Search Legislation

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 1LL+CTrosolwg

1Trosolwg o’r Ddeddf honLL+C

Yn y Ddeddf hon—

(a)mae Rhan 2 yn gosod gofynion mewn cysylltiad â gwella ansawdd gwasanaethau iechyd;

(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ac ynghylch dyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd;

(c)mae Rhan 4 yn sefydlu Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau;

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad ymddiriedolaethau’r GIG; ar gyfer mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall; ac yn cynnwys darpariaeth atodol ynghylch y Ddeddf hon (gan gynnwys ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau o dan y Ddeddf).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2A. 1 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(a)

RHAN 2LL+CGWELLA GWASANAETHAU IECHYD

2Ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau iechydLL+C

(1)Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Rhan 1 (hybu a darparu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru), ar ôl adran 1 (dyletswydd Gweinidogion Cymru i hybu gwasanaethau iechyd) mewnosoder—

1AWelsh Ministers’ duty to secure quality in health services

(1)The Welsh Ministers must exercise their functions in relation to the health service with a view to securing improvement in the quality of health services.

(2)For the purposes of this section—

  • health services” means any services provided or secured in accordance with this Act;

  • quality” includes, but is not limited to, quality in terms of—

    (a)

    the effectiveness of health services,

    (b)

    the safety of health services, and

    (c)

    the experience of individuals to whom health services are provided.

(3)The Welsh Ministers must publish an annual report on the steps they have taken to comply with the duty in subsection (1).

(4)The report must include an assessment of the extent of any improvement in outcomes achieved by virtue of those steps.

(5)The Welsh Ministers must lay a copy of the report before the National Assembly for Wales.”

(3)Ym Mhennod 1 o Ran 2 (cyrff y gwasanaeth iechyd: Byrddau Iechyd Lleol), ar ôl adran 12 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol) mewnosoder—

12ALocal Health Boards’ duty to secure quality in health services

(1)Each Local Health Board must exercise its functions with a view to securing improvement in the quality of health services.

(2)For the purposes of this section—

  • health services” means any services provided or secured in accordance with this Act;

  • quality” includes, but is not limited to, quality in terms of—

    (a)

    the effectiveness of health services,

    (b)

    the safety of health services, and

    (c)

    the experience of individuals to whom health services are provided.

(3)Each Local Health Board must publish an annual report on the steps it has taken to comply with the duty in subsection (1).

(4)The report must include an assessment of the extent of any improvement in outcomes achieved by virtue of those steps.

(5)The Welsh Ministers must issue guidance to Local Health Boards in relation to the requirements imposed by subsections (1) and (3).

(6)The guidance must, in particular, include guidance about—

(a)the evidence to be used in support of an assessment required by this section, and

(b)the conduct of such an assessment.

(7)Each Local Health Board must have regard to guidance issued under subsection (5).”

(4)Ym Mhennod 2 o Ran 2 (cyrff y gwasanaeth iechyd: ymddiriedolaethau’r GIG), ar ôl adran 20 (dyletswydd gyffredinol ymddiriedolaethau’r GIG) mewnosoder—

20ADuty of NHS trusts to secure quality in health services

(1)Each NHS trust must exercise its functions with a view to securing improvement in the quality of health services.

(2)For the purposes of this section—

  • health services” means any services provided or secured in accordance with this Act;

  • quality” includes, but is not limited to, quality in terms of—

    (a)

    the effectiveness of health services,

    (b)

    the safety of health services, and

    (c)

    the experience of individuals to whom health services are provided.

(3)Each NHS trust must publish an annual report on the steps it has taken to comply with the duty in subsection (1).

(4)The report must include an assessment of the extent of any improvement in outcomes achieved by virtue of those steps.

(5)The Welsh Ministers must issue guidance to NHS trusts in relation to the requirements imposed by subsections (1) and (3).

(6)The guidance must, in particular, include guidance about—

(a)the evidence to be used in support of an assessment required by this section, and

(b)the conduct of such an assessment.

(7)Each NHS trust must have regard to guidance issued under subsection (5).”

(5)Ym Mhennod 3 o Ran 2 (cyrff y gwasanaeth iechyd: Awdurdodau Iechyd Arbennig), ar ôl adran 24 (arfer swyddogaethau’r gwasanaeth iechyd gan Awdurdodau Iechyd Arbennig) mewnosoder—

24ADuty of Special Health Authorities to secure quality in health services

(1)Each Special Health Authority must exercise its functions with a view to securing improvement in the quality of health services.

(2)For the purposes of this section—

  • health services” means any services provided or secured in accordance with this Act;

  • quality” includes, but is not limited to, quality in terms of—

    (a)

    the effectiveness of health services,

    (b)

    the safety of health services, and

    (c)

    the experience of individuals to whom health services are provided.

(3)Each Special Health Authority must publish an annual report on the steps it has taken to comply with the duty in subsection (1).

(4)The report must include an assessment of the extent of any improvement in outcomes achieved by virtue of those steps.

(5)The Welsh Ministers must issue guidance to Special Health Authorities in relation to the requirements imposed by subsections (1) and (3).

(6)The guidance must, in particular, include guidance about—

(a)the evidence to be used in support of an assessment required by this section, and

(b) the conduct of such an assessment.

(7)Each Special Health Authority must have regard to guidance issued under subsection (5).

(8)This section does not apply in relation to a cross-border Special Health Authority (within the meaning of section 8A(5)).”

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I4A. 2 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(b)

RHAN 3LL+CDYLETSWYDD GONESTRWYDD

Cymhwyso’r ddyletswyddLL+C

3Pryd y mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwysLL+C

(1)Daw’r ddyletswydd gonestrwydd yn effeithiol mewn perthynas â chorff GIG os yw’n ymddangos i’r corff fod y ddau o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni.

(2)Yr amod cyntaf yw bod person (y “defnyddiwr gwasanaeth”) y mae’r corff yn darparu neu wedi darparu gofal iechyd iddo wedi dioddef canlyniad andwyol.

(3)Yr ail amod yw bod darparu’r gofal iechyd yn ffactor, neu y gall fod wedi bod yn ffactor, a achosodd i’r defnyddiwr gwasanaeth ddioddef y canlyniad hwnnw.

(4)At ddiben yr amod cyntaf, mae defnyddiwr gwasanaeth i’w drin fel pe bai wedi dioddef canlyniad andwyol os yw’r defnyddiwr yn profi mwy nag ychydig o niwed annisgwyl neu anfwriadol neu os yw’r amgylchiadau yn golygu y gallai brofi niwed o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I6A. 3 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(c)

Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraillLL+C

4Gweithdrefn dyletswydd gonestrwyddLL+C

(1)Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer gweithdrefn (y “weithdrefn gonestrwydd”) sydd i’w dilyn gan gorff GIG y mae’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn perthynas ag ef.

(2)Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff GIG, fel rhan o’r weithdrefn gonestrwydd—

(a)wrth ddod yn ymwybodol gyntaf fod y ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol, roi hysbysiad o hyn yn unol â’r rheoliadau i’r defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw neu rywun sy’n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth;

(b)hysbysu person a grybwyllir ym mharagraff (a), yn unol â’r rheoliadau, am—

(i)pwy yw person sydd wedi ei enwebu gan y corff yn bwynt cyswllt ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd;

(ii)unrhyw ymholiadau pellach a gynhelir gan y corff mewn cysylltiad â’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd gonestrwydd yn effeithiol odanynt.

(3)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth hefyd—

(a)i’r corff gynnig ymddiheuriad;

(b)mewn cysylltiad â darparu cymorth i ddefnyddiwr gwasanaeth y rhoddir hysbysiad iddo o dan is-adran (2)(a);

(c)ynghylch cadw cofnodion.

(4)Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth arall mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I8A. 4 mewn grym ar 7.3.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/259, ergl. 2(1)(a)

I9A. 4 mewn grym ar 1.4.2023 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/370, ergl. 3(2)(a)

5Darparwyr gofal sylfaenol: dyletswydd i lunio adroddiadLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i ddarparwr gofal sylfaenol lunio adroddiad o dan yr adran hon.

(2)Rhaid i’r adroddiad ddatgan a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd gan y darparwr gofal sylfaenol.

(3)Os yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd, rhaid i’r adroddiad—

(a)pennu pa mor aml y mae hyn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn adrodd,

(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac

(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y darparwr gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.

(4)Os yw’r darparwr gofal sylfaenol, yn ystod yr un flwyddyn ariannol, wedi darparu gofal iechyd ar ran dau neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol, mae adroddiad ar wahân i’w lunio o dan yr adran hon mewn cysylltiad â phob un o’r cyrff hynny.

(5)Yn yr adran hon ac adrannau 6 i 8—

(a)mae cyfeiriadau at flwyddyn ariannol yn gyfeiriadau at bob cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

(b)mae cyfeiriadau at flwyddyn adrodd, mewn perthynas ag adroddiad, yn gyfeiriadau at y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I11A. 5 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(d)

6Cyflenwi a chrynhoi adroddiad o dan adran 5LL+C

(1)Rhaid i ddarparwr gofal sylfaenol sydd wedi llunio adroddiad o dan adran 5 mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol gyflenwi’r adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(2)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol y mae adroddiadau wedi eu cyflenwi iddo o dan is-adran (1) lunio crynodeb o’r adroddiadau hynny cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(3)Rhaid i’r crynodeb—

(a)pennu pa mor aml, yn ystod y flwyddyn adrodd, y mae’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn cysylltiad â’r gofal iechyd a ddarperir ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol gan ddarparwr gofal sylfaenol,

(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac

(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y darparwr gofal sylfaenol gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I13A. 6 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(e)

7Bwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig: gofynion adroddLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG neu Awdurdod Iechyd Arbennig lunio adroddiad o dan yr adran hon.

(2)Rhaid i’r adroddiad ddatgan a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd gan y corff.

(3)Os yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd, rhaid i’r adroddiad—

(a)pennu pa mor aml y mae hyn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn adrodd,

(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac

(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y corff gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I15A. 7 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(f)

8Cyhoeddi crynodeb adran 6 ac adroddiad adran 7LL+C

(1)Rhaid i gorff GIG y mae adran 7 yn gymwys iddo gyhoeddi’r adroddiad a lunnir ganddo o dan yr adran honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(2)Yn achos corff GIG sy’n Fwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r adroddiad gynnwys y crynodeb a lunnir ganddo o dan adran 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I17A. 8 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(g)

9CyfrinacheddLL+C

(1)Ni chaiff adroddiad a gyhoeddir gan gorff GIG o dan adran 8 enwi—

(a)unrhyw un y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu neu wedi ei ddarparu iddo gan neu ar ran y corff GIG;

(b)unrhyw un sy’n gweithredu ar ran person o fewn paragraff (a).

(2)Wrth benderfynu pa wybodaeth i’w chynnwys mewn adroddiad o dan adran 8, rhaid i gorff GIG roi sylw i’r angen i osgoi darparu gwybodaeth sy’n golygu ei bod yn debygol, o dan yr amgylchiadau, y bydd modd gwybod pwy yw’r unigolyn hwnnw, er nad yw’r wybodaeth yn ei enwi.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I19A. 9 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(h)

10Canllawiau a roddir gan Weinidogion CymruLL+C

Wrth arfer swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon, rhaid i gorff GIG roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I21A. 10 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(i)

11Dehongli “gofal iechyd” a thermau eraillLL+C

(1)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at ofal iechyd yn gyfeiriad at wasanaethau a ddarperir yng Nghymru o dan neu yn rhinwedd Deddf 2006 ar gyfer neu mewn cysylltiad ag—

(a)atal salwch, gwneud diagnosis ohono neu ei drin;

(b)hybu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

(2)Yn is-adran (1), mae i “salwch” yr ystyr a roddir i “illness” yn adran 206 o Ddeddf 2006.

(3)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at gorff GIG yn gyfeiriad at—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)ymddiriedolaeth GIG;

(c)Awdurdod Iechyd Arbennig;

(d)darparwr gofal sylfaenol.

(4)Mae person yn ddarparwr gofal sylfaenol, at ddibenion y Rhan hon, i’r graddau (a dim ond i’r graddau) y mae’r person yn darparu gofal iechyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant o dan Ran 4, 5, 6 neu 7 o Ddeddf 2006 rhwng y person a’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(5)Mae gofal iechyd a ddarperir gan un corff GIG (y “corff darparu”) ar ran corff GIG arall (“y corff GIG trefnu”), yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant a wneir o dan Ddeddf 2006 rhwng y corff darparu a’r corff trefnu, i’w drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n cael ei ddarparu gan y corff darparu, nid y corff trefnu.

(6)Mae gofal iechyd a ddarperir gan berson ac eithrio corff GIG (y “darparwr”), ar ran corff GIG, pa un ai yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant a wneir o dan Ddeddf 2006 neu fel arall, i’w drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n cael ei ddarparu gan y corff GIG, nid y darparwr.

(7)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006) ac eithrio Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG;

  • mae i “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yr ystyr a roddir gan adran 3(2);

  • mae i “gweithdrefn gonestrwydd” (“candour procedure”) yr ystyr a roddir gan adran 4(1);

  • mae “niwed” (“harm”) yn cynnwys niwed seicolegol ac, yn achos defnyddiwr gwasanaeth sy’n feichiog, golli neu niweidio’r plentyn heb ei eni.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I23A. 11 mewn grym ar 7.3.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/259, ergl. 2(1)(b)

I24A. 11 mewn grym ar 1.4.2023 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/370, ergl. 3(2)(b)

RHAN 4LL+CCORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Sefydlu ac amcan cyffredinol etc. Corff Llais y DinesyddLL+C

12Sefydlu Corff Llais y DinesyddLL+C

(1)Mae Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “Corff Llais y Dinesydd”) wedi ei sefydlu fel corff corfforedig.

(2)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad Corff Llais y Dinesydd a materion perthynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I26A. 12 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(a)

13Amcan cyffredinolLL+C

(1)Amcan cyffredinol Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yw cynrychioli buddiannau’r cyhoedd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

(2)At ddibenion cyflawni’r amcan hwnnw, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd geisio barn y cyhoedd, ym mha ffordd bynnag y mae’n meddwl ei bod yn briodol, mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

(3)Wrth wneud trefniadau i gydymffurfio ag is-adran (2), rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw’n benodol i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff, neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran, ac unrhyw unigolion y ceisir barn oddi wrthynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I28A. 13 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(j)

14Ymwybyddiaeth y cyhoedd a datganiad polisiLL+C

(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’i amcan cyffredinol ac o’i swyddogaethau.

(2)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd lunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi sy’n nodi sut y mae’n bwriadu—

(a)hybu ymwybyddiaeth o’i swyddogaethau, a

(b)ceisio barn y cyhoedd at ddibenion ei amcan cyffredinol.

(3)Rhaid i’r datganiad polisi bennu’n benodol sut y mae Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yn bwriadu sicrhau—

(a)bod y Corff yn cynrychioli buddiannau pobl ym mhob rhan o Gymru,

(b)bod y Corff yn hygyrch i bobl ledled Cymru, ac

(c)bod aelodau o staff y Corff ac unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Corff yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â phobl ledled Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I30A. 14 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(k)

Cyflwyno sylwadauLL+C

15Sylwadau i gyrff cyhoeddusLL+C

(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd gyflwyno sylwadau i berson a grybwyllir yn is-adran (2) ynghylch unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn berthnasol i ddarparu gwasanaeth iechyd neu ddarparu gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

(3)Rhaid i berson y mae sylwadau o dan is-adran (1) wedi eu cyflwyno iddo roi sylw i’r sylwadau wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae’r sylwadau yn ymwneud â hi.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r personau a grybwyllir yn is-adran (2), mewn perthynas â sylwadau a gyflwynir o dan yr adran hon.

(5)Rhaid i’r personau hynny roi sylw i’r canllawiau.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I32A. 15 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(l)

16Gwasanaethau eirioli etc. mewn cysylltiad â chwynion am wasanaethauLL+C

(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i unrhyw unigolyn sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, cwyn y mae unrhyw un o’r is-adrannau a ganlyn yn gymwys iddi.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru, yn rhinwedd adran 187 o Ddeddf 2006, drefnu i wasanaethau eirioli annibynnol gael eu darparu mewn cysylltiad â hi.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn o dan reoliadau o dan adran 171 o Ddeddf 2014 (cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol).

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn i ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) (dccc 2).

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n ymwneud ag—

(a)swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol;

(b)mater y mae Rhan 5 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3) (ymchwiliadau gan yr Ombwdsmon mewn perthynas â’r camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwyr cartrefi gofal neu ddarparwyr gofal cartref) yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 42(1)(a) a (b) o’r Ddeddf honno.

(6)Hefyd, caiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolyn sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, cwyn sy’n gallu cael ei hystyried yn sylwadau o dan adran 174 o Ddeddf 2014 (sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc.); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (7).

(7)Ni chaiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy o dan is-adran (6) i unigolyn os yw’r unigolyn yn gymwys i gael cynhorthwy mewn perthynas â’r gŵyn yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 178(1)(a) o Ddeddf 2014 (dyletswydd awdurdodau lleol i drefnu cynhorthwy ar gyfer plant mewn cysylltiad â sylwadau sy’n dod o fewn adran 174 o Ddeddf 2014).

(8)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff, neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran, ac unrhyw unigolion y darperir unrhyw gynhorthwy o dan yr adran hon iddynt neu y gellir ei ddarparu iddynt.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “Deddf 2014” yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I34A. 16 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(m)

Dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus penodol mewn cysylltiad â Chorff Llais y DinesyddLL+C

17Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y DinesyddLL+C

(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) wneud trefniadau i ddwyn gweithgareddau Corff Llais y Dinesydd i sylw pobl sy’n cael, neu a all gael, gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan neu ar ran y person.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I36A. 17 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(n)

18Dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i Gorff Llais y DinesyddLL+C

(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) gyflenwi i Gorff Llais y Dinesydd unrhyw wybodaeth y mae Corff Llais y Dinesydd yn gofyn yn rhesymol amdani at ddiben cyflawni ei swyddogaethau.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

(3)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol neu sy’n caniatáu datgelu unrhyw wybodaeth a waherddir gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(4)Rhaid i berson sy’n gwrthod datgelu gwybodaeth mewn ymateb i gais a wneir o dan is-adran (1) roi i Gorff Llais y Dinesydd ei resymau yn ysgrifenedig dros beidio â datgelu’r wybodaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I38A. 18 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(o)

Mynediad i fangreoedd gan Gorff Llais y Dinesydd: dyletswydd i roi sylw i god ymarferLL+C

19Cod ymarfer ar fynediad i fangreoeddLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch—

(a)ceisiadau a wneir gan Gorff Llais y Dinesydd i gael mynediad i fangreoedd at ddiben ceisio barn unigolion mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, a

(b)pan fo mynediad i’r mangreoedd hynny wedi ei gytuno, ymgysylltu ag unigolion yn y mangreoedd hynny at y diben hwnnw.

(2)Ystyr “mangreoedd” yn is-adran (1) yw unrhyw fangreoedd y darperir gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol ynddynt.

(3)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i’r cod.

(4)Rhaid i bob awdurdod lleol a chorff GIG roi sylw i’r cod (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.

(5)Wrth lunio’r cod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)Corff Llais y Dinesydd;

(b)pob awdurdod lleol;

(c)pob corff GIG;

(d)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I40A. 19(1)(2)(5) mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(b)

I41A. 19(3)(4) mewn grym ar 1.7.2023 gan O.S. 2023/723, ergl. 2

Cydweithredu wrth arfer swyddogaethauLL+C

20Cydweithredu rhwng y Corff, awdurdodau lleol a chyrff y GIGLL+C

(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd, awdurdodau lleol a chyrff y GIG wneud trefniadau i gydweithredu gyda golwg ar gefnogi ei gilydd wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol.

(2)At ddibenion is-adran (1) ystyr “swyddogaethau perthnasol”—

(a)mewn perthynas â’r Corff, yw ei swyddogaethau o dan adrannau 13(2) a 14(1);

(b)mewn perthynas ag awdurdodau lleol a chyrff y GIG, yw eu swyddogaethau o dan adran 17(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I43A. 20 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(p)

Dehongli’r Rhan honLL+C

21Ystyr “gwasanaethau iechyd” a “gwasanaethau cymdeithasol”LL+C

(1)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at wasanaethau iechyd yn gyfeiriadau at wasanaethau a ddarperir (pa un ai yng Nghymru neu mewn man arall) o dan neu yn rhinwedd Deddf 2006, ar gyfer neu mewn cysylltiad ag—

(a)atal salwch, gwneud diagnosis ohono neu ei drin;

(b)hybu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

(2)Yn is-adran (1), mae i “salwch” yr ystyr a roddir i “illness” yn adran 206 o Ddeddf 2006.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at wasanaethau cymdeithasol yn gyfeiriadau at wasanaethau a ddarperir wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol.

(4)Yn is-adran (3), mae i “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yr un ystyr ag sydd iddo at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (gweler, yn benodol, adran 143 o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I45A. 21 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(c)

22Ystyr termau eraillLL+C

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “corff GIG” (“NHS body”) yw—

    (a)

    Bwrdd Iechyd Lleol;

    (b)

    ymddiriedolaeth GIG;

    (c)

    Awdurdod Iechyd Arbennig.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I47A. 22 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(d)

Dileu Cynghorau Iechyd Cymuned etc.LL+C

23Dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedigLL+C

(1)Mae adran 182 o Ddeddf 2006, sy’n darparu ar gyfer parhau â Chynghorau Iechyd Cymuned neu eu sefydlu ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, wedi ei diddymu, ac mae’r Cynghorau Iechyd Cymuned hynny wedi eu dileu.

(2)Mae Atodlen 10 i Ddeddf 2006, sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch Cynghorau Iechyd Cymuned, wedi ei diddymu hefyd.

(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, mewn cysylltiad â dileu Cynghorau Iechyd Cymuned.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I49A. 23(1)(2) mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(q)

I50A. 23(3) mewn grym ar 29.3.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 2(a)

RHAN 5LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyfansoddiad ymddiriedolaethau’r GIGLL+C

24Is-gadeiryddion byrddau cyfarwyddwyr ymddiriedolaethau’r GIGLL+C

(1)Mae Rhan 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 2006 (cyfansoddiad, sefydlu etc. ymddiriedolaethau’r GIG) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 3 (bwrdd cyfarwyddwyr)—

(a)ar ôl is-baragraff (1)(a) mewnosoder—

(aa)if the Welsh Ministers consider it appropriate, a vice-chair appointed by them, and, a

(b)hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (1)(a).

(3)Ym mharagraff 4 (rheoliadau sy’n ymwneud â phenodi etc. y bwrdd cyfarwyddwyr), yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair”.

(4)Ym mharagraff 11 (tâl a lwfansau’r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—

(a)yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair (if any)”, a

(b)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair (if any)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I52A. 24 mewn grym ar 8.3.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 2(a)

CyffredinolLL+C

25RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 28 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(4)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Yn is-adran (3), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I54A. 25 mewn grym ar 7.3.2023 gan O.S. 2023/259, ergl. 2(2)(a)

26DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf 2006;

  • ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “ymddiriedolaeth GIG” (“NHS trust”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I56A. 26 mewn grym ar 8.3.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 2(b)

27Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 3 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I58A. 27 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(r)

28Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Caiff rheoliadau, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(3)Ystyr “deddfiad” yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn unrhyw un o’r canlynol, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir—

(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;

(c)is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan Ddeddf neu Fesur y cyfeirir ati neu ato ym mharagraff (a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I60A. 28 mewn grym ar 7.3.2023 gan O.S. 2023/259, ergl. 2(2)(b)

29Dod i rymLL+C

(1)Daw’r adran hon ac adran 30 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a benodir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 29 mewn grym ar 2.6.2020, gweler a. 29(1)

30Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 30 mewn grym ar 2.6.2020, gweler a. 29(1)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources