymunedol, neu gynorthwyo busnesau fferm i arallgyfeirio i werthu i ddefnyddwyr yn uniongyrchol, drwy focsys cig a / neu focsys llysiau.
72.Mae’r diben yn is-adran (2)(c) yn cyfeirio at wella gwytnwch busnesau amaethyddol. Gallai’r cymorth a roddir at y diben hwn fod yn anelu at geisio denu newydd-ddyfodiaid i ffermio a chefnogi cynllunio ar gyfer olyniaeth.
73.Mae’r diben yn is-adran (2)(d) yn cyfeirio at gynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd. Gallai’r cymorth a roddir at y diben hwn fod yn anelu at hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar draws pob lefel gymhwysedd ac annog dysgwyr newydd ar draws y sector amaethyddol.
74.Mae’r diben a restrir yn is-adran (2)(e) yn cyfeirio at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Er enghraifft, gallai cymorth geisio annog ffermydd i leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr, gan gynnwys drwy wneud defnydd effeithlon o danwydd ac ynni, lleihau mewnbynnau allanol a chael da byw a chnydau cynhyrchiol.
75.Mae is-adran (2)(f) yn nodi’r diben o atafaelu a storio carbon i’r graddau gorau posibl. Gallai’r cymorth a roddir at y diben hwn fod yn anelu at greu stociau carbon newydd, a gwella rhai sy’n bodoli eisoes ar ffermydd, er enghraifft drwy gynyddu cyfanswm y carbon sydd mewn pridd, adfer mawndiroedd, plannu coed a/neu wrychoedd a rheoli coetir ffermydd.
76.Y diben y cyfeirir ato yn is-adran (2)(g) yw cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau. Gallai hyn olygu cefnogi ffermwr i fabwysiadu gwahanol dechnegau ffermio sy’n osgoi effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth, rhywogaethau a chynefinoedd, a sicrhau manteision iddynt.
77.Y diben a restrir yn is-adran (2)(h) yw cadw a gwella tirweddau a’r amgylchedd hanesyddol. Gallai cefnogaeth a ddarperir ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben hwn, er enghraifft, fod i gefnogi ffermwyr i gynnal adeiladau hanesyddol a all fod ganddynt ar eu tir.
78.Y diben a restrir yn is-adran (2)(i) yw gwella ansawdd yr aer. Bwriedir i’r cymorth a ddarperir ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben hwn, gael ei anelu at gamau gweithredu sy’n arwain at aer sydd â llygredd cyfyngedig (nwyon niweidiol a gronynnau a wneir gan bobl) gan gynnwys deunydd gronynnol mân (PM2.5), amonia (NH3) a chyfansoddion organig anweddol nad ydynt yn fethan (NMVOC).
79.Mae is-adran (2)(j) yn darparu ar gyfer y diben o wella ansawdd dŵr. Y nod polisi sydd wrth wraidd y diben hwn yw sicrhau bod amgylchedd y dŵr (gan gynnwys dŵr mewndirol) yn cael ei reoli’n gynaliadwy er mwyn cefnogi cymunedau iach, busnesau sy’n ffynnu a chynnydd mewn bioamrywiaeth.
80.Y diben a restrir yn is-adran (2)(k) yw cynnal a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad a’r amgylchedd hanesyddol ac ymgysylltiad y cyhoedd â hwy. Gallai’r camau gweithredu a gymerir mewn cysylltiad â’r diben hwn gynnwys cefnogi ffermwyr i wella llwybrau troed cyhoeddus i’w gwneud yn fwy hygyrch i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn.
81.Mae is-adran (2)(l) yn rhestru’r diben ynghylch lliniaru risgiau o lifogydd a sychder. Gellid darparu cefnogaeth ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben hwn, er enghraifft, i alluogi ffermydd i baratoi at gyfnodau o lawiad isel neu uchel, lleihau’r risgiau i’r fferm a chymunedau o lifogydd a sychder gan gynnwys drwy reoli llifogydd ar sail natur.
82.Y diben yn is-adran (2)(m) yw cyflawni a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid. Gallai’r gefnogaeth a ddarperir ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben hwn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr, neu eu hannog, i lunio cynllun iechyd anifeiliaid a’i weithredu a/neu gymryd camau gweithredu sy’n gwella lles anifeiliaid megis darparu cysgod neu ofod addas.
83.Mae is-adran (2)(n) yn darparu ar gyfer y diben o sicrhau effeithlonrwydd adnoddau i’r graddau gorau posibl. Gallai’r gefnogaeth a ddarperir ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben, er enghraifft, gynorthwyo ffermydd i ddilyn dull economi gylchol drwy gadw adnoddau a deunyddiau mewn defnydd cyhyd ag sy’n bosibl a lleihau gwastraff.
84.Y dibenion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(o) yw annog busnesau amaethyddol i reoli ynni yn effeithiol (gan gynnwys drwy fabwysiadu arferion effeithlonrwydd ynni ac arbed ynni, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir). Caniateir i gymorth at y diben hwn neu mewn cysylltiad ag ef gael ei ddarparu, er enghraifft, i annog busnesau amaethyddol i fabwysiadu cynlluniau rheoli ynni da a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle, gyda’r nod y bydd hynny’n cynorthwyo’r busnesau amaethyddol hynny (dros gyfnod o amser) i leihau eu costau ynni, drwy amryw o fesurau.
85.Mae adran 8(3) yn darparu y caniateir i gymorth a ddarperir o dan y pŵer i ddarparu cymorth gael ei ddarparu o dan gynllun, neu fel arall. Er enghraifft, drwy drosglwyddo gwybodaeth a gwasanaeth arloesi.
86.Mae is-adran (4) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygio’r rhestr o ddibenion drwy reoliadau (drwy ychwanegu diben newydd, dileu diben, neu newid disgrifiad o ddiben). Gallai hyn, er enghraifft, adlewyrchu newid i ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a’r amcanion RhTG. Fel arall, gellid ystyried nad yw un neu ragor o’r dibenion yn cael eu hystyried yn angenrheidiol mwyach ac felly bod angen eu disodli i adlewyrchu sefyllfa wedi’i diweddaru.
Adran 9 - Darpariaeth bellach ynghylch cymorth o dan adran 8
87.Mae adran 9 yn darparu y caniateir i gymorth a ddarperir o dan y pŵer o gymorth yn adran 8 ei roi yn ariannol neu fel arall. Yn ymarferol, mae’r modd y caiff cymorth ei roi yn debygol o ddibynnu ar unrhyw nifer o ffactorau, er enghraifft y canlyniad a fwriedir a math/nifer y derbynwyr. Mae is-adran (2) yn pennu y caniateir darparu cymorth ariannol drwy grantiau, benthyciadau neu warantau, ond caniateir darparu cymorth ar unrhyw ffurf arall.
88.Mae is-adran (3) yn darparu y gall fod angen bodloni meini prawf o ran cymhwysedd er mwyn i berson fod yn gymwys am gymorth. Penderfynir ar y meini prawf o ran cymhwysedd gan bob cynllun cymorth unigol a sefydlir yn unol ag adran 8.
89.Mae is-adran (4) yn darparu enghreifftiau o feini prawf o ran cymhwysedd pan fo cymorth yn cael ei ddarparu mewn cysylltiad â’r defnydd o dir. Gall gofynion, ymysg pethau eraill, ymwneud â nodweddion y tir, er enghraifft, nodweddion ecolegol y tir. Gall gofyniad hefyd ymwneud â’r person sy’n cael cymorth – er enghraifft, rhywun sy’n newydd i ffermio, neu rywun sydd am arallgyfeirio o arferion ffermio presennol ar y tir.
90.Mae is-adran (5) yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod amodau ar unrhyw gymorth a ddarperir: yn ymarferol, gallai enghreifftiau fod yn brawf o weithredu, amserlenni a hyd contractau.
91.Mae is-adran (6) yn datgan y caniateir i’r amodau hyn gynnwys darpariaeth i gymorth gael ei ad-dalu. Caniateir codi llog ar arian y mae’n ofynnol ei ad-dalu.
92.Mae is-adran (7) yn darparu y caniateir darparu cymorth o dan adran 8 i berson neu sefydliad sydd wedi sefydlu a/neu’n gweithredu “cynllun trydydd parti”. Rhaid i’r cymorth gael ei roi mewn cysylltiad â sefydlu neu weithredu’r “cynllun trydydd parti” hwnnw. Golyga hyn y caniateir darparu cymorth o dan adran 8 mewn cysylltiad â gwariant a ysgwyddwyd gan drydydd parti wrth sefydlu a gweithredu cynllun, ac ar gyfer cyllid a ddarperir drwy’r cynllun hwnnw. Byddai hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyllido, er enghraifft, partneriaethau lleol neu sefydliadau eraill i gyflawni prosiectau cydweithredol sy’n seiliedig ar y tirwedd sy’n gwella’r amgylchedd hanesyddol a’r tirwedd dynodedig ar draws nifer o ffermydd.
93.Mae is-adran (8) yn darparu diffiniad o “cynllun trydydd parti” at ddibenion is-adran (7): mae’n gynllun sy’n darparu cymorth ar gyfer neu mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth neu weithgareddau ategol, ac sy’n cael ei wneud gan drydydd parti (nid Gweinidogion Cymru).
94.Mae is-adrannau (9) a (10) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddirprwyo swyddogaethau mewn perthynas â rhoi cymorth gan gynnwys rhoi canllawiau neu arfer disgresiwn.
Adran 10 - Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi gwybodaeth am gymorth
95.Mae adran 10 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch cyhoeddi gwybodaeth benodedig (fel a bennir yn y rheoliadau) am gymorth sy’n cael ei ddarparu, neu sydd wedi ei ddarparu o dan adran 8. Caiff yr wybodaeth y caniateir ei phennu yn y rheoliadau gynnwys gwybodaeth am dderbynnydd unrhyw gymorth a ddarperir, swm unrhyw gymorth a ddarperir, a dibenion unrhyw gymorth a ddarperir.
96.Mae adran 10(2) yn caniatáu i’r rheoliadau osod gofynion. Felly, er enghraifft, gallai’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson - gan gynnwys Gweinidogion Cymru - ddarparu’r wybodaeth a bennir.
97.Yn nhermau polisi, bwriad cyhoeddi gwybodaeth am y ddarpariaeth o gymorth yw hyrwyddo tryloywder a chaniatáu i’r hyn sydd wedi ei gyflawni neu sy’n ofynnol o’r cymorth a roddir gael ei ddangos yn glir.
Adran 11 – Cynlluniau Cymorth Amlflwydd
98.Mae adran 11 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio ‘cynllun cymorth amlflwydd’ (CCA) ynghylch y defnydd y disgwylir ei wneud o’r pwerau o dan adran 8 yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.
99.Mae is-adran (2) yn rhoi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn yr CCA, gan gynnwys disgrifiad o gynlluniau cymorth gweithredol, neu gynlluniau cymorth y disgwylir iddynt ddod yn weithredol, yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.
100.Mae is-adran (3) yn darparu y bydd y cyfnod y mae’r CCA cyntaf yn ymwneud ag ef yn bum mlynedd, sy’n dechrau â 1 Ionawr 2025. Mae is-adran (4) yn nodi bod rhaid i CCAau dilynol ymwneud â chyfnodau nad ydynt yn fyrrach na phum mlynedd.
101.Mae is-adran (5) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod CCA yn ei le ar bob adeg.
102.Mae is-adran (6) yn darparu bod rhaid gosod y CCA gerbron y Senedd cyn dyddiad cychwyn cyfnod y cynllun: yn achos y CCA cyntaf, cyn gynted ag y bo’n ymarferol cyn cyfnod y cynllun, ac ar gyfer cynlluniau dilynol, o leiaf 12 mis cyn i gyfnod y cynllun ddechrau.
103.Mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddiwygio CCA os nad yw’r wybodaeth ynddo yn gywir mwyach cyn diwedd y cyfnod y mae’n ymwneud ag ef (er enghraifft, pan na fo cynllun cymorth yn weithredol mwyach neu pan na chaiff swyddogaethau o fewn cynllun eu cefnogi mwyach).
104.Mae is-adran (8) yn ei gwneud yn ofynnol i’r CCA diwygiedig i gael ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Senedd.
Adran 12 - Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch gwirio cymhwysedd ar gyfer cymorth, etc
105.Mae adran 12 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau, a chaniateir iddynt gael eu harfer er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch gwirio a yw’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth o dan adran 8 wedi eu bodloni a’r canlyniadau, pan nad ydynt wedi eu bodloni, ynghylch gorfodi cydymffurfedd ag amodau, ynghylch monitro i ba raddau y mae dibenion y cymorth wedi eu cyflawni, ac ynghylch ymchwilio i droseddau a amheuir. Bwriedir i’r pwerau hyn sicrhau bod cymorth amaethyddol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei weinyddu yn gywir a bod y rhai sy’n cael cymorth o dan y pŵer i ddarparu cymorth yn ddarostyngedig i graffu ac atebolrwydd priodol.
106.Mae is-adran (2) yn darparu rhestr nad yw’n gynhwysfawr o’r mathau o ddarpariaeth y caniateir eu cynnwys mewn unrhyw reoliadau a wneir o dan is-adran (1). Er yr ystyrir mai dyma rai o’r prif faterion y gallai fod angen i’r rheoliadau fynd i’r afael â hwy, caniateir i reoliadau gael eu gwneud ar gyfer unrhyw un o’r dibenion a nodir yn is-adran (1) ac ni chyfyngir ar gynnwys unrhyw reoliadau a wneir yn y dyfodol i’r meysydd hynny a restrir yn is-adran (2).
107.Mae is-adran (2)(f) yn caniatáu i reoliadau o dan adran 11 wneud darpariaeth ynghylch adennill cymorth ariannol (er enghraifft, gallai’r rheoliadau ganiatáu i’r cymorth gael ei adennill, gyda llog, pan fo person wedi torri amod).
108.Mae is-adran (2)(h) yn caniatáu i reoliadau o dan adran 11 wneud darpariaeth ynghylch y camau i’w cymryd gan berson y darperir neu y darparwyd cymorth iddo, er mwyn unioni amodau a dorrwyd.
109.Mae is-adran (2)(i) a (j) yn caniatáu i reoliadau o dan adran 11 wneud darpariaeth ynghylch cosbau ariannol, gan gynnwys sicrwydd ar gyfer taliad.
110.Mae is-adran (2)(k) yn caniatáu i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwahardd person rhag cael cymorth am gyfnod a bennir, neu hyd nes i amodau a bennir gael eu bodloni. Er enghraifft, gallai’r rheoliadau ganiatáu i’r taliad cymorth gael ei atal dros dro hyd nes bod person wedi unioni toriad.
111.Mae is-adran (2)(l) yn caniatáu i’r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer apelau.
112.Mae is-adran (2)(m) yn caniatáu i’r rheoliadau roi swyddogaethau i berson: gallai hyn er enghraifft gael ei ddefnyddio i wneud darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau i weinyddwr cynllun.
113.Gall hyn gynnwys ei gwneud yn ofynnol i gymryd camau penodol, er mwyn unioni toriad o’r fath. Caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth i adennill arian a dalwyd (â llog neu heb log), gwahardd rhywun o gynllun (am gyfnod a bennir neu hyd nes i amodau penodol gael eu bodloni) a gosod cosbau ariannol. Mae hefyd y pŵer i wneud rheoliadau sy’n rhoi swyddogaethau i eraill ac i ddarparu gweithdrefn i apelio yn erbyn penderfyniadau.
114.Mae is-adran (3) yn darparu na chaiff rheoliadau a wneir o dan adran 11 awdurdodi mynediad i annedd breifat (er enghraifft, i wirio cydymffurfedd) oni bai bod gwarant wedi ei roi gan weithdrefn farnwrol. (Mae adran 51 yn diffinio “annedd breifat”.)
115.Mae is-adran (4) yn darparu, os yw’r rheoliadau yn gwneud darpariaethau ar gyfer cosbau, y caniateir iddynt roi llog ar gosbau sydd i’w talu. Caniateir i’r llog fod yn daladwy o ddiwrnod a ddarperir yn y rheoliadau eu hunain, neu ar ddiwrnod a bennir (er enghraifft gan weinyddwr cynllun) o dan y rheoliadau.
Adran 13 - Adroddiad blynyddol ynghylch cymorth a ddarparwyd o dan adran 8
116.Mae adran 13 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio adroddiad blynyddol, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, ynghylch y cymorth ariannol a chymorth arall a ddarparwyd yn ystod y cyfnod. Mae is-adran (5) yn darparu mai’r cyfnod adrodd cyntaf yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym ac sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2025; bydd cyfnodau adrodd dilynol yn cyd-fynd â blynyddoedd ariannol (1 Ebrill hyd at 31 Mawrth).
117.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth benodol gael ei chynnwys yn yr adroddiad. Dyma gyfanswm unrhyw gymorth ariannol a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd, manylion yr holl gymorth ariannol a chymorth arall a ddarparwyd o dan bob cynllun cymorth a sefydlir o dan adran 8, a disgrifiad o unrhyw gymorth ac eithrio cymorth ariannol a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd, ond nid o dan gynllun.
118.Gall Gweinidogion Cymru, fel y nodir yn is-adran (3), gynnwys unrhyw wybodaeth arall yn yr adroddiad y maent yn ystyried ei bod yn briodol. Bydd yr hyn a ystyrir yn briodol yn ddibynnol ar amgylchiadau penodol, ond enghraifft bosibl fyddai gwybodaeth am unrhyw gymorth ariannol sy’n cael ei adennill a’r rhesymau am y cam gweithredu hwn.
119.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol a’i osod gerbron Senedd Cymru yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd.
Adran 14 - Adroddiad Effaith
120.Mae adran 14 yn nodi dyletswydd Gweinidogion Cymru i lunio (ar gyfer pob cyfnod adrodd) Adroddiad Effaith yn ymwneud â chymorth a ddarparwyd o dan adran 8. Y bwriad yw sicrhau bod effaith ac effeithiolrwydd yr holl gefnogaeth a ddarparwyd yn ystod y cyfnod hwnnw yn unol ag adran 8 yn cael eu gwerthuso bob pum mlynedd, gan gynnwys asesiad ar sut, ac i ba raddau y gwnaeth y cymorth gyflawni’r dibenion, ac i ba raddau y gwnaeth gyfrannu at gyflawni’r amcanion RhTG.
121.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Adroddiad Effaith nodi’r holl ddibenion y darparwyd cymorth ar eu cyfer o dan adran 8, yn ystod y cyfnod adrodd.
122.Mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i’r Adroddiad Effaith gynnwys asesiad o effaith ac effeithiolrwydd y cymorth a roddwyd yn ystod y cyfnod adrodd, gan gynnwys asesiad o’r canlynol: (a) ym mha fodd, ac i ba raddau, y gwnaeth y cymorth gyflawni’r dibenion a fwriadwyd; a (b) ym mha fodd, ac i ba raddau, y gwnaeth darparu’r cymorth gyfrannu at gyflawni’r amcanion RhTG. Nod nodi’r dibenion yn y modd sy’n ofynnol o dan is-adran (2) yw amlygu’r cysylltiad rhwng cymorth a ddarperir a’r canlyniad a fwriadwyd gan gymorth o’r fath a’i nod yw sicrhau bod modd mesur effaith ac effeithiolrwydd y cymorth a ddarperir yn glir yn erbyn y dibenion.
123.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru asesu ac adrodd ar unrhyw faterion eraill y maent yn ystyried eu bod yn berthnasol ar gyfer asesu effaith ac effeithiolrwydd cymorth a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys gwybodaeth ynghylch a yw unrhyw gamau gweithredu a gymerir o dan gynllun cymorth yn addas o hyd; a ydynt wedi eu cyflawni; ar y gweill o hyd; neu heb eu gweithredu, ynghyd ag unrhyw gamau unioni er mwyn gwella’r mater. Gallai’r wybodaeth hon hyd yn oed ddangos pa un a yw’r gwaith o weinyddu unrhyw gynllun yn addas i’r diben ai peidio.
124.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Asesiad Effaith a’i osod gerbron Senedd Cymru yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd.
125.Mae is-adran (6) yn diffinio’r “cyfnod adrodd” yn achos yr Adroddiad Effaith cyntaf, y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym hyd at 31 Rhagfyr 2029. Ar gyfer Adroddiadau Effaith dilynol, y ‘cyfnod adrodd’ fydd cyfnodau olynol o bum mlynedd.
126.Mae is-adran (7) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddiwygio’r cyfnod adrodd. Caiff hyn ei roi ar waith, er enghraifft, er mwyn i’r cyfnod adrodd gyd-fynd â hyd contractau’r cynlluniau o dan adran 8.
Adran 15 - Camau i’w cymryd wrth lunio adroddiad o dan adran 13
127.Mae adran 15 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i faterion penodol wrth lunio Adroddiad Effaith. Mae’r rhain yn cynnwys y dibenion a restrir yn adran 8(2), pob adroddiad blynyddol a gyhoeddir mewn perthynas â’r cyfnod y mae’r Adroddiad Effaith yn ymwneud ag ef, a’r Adroddiad Effaith diweddaraf. Mae’n ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw faterion eraill y maent yn eu bod yn briodol, gan adlewyrchu’r angen am hyblygrwydd i deilwra pob Adroddiad Effaith i unrhyw amgylchiadau penodol a allai fod yn berthnasol.
128.Y bwriad wrth wraidd hyn yw hyrwyddo a chwblhau gwerthusiad cadarn o effaith y cymorth a ddarparwyd o dan y pŵer i ddarparu cymorth.
Pennod 2 - Pwerau i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ariannol a chymorth arall
129.Mae Pennod 2 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth bresennol, sy’n disodli rhai pwerau sydd â therfyn amser iddynt yn Neddf 2020.
Adran 16 - Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol
130.Mae adran 16 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru. Bwriad y pŵer hwn yw caniatáu i Weinidogion Cymru wneud newidiadau i ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol, er enghraifft mewn cysylltiad â symud o daliadau a wneir o dan gynllun y taliad sylfaenol a dod â chynllun y taliad sylfaenol i ben. Rhestrir y ddeddfwriaeth y mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i’w haddasu o dan yr adran hon yn is-adran (2).
Adran 17 - Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin
131.Mae adran 17 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.
132.Bwriad y pŵer hwn yw galluogi Gweinidogion Cymru i wneud addasiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin er mwyn sicrhau proses bontio a reolir. Y bwriad yw y bydd y pŵer hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu ar gyfer parhau â gweithredu cymorth ffermio presennol am gyfnod penodol, wrth gyflwyno unrhyw gynllun newydd o dan adran 8. Bwriad hyn yw sicrhau bod y sector amaethyddol yn gweithredu’n effeithiol. Rhestrir y ddeddfwriaeth y mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i’w haddasu o dan yr adran hon yn is-adran (2).
Adran 18 - Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth
133.Mae Rhaglen Wenynyddiaeth yr UE yn cefnogi gwenyna drwy’r rhaglenni gwenynyddiaeth cenedlaethol, sydd â’r nod o wella amodau cyffredinol ar gyfer cynhyrchu a marchnata mêl a chynhyrchion gwenynyddiaeth eraill. Mae’n cynnwys cymorth technegol i wenynwyr, brwydro yn erbyn clefydau a phlâu, trawstrefa, cymorth y labordy a’r farchnad ar gyfer cynhyrchion gwenynyddiaeth, ailstocio, rhaglenni ymchwil gynhwysol, monitro’r farchnad a gwella ansawdd cynhyrchion.
134.Mae adran 18 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â gwenynyddiaeth i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru. Rhestrir y ddeddfwriaeth y mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i’w haddasu o dan yr adran hon yn is-adran (2).
Adran 19 - Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig
135.Mae adran 19 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â datblygu gwledig i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru. Rhestrir y ddeddfwriaeth y mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i’w haddasu o dan yr adran hon yn is-adran (2).
Adran 20 - Pwerau eraill i addasu deddfwriaeth nad yw’r pwerau yn y.Bennod hon yn effeithio arni
136.Mae’r adran hon yn pennu nas effeithir ar unrhyw bŵer arall o dan ddeddfiad i addasu darpariaethau deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol, neu’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin, gwenynyddiaeth neu ddatblygu gwledig gan y pwerau a roddir yn y Bennod hon.
Pennod 3 - Ymyrraeth mewn marchnadoedd amaethyddol
Adran 21 - Datganiad yn ymwneud ag amodau eithriadol yn y farchnad
137.Mae adran 21 yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru wneud datganiad “amodau eithriadol yn y farchnad”, er mwyn gallu rhoi cymorth ariannol fel a ddisgrifir yn adran 21.
138.Mae is-adran (2) yn nodi prawf dwy-ran i benderfynu a oes amodau eithriadol yn y farchnad yn bodoli ai peidio. Mae is-adran (3) yn nodi beth sy’n rhaid ei gynnwys mewn datganiad amodau eithriadol yn y farchnad.
139.Mae is-adran (5) yn datgan bod datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith hyd nes dyddiad a bennir yn y datganiad o dan is-adran (3): effaith is-adran (4) yw bod rhaid i’r dyddiad hwn fod o fewn y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y datganiad.
140.Mae is-adran (6) yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddirymu datganiad a wnaed o dan is-adran (1) drwy wneud a chyhoeddi datganiad pellach i’r perwyl hwnnw.
141.Mae is-adrannau (7) ac (8) yn caniatáu i Weinidogion Cymru estyn datganiad amodau eithriadol yn y farchnad am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis, os yw’r amodau eithriadol yn y farchnad yn parhau yn ystod cyfnod o saith niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod a bennwyd yn wreiddiol yn y datganiad o dan is-adran (3).
142.Mae is-adran (9) yn datgan nad yw’r ffaith bod datganiad a wnaed o dan is-adran (1) mewn perthynas ag amodau eithriadol yn y farchnad wedi dod i ben, neu wedi ei ddirymu yn atal Gweinidogion Cymru rhag gwneud a chyhoeddi datganiad amodau eithriadol yn y farchnad arall yn ymwneud â’r un amodau eithriadol yn y farchnad.
143.Mae is-adran (10) yn datgan bod rhaid gosod copi o unrhyw ddatganiad a wneir ac a gyhoeddir o dan yr adran gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Mae is-adran 11 yn nodi bod cyhoeddi datganiad i’w wneud yn electronig.
Adran 22 - Amodau eithriadol yn y farchnad: y pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru
144.Mae’r adran hon yn pennu’r pwerau sydd ar gael wrth i ddatganiad amodau eithriadol yn y farchnad gael effaith.
145.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu gytuno i ddarparu, cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru y mae’r amodau eithriadol yn y farchnad a ddisgrifir yn y datganiad wedi cael, yn cael, neu’n debygol o gael, effaith andwyol ar eu hincwm.
146.Effaith is-adran (3) yw nad yw bodolaeth y pŵer o dan adran 22 yn atal Gweinidogion Cymru rhag defnyddio unrhyw bwerau eraill sydd ar gael i ddarparu cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) pwerau o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir. (Yr effaith yw nad yw’r pŵer sydd ar gael o dan adran 22 yn cyfyngu ar unrhyw bwerau a allai hefyd fod ar gael i Weinidogion Cymru, er enghraifft, o dan adran 8.)
147.Mae is-adran (4) yn caniatáu darparu cymorth ariannol ar unrhyw ffurf ac mae is-adran (5) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i’w ddarparu yn ddarostyngedig i amodau.
148.Mae is-adran (6) yn datgan y caniateir i’r amodau hynny gynnwys darpariaeth i gymorth ariannol o dan adran 22 gael ei ad-dalu. Mae is-adran (7) yn egluro y caiff Gweinidogion Cymru barhau i ddarparu cymorth ariannol ar ôl diwedd y cyfnod y mae’r datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith, ar yr amod bod cais wedi ei wneud amdano yn ystod y cyfnod hwnnw.
Adran 23 – Pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat
149.Mae adran 23 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat, i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.
150.Mae is-adran (2) yn pennu bod y pŵer o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i newid y cynhyrchion sy’n gymwys am ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat. Gallai hyn fod o ganlyniad i’r ffaith bod amodau yn y farchnad ar gyfer cynnyrch penodol wedi newid, sy’n golygu nad oes galw am storio’r cynnyrch hwnnw mwyach.
151.Mae’r ddeddfwriaeth y mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i’w haddasu o dan yr adran hon wedi ei rhestru yn is-adran (3).
152.Mae is-adran (4) yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â’r Rheoliad CMO (a ddiffinnir yn adran 54). Mae’r Rheoliad CMO yn ymwneud â marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol.
153.Mae Rhan 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2020 yn datgymhwyso darpariaethau penodol yn y Rheoliad CMO, o ran Cymru, cyhyd ag y bo’r ddarpariaeth bresennol â therfyn amser iddi ynghylch amodau eithriadol yn y farchnad yn Atodlen 5 i Ddeddf 2020 yn para. Gan fod y Ddeddf yn cymryd lle’r ddarpariaeth â therfyn amser iddi yn Atodlen 5, mae Atodlen 3 i’r Ddeddf yn diwygio’r Rheoliad CMO o ganlyniad i hynny (gan na fydd y diwygiad a wnaed iddo gan Atodlen 7 i Ddeddf 2020 yn briodol mwyach). Ond, gan nad yw’r diwygiad a wnaed i’r Rheoliad CMO gan Atodlen 7 i Ddeddf 2020 eto mewn grym, mae Atodlen 3 yn darparu (yn Rhan 1) ddiwygiadau canlyniadol amgen i’r Rheoliad CMO.
154.Yn adran 23, mae is-adran (4) yn nodi hyd nes y bydd y naill neu’r llall o’r diwygiadau canlyniadol yn Rhan 1 o Atodlen 3 mewn grym, bod cyfeiriadau yn adran 23 at amodau eithriadol yn y farchnad yn cynnwys cyfeiriadau at amgylchiadau sy’n destun mesurau o dan unrhyw un neu ragor o Erthyglau 219, 220, 221 a 222 o’r Rheoliad CMO. Darpariaeth ddarfodol yw hon, ac ni chaiff effaith mwyach pan fydd naill ai paragraff 1 neu baragraff 2 o Atodlen 3 wedi ei gychwyn. Yr effaith yw caniatáu hyblygrwydd o ran cychwyn adran 23 a Rhan 1 o Atodlen 3.
Pennod 4 – Tenantiaethau amaethyddol
Adran 24 – Daliadau Amaethyddol: datrys anghydfod sy’n ymwneud â chymorth ariannol
155.Mae Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (yn adran 19A) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n darparu i denant daliad amaethyddol allu cyfeirio anghydfod â landlord y tenant i’w gymrodeddu, pan fo’r anghydfod yn ymwneud â chais o fath penodol a wneir gan y tenant, a bo’r landlord wedi gwrthod y cais. Mae’r adran yn disgrifio’r mathau o gais dan sylw, gan gynnwys cais a wneir at ddiben galluogi’r tenant i wneud cais am gymorth ariannol perthnasol (“relevant financial assistance”).
156.Mae adran 24 yn diwygio’r diffiniad o gymorth ariannol perthnasol (“relevant financial assistance”) yn adran 19A o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 i gynnwys cymorth ariannol o dan adran 8, cymorth ariannol o dan gynllun trydydd parti fel y’i diffinnir yn adran 9(6), cymorth ariannol o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol, cymorth ariannol o dan ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin, cymorth ariannol o dan ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth, cymorth ariannol o dan ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig, a chymorth ariannol o dan adran 22. Mae hefyd yn gwneud rhai diwygiadau canlyniadol.
157.Mae adran 24 hefyd yn mewnosod adrannau newydd 8A a 36A yn Neddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995. Mae adran 8A yn darparu y caiff tenant tenantiaeth busnes fferm atgyfeirio anghydfod i’w gymrodeddu pan fo’r landlord wedi gwrthod cais i amrywio’r denantiaeth, neu gais am ganiatâd, a wnaed at ddibenion penodedig. Y dibenion hyn yw: diben gofyn am fathau penodedig o gymorth (gan gynnwys cymorth a ddarperir o dan adran 8) neu wneud cais amdanynt; a diben cydymffurfio â dyletswydd statudol. Mae adran 8A hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â chymrodeddu o’r fath. Mae adran 24 hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i adran 28(5) o Ddeddf 1995, ac yn mewnosod adran newydd 36A yn nodi’r weithdrefn sy’n gymwys i reoliadau o dan adran newydd 8A.
158.Bwriad y diwygiadau hyn yw mynd i’r afael â’r posibilrwydd y gallai fod angen cael cydsyniad landlord, neu amrywiad ar y denantiaeth ei hun, ar gyfer tenant daliad amaethyddol er mwyn manteisio ar gymorth ariannol o dan y ddeddfwriaeth y cyfeirir ati o dan adran 19A o Ddeddf 1986, fel y’i diwygir gan adran 24; neu i’r tenant o dan denantiaeth busnes fferm gael gafael ar gymorth o dan ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yn adran newydd 8A o Ddeddf 1995, neu at ddibenion cydymffurfio â dyletswydd statudol.
159.Bydd y darpariaethau yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy Offeryn Statudol.
Rhan 3 – Materion Sy’N Ymwneud Ag Amaethyddiaeth a Chynhyrchion Amaethyddol
Pennod 1 – Casglu a rhannu data
160.Mae’r Bennod hon yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu.
Adran 25 – Cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth: gofyniad i ddarparu gwybodaeth
161.Mae adran 25 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i bersonau penodol ddarparu gwybodaeth am faterion penodol. Y personau hynny yw personau sydd mewn “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth”, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath, ac mae’r wybodaeth dan sylw yn ymwneud â materion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r person y mae cysylltiad rhyngddynt â’r gadwyn gyflenwi, i’r graddau y mae’r gweithgareddau hynny yn cael eu cynnal yng Nghymru. Diffinnir “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth” yn adran 26.
162.Mae is-adran (2) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau o’r fath ddarparu gwybodaeth o’r fath.
163.Mae is-adran (4) yn darparu na chaniateir gosod gofyniad o dan is-adran (1) neu is-adran (2) ar unigolyn mewn cadwyn gyflenwi os yw’r unigolyn hwnnw yn y gadwyn gyflenwi gan mae ef, neu aelod o’i aelwyd, yw defnyddiwr olaf cynnyrch terfynol y gadwyn gyflenwi. Y bwriad yw sicrhau na fydd defnyddwyr cyffredin yn ddarostyngedig i ofynion o’r fath a ddisgrifir.
164.Mae is-adran (5) yn eithrio o’r gofynion unrhyw wybodaeth sy’n ddarostyngedig i fraint gyfreithiol.
165.Mae is-adran (6) yn darparu bod rhaid i unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (1) fod yn ysgrifenedig.
Adran 26 – Ystyr “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth”
166.Mae is-adran (2) yn diffinio “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth”.
167.Mae is-adran (3) yn diffinio personau “mewn” cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Mae is-adran (4) yn diffinio personau sydd â “cysylltiad agos” â chadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, gan gynnwys personau sy’n cyflenwi hadau, stoc, cyfarpar, bwyd anifeiliaid, gwrtaith, plaladdwyr, meddyginiaethau neu eitemau tebyg, yn ogystal â phersonau sy’n darparu gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid, iechyd planhigion a diogelwch bwyd.
Adran 27 – Gweithgaredd perthnasol: gofyniad i ddarparu gwybodaeth
168.Mae adran 27 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i berson sy’n cynnal “
169.Mae is-adran (2) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau o’r fath ddarparu gwybodaeth o’r fath.
170.Mae is-adran (4) yn darparu na chaniateir gosod gofyniad o dan is-adran (1) nac is-adran (2) ar berson mewn perthynas â gweithgaredd perthnasol i’r graddau y cynhelir y gweithgaredd ac eithrio i wneud elw neu i gael budd.
171.Mae is-adran (5) yn eithrio o’r gofynion unrhyw wybodaeth sy’n ddarostyngedig i fraint gyfreithiol.
172.Mae is-adran (6) yn darparu bod rhaid i unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (1) fod yn ysgrifenedig.
Adran 28 – Ystyr “gweithgaredd perthnasol”
173.Mae adran 28 yn diffinio “gweithgaredd perthnasol”: yr effaith yw bod gweithgaredd a restrir yn adran 51(1) (sy’n diffinio “amaethyddiaeth”) yn “gweithgaredd perthnasol”, a bod “gweithgaredd ategol” hefyd yn “gweithgaredd perthnasol”. Diffinnir “gweithgaredd ategol” yn adran 52.
174.Canlyniad y diffiniadau hyn, ynghyd ag adran 27, yw ei bod yn bosibl gosod gofyniad i ddarparu gwybodaeth o dan adran 27 mewn cysylltiad ag, er enghraifft, weithgaredd sy’n ymwneud â garddwriaeth addurniadol, neu weithgaredd sy’n ymwneud â thyfu cnydau ar gyfer ynni.
Adran 29 – Gofyniad i bennu dibenion y caniateir prosesu gwybodaeth ar eu cyfer
175.Mae is-adran (1) yn gosod rhwymedigaeth ar ofyniad a osodir o dan adran 25 neu 27 i bennu’r dibenion y caniateir prosesu’r wybodaeth ar eu cyfer. Rhaid i’r dibenion fod ar y rhestr o ddibenion yn is-adran (4) neu fod wedi eu cwmpasu gan y rhestr honno.
176.Bwriad y dibenion yn is-adran (4), ymysg pethau eraill, yw caniatáu prosesu gwybodaeth mewn ffyrdd sy’n helpu ffermwyr a chynhyrchwyr eraill i gynyddu cynhyrchiant, lleihau gwastraff a gwella gwytnwch i amrywiaeth o risgiau.
177.Y bwriad hefyd yw caniatáu prosesu gwybodaeth mewn ffyrdd sy’n cefnogi iechyd anifeiliaid a phlanhigion drwy gasglu a rhannu data ar enedigaethau, marwolaethau a symudiadau anifeiliaid, arwyddion o glefyd a’r defnydd o feddyginiaeth filfeddygol, yn ogystal â mewnfudo planhigion, a phlâu a chlefydau planhigion.
Adran 30 – Dyletswydd i gyhoeddi gofyniad o dan adran 25(1) neu 27(1) ar ffurf drafft
178.Mae is-adran (1)(a)(i) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi drafft o ofyniad o dan adran 25(1) neu adran 27(1) cyn ei osod. Mae is-adran (1)(a)(ii) a (iii) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hefyd gyhoeddi disgrifiad o’r personau y bwriedir gosod y gofyniad arnynt, a’r terfyn amser ar gyfer sylwadau. Effaith is-adran (1)(b) yw y caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a ddaeth i law, benderfynu gosod y gofyniad naill ai ar y ffurf a gyhoeddwyd neu ar ffurf ddiwygiedig.
179.Mae is-adran (2) yn nodi, ar ôl penderfynu ar delerau terfynol y gofyniad, y caiff Gweinidogion Cymru osod y gofyniad ar unrhyw adeg ar berson o fewn y disgrifiad a gyhoeddir o dan is-adran (1)(a)(ii).
Adran 31 – Darparu’r wybodaeth ofynnol a chyfyngiadau ar ei phrosesu
180.Mae adran 31 yn pennu na chaniateir prosesu gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i ofyniad ac eithrio at y dibenion a bennir yn y gofyniad.
181.Mae is-adran (3) yn darparu bod y cyfyngiad hwn ar brosesu yn gymwys i dderbynnydd yr wybodaeth, ac i unrhyw berson y datgelir yr wybodaeth iddo wedyn. (Ond, mewn achos person y datgelir yr wybodaeth iddo wedyn, ni chaniateir prosesu’r wybodaeth mewn ffyrdd sy’n groes i delerau’r datgeliad, hyd yn oed pan fo telerau’r gofyniad gwreiddiol yn caniatáu’r math hwn o brosesu.)
182.Mae is-adran (5) yn nodi materion y caniateir delio â nhw yn y gofyniad i ddarparu gwybodaeth.
183.Mae is-adran (6) yn gosod rhwymedigaeth ar y gofyniad i bennu’r mathau o brosesu y caniateir eu defnyddio wrth drin yr wybodaeth a roddir ac ar ba ffurfiau y caniateir i’r wybodaeth gael ei datgelu.
184.Mae is-adran (7) yn nodi na chaniateir i’r wybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r gofyniad fod yn ddarostyngedig i fathau o brosesu heblaw am y rheini a bennir yn y gofyniad (oni bai bod y gofyniad yn pennu amgylchiadau y caniateir i ffurfiau eraill o brosesu neu ddatgelu ddigwydd odanynt).
185.Mae is-adran (8) yn pennu, pan fwriedir datgelu gwybodaeth a ddarperir o dan ofyniad ar ffurf a bennir yn y gofyniad, neu a ganiateir ganddo, mae’r gofyniad yn is-adran (9) yn gymwys.
186.Mae is-adran (9)(a) yn darparu pan fwriedir datgelu’r wybodaeth ar ffurf nad yw’n ffurf ddienw, rhaid i’r person sy’n bwriadu datgelu’r wybodaeth ystyried a fyddai datgelu’r wybodaeth ar y ffurf honno yn rhagfarnu, neu yn gallu rhagfarnu, buddion masnachol unrhyw berson.
187.Mae is-adran (9)(b) yn darparu, os yw’r person sy’n bwriadu datgelu’r wybodaeth yn ystyried y byddai datgelu’r wybodaeth ar y ffurf honno (h.y. ar ffurf nad yw’n ffurf ddienw) yn rhagfarnu, neu yn gallu rhagfarnu, buddion masnachol unrhyw berson, rhaid i’r wybodaeth gael ei datgelu yn hytrach ar ffurf ddienw.
188.Effaith is-adran (10) yw bod eithriad i’r gofyniad a osodir gan is-adran (9)(b): os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod er budd y cyhoedd i’r wybodaeth gael ei datgelu ar ffurf nad yw’n ffurf ddienw, caniateir i’r wybodaeth gael ei datgelu ar ffurf nad yw’n ddienw, cyn belled â bod y datgeliad ar ffurf a ganiateir gan y gofyniad y darparwyd yr wybodaeth odano.
189.Mae is-adran (11) yn diffinio ystyr “prosesu”, mewn perthynas â gwybodaeth.
Adran 32 – Gorfodi gofynion gwybodaeth
190.Mae adran 32 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n darparu ar gyfer gorfodi gofyniad a osodir o dan adran 25 neu 27. Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch (ymysg pethau eraill) gosbau am beidio â chydymffurfio, ac apelau a rhoi swyddogaethau i berson.
191.Gallai’r rheoliadau er enghraifft bennu’r sancsiynau a gaiff eu cymhwyso os bydd rhywun yn methu â darparu gwybodaeth neu’n darparu gwybodaeth anwir.
192.Effaith is-adran (4) yw y gellir pennu’r cosbau y darperir ar eu cyfer yn y rheoliadau drwy gyfeirio at incwm, trosiant neu elw person. Yr amcan sy’n sail i hyn yw caniatáu gosod dirwyon ar lefelau priodol ar gyfer personau gwahanol.
Adran 33 - Adolygu gweithrediad ac effaith adrannau 25 i 32
193.Mae adran 33 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio adroddiad bob pum mlynedd ar weithrediad ac effaith adrannau 25 i 32 yn ystod y cyfnod pum mlynedd hwnnw.
Pennod 2 – Safonau Marchnata: Cynhyrchion amaethyddol
194.Mae adran 34 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â safonau y mae rhaid i gynhyrchion amaethyddol penodol gydymffurfio â hwy pan gânt eu marchnata yng Nghymru. Mae’r pwerau yn disodli pwerau â therfyn amser iddynt a roddwyd gan baragraff 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 2020.
Adran 34 – Safonau marchnata
195.Mae is-adran (1) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch safonau y mae rhaid i gynhyrchion amaethyddol penodol gydymffurfio â hwy pan gânt eu marchnata yng Nghymru. Y cynhyrchion hynny yw’r cynhyrchion a restrir yn Atodlen 1.
196.Mae is-adran (2) yn darparu rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o faterion y caiff y rheoliadau wneud darpariaeth yn eu cylch; er enghraifft, meini prawf megis edrychiad, math o ffermio neu ddull cynhyrchu, a storio a chludiant.
197.Mae is-adran (3) yn nodi na chaiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y man ffermio neu’r tarddle mewn perthynas â dofednod byw, cig dofednod na brasterau taenadwy.
198.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gorfodi ac yn nodi rhai o’r materion y caniateir eu cynnwys, gan gynnwys pwerau mynediad, creu troseddau diannod a gosod cosbau ariannol.
199.Mae is-adran (5) yn nodi na chaiff rheoliadau a wneir o dan adran 34 awdurdodi mynediad i annedd breifat heb warant a ddyroddir gan ynad heddwch. Diffinnir “annedd breifat” yn adran 54.
200.Mae is-adran (6) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio’r rhestr o gynhyrchion amaethyddol yn Atodlen 1 (pa un ai drwy ychwanegu cynnyrch at y rhestr, dileu cynnyrch, neu newid y disgrifiad o gynnyrch).
Pennod 3.Dosbarthiad carcasau penodol etc.
201.Mae adran 35 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â dosbarthiad, dull adnabod a chyflwyno carcasau penodol gan ladd-dai yng Nghymru. Mae’r pwerau yn disodli pwerau â therfyn amser iddynt a roddir gan baragraff 18 o Atodlen 5 i Ddeddf 2020.
Adran 35 – Dosbarthiad carcasau
202.Mae is-adran (1) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch dosbarthiad, dull adnabod a chyflwyniad carcasau buchol, moch a defaid gan ladd-dai yng Nghymru.
203.Mae is-adran (2) yn nodi y caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran 1 gynnwys darpariaeth am orfodi, ac y caiff hyn gynnwys, er enghraifft, ddarpariaeth sy’n rhoi pwerau mynediad, sy’n creu troseddau diannod ac sy’n gosod cosbau ariannol.
204.Mae is-adran (3) yn nodi na chaiff rheoliadau a wneir o dan adran 35 awdurdodi mynediad i annedd breifat heb warant a ddyroddir gan ynad heddwch. Diffinnir “annedd breifat” yn adran 54.
205.Mae is-adran (4) yn diffinio “moch” at ddibenion yr adran hon o’r Rheoliadau mewn ffordd sy’n cynnwys baeddod gwyllt a moch fferal eraill.
Rhan 4 – Coedwigaeth
Adran 36 – Trosolwg o’r Rhan
206.Mae’r adran hon yn egluro’r ffordd y mae’r rhan hon o’r Ddeddf yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) o ran Cymru.
Adran 37 – Amodau trwyddedau cwympo coed
207.Mae adran 37 yn diwygio adran 10 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 i alluogi Corff Adnoddau Naturiol Cymru (“
208.Ar hyn o bryd, mae adran 10 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 yn galluogi CNC i osod amodau at ddibenion penodol wrth roi trwyddedau cwympo coed. Mae’r diwygiad hwn yn ychwanegu diben arall y bydd CNC yn gallu gosod amodau ar ei gyfer ar drwyddedau cwympo coed newydd. Bydd yn galluogi CNC i gynnwys amodau ar drwyddedau cwympo coed er mwyn atal achosion o gwympo coed a fyddai’n groes i ddeddfwriaeth amgylcheddol arall. Er enghraifft, gellid cynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliaid trwyddedau beidio â chwympo coed mewn ardaloedd penodol er mwyn diogelu cynefin, neu i gwympo coed ar adegau penodol o’r flwyddyn yn unig, neu i wneud gwaith cyfalaf i liniaru effaith cwympo coed ar yr amgylchedd os yw CNC yn ystyried y byddai’n hwylus i wneud hynny er mwyn gwarchod fflora neu ffawna penodol, neu er mwyn osgoi niwed i’r amgylchedd.
Adran 38 – Diwygio trwyddedau cwympo coed drwy gytundeb
209.Mae adran 38(1) yn mewnosod is-adrannau newydd (3A) a (3B) yn adran 10 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 i alluogi CNC (fel yr awdurdod coedwigaeth priodol i Gymru o dan y Ddeddf honno) a’r person cyfrifol i gytuno (ar unrhyw adeg) i ddiwygio’r drwydded cwympo coed.
210.Mae is-adran newydd (3B) yn ei gwneud yn glir mai’r person cyfrifol yw’r sawl sy’n gwneud cais am y drwydded os oes ganddo ystad neu fuddiant yn y tir o hyd a fyddai’n ei alluogi, â chydsyniad neu heb gydsyniad unrhyw berson arall, i gwympo’r coed sy’n ddarostyngedig i’r drwydded. Os nad oes gan y ceisydd fuddiant o’r fath mwyach, y person cyfrifol yw person sydd ag ystad neu fuddiant o’r fath.
211.Bwriad y gallu i ddiwygio trwydded cwympo coed drwy gytundeb cilyddol yw helpu i fynd i’r afael â newidiadau mewn amgylchiadau neu i adlewyrchu newidiadau o’r fath, er enghraifft pan fo ffiniau wedi newid neu pan fo angen ailblannu gyda rhywogaethau coed gwahanol, neu pan fo materion sensitif eraill a all ddod i’r amlwg ar ôl i’r drwydded gael ei rhoi, neu fel arall pan fo un o amodau’r drwydded cwympo coed wedi ei dorri.
212.Mae adran 38(2) yn mewnosod is-adran newydd 10A ar ôl adran 10 o Ddeddf Coedwigaeth 1967. Dim ond os yw’r coed sy’n ddarostyngedig i’r drwydded cwympo coed yn ddarostyngedig i orchymyn cadw coed (“
213.O dan yr amgylchiadau hynny, rhaid i CNC gysylltu â’r awdurdod a wnaeth y GCC gan roi hysbysiad ysgrifenedig iddo am y diwygiad arfaethedig, oni fydd yr eithriad a nodir yn adran 10A(1)(b) yn gymwys. Effaith adran 10A(1)(b) yw, os bydd CNC o’r farn bod angen diwygio’r drwydded er mwyn ymateb i risg ar fin digwydd ddifrifol o niwed i harddwch naturiol, neu i fflora, ffawna, nodweddion daearegol neu ffysiograffegol, neu gynefinoedd naturiol, nad yw’r gofynion a nodir yn adran 10A yn gymwys. Mae hyn yn galluogi gwneud diwygiadau sy’n angenrheidiol i atal risg ar fin digwydd ddifrifol o niwed amgylcheddol yn ddi-oed.
214.Mae adran 10A(3) yn rhoi cyfle i’r awdurdod GCC, unwaith y bydd wedi cael gwybod am ddiwygiad arfaethedig, i wrthwynebu’r diwygiad o fewn cyfnod rhagnodedig (a nodir mewn rheoliadau). O dan yr amgylchiadau hynny, rhaid i CNC atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru o fewn cyfnod rhagnodedig a nodir mewn rheoliadau. Os na fydd yr awdurdod GCC yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl, rhaid i CNC atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru. Yna, rhaid i Weinidogion Cymru roi cydsyniad i’r diwygiad neu wrthod rhoi cydsyniad, a rhaid iddynt ymgynghori â’r rheini a nodir yn adran 10A(6) cyn gwneud eu penderfyniad.
Adran 39 – Amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwyddedau cwympo coed
215.Mae adran 39 yn mewnosod tair adran newydd (adrannau 24C, 24D a 24E) yn Neddf Coedwigaeth 1967 i alluogi CNC, fel yr awdurdod coedwigaeth priodol i Gymru, i amrywio, diwygio, atal dros dro neu ddirymu trwydded cwympo coed o dan amgylchiadau penodol (heb gytundeb).
Adran 24C
216.Gall CNC roi i’r person cyfrifol (“the person responsible”) hysbysiad o dan adran 24C(3) os yw’n ystyried na chydymffurfiwyd, neu na chydymffurfir, ag amod yn y drwydded (heblaw am amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i wneud gwaith).
217.Gall hysbysiad a roddir o dan adran 24C(3) atal y drwydded dros dro (naill ai’n llawn neu’n rhannol), amrywio neu ddileu amod yn y drwydded, neu osod amod newydd o ran y drwydded. At hynny, pan fo’r amod a gafodd ei dorri, neu sy’n cael ei dorri, wedi ei osod at ddiben gwarchod neu wella harddwch naturiol, neu warchod fflora, ffawna, nodweddion daearegol neu ffysiograffegol neu gynefinoedd naturiol, caiff hysbysiad a roddir o dan adran 24C(3) ddirymu’r drwydded.
218.Caiff hysbysiad a roddir o dan adran 24C(3) hefyd bennu camau y mae rhaid i’r person y mae’r hysbysiad wedi ei roi iddo eu cymryd (o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad).
219.Os na chaiff camau y mae hysbysiad a roddir o dan adran 24C(3) yn ei gwneud yn ofynnol i’w cymryd eu cymryd o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad, caiff CNC gymryd camau gorfodi yn unol ag adran 24C(9), (10) ac (11). Caiff CNC fynd ar y tir a chymryd y camau ei hun (o dan adran 24C(9)), neu caiff ddwyn achos yn erbyn y person sydd wedi methu â chymryd camau (yn unol ag adran 24C(10) ac (11)). Mae’n drosedd i berson beidio â chymryd y camau y mae hysbysiad a roddir o dan adran 24C(3) yn ei gwneud yn ofynnol i’w cymryd oni fydd ganddo esgus rhesymol. Trosedd ddiannod yn unig yw hon a gellir ei chosbi drwy ddirwy.
220.Pan fo hysbysiad a roddir o dan adran 24C(3) yn atal dros dro drwydded cwympo coed, daw’r cyfnod dros dro hwnnw i ben pan fo’r cyfnod a nodir yn yr hysbysiad yn dirwyn i ben, oni fydd CNC yn rhoi hysbysiad pellach sy’n codi’r ataliad dros dro ar ddyddiad cynharach.
221.Diffinnir y person cyfrifol (“the person responsible”), at ddibenion adran 24C , yn adran 24C(13).
Adran 24D
222.Gall CNC roi hysbysiad o dan adran 24D(2) os rhoddwyd hysbysiad o dan adran 24C(3) sy’n ei gwneud yn ofynnol i gymryd camau, ond cyn i’r camau hynny gael eu cymryd, nid oes gan y person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo yr ystad neu’r buddiant perthnasol yn y tir mwyach.
223.Gallai’r sefyllfa hon godi, er enghraifft, os yw’r tir sy’n ddarostyngedig i hysbysiad adran 24C(3) yn newid dwylo cyn i gamau a nodir yn yr hysbysiad gael eu cymryd.
224.Yn yr amgylchiadau hynny, mae adran 24D yn darparu y gall CNC, fel yr awdurdod coedwigaeth priodol, gyflwyno hysbysiad i berson sydd â’r ystad neu’r buddiant perthnasol yn y tir, yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gymryd y camau a nodwyd yn flaenorol yn yr hysbysiad adran 24C(3) (o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad).
225.Mae adran 24D(5) yn darparu ei bod yn drosedd i berson fethu â chymryd y camau sy’n ofynnol gan hysbysiad adran 24D(2) oni fydd ganddo esgus rhesymol. Trosedd ddiannod yn unig yw hon a gellir ei chosbi drwy ddirwy. Fel gyda hysbysiadau adran 24C(3), os nad yw’r camau sy’n ofynnol gan hysbysiad adran 24D(2) wedi eu cymryd o fewn y cyfnod a bennir, caiff CNC fynd ar y tir i gymryd y camau ei hun (o dan adran 24D(4)).
Adran 24E
226.Gall CNC roi hysbysiad i’r person cyfrifol (“the person responsible”) o dan adran 24E(2) os yw’n ystyried bod cwympo coed yn unol â thrwydded yn achosi, neu’n debygol o achosi, niwed sylweddol i (i) harddwch naturiol, neu (ii) fflora, ffawna, nodweddion daearegol neu ffysiograffegol, neu gynefinoedd naturiol.
227.Mae’r amgylchiadau y gellir rhoi hysbysiad 24E(2) odanynt, felly, yn wahanol i’r amgylchiadau sy’n esgor ar roi hysbysiadau o dan adrannau 24C a 24D: nid yw pŵer CNC i roi hysbysiad o dan adran 24E(2) yn dibynnu ar dorri amod trwydded, a gall godi hyd yn oed os nad yw deiliad trwydded ar fai.
228.O dan adran 24E(2), caiff CNC roi hysbysiad i’r person cyfrifol (“the person responsible”) i atal dros dro neu ddiwygio trwydded cwympo coed neu, os yw CNC o’r farn na fyddai atal dros dro neu ddiwygio’r drwydded yn atal y niwed o dan sylw, i ddirymu’r drwydded.
229.Diffinnir y person cyfrifol (“the person responsible”), at ddibenion adran 24E, yn adran 24E(6).
230.Fel gyda hysbysiadau adran 24C(3), pan fo hysbysiad a roddir o dan adran 24E(2) yn atal dros dro drwydded cwympo coed, caniateir i’r drwydded gael ei hatal dros dro yn llawn neu’n rhannol, a daw’r ataliad dros dro i ben pan fo’r cyfnod atal dros dro a nodir yn yr hysbysiad yn dirwyn i ben (oni fydd CNC yn rhoi hysbysiad pellach sy’n codi’r ataliad dros dro ar ddyddiad cynharach).
231.Os yw hysbysiad a roddir o dan adran 24C(3) neu 24E(2) yn gwneud darpariaeth i amrywio neu ddiwygio trwydded cwympo coed, neu i atal dros dro neu ddirymu trwydded cwympo coed, a bod person yn cwympo coed yn groes i’r darpariaethau hynny, mae’r person hwnnw yn debygol o fod yn cwympo coed heb awdurdod trwydded cwympo coed.
232.O dan yr amgylchiadau hynny, gellir cymryd camau gorfodi o dan adran 17 o Ddeddf Coedwigaeth 1967. Mae adran 17 yn darparu ei bod yn drosedd i gwympo coed heb awdurdod trwydded cwympo coed, a bydd person sy’n euog o’r drosedd yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy diderfyn (gweler y sylwebaeth isod ar adran 42 o’r Ddeddf, sy’n diwygio adran 17 o Ddeddf Coedwigaeth 1967).
Adran 40 – Gorchmynion Cadw Coed
233.Mae adran 40 yn mewnosod adran newydd 24F (Gorchmynion Cadw Coed) yn Neddf Coedwigaeth 1967. Mae’n gymwys os yw CNC yn cynnig rhoi hysbysiad o dan adran 24C(3) neu 24E(2), ac y byddai’r hysbysiad yn effeithio ar goed sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw coed (“
234.Mae’r adran yn ei gwneud yn ofynnol i CNC, fel yr awdurdod coedwigaeth priodol, i hysbysu’r awdurdod a wnaeth y GCC am y cynnig oni fodlonir y meini prawf brys. Bodlonir y meini prawf brys os yw CNC o’r farn bod angen rhoi’r hysbysiad adran 24C(3) neu adran 24E(2) er mwyn ymateb i risg ar fin digwydd ddifrifol o niwed i harddwch naturiol neu i fflora, ffawna, nodweddion daearegol neu ffysiograffegol, neu gynefinoedd naturiol. Bwriedir i’r eithriad hwn alluogi CNC i fynd i’r afael ag unrhyw risg ar fin digwydd ddifrifol o niwed amgylcheddol yn ddi-oed.
235.Pan fydd yr awdurdod GCC wedi cael ei hysbysu am gynnig i roi hysbysiad o dan adran 24C(3) neu 24E(2), caiff wrthwynebu rhoi’r hysbysiad o fewn cyfnod rhagnodedig (a nodir mewn rheoliadau). Pan na fo’r awdurdod GCC yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl, rhaid i CNC atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r rheini a nodir yn 24F(7) cyn penderfynu a ddylid rhoi neu wrthod cydsyniad i roi’r hysbysiad.
Adran 41 – Apelau a Digollediad
236.Mae adran 41 yn mewnosod saith adran newydd yn Neddf Coedwigaeth 1967 sy’n nodi hawliau o ran cyflwyno apêl a hawliau o ran hawlio digollediad yn sgil rhoi hysbysiadau o dan adrannau 24C(3), 24D(2) a 24E(2).
237.Mae adrannau newydd 26A a 26B yn nodi pwy gaiff gyflwyno apêl yn erbyn hysbysiad a roddir o dan adrannau 24C(3), 24D(2) a 24E(2), ac yn pennu ar ba seiliau y caniateir cyflwyno’r apelau hynny. Mae adran 26A(2) yn nodi ar ba seiliau y caniateir cyflwyno apêl yn erbyn hysbysiad adran 24C(3), ac mae adran 26A(3) yn nodi’r seiliau y caniateir cyflwyno apêl oddi tanynt yn erbyn hysbysiad adran 24D(2). Mae adran 24B(2) yn nodi’r seiliau y caniateir cyflwyno apêl oddi tanynt yn erbyn hysbysiad adran 24E(2).
238.Rhaid cyflwyno apêl o dan adran 26A neu 26B drwy gyflwyno hysbysiad i Weinidogion Cymru yn gofyn i’r mater gael ei atgyfeirio i Bwyllgor a benodir yn unol ag adran 27 o Ddeddf Coedwigaeth 1967.
239.Mae adran newydd 26C yn gwneud darpariaethau pellach mewn perthynas ag apelau. Ymysg pethau eraill, mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru nodi mewn rheoliadau y modd rhagnodedig a’r cyfnod rhagnodedig ar gyfer cyflwyno apelau yn erbyn hysbysiadau a roddir o dan adran 24C(3), 24D(2) a 24E(2).
240.Fel rheol gyffredinol, nid yw hysbysiadau a roddir o dan adrannau 24C(3), 24D(2) a 24E(2) yn cymryd effaith hyd nes bod cyfle wedi ei roi i berson i gyflwyno apêl neu (mewn amgylchiadau pan fo apêl wedi ei chyflwyno) fod yr apêl wedi cael ei phenderfynu. Fodd bynnag, gall hysbysiad a roddir o dan yr adrannau hynny gymryd effaith ar unwaith i’r graddau (i) y mae’r hysbysiad yn atal dros dro drwydded cwympo coed, neu (ii) y mae’r hysbysiad yn diwygio neu’n dirymu trwydded cwympo coed, ac mae CNC yn ystyried bod y cam yn angenrheidiol er mwyn ymateb i risg ar fin digwydd ddifrifol o niwed i’r nodweddion amgylcheddol a ddisgrifir yn adran 26C(3)(a).
241.Mae adran 41 hefyd yn mewnosod adrannau newydd 26D, 26E a 26F yn Neddf Coedwigaeth 1967 i ddarparu hawlogaeth i ddigollediad o dan amgylchiadau penodol ar ôl cael hysbysiad a roddir o dan adran 24C(3), 24D(2) neu 24E(2). Mae’r adrannau newydd hyn i’w darllen ochr yn ochr â’r darpariaethau yn adran newydd 26G.
242.Mae adrannau 26D, 26E a 26F yn pennu pwy all hawlio digollediad pan fo hysbysiad wedi ei roi o dan adran 24C(3), 24D(2) neu 24E(2).
243.Mae adran 26D yn darparu hawlogaeth i ddigollediad pan fo hysbysiad wedi ei roi o dan adran 24C(3). Mae hawlogaeth i ddigollediad yn codi pan fo’r hysbysiad wedi cael ei ganslo gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl neu (os yw hysbysiad yn un sy’n atal dros dro drwydded), pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo CNC i ddod â’r cyfnod atal dros dro i ben.
244.Os caiff hysbysiad adran 24C(3) ei ganslo yn dilyn apêl, telir digollediad am unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol mewn cysylltiad â rhoi’r hysbysiad, ac am unrhyw ddibrisiant yng ngwerth y coed sydd i’w briodoli i ddirywiad yn ansawdd y pren sy’n codi yn sgil rhoi’r hysbysiad.
245.Os yw Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo CNC i ddod â chyfnod atal dros dro i ben, telir digollediad am unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol mewn cysylltiad â’r cyfnod atal dros dro, ac am unrhyw ddibrisiant yng ngwerth y coed sydd i’w briodoli i ddirywiad yn ansawdd y pren sy’n codi yn sgil y cyfnod atal dros dro.
246.Mae adran 26E yn darparu hawlogaeth i ddigollediad pan fo hysbysiad wedi ei roi o dan adran 24D(2). Dim ond ei gwneud yn ofynnol i berson gymryd camau y gall hysbysiadau o dan adran 24D(2) ei wneud (ac ni allant amrywio, diwygio, atal dros dro na dirymu trwyddedau), felly mae hawliau digolledu o dan adran 26E yn fwy cyfyngedig. Mae’r hawlogaeth yn codi os yw hysbysiad adran 24D(2) wedi ei ganslo gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, a thelir swm digolledu am unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol mewn cysylltiad â rhoi’r hysbysiad.
247.Mae adran 26F yn darparu hawlogaeth i ddigollediad pan fo hysbysiad wedi ei roi o dan adran 24E(2). Gall hysbysiadau a roddir o dan adran 24E(2) ddiwygio, atal dros dro neu ddirymu trwyddedau pan na fu unrhyw achos o dorri amod trwydded (os yw’r gofynion a nodir yn adran 24E wedi eu bodloni), felly mae’r hawliau digolledu o dan adran 26F yn ehangach.
248.Mae hawl awtomatig i ddigollediad am unrhyw ddibrisiant yng ngwerth y coed sydd i’w briodoli i ddirywiad yn ansawdd y pren sy’n codi yn sgil rhoi hysbysiad o dan adran 26E(2), ni wnaeth p’un a gyflwynwyd apêl ai peidio. Mae hyn yn debyg i’r hawliau digolledu sy’n codi o dan adran 10 ac 11 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 pan wrthodir cais am drwydded cwympo coed.
249.Mae hawlogaeth i ddigollediad hefyd yn codi o dan adran 26F pan fo hysbysiad a roddir o dan adran 24E(2) wedi ei ganslo gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl neu (os yw hysbysiad yn un sy’n atal dros dro drwydded), pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo CNC i ddod â’r cyfnod atal dros dro i ben.
250.Os caiff hysbysiad adran 24E(2) ei ganslo yn dilyn apêl, telir digollediad am unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol mewn cysylltiad â rhoi’r hysbysiad.
251.Os yw Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo CNC i ddod â chyfnod atal dros dro a wnaed gan hysbysiad adran 24E(2) i ben, telir digollediad am unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol mewn cysylltiad â’r cyfnod atal dros dro.
252.Mae adran newydd 26G yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â hawliadau digolledu. Ymysg pethau eraill, mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru nodi mewn rheoliadau y modd rhagnodedig a’r cyfnod rhagnodedig ar gyfer hawlio digollediad ac mae’n darparu rhagor o fanylion am hawlio digollediad am ddirywiad yn ansawdd pren.
Adran 42 – Cosb am gwympo coed heb drwydded
253.Mae adran 42 yn diwygio adran 17 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 i ddarparu, mewn cysylltiad â thir yng Nghymru, mai’r gosb am gwympo coeden heb awdurdod trwydded cwympo coed yw dirwy ddiderfyn. Caiff coed eu cwympo heb awdurdod trwydded cwympo coed os nad oes trwydded yn ei lle (er enghraifft am nad yw trwydded wedi ei rhoi, neu am fod trwydded wedi ei hatal dros dro neu ei dirymu drwy hysbysiad a roddir o dan adran 24C(3) neu 24E(2)), neu os caiff coed eu cwympo yn groes i drwydded cwympo coed (gan gynnwys yn groes i delerau neu amodau trwydded sydd wedi ei hamrywio, ei diwygio neu ei mewnosod gan hysbysiad a roddir o dan adran 24C(3) neu 24E(2))).
Adran 43 – Cyflwyno dogfennau
254.Mae adran 43 yn mewnosod is-adran newydd (6) yn adran 30 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 i ddarparu bod unrhyw gyfeiriadau yn Rhan 2 o’r Ddeddf honno at roi hysbysiadau neu ddogfennau i’w trin fel pe baent yn gyfeiriadau at gyflwyno hysbysiad neu ddogfen. Mae hyn yn sicrhau bod y meini prawf yn adran 30 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (ynghylch pryd y tybir bod hysbysiadau neu ddogfennau wedi eu cyflwyno) yn gymwys mewn ffordd gyson i bob hysbysiad a dogfen a roddir gan CNC o dan Ran 2 o Ddeddf Coedwigaeth 1967.
Adran 44 – Diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Coedwigaeth 1967
255.Mae adran 44 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Ddeddf Coedwigaeth 1967. Mae angen y diwygiadau hyn o ganlyniad i newidiadau a wneir i’r Ddeddf honno gan adrannau 36 i 43.
Rhan 5 – Bywyd Gwyllt
Adran 45 – Trosolwg o’r Rhan
256.Mae adran 45 yn nodi’r dibenion y mae’r Rhan hon o’r Ddeddf yn diwygio Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) ar eu cyfer.
Adran 46 – Gwahardd defnyddio maglau a thrapiau glud
257.Mae adran 46 yn diwygio adran 11(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i’w gwneud yn drosedd i ddefnyddio dyfeisiau penodol er mwyn lladd neu gymryd anifeiliaid penodol, neu i ddefnyddio’r dyfeisiau hynny pan fo’n debygol y byddant yn dal anifeiliaid penodol neu’n achosi anaf iddynt.
258.Mae’r diwygiad i adran 11(1) o Ddeddf 1981 yn ei gwneud yn drosedd:
i osod magl neu atalydd cebl arall yn ei lle neu yn ei le yng Nghymru, os yw’r fagl neu’r atalydd o fath sy’n debygol o achosi anaf i unrhyw anifail gwyllt sy’n dod i gysylltiad â hi neu ag ef, ac y caiff ei gosod neu ei osod mewn modd o’r fath;
i ddefnyddio magl neu atalydd cebl arall yng Nghymru at ddiben lladd neu gymryd unrhyw anifail gwyllt;
i osod trap glud yn ei le yng Nghymru, os yw’r trap o fath sy’n debygol o ddal unrhyw anifail asgwrn cefn (an-ddynol) sy’n dod i gysylltiad ag ef, ac y caiff ei osod mewn modd o’r fath;
i ddefnyddio trap glud yng Nghymru at ddiben lladd neu gymryd unrhyw anifail asgwrn cefn (an-ddynol).
Adran 47 – Addasu gwaharddiadau ar ddefnyddio dulliau eraill i ladd neu gymryd anifeiliaid gwyllt
259.Mae adran 47 yn diwygio adran 11(2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i addasu’r gwaharddiadau ar osod yn ei le neu yn ei lle unrhyw drap neu fagl, neu unrhyw ddyfais drydanol i ladd neu stynio, neu unrhyw sylwedd gwenwynig, sylwedd a wenwynwyd neu sylwedd llesgáu. Effaith yr addasiadau yw y bydd y gwaharddiadau yn gymwys pan fo’r defnydd o’r eitemau hynny yn “debygol” o achosi anaf i anifail gwyllt o’r fath a bennir yn y darpariaethau hynny (yn hytrach na phan fo’r defnydd yn bwriadu achosi (“calculated to cause”) anaf i anifail gwyllt o’r math hwnnw).
Adran 48 – Diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
260.Mae adran 48 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae’r diwygiadau hyn yn gysylltiedig â’r newidiadau a wneir i’r Ddeddf honno gan adrannau 46 a 47.
261.Er enghraifft, cafodd y gwaharddiad a osodir gan adran 11(1)(be) o Ddeddf 1981 (a fewnosodir gan adran 48(2)(c)) ei osod yn flaenorol, o ran Cymru ac o ran Lloegr, gan adran 11(1)(b) o Ddeddf 1981. Mae adran 48(2)(b) yn diwygio adran 11(1)(b) o Ddeddf 1981 fel nad yw’n gymwys o ran Cymru mwyach, ac mae adran 48(2)(c) yn mewnosod adran 11(1)(be) newydd sy’n gymwys o ran Cymru. Gwnaed hyn er mwyn gallu rhoi’r gwaharddiadau sy’n gymwys o ran Lloegr mewn grŵp gyda’i gilydd, wedi ei ddilyn gan y gwaharddiadau sy’n gymwys o ran Cymru (gan gynnwys y rheini a fewnosodir gan adran 46).
Rhan 6 – Cyffredinol
Adran 49 – Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, drosiannol etc.
262.Mae adran 49 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed y maent yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddiben unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, neu ar gyfer rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth o’r fath. Caiff rheoliadau o’r fath addasu unrhyw ddeddfiad (fel y’i diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019), gan gynnwys y darpariaethau yn y Ddeddf hon.
Adran 50 – Rheoliadau o dan y Ddeddf hon
263.Mae adran 50 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon, ac yn nodi gweithdrefn Senedd Cymru sy’n gymwys i’r rheoliadau hynny.
264.Mae is-adran (3) yn darparu bod pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir.
265.Mae is-adran (4) yn darparu bod pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
266.Mae is-adran (7) yn nodi’r darpariaethau o fewn y Ddeddf y mae’r weithdrefn gadarnhaol yn gymwys iddynt, hy na chaniateir gwneud rheoliadau oddi tanynt oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad. Mae is-adran (8) yn darparu bod y weithdrefn gadarnhaol hefyd yn gymwys pan fo rheoliadau yn addasu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.
Adran 51 – Ystyr “amaethyddiaeth” a chyfeiriadau perthnasol
267.Mae ystyr “amaethyddiaeth” yn ganolog i ddarpariaethau penodol yn y Ddeddf, yn benodol y ddyletswydd RhTG (adran 2) a’r pŵer i ddarparu cymorth (adran 8). Mae adran 51 yn diffinio “amaethyddiaeth” at ddibenion y Ddeddf. Mae’r diffiniad yn eang ei gwmpas. Y bwriad yw adlewyrchu’r ystod eang o weithgareddau ffermio sy’n cael eu cynnal yng Nghymru ar hyn o bryd, a chynnwys gweithgareddau yr ystyrir eu bod yn weithgareddau ffermio traddodiadol, e.e. tyfu cnydau ar gyfer bwyd, yn ogystal â gweithgareddau ffermio mwy modern, e.e. amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir, sy’n cynnwys datblygiadau mwy diweddar megis ffermio fertigol.
268.Mae “da byw” yn rhan o’r diffiniad o “amaethyddiaeth”, ac mae is-adran (2) yn darparu diffiniad o ystyr y term hwn, er eglurder. Yn yr un modd, mae’r diffiniad o “amaethyddiaeth” yn cynnwys cyfeiriad at “amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir”, sy’n arfer gymharol newydd sy’n esblygu. Mae is-adran (2) yn darparu diffiniad o’r term hwn.
269.Mae is-adran (3) yn egluro bod termau penodol i’w dehongli yn unol â’r diffiniad o “amaethyddiaeth”, gan gynnwys “busnesau amaethyddol”.
Adran 52 – Ystyr “gweithgaredd ategol”
270.Mae adran 52 yn diffinio “gweithgaredd ategol” at ddibenion y Ddeddf.
271.Yn y diffiniad, mae paragraff (a) yn pennu gweithgareddau penodol a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth (fel y’i diffinnir yn adran 51), ac mae paragraff (b) yn cyfeirio at weithgareddau eraill a restrir, nad oes angen eu cynnal ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, ond y mae rhaid iddynt fod yn gysylltiedig â chynhyrchion sy’n deillio o amaethyddiaeth.
272.Bwriad y diffiniad yw nodi’r gweithgareddau a gynhelir gan y sector amaethyddol, yn ogystal â’i weithgareddau craidd, i gefnogi busnes a chanlyniadau amgylcheddol y sector.
Adran 53 – Pŵer i ddiwygio adrannau 51 a 52
273.Mae adran 50 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i ddiwygio’r diffiniadau o “amaethyddiaeth” a “gweithgaredd ategol” drwy reoliadau.
274.Mae is-adrannau (2) i (7) yn nodi’r weithdrefn y mae rhaid ei dilyn wrth arfer y pŵer i ddiwygio adrannau 51 a 52. Rhaid ymgynghori ar y weithdrefn hon cyn i’r rheoliadau gael eu gwneud, a gosod datganiad gerbron y Senedd.
275.Bwriad rhoi’r pŵer hwn yw sicrhau bod modd i’r Ddeddf addasu, er enghraifft, i unrhyw newidiadau mewn arferion amaethyddol neu ffermio yn y dyfodol a allai ddeillio o ddatblygiadau ym maes rheoli tir neu ddatblygiadau technolegol yn y dyfodol.
Adran 54 – Dehongli arall
276.Mae adran 54 yn diffinio geiriau a thermau eraill a ddefnyddir yn y Ddeddf.
Adran 55 – Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau etc.
277.Mae is-adran (1) yn rhoi effaith i Atodlen 2 sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, sy’n ymwneud â Rhannau 1 a 3, i ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol.
278.Mae is-adran (2) yn rhoi effaith i Atodlen 3, sy’n diwygio’r Rheoliad CMO.
Adran 56 – Dod i rym
279.Mae adran 56 yn dwyn darpariaethau’r Ddeddf i rym.
280.Mae is-adran (1) yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym drannoeth diwrnod y Cydsyniad Brenhinol: Rhan 4 (ond dim ond at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 32 o Ddeddf Coedwigaeth 1967) a Rhan 6 (ac eithrio adran 55, ac Atodlenni 2 a 3).
281.Mae is-adran (2) yn dwyn y darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â diwrnod y Cydsyniad Brenhinol: Rhan 1 (RhTG); Pennod 1 o Ran 2 (pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth); Pennod 2 o Ran 2 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ariannol a chymorth arall), a Rhan 5 (bywyd gwyllt).
282.Mae is-adran (3) yn dwyn darpariaethau penodol o Atodlen 2 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â diwrnod y Cydsyniad Brenhinol, yn ogystal ag adran 55, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau hynny. (Yn achos y darpariaethau a bennir ym mharagraffau (a) a (b), ni chânt eu cychwyn ac eithrio at ddibenion a bennir.) Mae hyn er mwyn sicrhau, i’r graddau y mae diwygiadau canlyniadol a diddymiadau yn Atodlen 2 yn ymwneud â’r darpariaethau yn y Ddeddf sy’n cael eu cychwyn gan is-adran (2), fod y diwygiadau a’r diddymiadau hynny eu hunain yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis.
283.Mae is-adran (4) yn darparu bod pob darpariaeth arall yn y Ddeddf yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
284.Mae is-adran (5) yn caniatáu i orchymyn o dan is-adran (4) bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol, a gwneud darpariaethau darfodol, darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed.
Adran 57 – Enw byr
285.Mae’r adran hon yn rhoi enw byr y Ddeddf, sef “Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023”.
Atodlen 1 – Cynhyrchion Amaethyddol Sy’N Berthnasol I Ddarpariaethau Safonau Marchnata
286.Cyflwynir Atodlen 1 gan adran 34. Mae’n cynnwys y rhestr o gynhyrchion amaethyddol y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn cysylltiad â hwy o dan adran 34.
287.Mae paragraffau 1 i 9 yn gweithredu drwy gyfeirio at y Rheoliad CMO (a ddiffinnir yn adran 54); mae paragraff 10 yn gweithredu drwy gyfeirio at y Rheoliad Gwin a Bersawrwyd fel y’i diffinnir ym mharagraff 11.
Atodlen 2 – Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol Etc. Sy’N Ymwneud  Rhannau 1 I 3
288.Cyflwynir Atodlen 2 gan adran 55.
Rhan 1: Diwygiadau, Diddymiadau ac Arbedion sy’n ymwneud â Deddf Amaethyddiaeth 2020
289.Mae paragraff 1 yn gwneud y diwygiadau i Ddeddf 2020.
290.Mae paragraff 1(2) yn diddymu’r adran o Ddeddf 2020 sy’n cyflwyno Atodlen 5 i’r Ddeddf honno. Mae Atodlen 5 i Ddeddf 2020 yn gwneud darpariaeth o ran Cymru yn unig, ac mae wedi ei diddymu gan y Ddeddf hon (gweler paragraff 1(9)).
291.Mae paragraff 1(3) yn diddymu’r adran o Ddeddf 2020 sy’n darparu bod darpariaethau penodol yn y Ddeddf o ran Cymru yn dod i ben ar ddiwedd 2024, am fod y darpariaethau dan sylw wedi eu diddymu gan y Ddeddf hon.
292.Mae paragraff 1(4) yn hepgor paragraffau penodol o adran 52 o Ddeddf 2020, sy’n cyflwyno Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Mae Atodlen 7 i Ddeddf 2020 yn diwygio’r Rheoliad CMO (a ddiffinnir yn adran 54) o ganlyniad i ddarpariaethau penodol yn y Ddeddf honno; gan fod rhai o’r rheini yn cael eu diddymu gan y Ddeddf hon, mae paragraff 1(4) yn diddymu’r cyfeiriadau at y darpariaethau a ddiddymir.
293.Mae paragraff 1(5) yn diwygio adran 53 o Ddeddf 2020, sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol mewn cysylltiad â darpariaethau yn y Ddeddf honno. Yr effaith yw dileu cyfeiriadau at y darpariaethau hynny sydd wedi eu diddymu gan y Ddeddf hon. Mae’r effaith hefyd yn golygu na all yr Ysgrifennydd Gwladol wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliannol na darpariaeth ganlyniadol y byddai Gweinidogion Cymru wedi gallu ei gwneud pe na bai’r darpariaethau hynny wedi eu diddymu gan y Ddeddf hon.
294.Mae paragraff 1(6) yn diwygio pŵer Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf 2020 i wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â darpariaethau yn y Ddeddf honno sy’n dod i rym, er mwyn dileu cyfeiriadau at ddarpariaethau a ddiddymir gan y Ddeddf hon.
295.Mae paragraffau 1(7) ac 1(8) yn diwygio dwy adran arall o Ddeddf 2020 i ddileu cyfeiriadau at ddarpariaethau yn y Ddeddf honno a ddiddymir gan y Ddeddf hon.
296.Mae paragraff 1(9) yn diddymu Atodlen 5 i Ddeddf 2020, sy’n gymwys o ran Cymru yn unig.
297.Mae paragraff 1(10) yn diddymu’r diwygiadau canlyniadol a wnaed i’r Rheoliad CMO (a ddiffinnir yn adran 54) gan Rannau 2 a 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2020. Mae’r ddarpariaeth yn Atodlen 3 i’r Ddeddf hon yn disodli’r ddarpariaeth hon.
298.Mae paragraff 2 yn darparu bod rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 2 o Atodlen 5 i Ddeddf 2020 yn parhau mewn grym er i’r darpariaethau hynny gael eu diddymu, a’u bod yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 16 o’r Ddeddf hon.
Rhan 2: Diwygiadau i Ddeddfau eraill
299.Mae Rhan 2 yn diwygio pedair Deddf arall i’w gwneud yn ofynnol i ystyried yr adroddiad(au) RhTG (a gyhoeddir o dan adran 6) wrth arfer swyddogaethau penodol (gan gynnwys swyddogaethau sy’n ymwneud â llunio, mabwysiadu ac adolygu cynlluniau ac adroddiadau eraill).
Atodlen 3 – Diwygiadau Canlyniadol Etc. I’R Rheoliad Cmo
300.Cyflwynir Atodlen 3 gan adran 55. Mae’n diwygio’r Rheoliad CMO (a ddiffinnir yn adran 54), sy’n ymwneud â marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol.
Rhan 1: Diwygiadau sy’n ymwneud â Phennod 3 o Ran 2 (ymyrraeth mewn marchnadoedd)
301.Mae Rhan 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2020 yn datgymhwyso darpariaethau penodol yn y Rheoliad CMO, o ran Cymru, cyhyd ag y bo’r ddarpariaeth bresennol â therfyn amser iddi ynghylch amodau eithriadol yn y farchnad yn Atodlen 5 i Ddeddf 2020 yn para. (Mae’r darpariaethau sydd wedi eu datgymhwyso yn ymwneud ag amodau eithriadol yn y farchnad.)
302.Gan fod y Ddeddf yn disodli’r ddarpariaeth â therfyn amser iddi yn Atodlen 5 i Ddeddf 2020, mae Rhan 1 o Atodlen 3 yn diwygio’r Rheoliad CMO o ganlyniad i hynny mewn perthynas ag ymyrraeth mewn marchnadoedd (gan na fydd y diwygiad a wnaed i’r Rheoliad CMO gan Atodlen 7 i Ddeddf 2020 yn briodol iddo mwyach). Ond, gan nad yw’r diwygiad a wnaed i’r Rheoliad CMO gan Atodlen 7 i Ddeddf 2020 mewn grym eto, mae Atodlen 3 yn darparu (yn Rhan 1) ddiwygiadau canlyniadol amgen i’r Rheoliad CMO.
303.Mae’r diwygiad ym mharagraff 1 yn gwneud darpariaeth sy’n gymwys os bydd paragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2020 wedi ei ddwyn i rym cyn paragraff 1 o Atodlen 3 (ac mae wedi diwygio’r Rheoliad CMO i Gymru er mwyn datgymhwyso Erthyglau 219, 220, 221 a 222 o Ran V o’r Rheoliad CMO i Gymru).
304.Effaith y diwygiad ym mharagraff 1 yw diwygio’r diwygiad a wnaed i’r Rheoliad CMO gan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2020, drwy ddileu’r elfen o’r diwygiad hwnnw â therfyn amser iddi (nid yw’r elfen â therfyn amser iddi yn briodol mwyach gan nad oes terfyn amser i’r ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf ar gyfer amodau eithriadol yn y farchnad). Y canlyniad terfynol yw bod Erthyglau 219, 220, 221 a 222 o Ran V o’r Rheoliad CMO wedi eu datgymhwyso mewn perthynas â chynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru, ar sail benagored.
305.Mae paragraff 2 yn cael yr un effaith, sef datgymhwyso Erthyglau 219, 220, 221 a 222 o Ran V o’r Rheoliad CMO mewn perthynas â chynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru, ar sail benagored. Fodd bynnag, mae strwythur gwahanol i’r diwygiad yn y paragraff hwn, ac ni fydd yn cael effaith os yw’r diwygiad ym mharagraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2020 wedi ei gychwyn cyn i Ran 1 o Atodlen 3 gael ei chychwyn.
Rhannau 2 a 3: Diwygiadau sy’n ymwneud ag adran 34 (safonau marchnata) ac adran 35 (dosbarthiad carcasau)
306.Mae Rhan 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2020 yn diwygio erthyglau yn y Rheoliad CMO mewn perthynas â safonau marchnata a dosbarthiad carcasau yng Nghymru.
307.Effaith y diwygiadau ym mharagraffau 4 i 16, ac yn Atodlen 3, yw rhoi cyfeiriadau at y Ddeddf yn lle cyfeiriadau at Ddeddf 2020 yn yr erthyglau perthnasol yn y Rheoliad CMO.
Rhan 4: Darpariaeth arbed
308.Mae paragraffau 17 a 18 yn cadw rheoliadau presennol a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan y Rheoliad CMO sy’n rheoleiddio dosbarthiad carcasau a safonau marchnata mewn perthynas â chynhyrchion amaethyddol sy’n cael eu marchnata yng Nghymru. Yr effaith yw y bydd y rheoliadau hyn yn parhau i fod yn gymwys, er bod y pwerau y cawsant eu gwneud odanynt wedi eu datgymhwyso yng Nghymru.
Cofnod Y Trafodion Yn Senedd Cymru
309.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar:
Deddf Amaethyddiarth (Cymru) (senedd.cymru)
Cyfnod | Dyddiad |
---|---|
Cyflwynwyd | 26 Medi 2022 |
Cyfnod 1 – Dadl | 7 Chwefror 2023 |
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau | 8 Chwefror 2023 – 21 Ebrill 2023 |
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau | 16 Mai 2023 |
Cyfnod Adrodd – ystyried y gwelliannau | 20 Mehefin 2023 |
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Senedd | 27 Mehefin 2023 |
Y Cydsyniad Brenhinol | 17 Awst 2023 |
- Previous
- Explanatory Notes Table of contents
- Next