Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 425 (Cy. 99)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

11 Chwefror 2019

Gwnaed

4 Mawrth 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Mawrth 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1) a chan adran 16(2)(a) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(2).

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004

2.  Yn yr Atodlen i Reoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(4), yn Rhan 2, yn y tabl, hepgorer y cofnod ar gyfer Erthygl 8.6.

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

3.—(1Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 84/500/EEC”.

(3Yn rheoliad 9, hepgorer paragraff (b).

(4Yn lle rheoliad 10 rhodder—

10.(1) Ni chaiff y meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig fynd dros y terfynau a nodir ym mharagraff (5) fel y’i darllenir gyda pharagraffau (4) a (6).

(2) Oni ddangosir nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm neu gadmiwm, rhaid i’r meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig gael eu penderfynu drwy brawf, y pennir ei amodau yn Atodlen 3, gan ddefnyddio’r dull dadansoddi a ddisgrifir yn Atodlen 4.

(3) Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad eitem geramig nad yw’n cydymffurfio â gofynion paragraff (1) fel y’i darllenir gyda pharagraff (2).

(4) Pan fo eitem geramig yn llestr ag iddo glawr ceramig, rhaid i’r terfynau plwm neu gadmiwm (neu’r ddau) na chaniateir mynd drostynt (mg/dm2 neu mg/litr) fod yr un terfynau ag sy’n gymwys i’r llestr yn unig. Rhaid cynnal profion ar wahân ac o dan yr un amodau ar y llestr yn unig ac ar arwyneb mewnol y clawr. Rhaid i gyfanswm y ddwy lefel echdyniad a geir trwy’r modd hwn ar gyfer plwm neu gadmiwm gael ei gysylltu, fel y bo’n briodol, ag arwynebedd neu â chyfaint y llestr yn unig.

(5) Mae eitem geramig i’w chydnabod fel un sy’n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn sy’n ymwneud ag eitemau o’r fath os nad yw’r meintiau o blwm a/neu gadmiwm a echdynnir yn ystod y prawf a gynhelir o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3 ac Atodlen 4 yn mynd dros y terfynau a ganlyn—

Plwm (Pb)Cadmiwm (Cd)
Categori 1: Eitemau na ellir eu llenwi ac eitemau y gellir eu llenwi, nad yw eu dyfnder mewnol, wrth fesur o’r pwynt isaf i’r plân llorweddol sy’n mynd drwy’r ymyl uchaf, yn fwy na 25 mm0,8 mg/dm20,07 mg/dm2

Categori 2:

Pob eitem arall y gellir ei llenwi

4,0 mg/l0,3 mg/l

Categori 3:

Offer coginio; llestri pecynnu a storio sy’n dal mwy na thri litr

1,5 mg/l0,1 mg/l

(6) Fodd bynnag, pan na fo eitem geramig yn mynd mwy na 50% dros y meintiau uchod, mae’r eitem honno i’w chydnabod er hynny fel un sy’n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn sy’n ymwneud ag eitemau o’r fath os yw o leiaf dair eitem arall sy’n dwyn yr un siâp, dimensiynau, addurn a gwydr yn mynd drwy brawf a gynhelir o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3 ac Atodlen 4 ac nad yw meintiau cyfartalog y plwm a/neu’r cadmiwm a echdynnir o’r eitemau hynny yn mynd dros y terfynau a osodwyd, ac nad oes un o’r eitemau hynny yn mynd mwy na 50% dros y terfynau hynny.

(5Ar ôl rheoliad 10 mewnosoder—

10A.(1) Rhaid i berson sy’n rhoi ar y farchnad eitem geramig na ddaeth hyd yn hyn i gysylltiad â bwyd ddarparu datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 1935/2004 i fynd gyda’r eitem yn y cyfnodau marchnata hyd at a chan gynnwys y cyfnod manwerthu.

(2) Rhaid i’r datganiad gael ei ddyroddi gan y gweithgynhyrchydd neu gan werthwr yn y Deyrnas Unedig a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a osodir yn Atodlen 5.

(3) Rhaid i berson sy’n gweithgynhyrchu neu sydd, wrth gynnal busnes, yn mewnforio eitem geramig i’r Deyrnas Unedig drefnu, pan ofynnir iddo wneud hynny, fod dogfennaeth briodol ar gael i swyddog awdurdodedig er mwyn dangos bod yr eitem geramig yn cydymffurfio â’r terfynau ymfudo ar gyfer plwm a chadmiwm a nodir yn rheoliad 10, gan gynnwys—

(a)canlyniadau’r dadansoddi a wnaed;

(b)amodau’r prawf;

(c)enw a chyfeiriad y labordy a gyflawnodd y gwaith profi.

(4) Nid yw paragraffau (1), (2) a (3) yn gymwys o ran eitem geramig sy’n ail law.

(5) Nid yw’r ddogfennaeth a bennwyd ym mharagraff (3)(a), (b) ac (c) yn ofynnol pan fo tystiolaeth ddogfennol yn cael ei darparu i ddangos nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm na chadmiwm.

(6Yn rheoliad 18, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir i wirio a gydymffurfir â pharagraff (1) gydymffurfio â’r meini prawf a nodir ym mharagraffau (4), (5) a (6).

(4) Mae lefel y finyl clorid mewn deunyddiau ac eitemau a lefel y finyl clorid a ryddheir gan ddeunyddiau ac eitemau i fwydydd yn cael eu penderfynu drwy gromatograffaeth gwedd nwy gan ddefnyddio’r dull ‘lle blaen’ (‘headspace’).

(5) At ddibenion penderfynu’r finyl clorid a ryddheir gan ddeunyddiau ac eitemau i fwydydd, y terfyn canfod yw 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd.

(6) Mae’r finyl clorid a ryddheir gan ddeunyddiau ac eitemau i fwydydd yn cael ei benderfynu mewn egwyddor yn y bwydydd. Pan ddangosir bod y penderfyniad yn amhosibl mewn bwydydd penodol am resymau technegol, caiff awdurdod bwyd ganiatáu penderfyniad drwy efelychwyr ar gyfer y bwydydd penodol hyn.

(7Ar ôl Atodlen 2, mewnosoder yr Atodlenni 3 i 5 newydd a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

4.  Yn rheoliad 10(b) o Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013(6), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2019

Rheoliad 3(7)

ATODLEN

Rheoliad 10

Atodlen 3RHEOLAU SYLFAENOL AR GYFER PENDERFYNU YMFUDIAD PLWM A CHADMIWM

1.  Yr hylif prawf

Asid asetig 4 % (v/v), mewn hydoddiant dyfrllyd a baratowyd yn ffres.

2.  Amodau’r prawf

(a)Cynhalier y prawf ar dymheredd o 22 ± 2 °C am gyfnod o 24 ± 0,5 awr.

(b)Pan yw ymfudiad plwm i’w benderfynu, rhodder gorchudd ar y sampl mewn modd priodol i’w diogelu a gadawer hi yn agored i’r amodau goleuo arferol sydd mewn labordy. Pan yw ymfudiad cadmiwm neu blwm a chadmiwm i’w penderfynu, rhodder gorchudd ar y sampl i sicrhau bod yr arwyneb y mae profion i’w cynnal arno yn cael ei gadw mewn tywyllwch llwyr.

3.  Llenwi

(a)Samplau y gellir eu llenwi—

  • Llenwer yr eitem â hydoddiant asid asetig 4 % (v/v) hyd at lefel nad yw’n uwch nag 1 mm o’r pwynt gorlifo; mesurir y pellter o ymyl uchaf y sampl. Dylid llenwi samplau gydag ymyl gwastad neu ymyl sy’n goleddfu ychydig fel nad yw’r pellter rhwng arwyneb yr hylif a’r pwynt gorlifo yn fwy na 6 mm wrth fesur ar hyd yr ymyl sy’n goleddfu.

(b)Samplau na ellir eu llenwi—

  • Yn gyntaf, gorchuddir arwyneb y sampl na fwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwydydd â haenen amddiffynnol addas sy’n gallu gwrthsefyll gweithrediad yr hydoddiant asid asetig 4 % (v/v). Yna boddir y sampl mewn cynhwysydd sy’n cynnwys cyfaint gwybyddus o hydoddiant asid asetig yn y fath fodd y bydd yr arwyneb y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwydydd yn cael ei orchuddio’n llwyr gan yr hylif prawf.

4.  Penderfynu’r arwynebedd

Mae arwynebedd yr eitemau yng Nghategori 1 yn hafal i arwynebedd y menisgws a ffurfir gan yr arwyneb hylif rhydd a geir wrth gydymffurfio â’r gofynion llenwi a nodir ym mharagraff 3.

Rheoliad 10

Atodlen 4DULLIAU DADANSODDI AR GYFER PENDERFYNU YMFUDIAD PLWM A CHADMIWM

1.  Amcan a maes cymhwyso

Mae’r dull yn caniatáu i’r ymfudiad penodol o blwm a/neu gadmiwm gael ei benderfynu.

2.  Yr egwyddor

  • Penderfynir yr ymfudiad penodol o blwm a/neu gadmiwm gan ddefnyddio dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy’n bodloni’r meini prawf perfformiad ym mharagraff 4.

3.  Adweithyddion

  • Rhaid i bob adweithydd fod o ansawdd dadansoddol, oni phennir fel arall.

Pan fo cyfeiriad at ddŵr, mae’n golygu dŵr a ddistyllwyd neu ddŵr o ansawdd cyfatebol.

(a)asid asetig 4 % (v/v), mewn hydoddiant dyfrllyd

Ychwaneger 40 ml o asid asetig grisialog at ddŵr fel bod y lefel yn cyrraedd 1 000 ml.

(b)Hydoddiannau stoc

Paratoer hydoddiannau stoc sy’n cynnwys 1 000 mg/litr o blwm ac o leiaf 500 mg/litr o gadmiwm yn eu trefn mewn hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).

4.  Meini prawf perfformiad y dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn

(a)Rhaid i’r terfyn canfod ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu’n is na—

0,1 mg/litr ar gyfer plwm,

0,01 mg/litr ar gyfer cadmiwm.

Diffinnir y terfyn canfod fel y crynodiad o’r elfen yn yr hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(a), sy’n rhoi signal sy’n hafal i ddwywaith sŵn cefndir yr offeryn.

(b)Rhaid i’r terfyn meintioliad ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu’n is na—

0,2 mg/litr ar gyfer plwm,

0,02 mg/litr ar gyfer cadmiwm.

(c)Adennill. Rhaid i’r hyn a adenillir o blwm a chadmiwm a ychwanegir at yr hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(a), ddod o fewn 80-120 % o’r swm a ychwanegir.

(d)Penodoldeb. Rhaid i’r dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy’n cael ei ddefnyddio fod yn rhydd o ymyriannau matrics ac ymyriannau sbectrol.

5.  Dull

(a)Paratoi’r sampl

Rhaid i’r sampl fod yn lân ac yn rhydd o saim neu sylwedd arall sy’n debygol o effeithio ar y prawf.

Golcher y sampl mewn hydoddiant sy’n cynnwys glanedydd hylif i’r cartref ar dymheredd o tua 40 °C. Rinsier y sampl yn gyntaf mewn dŵr tap ac wedyn mewn dŵr wedi ei ddistyllu neu ddŵr o ansawdd cyfatebol. Draenier y sampl a’i sychu i osgoi unrhyw staen. Nid yw’r arwyneb sydd i’w brofi i’w drafod ar ôl iddo gael ei lanhau.

(b)Penderfynu plwm a/neu gadmiwm

Cynhelir prawf ar y sampl a baratowyd yn y modd hwn o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3.

Cyn cymryd yr hydoddiant prawf ar gyfer penderfynu plwm a/neu gadmiwm, homogeneiddier cynnwys y sampl drwy ddull priodol, sy’n osgoi colli unrhyw hydoddiant neu’n osgoi sgrafellu’r arwyneb syn cael ei brofi.

  • Cynhalier prawf gwag ar yr adweithydd a ddefnyddir ar gyfer pob cyfres o benderfyniadau.

  • Cynhalier y penderfyniadau ar gyfer plwm a/neu gadmiwm o dan amodau priodol.

Rheoliad 10A

Atodlen 5DATGANIAD O GYDYMFFURFEDD

1.  Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn rheoliad 10A gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw a chyfeiriad y cwmni sy’n gweithgynhyrchu’r eitem geramig orffenedig ac enw a chyfeiriad y mewnforiwr sy’n ei mewnforio i’r Deyrnas Unedig;

(b)manylion adnabod yr eitem geramig;

(c)dyddiad y datganiad;

(d)y cadarnhad bod yr eitem geramig yn bodloni’r gofynion perthnasol yn y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1935/2004.

2.  Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig ganiatáu adnabod yn hawdd y nwyddau y’i dyroddwyd ar eu cyfer a rhaid iddo gael ei adnewyddu pan fydd newidiadau sylweddol yn y cynhyrchiant yn peri newidiadau yn ymfudiad plwm neu gadmiwm neu’r ddau.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 3(6), wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 3(6) wedi ei wneud o dan adran 16 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16) i ddiwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012 i osod y meini prawf sy’n gymwys i’r dull o benderfynu lefel y finyl clorid mewn deunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd ac o benderfynu lefel y finyl clorid a ryddheir gan y deunyddiau ac eitemau hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys yng Nghymru ym maes bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig, deunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd, ac ychwanegion, cyflasynnau, ensymau a thoddyddion echdynnu bwyd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

1990 p. 16. Diwygiwyd adran 16(2) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”). Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

O.S. 2004/3220 (Cy. 276), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

O.S. 2012/2705 (Cy. 291), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 2013/2591 (Cy. 255), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources