Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

Adran 12 - Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch gwirio cymhwysedd ar gyfer cymorth, etc

105.Mae adran 12 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau, a chaniateir iddynt gael eu harfer er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch gwirio a yw’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth o dan adran 8 wedi eu bodloni a’r canlyniadau, pan nad ydynt wedi eu bodloni, ynghylch gorfodi cydymffurfedd ag amodau, ynghylch monitro i ba raddau y mae dibenion y cymorth wedi eu cyflawni, ac ynghylch ymchwilio i droseddau a amheuir. Bwriedir i’r pwerau hyn sicrhau bod cymorth amaethyddol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei weinyddu yn gywir a bod y rhai sy’n cael cymorth o dan y pŵer i ddarparu cymorth yn ddarostyngedig i graffu ac atebolrwydd priodol.

106.Mae is-adran (2) yn darparu rhestr nad yw’n gynhwysfawr o’r mathau o ddarpariaeth y caniateir eu cynnwys mewn unrhyw reoliadau a wneir o dan is-adran (1). Er yr ystyrir mai dyma rai o’r prif faterion y gallai fod angen i’r rheoliadau fynd i’r afael â hwy, caniateir i reoliadau gael eu gwneud ar gyfer unrhyw un o’r dibenion a nodir yn is-adran (1) ac ni chyfyngir ar gynnwys unrhyw reoliadau a wneir yn y dyfodol i’r meysydd hynny a restrir yn is-adran (2).

107.Mae is-adran (2)(f) yn caniatáu i reoliadau o dan adran 11 wneud darpariaeth ynghylch adennill cymorth ariannol (er enghraifft, gallai’r rheoliadau ganiatáu i’r cymorth gael ei adennill, gyda llog, pan fo person wedi torri amod).

108.Mae is-adran (2)(h) yn caniatáu i reoliadau o dan adran 11 wneud darpariaeth ynghylch y camau i’w cymryd gan berson y darperir neu y darparwyd cymorth iddo, er mwyn unioni amodau a dorrwyd.

109.Mae is-adran (2)(i) a (j) yn caniatáu i reoliadau o dan adran 11 wneud darpariaeth ynghylch cosbau ariannol, gan gynnwys sicrwydd ar gyfer taliad.

110.Mae is-adran (2)(k) yn caniatáu i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwahardd person rhag cael cymorth am gyfnod a bennir, neu hyd nes i amodau a bennir gael eu bodloni. Er enghraifft, gallai’r rheoliadau ganiatáu i’r taliad cymorth gael ei atal dros dro hyd nes bod person wedi unioni toriad.

111.Mae is-adran (2)(l) yn caniatáu i’r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer apelau.

112.Mae is-adran (2)(m) yn caniatáu i’r rheoliadau roi swyddogaethau i berson: gallai hyn er enghraifft gael ei ddefnyddio i wneud darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau i weinyddwr cynllun.

113.Gall hyn gynnwys ei gwneud yn ofynnol i gymryd camau penodol, er mwyn unioni toriad o’r fath. Caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth i adennill arian a dalwyd (â llog neu heb log), gwahardd rhywun o gynllun (am gyfnod a bennir neu hyd nes i amodau penodol gael eu bodloni) a gosod cosbau ariannol. Mae hefyd y pŵer i wneud rheoliadau sy’n rhoi swyddogaethau i eraill ac i ddarparu gweithdrefn i apelio yn erbyn penderfyniadau.

114.Mae is-adran (3) yn darparu na chaiff rheoliadau a wneir o dan adran 11 awdurdodi mynediad i annedd breifat (er enghraifft, i wirio cydymffurfedd) oni bai bod gwarant wedi ei roi gan weithdrefn farnwrol. (Mae adran 51 yn diffinio “annedd breifat”.)

115.Mae is-adran (4) yn darparu, os yw’r rheoliadau yn gwneud darpariaethau ar gyfer cosbau, y caniateir iddynt roi llog ar gosbau sydd i’w talu. Caniateir i’r llog fod yn daladwy o ddiwrnod a ddarperir yn y rheoliadau eu hunain, neu ar ddiwrnod a bennir (er enghraifft gan weinyddwr cynllun) o dan y rheoliadau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources