Search Legislation

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Legislation Crest

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

2020 dsc 1

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer dyletswydd i sicrhau gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau iechyd a ddarperir o dan neu yn rhinwedd Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ar gyfer dyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad â’r gwasanaethau iechyd a ddarperir gan neu ar gyfer cyrff y GIG; ar gyfer Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru; ynghylch cyfansoddiad ymddiriedolaethau’r GIG; ac at ddibenion cysylltiedig.

[1 Mehefin 2020]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1LL+CTrosolwg

1Trosolwg o’r Ddeddf honLL+C

Yn y Ddeddf hon—

(a)mae Rhan 2 yn gosod gofynion mewn cysylltiad â gwella ansawdd gwasanaethau iechyd;

(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ac ynghylch dyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd;

(c)mae Rhan 4 yn sefydlu Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau;

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad ymddiriedolaethau’r GIG; ar gyfer mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall; ac yn cynnwys darpariaeth atodol ynghylch y Ddeddf hon (gan gynnwys ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau o dan y Ddeddf).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2A. 1 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(a)

RHAN 2LL+CGWELLA GWASANAETHAU IECHYD

2Ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau iechydLL+C

(1)Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Rhan 1 (hybu a darparu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru), ar ôl adran 1 (dyletswydd Gweinidogion Cymru i hybu gwasanaethau iechyd) mewnosoder—

1AWelsh Ministers’ duty to secure quality in health services

(1)The Welsh Ministers must exercise their functions in relation to the health service with a view to securing improvement in the quality of health services.

(2)For the purposes of this section—

  • health services” means any services provided or secured in accordance with this Act;

  • quality” includes, but is not limited to, quality in terms of—

    (a)

    the effectiveness of health services,

    (b)

    the safety of health services, and

    (c)

    the experience of individuals to whom health services are provided.

(3)The Welsh Ministers must publish an annual report on the steps they have taken to comply with the duty in subsection (1).

(4)The report must include an assessment of the extent of any improvement in outcomes achieved by virtue of those steps.

(5)The Welsh Ministers must lay a copy of the report before the National Assembly for Wales.”

(3)Ym Mhennod 1 o Ran 2 (cyrff y gwasanaeth iechyd: Byrddau Iechyd Lleol), ar ôl adran 12 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol) mewnosoder—

12ALocal Health Boards’ duty to secure quality in health services

(1)Each Local Health Board must exercise its functions with a view to securing improvement in the quality of health services.

(2)For the purposes of this section—

  • health services” means any services provided or secured in accordance with this Act;

  • quality” includes, but is not limited to, quality in terms of—

    (a)

    the effectiveness of health services,

    (b)

    the safety of health services, and

    (c)

    the experience of individuals to whom health services are provided.

(3)Each Local Health Board must publish an annual report on the steps it has taken to comply with the duty in subsection (1).

(4)The report must include an assessment of the extent of any improvement in outcomes achieved by virtue of those steps.

(5)The Welsh Ministers must issue guidance to Local Health Boards in relation to the requirements imposed by subsections (1) and (3).

(6)The guidance must, in particular, include guidance about—

(a)the evidence to be used in support of an assessment required by this section, and

(b)the conduct of such an assessment.

(7)Each Local Health Board must have regard to guidance issued under subsection (5).”

(4)Ym Mhennod 2 o Ran 2 (cyrff y gwasanaeth iechyd: ymddiriedolaethau’r GIG), ar ôl adran 20 (dyletswydd gyffredinol ymddiriedolaethau’r GIG) mewnosoder—

20ADuty of NHS trusts to secure quality in health services

(1)Each NHS trust must exercise its functions with a view to securing improvement in the quality of health services.

(2)For the purposes of this section—

  • health services” means any services provided or secured in accordance with this Act;

  • quality” includes, but is not limited to, quality in terms of—

    (a)

    the effectiveness of health services,

    (b)

    the safety of health services, and

    (c)

    the experience of individuals to whom health services are provided.

(3)Each NHS trust must publish an annual report on the steps it has taken to comply with the duty in subsection (1).

(4)The report must include an assessment of the extent of any improvement in outcomes achieved by virtue of those steps.

(5)The Welsh Ministers must issue guidance to NHS trusts in relation to the requirements imposed by subsections (1) and (3).

(6)The guidance must, in particular, include guidance about—

(a)the evidence to be used in support of an assessment required by this section, and

(b)the conduct of such an assessment.

(7)Each NHS trust must have regard to guidance issued under subsection (5).”

(5)Ym Mhennod 3 o Ran 2 (cyrff y gwasanaeth iechyd: Awdurdodau Iechyd Arbennig), ar ôl adran 24 (arfer swyddogaethau’r gwasanaeth iechyd gan Awdurdodau Iechyd Arbennig) mewnosoder—

24ADuty of Special Health Authorities to secure quality in health services

(1)Each Special Health Authority must exercise its functions with a view to securing improvement in the quality of health services.

(2)For the purposes of this section—

  • health services” means any services provided or secured in accordance with this Act;

  • quality” includes, but is not limited to, quality in terms of—

    (a)

    the effectiveness of health services,

    (b)

    the safety of health services, and

    (c)

    the experience of individuals to whom health services are provided.

(3)Each Special Health Authority must publish an annual report on the steps it has taken to comply with the duty in subsection (1).

(4)The report must include an assessment of the extent of any improvement in outcomes achieved by virtue of those steps.

(5)The Welsh Ministers must issue guidance to Special Health Authorities in relation to the requirements imposed by subsections (1) and (3).

(6)The guidance must, in particular, include guidance about—

(a)the evidence to be used in support of an assessment required by this section, and

(b) the conduct of such an assessment.

(7)Each Special Health Authority must have regard to guidance issued under subsection (5).

(8)This section does not apply in relation to a cross-border Special Health Authority (within the meaning of section 8A(5)).”

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I4A. 2 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(b)

RHAN 3LL+CDYLETSWYDD GONESTRWYDD

Cymhwyso’r ddyletswyddLL+C

3Pryd y mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwysLL+C

(1)Daw’r ddyletswydd gonestrwydd yn effeithiol mewn perthynas â chorff GIG os yw’n ymddangos i’r corff fod y ddau o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni.

(2)Yr amod cyntaf yw bod person (y “defnyddiwr gwasanaeth”) y mae’r corff yn darparu neu wedi darparu gofal iechyd iddo wedi dioddef canlyniad andwyol.

(3)Yr ail amod yw bod darparu’r gofal iechyd yn ffactor, neu y gall fod wedi bod yn ffactor, a achosodd i’r defnyddiwr gwasanaeth ddioddef y canlyniad hwnnw.

(4)At ddiben yr amod cyntaf, mae defnyddiwr gwasanaeth i’w drin fel pe bai wedi dioddef canlyniad andwyol os yw’r defnyddiwr yn profi mwy nag ychydig o niwed annisgwyl neu anfwriadol neu os yw’r amgylchiadau yn golygu y gallai brofi niwed o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I6A. 3 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(c)

Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraillLL+C

4Gweithdrefn dyletswydd gonestrwyddLL+C

(1)Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer gweithdrefn (y “weithdrefn gonestrwydd”) sydd i’w dilyn gan gorff GIG y mae’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn perthynas ag ef.

(2)Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff GIG, fel rhan o’r weithdrefn gonestrwydd—

(a)wrth ddod yn ymwybodol gyntaf fod y ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol, roi hysbysiad o hyn yn unol â’r rheoliadau i’r defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw neu rywun sy’n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth;

(b)hysbysu person a grybwyllir ym mharagraff (a), yn unol â’r rheoliadau, am—

(i)pwy yw person sydd wedi ei enwebu gan y corff yn bwynt cyswllt ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd;

(ii)unrhyw ymholiadau pellach a gynhelir gan y corff mewn cysylltiad â’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd gonestrwydd yn effeithiol odanynt.

(3)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth hefyd—

(a)i’r corff gynnig ymddiheuriad;

(b)mewn cysylltiad â darparu cymorth i ddefnyddiwr gwasanaeth y rhoddir hysbysiad iddo o dan is-adran (2)(a);

(c)ynghylch cadw cofnodion.

(4)Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth arall mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I8A. 4 mewn grym ar 7.3.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/259, ergl. 2(1)(a)

I9A. 4 mewn grym ar 1.4.2023 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/370, ergl. 3(2)(a)

5Darparwyr gofal sylfaenol: dyletswydd i lunio adroddiadLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i ddarparwr gofal sylfaenol lunio adroddiad o dan yr adran hon.

(2)Rhaid i’r adroddiad ddatgan a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd gan y darparwr gofal sylfaenol.

(3)Os yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd, rhaid i’r adroddiad—

(a)pennu pa mor aml y mae hyn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn adrodd,

(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac

(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y darparwr gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.

(4)Os yw’r darparwr gofal sylfaenol, yn ystod yr un flwyddyn ariannol, wedi darparu gofal iechyd ar ran dau neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol, mae adroddiad ar wahân i’w lunio o dan yr adran hon mewn cysylltiad â phob un o’r cyrff hynny.

(5)Yn yr adran hon ac adrannau 6 i 8—

(a)mae cyfeiriadau at flwyddyn ariannol yn gyfeiriadau at bob cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

(b)mae cyfeiriadau at flwyddyn adrodd, mewn perthynas ag adroddiad, yn gyfeiriadau at y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I11A. 5 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(d)

6Cyflenwi a chrynhoi adroddiad o dan adran 5LL+C

(1)Rhaid i ddarparwr gofal sylfaenol sydd wedi llunio adroddiad o dan adran 5 mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol gyflenwi’r adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(2)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol y mae adroddiadau wedi eu cyflenwi iddo o dan is-adran (1) lunio crynodeb o’r adroddiadau hynny cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(3)Rhaid i’r crynodeb—

(a)pennu pa mor aml, yn ystod y flwyddyn adrodd, y mae’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn cysylltiad â’r gofal iechyd a ddarperir ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol gan ddarparwr gofal sylfaenol,

(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac

(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y darparwr gofal sylfaenol gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I13A. 6 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(e)

7Bwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig: gofynion adroddLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG neu Awdurdod Iechyd Arbennig lunio adroddiad o dan yr adran hon.

(2)Rhaid i’r adroddiad ddatgan a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd gan y corff.

(3)Os yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd, rhaid i’r adroddiad—

(a)pennu pa mor aml y mae hyn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn adrodd,

(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac

(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y corff gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I15A. 7 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(f)

8Cyhoeddi crynodeb adran 6 ac adroddiad adran 7LL+C

(1)Rhaid i gorff GIG y mae adran 7 yn gymwys iddo gyhoeddi’r adroddiad a lunnir ganddo o dan yr adran honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(2)Yn achos corff GIG sy’n Fwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r adroddiad gynnwys y crynodeb a lunnir ganddo o dan adran 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I17A. 8 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(g)

9CyfrinacheddLL+C

(1)Ni chaiff adroddiad a gyhoeddir gan gorff GIG o dan adran 8 enwi—

(a)unrhyw un y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu neu wedi ei ddarparu iddo gan neu ar ran y corff GIG;

(b)unrhyw un sy’n gweithredu ar ran person o fewn paragraff (a).

(2)Wrth benderfynu pa wybodaeth i’w chynnwys mewn adroddiad o dan adran 8, rhaid i gorff GIG roi sylw i’r angen i osgoi darparu gwybodaeth sy’n golygu ei bod yn debygol, o dan yr amgylchiadau, y bydd modd gwybod pwy yw’r unigolyn hwnnw, er nad yw’r wybodaeth yn ei enwi.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I19A. 9 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(h)

10Canllawiau a roddir gan Weinidogion CymruLL+C

Wrth arfer swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon, rhaid i gorff GIG roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I21A. 10 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(i)

11Dehongli “gofal iechyd” a thermau eraillLL+C

(1)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at ofal iechyd yn gyfeiriad at wasanaethau a ddarperir yng Nghymru o dan neu yn rhinwedd Deddf 2006 ar gyfer neu mewn cysylltiad ag—

(a)atal salwch, gwneud diagnosis ohono neu ei drin;

(b)hybu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

(2)Yn is-adran (1), mae i “salwch” yr ystyr a roddir i “illness” yn adran 206 o Ddeddf 2006.

(3)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at gorff GIG yn gyfeiriad at—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)ymddiriedolaeth GIG;

(c)Awdurdod Iechyd Arbennig;

(d)darparwr gofal sylfaenol.

(4)Mae person yn ddarparwr gofal sylfaenol, at ddibenion y Rhan hon, i’r graddau (a dim ond i’r graddau) y mae’r person yn darparu gofal iechyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant o dan Ran 4, 5, 6 neu 7 o Ddeddf 2006 rhwng y person a’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(5)Mae gofal iechyd a ddarperir gan un corff GIG (y “corff darparu”) ar ran corff GIG arall (“y corff GIG trefnu”), yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant a wneir o dan Ddeddf 2006 rhwng y corff darparu a’r corff trefnu, i’w drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n cael ei ddarparu gan y corff darparu, nid y corff trefnu.

(6)Mae gofal iechyd a ddarperir gan berson ac eithrio corff GIG (y “darparwr”), ar ran corff GIG, pa un ai yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant a wneir o dan Ddeddf 2006 neu fel arall, i’w drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n cael ei ddarparu gan y corff GIG, nid y darparwr.

(7)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006) ac eithrio Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG;

  • mae i “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yr ystyr a roddir gan adran 3(2);

  • mae i “gweithdrefn gonestrwydd” (“candour procedure”) yr ystyr a roddir gan adran 4(1);

  • mae “niwed” (“harm”) yn cynnwys niwed seicolegol ac, yn achos defnyddiwr gwasanaeth sy’n feichiog, golli neu niweidio’r plentyn heb ei eni.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I23A. 11 mewn grym ar 7.3.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/259, ergl. 2(1)(b)

I24A. 11 mewn grym ar 1.4.2023 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/370, ergl. 3(2)(b)

RHAN 4LL+CCORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Sefydlu ac amcan cyffredinol etc. Corff Llais y DinesyddLL+C

12Sefydlu Corff Llais y DinesyddLL+C

(1)Mae Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “Corff Llais y Dinesydd”) wedi ei sefydlu fel corff corfforedig.

(2)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad Corff Llais y Dinesydd a materion perthynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I26A. 12 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(a)

13Amcan cyffredinolLL+C

(1)Amcan cyffredinol Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yw cynrychioli buddiannau’r cyhoedd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

(2)At ddibenion cyflawni’r amcan hwnnw, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd geisio barn y cyhoedd, ym mha ffordd bynnag y mae’n meddwl ei bod yn briodol, mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

(3)Wrth wneud trefniadau i gydymffurfio ag is-adran (2), rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw’n benodol i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff, neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran, ac unrhyw unigolion y ceisir barn oddi wrthynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I28A. 13 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(j)

14Ymwybyddiaeth y cyhoedd a datganiad polisiLL+C

(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’i amcan cyffredinol ac o’i swyddogaethau.

(2)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd lunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi sy’n nodi sut y mae’n bwriadu—

(a)hybu ymwybyddiaeth o’i swyddogaethau, a

(b)ceisio barn y cyhoedd at ddibenion ei amcan cyffredinol.

(3)Rhaid i’r datganiad polisi bennu’n benodol sut y mae Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yn bwriadu sicrhau—

(a)bod y Corff yn cynrychioli buddiannau pobl ym mhob rhan o Gymru,

(b)bod y Corff yn hygyrch i bobl ledled Cymru, ac

(c)bod aelodau o staff y Corff ac unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Corff yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â phobl ledled Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I30A. 14 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(k)

Cyflwyno sylwadauLL+C

15Sylwadau i gyrff cyhoeddusLL+C

(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd gyflwyno sylwadau i berson a grybwyllir yn is-adran (2) ynghylch unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn berthnasol i ddarparu gwasanaeth iechyd neu ddarparu gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

(3)Rhaid i berson y mae sylwadau o dan is-adran (1) wedi eu cyflwyno iddo roi sylw i’r sylwadau wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae’r sylwadau yn ymwneud â hi.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r personau a grybwyllir yn is-adran (2), mewn perthynas â sylwadau a gyflwynir o dan yr adran hon.

(5)Rhaid i’r personau hynny roi sylw i’r canllawiau.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I32A. 15 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(l)

16Gwasanaethau eirioli etc. mewn cysylltiad â chwynion am wasanaethauLL+C

(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i unrhyw unigolyn sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, cwyn y mae unrhyw un o’r is-adrannau a ganlyn yn gymwys iddi.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru, yn rhinwedd adran 187 o Ddeddf 2006, drefnu i wasanaethau eirioli annibynnol gael eu darparu mewn cysylltiad â hi.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn o dan reoliadau o dan adran 171 o Ddeddf 2014 (cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol).

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn i ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) (dccc 2).

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n ymwneud ag—

(a)swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol;

(b)mater y mae Rhan 5 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3) (ymchwiliadau gan yr Ombwdsmon mewn perthynas â’r camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwyr cartrefi gofal neu ddarparwyr gofal cartref) yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 42(1)(a) a (b) o’r Ddeddf honno.

(6)Hefyd, caiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolyn sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, cwyn sy’n gallu cael ei hystyried yn sylwadau o dan adran 174 o Ddeddf 2014 (sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc.); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (7).

(7)Ni chaiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy o dan is-adran (6) i unigolyn os yw’r unigolyn yn gymwys i gael cynhorthwy mewn perthynas â’r gŵyn yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 178(1)(a) o Ddeddf 2014 (dyletswydd awdurdodau lleol i drefnu cynhorthwy ar gyfer plant mewn cysylltiad â sylwadau sy’n dod o fewn adran 174 o Ddeddf 2014).

(8)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff, neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran, ac unrhyw unigolion y darperir unrhyw gynhorthwy o dan yr adran hon iddynt neu y gellir ei ddarparu iddynt.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “Deddf 2014” yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I34A. 16 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(m)

Dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus penodol mewn cysylltiad â Chorff Llais y DinesyddLL+C

17Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y DinesyddLL+C

(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) wneud trefniadau i ddwyn gweithgareddau Corff Llais y Dinesydd i sylw pobl sy’n cael, neu a all gael, gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan neu ar ran y person.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I36A. 17 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(n)

18Dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i Gorff Llais y DinesyddLL+C

(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) gyflenwi i Gorff Llais y Dinesydd unrhyw wybodaeth y mae Corff Llais y Dinesydd yn gofyn yn rhesymol amdani at ddiben cyflawni ei swyddogaethau.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

(3)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol neu sy’n caniatáu datgelu unrhyw wybodaeth a waherddir gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(4)Rhaid i berson sy’n gwrthod datgelu gwybodaeth mewn ymateb i gais a wneir o dan is-adran (1) roi i Gorff Llais y Dinesydd ei resymau yn ysgrifenedig dros beidio â datgelu’r wybodaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I38A. 18 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(o)

Mynediad i fangreoedd gan Gorff Llais y Dinesydd: dyletswydd i roi sylw i god ymarferLL+C

19Cod ymarfer ar fynediad i fangreoeddLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch—

(a)ceisiadau a wneir gan Gorff Llais y Dinesydd i gael mynediad i fangreoedd at ddiben ceisio barn unigolion mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, a

(b)pan fo mynediad i’r mangreoedd hynny wedi ei gytuno, ymgysylltu ag unigolion yn y mangreoedd hynny at y diben hwnnw.

(2)Ystyr “mangreoedd” yn is-adran (1) yw unrhyw fangreoedd y darperir gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol ynddynt.

(3)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i’r cod.

(4)Rhaid i bob awdurdod lleol a chorff GIG roi sylw i’r cod (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.

(5)Wrth lunio’r cod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)Corff Llais y Dinesydd;

(b)pob awdurdod lleol;

(c)pob corff GIG;

(d)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I40A. 19(1)(2)(5) mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(b)

I41A. 19(3)(4) mewn grym ar 1.7.2023 gan O.S. 2023/723, ergl. 2

Cydweithredu wrth arfer swyddogaethauLL+C

20Cydweithredu rhwng y Corff, awdurdodau lleol a chyrff y GIGLL+C

(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd, awdurdodau lleol a chyrff y GIG wneud trefniadau i gydweithredu gyda golwg ar gefnogi ei gilydd wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol.

(2)At ddibenion is-adran (1) ystyr “swyddogaethau perthnasol”—

(a)mewn perthynas â’r Corff, yw ei swyddogaethau o dan adrannau 13(2) a 14(1);

(b)mewn perthynas ag awdurdodau lleol a chyrff y GIG, yw eu swyddogaethau o dan adran 17(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I43A. 20 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(p)

Dehongli’r Rhan honLL+C

21Ystyr “gwasanaethau iechyd” a “gwasanaethau cymdeithasol”LL+C

(1)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at wasanaethau iechyd yn gyfeiriadau at wasanaethau a ddarperir (pa un ai yng Nghymru neu mewn man arall) o dan neu yn rhinwedd Deddf 2006, ar gyfer neu mewn cysylltiad ag—

(a)atal salwch, gwneud diagnosis ohono neu ei drin;

(b)hybu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

(2)Yn is-adran (1), mae i “salwch” yr ystyr a roddir i “illness” yn adran 206 o Ddeddf 2006.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at wasanaethau cymdeithasol yn gyfeiriadau at wasanaethau a ddarperir wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol.

(4)Yn is-adran (3), mae i “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yr un ystyr ag sydd iddo at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (gweler, yn benodol, adran 143 o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I45A. 21 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(c)

22Ystyr termau eraillLL+C

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “corff GIG” (“NHS body”) yw—

    (a)

    Bwrdd Iechyd Lleol;

    (b)

    ymddiriedolaeth GIG;

    (c)

    Awdurdod Iechyd Arbennig.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I47A. 22 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(d)

Dileu Cynghorau Iechyd Cymuned etc.LL+C

23Dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedigLL+C

(1)Mae adran 182 o Ddeddf 2006, sy’n darparu ar gyfer parhau â Chynghorau Iechyd Cymuned neu eu sefydlu ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, wedi ei diddymu, ac mae’r Cynghorau Iechyd Cymuned hynny wedi eu dileu.

(2)Mae Atodlen 10 i Ddeddf 2006, sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch Cynghorau Iechyd Cymuned, wedi ei diddymu hefyd.

(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, mewn cysylltiad â dileu Cynghorau Iechyd Cymuned.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I49A. 23(1)(2) mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(q)

I50A. 23(3) mewn grym ar 29.3.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 2(a)

RHAN 5LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyfansoddiad ymddiriedolaethau’r GIGLL+C

24Is-gadeiryddion byrddau cyfarwyddwyr ymddiriedolaethau’r GIGLL+C

(1)Mae Rhan 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 2006 (cyfansoddiad, sefydlu etc. ymddiriedolaethau’r GIG) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 3 (bwrdd cyfarwyddwyr)—

(a)ar ôl is-baragraff (1)(a) mewnosoder—

(aa)if the Welsh Ministers consider it appropriate, a vice-chair appointed by them, and, a

(b)hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (1)(a).

(3)Ym mharagraff 4 (rheoliadau sy’n ymwneud â phenodi etc. y bwrdd cyfarwyddwyr), yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair”.

(4)Ym mharagraff 11 (tâl a lwfansau’r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—

(a)yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair (if any)”, a

(b)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair (if any)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I52A. 24 mewn grym ar 8.3.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 2(a)

CyffredinolLL+C

25RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 28 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(4)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Yn is-adran (3), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I54A. 25 mewn grym ar 7.3.2023 gan O.S. 2023/259, ergl. 2(2)(a)

26DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf 2006;

  • ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “ymddiriedolaeth GIG” (“NHS trust”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I56A. 26 mewn grym ar 8.3.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 2(b)

27Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 3 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I58A. 27 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(r)

28Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Caiff rheoliadau, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(3)Ystyr “deddfiad” yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn unrhyw un o’r canlynol, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir—

(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;

(c)is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan Ddeddf neu Fesur y cyfeirir ati neu ato ym mharagraff (a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I60A. 28 mewn grym ar 7.3.2023 gan O.S. 2023/259, ergl. 2(2)(b)

29Dod i rymLL+C

(1)Daw’r adran hon ac adran 30 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a benodir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 29 mewn grym ar 2.6.2020, gweler a. 29(1)

30Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 30 mewn grym ar 2.6.2020, gweler a. 29(1)

(a gyflwynir gan adran 12(2))

ATODLEN 1LL+CCorff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru

RHAN 1LL+CStatws

StatwsLL+C

1(1)Nid yw Corff Llais y Dinesydd i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2)Nid yw eiddo’r Corff i’w ystyried yn eiddo i’r Goron, nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I64Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

RHAN 2LL+CAelodau

AelodaethLL+C

2(1)Aelodau Corff Llais y Dinesydd yw—

(a)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn aelod-gadeirydd iddo,

(b)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn ddirprwy i’r aelod-gadeirydd,

(c)o leiaf 6 ond dim mwy nag 8 person arall a benodir gan Weinidogion Cymru,

(d)ei brif weithredwr (gweler paragraff 9), ac

(e)pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan y Corff, berson a benodir yn aelod cyswllt iddo (gweler paragraff 6).

(2)Yn yr Atodlen hon, cyfeirir ar y cyd at yr aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru fel “aelodau anweithredol”; ac mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at arfer swyddogaeth gan yr aelodau anweithredol yn gyfeiriad at yr aelodau anweithredol yn arfer y swyddogaeth fel pwyllgor o’r Corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I66Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredolLL+C

3Caiff person ei anghymhwyso rhag cael ei benodi’n aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd, os yw’r person yn aelod o staff y Corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I68Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Telerau aelodaeth anweithredolLL+C

4(1)Mae aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (4) a pharagraff 5.

(2)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 4 blynedd.

(3)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod anweithredol gael ei ailbenodi’n aelod anweithredol unwaith yn unig (ac mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).

(4)Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(5)Caiff Corff Llais y Dinesydd, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—

(a)talu tâl, treuliau a lwfansau i’w aelodau anweithredol;

(b)talu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol o’r Corff, neu mewn cysylltiad â phersonau o’r fath, a symiau am ddarparu pensiynau neu tuag at ddarparu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol o’r Corff, neu mewn cysylltiad â phersonau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I70Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Diswyddo aelodau anweithredolLL+C

5(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd ddiswyddo’r person hwnnw os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)bod y person yn anaddas i barhau’n aelod, neu

(b)nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod anweithredol o’r Corff atal y person hwnnw dros dro o’i swydd os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3)Mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol o’r Corff os daw’r person yn aelod o staff y Corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I72Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Penodi’r aelod cyswlltLL+C

6(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—

(a)bo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan Gorff Llais y Dinesydd, a

(b)bo swydd yr aelod cyswllt yn wag.

(2)Rhaid i’r aelodau anweithredol wahodd pob un o’r undebau llafur a gydnabyddir gan y Corff i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y Corff.

(3)Rhaid i’r gwahoddiad bennu’r cyfnod y mae enwebiad i’w wneud ynddo.

(4)Rhaid i’r aelodau anweithredol benodi person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3), fel aelod cyswllt y Corff.

(5)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y Corff, ond os yw’r person—

(a)yn aelod o staff y Corff, a

(b)yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan y Corff.

(6)Yn y Rhan hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I74Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(s)

Telerau aelodaeth gyswllt etc.LL+C

7(1)Nid yw aelod cyswllt o Gorff Llais y Dinesydd yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw drafodion gan y Corff.

(2)Mae aelod cyswllt o’r Corff yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir gan yr aelodau anweithredol yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (5) a pharagraff 8.

(3)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod cyswllt fod yn hwy na 4 blynedd.

(4)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod cyswllt gael ei ailbenodi o dan baragraff 6 yn aelod cyswllt (ac mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).

(5)Caiff aelod cyswllt o’r Corff ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau anweithredol.

(6)Caiff Corff Llais y Dinesydd dalu treuliau i aelod cyswllt.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I76Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(s)

Anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredolLL+C

8(1)Caiff yr aelodau anweithredol drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod cyswllt Corff Llais y Dinesydd ddiswyddo’r person hwnnw fel yr aelod cyswllt os ydynt wedi eu bodloni—

(a)bod y person yn anaddas i barhau’n aelod, neu

(b)nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2)Caiff yr aelodau anweithredol drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod cyswllt y Corff atal y person hwnnw dros dro o’i swydd fel yr aelod cyswllt, os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3)Mae aelod cyswllt yn peidio â dal swydd os yw’r aelod yn peidio â bod yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt (gweler paragraff 6(5)).

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I78Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(s)

RHAN 3LL+CStaff

Prif weithredwrLL+C

9(1)Rhaid i aelodau anweithredol Corff Llais y Dinesydd benodi person yn brif weithredwr iddo.

(2)Penodir y prif weithredwr ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) a bennir gan yr aelodau anweithredol yn nhelerau’r penodiad.

(3)Ni chaniateir gwneud penodiad o dan y paragraff hwn heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I80Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Staff eraillLL+C

10(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd benodi aelodau eraill o staff, yn ogystal â phrif weithredwr.

(2)Penodir aelod o staff o dan y paragraff hwn ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) a bennir gan y Corff yn nhelerau’r penodiad.

(3)Ni chaiff y Corff gytuno ar delerau ac amodau o ran tâl, lwfansau neu bensiwn heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I82Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

RHAN 4LL+CSwyddogaethau Ategol etc.

PwyllgorauLL+C

11(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau.

(2)Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Corff neu fod â phersonau o’r fath yn unig.

(3)Caiff y Corff dalu treuliau a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, a

(b)nad yw’n aelod o’r Corff, nac yn aelod o’i staff.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I84Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

DirprwyoLL+C

12(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor—

(a)o’i bwyllgorau,

(b)o’i is-bwyllgorau,

(c)o’i aelodau, neu

(d)o’i staff.

(2)Nid yw trefniant o dan is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb y Corff am arfer swyddogaeth ddirprwyedig, nac ar ei allu i arfer swyddogaeth ddirprwyedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I86Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Pwerau atodolLL+C

13(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’u harfer.

(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i’r Corff fenthyca arian.

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I88Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

RHAN 5LL+CGweithdrefn etc.

GweithdrefnLL+C

14(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd wneud rheolau i reoleiddio ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm).

(2)Rhaid i’r Corff wneud rheolau i reoleiddio gweithdrefn ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau (gan gynnwys cworwm).

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I90Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Dilysrwydd trafodion a gweithredoeddLL+C

15Nid yw’r materion a ganlyn yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion a gweithredoedd Corff Llais y Dinesydd (nac ar ddilysrwydd trafodion a gweithredoedd ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau)—

(a)unrhyw swydd wag ymhlith aelodaeth y Corff, neu

(b)unrhyw ddiffyg o ran penodiad aelod.

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I92Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

SêlLL+C

16(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd fod â sêl.

(2)Rhaid i’r weithred o osod y sêl gael ei dilysu drwy lofnod—

(a)unrhyw aelod o’r Corff, neu

(b)unrhyw berson arall sydd wedi ei awdurdodi gan y Corff at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I94Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

TystiolaethLL+C

17Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei gweithredu’n briodol o dan sêl Corff Llais y Dinesydd neu wedi ei llofnodi ar ei ran i’w derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, i’w chymryd fel pe bai wedi ei gweithredu neu ei llofnodi felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I96Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

RHAN 6LL+CMaterion Ariannol

CyllidLL+C

18Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i Gorff Llais y Dinesydd o unrhyw symiau, ac ar unrhyw adegau, ac yn unol ag unrhyw amodau, y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I98Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Swyddog cyfrifydduLL+C

19(1)Prif weithredwr Corff Llais y Dinesydd yw ei swyddog cyfrifyddu.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Corff, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru.

(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Corff;

(c)cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd y Corff o’i adnoddau;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu ei Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I99Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I100Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

CyfrifonLL+C

20(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd, ar gyfer pob blwyddyn ariannol—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â’r cyfrifon hynny, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon.

(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,

(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno, ac

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.

(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Corff gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I101Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I102Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

ArchwilioLL+C

21(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob datganiad o gyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Gorff Llais y Dinesydd o dan baragraff 20(3)(b).

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno.

(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod pan gyflwynir y datganiad o gyfrifon (“y cyfnod o 4 mis”), osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad, neu

(b)os nad yw’n rhesymol ymarferol cydymffurfio â pharagraff (a), ddatganiad i’r perwyl hwnnw, y mae rhaid iddo gynnwys rhesymau o ran pam mae hyn yn wir.

(4)Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gosod datganiad o dan is-baragraff (3)(b) mewn perthynas â datganiad o gyfrifon, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol osod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 4 mis.

(5)Wrth gydymffurfio ag is-baragraff (2) rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn benodol, archwilio a aed, ym marn yr Archwilydd Cyffredinol, i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef, yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sy’n llywodraethu’r gwariant hwnnw, ac adrodd ar hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I103Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I104Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

RHAN 7LL+CGofynion Adrodd etc.

Cynllun blynyddolLL+C

22(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gyhoeddi cynllun sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i gynllun o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad o amcanion a blaenoriaethau’r Corff am y flwyddyn.

(3)Cyn cyhoeddi cynllun o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Corff ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ystyried eu bod yn briodol ynghylch ei amcanion a blaenoriaethau arfaethedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I105Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I106Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.10.2022 gan O.S. 2022/996, ergl. 2

Adroddiadau blynyddolLL+C

23(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i’r Corff—

(a)anfon copi o’i adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru;

(b)gosod copi o’i adroddiad blynyddol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I107Atod. 1 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I108Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Darparu gwybodaeth i Weinidogion CymruLL+C

24Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau sy’n ofynnol ganddynt o bryd i’w gilydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I109Atod. 1 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I110Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

RHAN 8LL+CDehongli

Dehongli cyffredinolLL+C

25Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “aelod anweithredol” yr ystyr a roddir gan baragraff 2(2);

  • ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth.

Gwybodaeth Cychwyn

I111Atod. 1 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I112Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

(a gyflwynir gan adran 23(3))

ATODLEN 2LL+CTrosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau

Cynlluniau trosglwyddoLL+C

1(1)Caiff Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, wneud un neu ragor o gynlluniau trosglwyddo.

(2)Mae cynllun trosglwyddo yn gynllun sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i Gorff Llais y Dinesydd unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau a grybwyllir yn is-baragraff (3).

(3)Mae’r eiddo, yr hawliau a’r rhwymedigaethau yn eiddo ac yn hawliau a gaffaelir, neu’n rhwymedigaethau yr eir iddynt, gan—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)ymddiriedolaeth GIG.

(4)Ymhlith y pethau y caniateir eu trosglwyddo o dan gynllun trosglwyddo mae—

(a)eiddo, hawliau a rhwymedigaethau na ellid eu trosglwyddo fel arall;

(b)eiddo a gaffaelir, a hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi, ar ôl i’r cynllun gael ei wneud.

(5)Caiff cynllun trosglwyddo wneud darpariaeth ganlyniadol, atodol, gysylltiedig, drosiannol neu ddarfodol.

(6)Yn rhinwedd is-baragraff (5), caiff cynllun trosglwyddo, er enghraifft—

(a)creu hawliau, neu osod rhwymedigaethau, mewn perthynas ag eiddo neu hawliau a drosglwyddir;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch effaith barhaus pethau a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch parhad pethau (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd wrthi’n cael eu gwneud mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;

(d)gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu perchnogaeth ar eiddo neu ddefnydd o eiddo;

(e)gwneud darpariaeth i gyfeiriadau at Lywodraeth Cymru neu Weinidogion Cymru, neu gyfeiriadau at Fwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG, mewn offeryn neu mewn dogfen arall mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir, gael eu trin fel cyfeiriadau at Gorff Llais y Dinesydd;

(f)gwneud yr un ddarpariaeth â darpariaeth a wneir gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), neu ddarpariaeth sy’n debyg i’r ddarpariaeth honno, mewn achos pan na fo’r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

(7)Caiff cynllun trosglwyddo ddarparu—

(a)ar gyfer ei addasu drwy gytundeb;

(b)i addasiadau gael effaith o’r dyddiad y daeth y cynllun yn effeithiol.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw gynllun trosglwyddo gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(9)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi mewn perthynas â chontract cyflogaeth;

(b)mae cyfeiriadau at drosglwyddo eiddo yn cynnwys cyfeiriadau at roi les.

Gwybodaeth Cychwyn

I113Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I114Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 29.3.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 2(b)

(a gyflwynir gan adran 27)

ATODLEN 3LL+CMân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol

RHAN 1LL+CDiwygiadau a diddymiadau sy’n ymwneud â Rhan 2

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43)LL+C

1Mae Rhan 2 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (safonau mewn perthynas â’r gofal iechyd a ddarperir gan neu ar gyfer cyrff GIG Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I115Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I116Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

2Mae adran 45(1) wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I117Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I118Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

3Yn adran 47 (pŵer i lunio a chyhoeddi safonau mewn perthynas â darparu gofal iechyd), yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “every” hyd at y diwedd rhodder “a Welsh NHS body in discharging a duty under section 12A(1), 20A(1) or 24A(1) of the National Health Service (Wales) Act 2006 (duties to secure quality in the provision of health services).”

Gwybodaeth Cychwyn

I119Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I120Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

4Yn adran 70 (adolygiadau ac ymchwiliadau sy’n ymwneud â Chymru), yn is-adran (3), yn lle’r geiriau o “arrangements” hyd at y diwedd rhodder “steps taken by a Welsh NHS body for the purpose of discharging a duty under section 12A(1), 20A(1) or 24A(1) of the National Health Service (Wales) Act 2006 (duties to secure quality in the provision of health services).”

Gwybodaeth Cychwyn

I121Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I122Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

RHAN 2LL+CDiwygiadau a diddymiadau sy’n ymwneud â Rhan 4

Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (p. 67)LL+C

5Yn Atodlen 1 i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (cyrff y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt), ym mharagraff 1, ar ôl is-baragraff (bj) mewnosoder—

(bja)the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales;.

Gwybodaeth Cychwyn

I123Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I124Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20)LL+C

6Yn adran 134 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (gohebiaeth cleifion)—

(a)ar ôl is-adran (3)(ca) mewnosoder—

(cb)the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales;;

(b)yn is-adran (3)(e), hepgorer “, a Community Health Council”.

Gwybodaeth Cychwyn

I125Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I126Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988 (p. 24)LL+C

7Mae Deddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988 wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I127Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I128Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36)LL+C

8Yn Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (awdurdodau cyhoeddus)—

(a)yn Rhan 3 (y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru a Lloegr), hepgorer paragraff 41;

(b)yn Rhan 6 (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol), ar ôl y cofnod ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru mewnosoder—

  • The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales.

Gwybodaeth Cychwyn

I129Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I130Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)LL+C

9Yn adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ystyr “cofnodion cyhoeddus Cymru”), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales,.

Gwybodaeth Cychwyn

I131Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I132Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15)LL+C

10Yn Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus), yn Rhan 2 (awdurdodau Cymreig perthnasol)—

(a)o dan y pennawd “National Health Service”—

(i)hepgorer y geiriau “A Community Health Council in Wales.”;

(ii)hepgorer y geiriau “The Board of Community Health Councils in Wales or Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.”;

(b)o dan y pennawd “other public authorities”, ar ôl y cofnod ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru mewnosoder—

  • The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales or Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I133Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I134Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)LL+C

11Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (cyrff cyhoeddus etc.: safonau), yn y tabl —

(a)hepgorer y cofnod ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru;

(b)hepgorer y cofnod ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned;

(c)o dan y pennawd “Cyffredinol”, ar ôl y cofnod ar gyfer Comisiynydd y Gronfa Gymdeithasol mewnosoder—

Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales”)Safonau cyflenwi gwasanaethau
Safonau llunio polisi
Safonau gweithredu
Safonau cadw cofnodion.

Gwybodaeth Cychwyn

I135Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I136Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)LL+C

12Yn adran 32 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (partneriaid eraill byrddau gwasanaethau cyhoeddus)—

(a)hepgorer is-adran (1)(c);

(b)ar ôl is-adran (1)(b) mewnosoder—

(ba)Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru;.

Gwybodaeth Cychwyn

I137Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I138Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (p. 6)LL+C

13Yn Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (awdurdodau penodedig), yn Rhan 1 (Cyffredinol: Cymru a Lloegr), o dan y pennawd “Health and social care”, hepgorer y geiriau “A Community Health Council in Wales.”

Gwybodaeth Cychwyn

I139Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I140Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2)LL+C

14Yn adran 177 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (ystyr awdurdod perthnasol yn Rhan 9 o’r Ddeddf)—

(a)hepgorer is-adran (1)(g), a

(b)hepgorer is-adran (2)(c).

Gwybodaeth Cychwyn

I141Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I142Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (p. 30)LL+C

15Yn Atodlen 4 i Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (personau penodedig at ddibenion datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), yn Rhan 2 (cyrff Cymreig)—

(a)ym mharagraff 35, yn lle “A Community Health Council in Wales.” rhodder “The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales.”;

(b)hepgorer paragraff 38.

Gwybodaeth Cychwyn

I143Atod. 3 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I144Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 (O.S. 2018/441)LL+C

16(1)Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn rheoliad 3(2)(b) yn lle “Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt” rhodder “Corff Llais y Dinesydd sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo”.

(3)Yn Atodlen 6—

(a)hepgorer y cofnod ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru;

(b)hepgorer y cofnod ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned;

(c)yn y lle priodol mewnosoder—

  • Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales”).

Gwybodaeth Cychwyn

I145Atod. 3 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I146Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3)LL+C

17(1)Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 16 (pŵer i ymchwilio i wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd), yn y diffiniad o “awdurdod rhestredig perthnasol” yn is-adran (4)—

(a)hepgorer paragraff (a);

(b)hepgorer paragraff (e);

(c)ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(ia)Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru;.

(3)Yn Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig), o dan y pennawd “Iechyd a gofal cymdeithasol”—

(a)hepgorer y geiriau “Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.”;

(b)hepgorer y geiriau “Cyngor Iechyd Cymuned.”;

(c)ar ôl y cofnod olaf mewnosoder—

  • Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I147Atod. 3 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I148Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

RHAN 3LL+CDiwygio Deddf 2006: Gwasanaethau Eirioli Annibynnol

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42)LL+C

18Yn adran 187 o Ddeddf 2006 (dyletswydd Gweinidogion Cymru i drefnu i wasanaethau eirioli annibynnol gael eu darparu)—

(a)yn is-adran (2)(ca), ar ôl “health service body” mewnosoder “, family health service provider in Wales, independent provider”;

(b)yn is-adran (3), yn y lle priodol, mewnosoder—

  • family health service provider in Wales” has the same meaning as it has in the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019 (see, in particular, section 78 of that Act),”..

Gwybodaeth Cychwyn

I149Atod. 3 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I150Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources