Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

Pennod 1 - Pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth

66.Mae’r Bennod hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu cymorth ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, amaethyddiaeth yng Nghymru a gweithgareddau ategol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru. Mae’r pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth, gan gynnwys drwy gyfrwng cynllun neu gynlluniau cymorth (ac wrth sefydlu cynllun neu gynlluniau o’r fath bydd angen i Weinidogion Cymru gydymffurfio â’r ddyletswydd RhTG).

67.Mae’r pŵer i ddarparu cymorth, yn ymarferol, yn rhoi’r gallu i Weinidogion Cymru gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy sydd â’r bwriad i gefnogi ymrwymiadau amgylcheddol a hinsawdd Llywodraeth Cymru a chefnogi llesiant dinasyddion ymhellach wrth iddo ymwneud ag amaethyddiaeth yng Nghymru.

Adran 8 - Pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth

68.Mae adran 8 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu cymorth ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, amaethyddiaeth a gweithgareddau ategol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru. Caiff cymorth fod yn gymorth ariannol, neu fel arall, er enghraifft gallai Gweinidogion Cymru ddewis arfer y pŵer i wneud taliad am gamau gweithredu neu i ddarparu cymorth a chyngor cyfarwyddol.

69.Mae adran 8(2) yn nodi rhestr (nad yw’n gynhwysfawr) o ddibenion y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth yng Nghymru ar eu cyfer, neu mewn cysylltiad â hwy . Nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu cyfyngu gan y dibenion a restrir yn adran 8(2) a chaniateir iddynt ddarparu cymorth at ddibenion eraill, cyhyd â bod y dibenion eraill ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth a/neu weithgareddau ategol yng Nghymru. Mae’r dibenion a restrir yn adran 8(2) yn rhoi cyd-destun yn nhermau’r nodau polisi y rhagwelir cefnogaeth ar eu cyfer. Mae’r dibenion yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion RhTG y manylir arnynt yn adran 1.

70.Mae’r diben yn is-adran (2)(a) yn cyfeirio at annog cynhyrchu bwyd mewn modd sy’n amgylcheddol gynaliadwy. Er enghraifft, gellid darparu cymorth ar gyfer tyfu cnydau mewn modd sy’n lleihau neu’n dileu’r angen am wrtaith artiffisial.

71.Mae’r diben yn is-adran (2)(b) yn cyfeirio at helpu cymunedau gwledig i ffynnu, ac i gryfhau’r cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a’u cymunedau. Er enghraifft, gallai’r cymorth a roddir at y diben hwn fod yn anelu at hybu gwytnwch economaidd busnesau amaethyddol drwy ffermydd yn arallgyfeirio a chryfhau busnesau fferm er mwyn cefnogi a chyfrannu tuag at gymunedau (lleol) gwledig ffyniannus, fel cefnogi ac annog cynnydd mewn bioamrywiaeth neu wytnwch ecosystemau ar ffermydd, drwy brosiectau cydweithredol fel perllannau cymunedol, neu gynorthwyo busnesau fferm i arallgyfeirio i werthu i ddefnyddwyr yn uniongyrchol, drwy focsys cig a / neu focsys llysiau.

72.Mae’r diben yn is-adran (2)(c) yn cyfeirio at wella gwytnwch busnesau amaethyddol. Gallai’r cymorth a roddir at y diben hwn fod yn anelu at geisio denu newydd-ddyfodiaid i ffermio a chefnogi cynllunio ar gyfer olyniaeth.

73.Mae’r diben yn is-adran (2)(d) yn cyfeirio at gynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd. Gallai’r cymorth a roddir at y diben hwn fod yn anelu at hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar draws pob lefel gymhwysedd ac annog dysgwyr newydd ar draws y sector amaethyddol.

74.Mae’r diben a restrir yn is-adran (2)(e) yn cyfeirio at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Er enghraifft, gallai cymorth geisio annog ffermydd i leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr, gan gynnwys drwy wneud defnydd effeithlon o danwydd ac ynni, lleihau mewnbynnau allanol a chael da byw a chnydau cynhyrchiol.

75.Mae is-adran (2)(f) yn nodi’r diben o atafaelu a storio carbon i’r graddau gorau posibl. Gallai’r cymorth a roddir at y diben hwn fod yn anelu at greu stociau carbon newydd, a gwella rhai sy’n bodoli eisoes ar ffermydd, er enghraifft drwy gynyddu cyfanswm y carbon sydd mewn pridd, adfer mawndiroedd, plannu coed a/neu wrychoedd a rheoli coetir ffermydd.

76.Y diben y cyfeirir ato yn is-adran (2)(g) yw cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau. Gallai hyn olygu cefnogi ffermwr i fabwysiadu gwahanol dechnegau ffermio sy’n osgoi effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth, rhywogaethau a chynefinoedd, a sicrhau manteision iddynt.

77.Y diben a restrir yn is-adran (2)(h) yw cadw a gwella tirweddau a’r amgylchedd hanesyddol. Gallai cefnogaeth a ddarperir ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben hwn, er enghraifft, fod i gefnogi ffermwyr i gynnal adeiladau hanesyddol a all fod ganddynt ar eu tir.

78.Y diben a restrir yn is-adran (2)(i) yw gwella ansawdd yr aer. Bwriedir i’r cymorth a ddarperir ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben hwn, gael ei anelu at gamau gweithredu sy’n arwain at aer sydd â llygredd cyfyngedig (nwyon niweidiol a gronynnau a wneir gan bobl) gan gynnwys deunydd gronynnol mân (PM2.5), amonia (NH3) a chyfansoddion organig anweddol nad ydynt yn fethan (NMVOC).

79.Mae is-adran (2)(j) yn darparu ar gyfer y diben o wella ansawdd dŵr. Y nod polisi sydd wrth wraidd y diben hwn yw sicrhau bod amgylchedd y dŵr (gan gynnwys dŵr mewndirol) yn cael ei reoli’n gynaliadwy er mwyn cefnogi cymunedau iach, busnesau sy’n ffynnu a chynnydd mewn bioamrywiaeth.

80.Y diben a restrir yn is-adran (2)(k) yw cynnal a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad a’r amgylchedd hanesyddol ac ymgysylltiad y cyhoedd â hwy. Gallai’r camau gweithredu a gymerir mewn cysylltiad â’r diben hwn gynnwys cefnogi ffermwyr i wella llwybrau troed cyhoeddus i’w gwneud yn fwy hygyrch i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn.

81.Mae is-adran (2)(l) yn rhestru’r diben ynghylch lliniaru risgiau o lifogydd a sychder. Gellid darparu cefnogaeth ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben hwn, er enghraifft, i alluogi ffermydd i baratoi at gyfnodau o lawiad isel neu uchel, lleihau’r risgiau i’r fferm a chymunedau o lifogydd a sychder gan gynnwys drwy reoli llifogydd ar sail natur.

82.Y diben yn is-adran (2)(m) yw cyflawni a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid. Gallai’r gefnogaeth a ddarperir ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben hwn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr, neu eu hannog, i lunio cynllun iechyd anifeiliaid a’i weithredu a/neu gymryd camau gweithredu sy’n gwella lles anifeiliaid megis darparu cysgod neu ofod addas.

83.Mae is-adran (2)(n) yn darparu ar gyfer y diben o sicrhau effeithlonrwydd adnoddau i’r graddau gorau posibl. Gallai’r gefnogaeth a ddarperir ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben, er enghraifft, gynorthwyo ffermydd i ddilyn dull economi gylchol drwy gadw adnoddau a deunyddiau mewn defnydd cyhyd ag sy’n bosibl a lleihau gwastraff.

84.Y dibenion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(o) yw annog busnesau amaethyddol i reoli ynni yn effeithiol (gan gynnwys drwy fabwysiadu arferion effeithlonrwydd ynni ac arbed ynni, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir). Caniateir i gymorth at y diben hwn neu mewn cysylltiad ag ef gael ei ddarparu, er enghraifft, i annog busnesau amaethyddol i fabwysiadu cynlluniau rheoli ynni da a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle, gyda’r nod y bydd hynny’n cynorthwyo’r busnesau amaethyddol hynny (dros gyfnod o amser) i leihau eu costau ynni, drwy amryw o fesurau.

85.Mae adran 8(3) yn darparu y caniateir i gymorth a ddarperir o dan y pŵer i ddarparu cymorth gael ei ddarparu o dan gynllun, neu fel arall. Er enghraifft, drwy drosglwyddo gwybodaeth a gwasanaeth arloesi.

86.Mae is-adran (4) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygio’r rhestr o ddibenion drwy reoliadau (drwy ychwanegu diben newydd, dileu diben, neu newid disgrifiad o ddiben). Gallai hyn, er enghraifft, adlewyrchu newid i ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a’r amcanion RhTG. Fel arall, gellid ystyried nad yw un neu ragor o’r dibenion yn cael eu hystyried yn angenrheidiol mwyach ac felly bod angen eu disodli i adlewyrchu sefyllfa wedi’i diweddaru.

Adran 9 - Darpariaeth bellach ynghylch cymorth o dan adran 8

87.Mae adran 9 yn darparu y caniateir i gymorth a ddarperir o dan y pŵer o gymorth yn adran 8 ei roi yn ariannol neu fel arall. Yn ymarferol, mae’r modd y caiff cymorth ei roi yn debygol o ddibynnu ar unrhyw nifer o ffactorau, er enghraifft y canlyniad a fwriedir a math/nifer y derbynwyr. Mae is-adran (2) yn pennu y caniateir darparu cymorth ariannol drwy grantiau, benthyciadau neu warantau, ond caniateir darparu cymorth ar unrhyw ffurf arall.

88.Mae is-adran (3) yn darparu y gall fod angen bodloni meini prawf o ran cymhwysedd er mwyn i berson fod yn gymwys am gymorth. Penderfynir ar y meini prawf o ran cymhwysedd gan bob cynllun cymorth unigol a sefydlir yn unol ag adran 8.

89.Mae is-adran (4) yn darparu enghreifftiau o feini prawf o ran cymhwysedd pan fo cymorth yn cael ei ddarparu mewn cysylltiad â’r defnydd o dir. Gall gofynion, ymysg pethau eraill, ymwneud â nodweddion y tir, er enghraifft, nodweddion ecolegol y tir. Gall gofyniad hefyd ymwneud â’r person sy’n cael cymorth – er enghraifft, rhywun sy’n newydd i ffermio, neu rywun sydd am arallgyfeirio o arferion ffermio presennol ar y tir.

90.Mae is-adran (5) yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod amodau ar unrhyw gymorth a ddarperir: yn ymarferol, gallai enghreifftiau fod yn brawf o weithredu, amserlenni a hyd contractau.

91.Mae is-adran (6) yn datgan y caniateir i’r amodau hyn gynnwys darpariaeth i gymorth gael ei ad-dalu. Caniateir codi llog ar arian y mae’n ofynnol ei ad-dalu.

92.Mae is-adran (7) yn darparu y caniateir darparu cymorth o dan adran 8 i berson neu sefydliad sydd wedi sefydlu a/neu’n gweithredu “cynllun trydydd parti”. Rhaid i’r cymorth gael ei roi mewn cysylltiad â sefydlu neu weithredu’r “cynllun trydydd parti” hwnnw. Golyga hyn y caniateir darparu cymorth o dan adran 8 mewn cysylltiad â gwariant a ysgwyddwyd gan drydydd parti wrth sefydlu a gweithredu cynllun, ac ar gyfer cyllid a ddarperir drwy’r cynllun hwnnw. Byddai hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyllido, er enghraifft, partneriaethau lleol neu sefydliadau eraill i gyflawni prosiectau cydweithredol sy’n seiliedig ar y tirwedd sy’n gwella’r amgylchedd hanesyddol a’r tirwedd dynodedig ar draws nifer o ffermydd.

93.Mae is-adran (8) yn darparu diffiniad o “cynllun trydydd parti” at ddibenion is-adran (7): mae’n gynllun sy’n darparu cymorth ar gyfer neu mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth neu weithgareddau ategol, ac sy’n cael ei wneud gan drydydd parti (nid Gweinidogion Cymru).

94.Mae is-adrannau (9) a (10) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddirprwyo swyddogaethau mewn perthynas â rhoi cymorth gan gynnwys rhoi canllawiau neu arfer disgresiwn.

Adran 10 - Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi gwybodaeth am gymorth

95.Mae adran 10 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch cyhoeddi gwybodaeth benodedig (fel a bennir yn y rheoliadau) am gymorth sy’n cael ei ddarparu, neu sydd wedi ei ddarparu o dan adran 8. Caiff yr wybodaeth y caniateir ei phennu yn y rheoliadau gynnwys gwybodaeth am dderbynnydd unrhyw gymorth a ddarperir, swm unrhyw gymorth a ddarperir, a dibenion unrhyw gymorth a ddarperir.

96.Mae adran 10(2) yn caniatáu i’r rheoliadau osod gofynion. Felly, er enghraifft, gallai’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson - gan gynnwys Gweinidogion Cymru - ddarparu’r wybodaeth a bennir.

97.Yn nhermau polisi, bwriad cyhoeddi gwybodaeth am y ddarpariaeth o gymorth yw hyrwyddo tryloywder a chaniatáu i’r hyn sydd wedi ei gyflawni neu sy’n ofynnol o’r cymorth a roddir gael ei ddangos yn glir.

Adran 11 – Cynlluniau Cymorth Amlflwydd

98.Mae adran 11 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio ‘cynllun cymorth amlflwydd’ (CCA) ynghylch y defnydd y disgwylir ei wneud o’r pwerau o dan adran 8 yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.

99.Mae is-adran (2) yn rhoi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn yr CCA, gan gynnwys disgrifiad o gynlluniau cymorth gweithredol, neu gynlluniau cymorth y disgwylir iddynt ddod yn weithredol, yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.

100.Mae is-adran (3) yn darparu y bydd y cyfnod y mae’r CCA cyntaf yn ymwneud ag ef yn bum mlynedd, sy’n dechrau â 1 Ionawr 2025. Mae is-adran (4) yn nodi bod rhaid i CCAau dilynol ymwneud â chyfnodau nad ydynt yn fyrrach na phum mlynedd.

101.Mae is-adran (5) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod CCA yn ei le ar bob adeg.

102.Mae is-adran (6) yn darparu bod rhaid gosod y CCA gerbron y Senedd cyn dyddiad cychwyn cyfnod y cynllun: yn achos y CCA cyntaf, cyn gynted ag y bo’n ymarferol cyn cyfnod y cynllun, ac ar gyfer cynlluniau dilynol, o leiaf 12 mis cyn i gyfnod y cynllun ddechrau.

103.Mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddiwygio CCA os nad yw’r wybodaeth ynddo yn gywir mwyach cyn diwedd y cyfnod y mae’n ymwneud ag ef (er enghraifft, pan na fo cynllun cymorth yn weithredol mwyach neu pan na chaiff swyddogaethau o fewn cynllun eu cefnogi mwyach).

104.Mae is-adran (8) yn ei gwneud yn ofynnol i’r CCA diwygiedig i gael ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Senedd.

Adran 12 - Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch gwirio cymhwysedd ar gyfer cymorth, etc

105.Mae adran 12 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau, a chaniateir iddynt gael eu harfer er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch gwirio a yw’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth o dan adran 8 wedi eu bodloni a’r canlyniadau, pan nad ydynt wedi eu bodloni, ynghylch gorfodi cydymffurfedd ag amodau, ynghylch monitro i ba raddau y mae dibenion y cymorth wedi eu cyflawni, ac ynghylch ymchwilio i droseddau a amheuir. Bwriedir i’r pwerau hyn sicrhau bod cymorth amaethyddol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei weinyddu yn gywir a bod y rhai sy’n cael cymorth o dan y pŵer i ddarparu cymorth yn ddarostyngedig i graffu ac atebolrwydd priodol.

106.Mae is-adran (2) yn darparu rhestr nad yw’n gynhwysfawr o’r mathau o ddarpariaeth y caniateir eu cynnwys mewn unrhyw reoliadau a wneir o dan is-adran (1). Er yr ystyrir mai dyma rai o’r prif faterion y gallai fod angen i’r rheoliadau fynd i’r afael â hwy, caniateir i reoliadau gael eu gwneud ar gyfer unrhyw un o’r dibenion a nodir yn is-adran (1) ac ni chyfyngir ar gynnwys unrhyw reoliadau a wneir yn y dyfodol i’r meysydd hynny a restrir yn is-adran (2).

107.Mae is-adran (2)(f) yn caniatáu i reoliadau o dan adran 11 wneud darpariaeth ynghylch adennill cymorth ariannol (er enghraifft, gallai’r rheoliadau ganiatáu i’r cymorth gael ei adennill, gyda llog, pan fo person wedi torri amod).

108.Mae is-adran (2)(h) yn caniatáu i reoliadau o dan adran 11 wneud darpariaeth ynghylch y camau i’w cymryd gan berson y darperir neu y darparwyd cymorth iddo, er mwyn unioni amodau a dorrwyd.

109.Mae is-adran (2)(i) a (j) yn caniatáu i reoliadau o dan adran 11 wneud darpariaeth ynghylch cosbau ariannol, gan gynnwys sicrwydd ar gyfer taliad.

110.Mae is-adran (2)(k) yn caniatáu i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwahardd person rhag cael cymorth am gyfnod a bennir, neu hyd nes i amodau a bennir gael eu bodloni. Er enghraifft, gallai’r rheoliadau ganiatáu i’r taliad cymorth gael ei atal dros dro hyd nes bod person wedi unioni toriad.

111.Mae is-adran (2)(l) yn caniatáu i’r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer apelau.

112.Mae is-adran (2)(m) yn caniatáu i’r rheoliadau roi swyddogaethau i berson: gallai hyn er enghraifft gael ei ddefnyddio i wneud darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau i weinyddwr cynllun.

113.Gall hyn gynnwys ei gwneud yn ofynnol i gymryd camau penodol, er mwyn unioni toriad o’r fath. Caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth i adennill arian a dalwyd (â llog neu heb log), gwahardd rhywun o gynllun (am gyfnod a bennir neu hyd nes i amodau penodol gael eu bodloni) a gosod cosbau ariannol. Mae hefyd y pŵer i wneud rheoliadau sy’n rhoi swyddogaethau i eraill ac i ddarparu gweithdrefn i apelio yn erbyn penderfyniadau.

114.Mae is-adran (3) yn darparu na chaiff rheoliadau a wneir o dan adran 11 awdurdodi mynediad i annedd breifat (er enghraifft, i wirio cydymffurfedd) oni bai bod gwarant wedi ei roi gan weithdrefn farnwrol. (Mae adran 51 yn diffinio “annedd breifat”.)

115.Mae is-adran (4) yn darparu, os yw’r rheoliadau yn gwneud darpariaethau ar gyfer cosbau, y caniateir iddynt roi llog ar gosbau sydd i’w talu. Caniateir i’r llog fod yn daladwy o ddiwrnod a ddarperir yn y rheoliadau eu hunain, neu ar ddiwrnod a bennir (er enghraifft gan weinyddwr cynllun) o dan y rheoliadau.

Adran 13 - Adroddiad blynyddol ynghylch cymorth a ddarparwyd o dan adran 8

116.Mae adran 13 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio adroddiad blynyddol, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, ynghylch y cymorth ariannol a chymorth arall a ddarparwyd yn ystod y cyfnod. Mae is-adran (5) yn darparu mai’r cyfnod adrodd cyntaf yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym ac sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2025; bydd cyfnodau adrodd dilynol yn cyd-fynd â blynyddoedd ariannol (1 Ebrill hyd at 31 Mawrth).

117.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth benodol gael ei chynnwys yn yr adroddiad. Dyma gyfanswm unrhyw gymorth ariannol a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd, manylion yr holl gymorth ariannol a chymorth arall a ddarparwyd o dan bob cynllun cymorth a sefydlir o dan adran 8, a disgrifiad o unrhyw gymorth ac eithrio cymorth ariannol a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd, ond nid o dan gynllun.

118.Gall Gweinidogion Cymru, fel y nodir yn is-adran (3), gynnwys unrhyw wybodaeth arall yn yr adroddiad y maent yn ystyried ei bod yn briodol. Bydd yr hyn a ystyrir yn briodol yn ddibynnol ar amgylchiadau penodol, ond enghraifft bosibl fyddai gwybodaeth am unrhyw gymorth ariannol sy’n cael ei adennill a’r rhesymau am y cam gweithredu hwn.

119.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol a’i osod gerbron Senedd Cymru yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd.

Adran 14 - Adroddiad Effaith

120.Mae adran 14 yn nodi dyletswydd Gweinidogion Cymru i lunio (ar gyfer pob cyfnod adrodd) Adroddiad Effaith yn ymwneud â chymorth a ddarparwyd o dan adran 8. Y bwriad yw sicrhau bod effaith ac effeithiolrwydd yr holl gefnogaeth a ddarparwyd yn ystod y cyfnod hwnnw yn unol ag adran 8 yn cael eu gwerthuso bob pum mlynedd, gan gynnwys asesiad ar sut, ac i ba raddau y gwnaeth y cymorth gyflawni’r dibenion, ac i ba raddau y gwnaeth gyfrannu at gyflawni’r amcanion RhTG.

121.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Adroddiad Effaith nodi’r holl ddibenion y darparwyd cymorth ar eu cyfer o dan adran 8, yn ystod y cyfnod adrodd.

122.Mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i’r Adroddiad Effaith gynnwys asesiad o effaith ac effeithiolrwydd y cymorth a roddwyd yn ystod y cyfnod adrodd, gan gynnwys asesiad o’r canlynol: (a) ym mha fodd, ac i ba raddau, y gwnaeth y cymorth gyflawni’r dibenion a fwriadwyd; a (b) ym mha fodd, ac i ba raddau, y gwnaeth darparu’r cymorth gyfrannu at gyflawni’r amcanion RhTG. Nod nodi’r dibenion yn y modd sy’n ofynnol o dan is-adran (2) yw amlygu’r cysylltiad rhwng cymorth a ddarperir a’r canlyniad a fwriadwyd gan gymorth o’r fath a’i nod yw sicrhau bod modd mesur effaith ac effeithiolrwydd y cymorth a ddarperir yn glir yn erbyn y dibenion.

123.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru asesu ac adrodd ar unrhyw faterion eraill y maent yn ystyried eu bod yn berthnasol ar gyfer asesu effaith ac effeithiolrwydd cymorth a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys gwybodaeth ynghylch a yw unrhyw gamau gweithredu a gymerir o dan gynllun cymorth yn addas o hyd; a ydynt wedi eu cyflawni; ar y gweill o hyd; neu heb eu gweithredu, ynghyd ag unrhyw gamau unioni er mwyn gwella’r mater. Gallai’r wybodaeth hon hyd yn oed ddangos pa un a yw’r gwaith o weinyddu unrhyw gynllun yn addas i’r diben ai peidio.

124.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Asesiad Effaith a’i osod gerbron Senedd Cymru yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd.

125.Mae is-adran (6) yn diffinio’r “cyfnod adrodd” yn achos yr Adroddiad Effaith cyntaf, y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym hyd at 31 Rhagfyr 2029. Ar gyfer Adroddiadau Effaith dilynol, y ‘cyfnod adrodd’ fydd cyfnodau olynol o bum mlynedd.

126.Mae is-adran (7) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddiwygio’r cyfnod adrodd. Caiff hyn ei roi ar waith, er enghraifft, er mwyn i’r cyfnod adrodd gyd-fynd â hyd contractau’r cynlluniau o dan adran 8.

Adran 15 - Camau i’w cymryd wrth lunio adroddiad o dan adran 13

127.Mae adran 15 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i faterion penodol wrth lunio Adroddiad Effaith. Mae’r rhain yn cynnwys y dibenion a restrir yn adran 8(2), pob adroddiad blynyddol a gyhoeddir mewn perthynas â’r cyfnod y mae’r Adroddiad Effaith yn ymwneud ag ef, a’r Adroddiad Effaith diweddaraf. Mae’n ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw faterion eraill y maent yn eu bod yn briodol, gan adlewyrchu’r angen am hyblygrwydd i deilwra pob Adroddiad Effaith i unrhyw amgylchiadau penodol a allai fod yn berthnasol.

128.Y bwriad wrth wraidd hyn yw hyrwyddo a chwblhau gwerthusiad cadarn o effaith y cymorth a ddarparwyd o dan y pŵer i ddarparu cymorth.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources