Adran 8 - Pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth
68.Mae adran 8 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddarparu cymorth ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, amaethyddiaeth a gweithgareddau ategol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru. Caiff cymorth fod yn gymorth ariannol, neu fel arall, er enghraifft gallai Gweinidogion Cymru ddewis arfer y pŵer i wneud taliad am gamau gweithredu neu i ddarparu cymorth a chyngor cyfarwyddol.
69.Mae adran 8(2) yn nodi rhestr (nad yw’n gynhwysfawr) o ddibenion y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth yng Nghymru ar eu cyfer, neu mewn cysylltiad â hwy . Nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu cyfyngu gan y dibenion a restrir yn adran 8(2) a chaniateir iddynt ddarparu cymorth at ddibenion eraill, cyhyd â bod y dibenion eraill ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth a/neu weithgareddau ategol yng Nghymru. Mae’r dibenion a restrir yn adran 8(2) yn rhoi cyd-destun yn nhermau’r nodau polisi y rhagwelir cefnogaeth ar eu cyfer. Mae’r dibenion yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion RhTG y manylir arnynt yn adran 1.
70.Mae’r diben yn is-adran (2)(a) yn cyfeirio at annog cynhyrchu bwyd mewn modd sy’n amgylcheddol gynaliadwy. Er enghraifft, gellid darparu cymorth ar gyfer tyfu cnydau mewn modd sy’n lleihau neu’n dileu’r angen am wrtaith artiffisial.
71.Mae’r diben yn is-adran (2)(b) yn cyfeirio at helpu cymunedau gwledig i ffynnu, ac i gryfhau’r cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a’u cymunedau. Er enghraifft, gallai’r cymorth a roddir at y diben hwn fod yn anelu at hybu gwytnwch economaidd busnesau amaethyddol drwy ffermydd yn arallgyfeirio a chryfhau busnesau fferm er mwyn cefnogi a chyfrannu tuag at gymunedau (lleol) gwledig ffyniannus, fel cefnogi ac annog cynnydd mewn bioamrywiaeth neu wytnwch ecosystemau ar ffermydd, drwy brosiectau cydweithredol fel perllannau cymunedol, neu gynorthwyo busnesau fferm i arallgyfeirio i werthu i ddefnyddwyr yn uniongyrchol, drwy focsys cig a / neu focsys llysiau.
72.Mae’r diben yn is-adran (2)(c) yn cyfeirio at wella gwytnwch busnesau amaethyddol. Gallai’r cymorth a roddir at y diben hwn fod yn anelu at geisio denu newydd-ddyfodiaid i ffermio a chefnogi cynllunio ar gyfer olyniaeth.
73.Mae’r diben yn is-adran (2)(d) yn cyfeirio at gynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd. Gallai’r cymorth a roddir at y diben hwn fod yn anelu at hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar draws pob lefel gymhwysedd ac annog dysgwyr newydd ar draws y sector amaethyddol.
74.Mae’r diben a restrir yn is-adran (2)(e) yn cyfeirio at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Er enghraifft, gallai cymorth geisio annog ffermydd i leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr, gan gynnwys drwy wneud defnydd effeithlon o danwydd ac ynni, lleihau mewnbynnau allanol a chael da byw a chnydau cynhyrchiol.
75.Mae is-adran (2)(f) yn nodi’r diben o atafaelu a storio carbon i’r graddau gorau posibl. Gallai’r cymorth a roddir at y diben hwn fod yn anelu at greu stociau carbon newydd, a gwella rhai sy’n bodoli eisoes ar ffermydd, er enghraifft drwy gynyddu cyfanswm y carbon sydd mewn pridd, adfer mawndiroedd, plannu coed a/neu wrychoedd a rheoli coetir ffermydd.
76.Y diben y cyfeirir ato yn is-adran (2)(g) yw cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau. Gallai hyn olygu cefnogi ffermwr i fabwysiadu gwahanol dechnegau ffermio sy’n osgoi effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth, rhywogaethau a chynefinoedd, a sicrhau manteision iddynt.
77.Y diben a restrir yn is-adran (2)(h) yw cadw a gwella tirweddau a’r amgylchedd hanesyddol. Gallai cefnogaeth a ddarperir ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben hwn, er enghraifft, fod i gefnogi ffermwyr i gynnal adeiladau hanesyddol a all fod ganddynt ar eu tir.
78.Y diben a restrir yn is-adran (2)(i) yw gwella ansawdd yr aer. Bwriedir i’r cymorth a ddarperir ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben hwn, gael ei anelu at gamau gweithredu sy’n arwain at aer sydd â llygredd cyfyngedig (nwyon niweidiol a gronynnau a wneir gan bobl) gan gynnwys deunydd gronynnol mân (PM2.5), amonia (NH3) a chyfansoddion organig anweddol nad ydynt yn fethan (NMVOC).
79.Mae is-adran (2)(j) yn darparu ar gyfer y diben o wella ansawdd dŵr. Y nod polisi sydd wrth wraidd y diben hwn yw sicrhau bod amgylchedd y dŵr (gan gynnwys dŵr mewndirol) yn cael ei reoli’n gynaliadwy er mwyn cefnogi cymunedau iach, busnesau sy’n ffynnu a chynnydd mewn bioamrywiaeth.
80.Y diben a restrir yn is-adran (2)(k) yw cynnal a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad a’r amgylchedd hanesyddol ac ymgysylltiad y cyhoedd â hwy. Gallai’r camau gweithredu a gymerir mewn cysylltiad â’r diben hwn gynnwys cefnogi ffermwyr i wella llwybrau troed cyhoeddus i’w gwneud yn fwy hygyrch i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn.
81.Mae is-adran (2)(l) yn rhestru’r diben ynghylch lliniaru risgiau o lifogydd a sychder. Gellid darparu cefnogaeth ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben hwn, er enghraifft, i alluogi ffermydd i baratoi at gyfnodau o lawiad isel neu uchel, lleihau’r risgiau i’r fferm a chymunedau o lifogydd a sychder gan gynnwys drwy reoli llifogydd ar sail natur.
82.Y diben yn is-adran (2)(m) yw cyflawni a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid. Gallai’r gefnogaeth a ddarperir ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben hwn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr, neu eu hannog, i lunio cynllun iechyd anifeiliaid a’i weithredu a/neu gymryd camau gweithredu sy’n gwella lles anifeiliaid megis darparu cysgod neu ofod addas.
83.Mae is-adran (2)(n) yn darparu ar gyfer y diben o sicrhau effeithlonrwydd adnoddau i’r graddau gorau posibl. Gallai’r gefnogaeth a ddarperir ar gyfer, neu mewn cysylltiad â’r diben, er enghraifft, gynorthwyo ffermydd i ddilyn dull economi gylchol drwy gadw adnoddau a deunyddiau mewn defnydd cyhyd ag sy’n bosibl a lleihau gwastraff.
84.Y dibenion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(o) yw annog busnesau amaethyddol i reoli ynni yn effeithiol (gan gynnwys drwy fabwysiadu arferion effeithlonrwydd ynni ac arbed ynni, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir). Caniateir i gymorth at y diben hwn neu mewn cysylltiad ag ef gael ei ddarparu, er enghraifft, i annog busnesau amaethyddol i fabwysiadu cynlluniau rheoli ynni da a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle, gyda’r nod y bydd hynny’n cynorthwyo’r busnesau amaethyddol hynny (dros gyfnod o amser) i leihau eu costau ynni, drwy amryw o fesurau.
85.Mae adran 8(3) yn darparu y caniateir i gymorth a ddarperir o dan y pŵer i ddarparu cymorth gael ei ddarparu o dan gynllun, neu fel arall. Er enghraifft, drwy drosglwyddo gwybodaeth a gwasanaeth arloesi.
86.Mae is-adran (4) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygio’r rhestr o ddibenion drwy reoliadau (drwy ychwanegu diben newydd, dileu diben, neu newid disgrifiad o ddiben). Gallai hyn, er enghraifft, adlewyrchu newid i ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a’r amcanion RhTG. Fel arall, gellid ystyried nad yw un neu ragor o’r dibenion yn cael eu hystyried yn angenrheidiol mwyach ac felly bod angen eu disodli i adlewyrchu sefyllfa wedi’i diweddaru.