Search Legislation

Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) 2022.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i blant neu ddisgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—

(i)

mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu

(ii)

gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312(1) o Ddeddf 1996(1);

mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 2 o Ddeddf 2018;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 12” (“year 12”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 17 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 13” (“year 13”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 18 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Medi;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r plant neu’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;

ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2018;

mae i “darpariaeth anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs provision” yn adran 312(4) o Ddeddf 1996(2);

mae i “darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“provider of funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(2)(a) o Ddeddf 2021;

ystyr “datganiad anghenion addysgol arbennig” (“statement of special educational needs”) yw datganiad o fewn ystyr adran 324 o Ddeddf 1996(3);

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(4);

ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(5);

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996(6);

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant neu ddisgyblion mewn lleoliad y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn academaidd benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

ystyr “lleoliad” (“setting”) yw—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(c)

uned cyfeirio disgyblion, a

(d)

darpariaeth addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf 1996;

mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

mae i “uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol a gynhelir o fewn ystyr adran 79(1)(a) a (b) o Ddeddf 2021.

Darpariaeth drosiannol

2.  Hyd nes bod Rhan 4 o Ddeddf 1996 wedi ei diddymu gan Ddeddf 2018, mae cyfeiriadau yn Rhan 2 o Ddeddf 2021—

(a)at “darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol” yn cael eu trin fel pe baent yn cynnwys “darpariaeth addysgol arbennig”;

(b)at “anghenion dysgu ychwanegol” yn cael eu trin fel pe baent yn cynnwys “anghenion addysgol arbennig”; ac

(c)at “cynllun datblygu unigol” yn cael eu trin fel pe baent yn cynnwys “datganiad o anghenion addysgol arbennig”.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 14 Mehefin 2022: yn rhannol

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 14 Mehefin 2022—

(a)adrannau 42 a 43 at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 42, a

(b)adran 69 at ddiben gwneud rheoliadau o dan yr adran honno.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022: yn llawn

4.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Medi 2022—

(a)adrannau 6 i 8 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym,

(b)adrannau 42 a 43 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym,

(c)adrannau 56 a 57 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym,

(d)adrannau 63 i 67,

(e)adran 69 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac

(f)adrannau 70 a 71.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2022: yn rhannol

5.—(1Daw’r darpariaethau yn Neddf 2021 ym mharagraff (2) i rym ar 1 Medi 2022 ar gyfer plentyn neu ddisgybl—

(a)y darperir addysg feithrin ar ei gyfer,

(b)mewn blwyddyn derbyn,

(c)ym mlynyddoedd 1 i 6, a

(d)ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion a gynhelir hynny a’r unedau cyfeirio disgyblion hynny a nodir yn yr Atodlen.

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)adrannau 9 i 24(1), (2), (3) a (4),

(b)adrannau 25 i 29,

(c)adrannau 34 i 41,

(d)adrannau 44 i 55, ac

(e)Atodlen 1.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2023: yn rhannol

6.—(1Daw’r darpariaethau yn Neddf 2021 ym mharagraff (2) i rym ar 1 Medi 2023 ar gyfer plentyn neu ddisgybl—

(a)ym mlwyddyn 7 ar gyfer pob lleoliad arall nad yw wedi ei restru yn yr Atodlen (Rhestr Blwyddyn 7), a

(b)ym mlwyddyn 8.

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)adrannau 9 i 24(1), (2), (3) a (4),

(b)adrannau 25 i 29,

(c)adrannau 34 i 41,

(d)adrannau 44 i 55, ac

(e)Atodlen 1.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2024: yn rhannol

7.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Medi 2024 ar gyfer plentyn neu ddisgybl ym mlwyddyn 9—

(a)adrannau 9 i 24(1), (2), (3) a (4),

(b)adrannau 25 i 29,

(c)adrannau 34 i 41,

(d)adran 68,

(e)adrannau 44 i 55, ac

(f)Atodlen 1.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2025: yn rhannol

8.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Medi 2025 ar gyfer plentyn neu ddisgybl ym mlwyddyn 10—

(a)adrannau 9 i 41,

(b)adrannau 44 i 55, ac

(c)Atodlen 1.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2026: yn llawn

9.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 1 Medi 2026 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—

(a)adrannau 9 i 41,

(b)adrannau 44 i 55,

(c)adrannau 58 i 62,

(d)adran 68, ac

(e)Atodlen 1.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

13 Mehefin 2022

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources