Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004

2.  Yn yr Atodlen i Reoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(1), yn Rhan 2, yn y tabl, hepgorer y cofnod ar gyfer Erthygl 8.6.

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

3.—(1Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 84/500/EEC”.

(3Yn rheoliad 9, hepgorer paragraff (b).

(4Yn lle rheoliad 10 rhodder—

10.(1) Ni chaiff y meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig fynd dros y terfynau a nodir ym mharagraff (5) fel y’i darllenir gyda pharagraffau (4) a (6).

(2) Oni ddangosir nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm neu gadmiwm, rhaid i’r meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig gael eu penderfynu drwy brawf, y pennir ei amodau yn Atodlen 3, gan ddefnyddio’r dull dadansoddi a ddisgrifir yn Atodlen 4.

(3) Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad eitem geramig nad yw’n cydymffurfio â gofynion paragraff (1) fel y’i darllenir gyda pharagraff (2).

(4) Pan fo eitem geramig yn llestr ag iddo glawr ceramig, rhaid i’r terfynau plwm neu gadmiwm (neu’r ddau) na chaniateir mynd drostynt (mg/dm2 neu mg/litr) fod yr un terfynau ag sy’n gymwys i’r llestr yn unig. Rhaid cynnal profion ar wahân ac o dan yr un amodau ar y llestr yn unig ac ar arwyneb mewnol y clawr. Rhaid i gyfanswm y ddwy lefel echdyniad a geir trwy’r modd hwn ar gyfer plwm neu gadmiwm gael ei gysylltu, fel y bo’n briodol, ag arwynebedd neu â chyfaint y llestr yn unig.

(5) Mae eitem geramig i’w chydnabod fel un sy’n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn sy’n ymwneud ag eitemau o’r fath os nad yw’r meintiau o blwm a/neu gadmiwm a echdynnir yn ystod y prawf a gynhelir o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3 ac Atodlen 4 yn mynd dros y terfynau a ganlyn—

Plwm (Pb)Cadmiwm (Cd)
Categori 1: Eitemau na ellir eu llenwi ac eitemau y gellir eu llenwi, nad yw eu dyfnder mewnol, wrth fesur o’r pwynt isaf i’r plân llorweddol sy’n mynd drwy’r ymyl uchaf, yn fwy na 25 mm0,8 mg/dm20,07 mg/dm2

Categori 2:

Pob eitem arall y gellir ei llenwi

4,0 mg/l0,3 mg/l

Categori 3:

Offer coginio; llestri pecynnu a storio sy’n dal mwy na thri litr

1,5 mg/l0,1 mg/l

(6) Fodd bynnag, pan na fo eitem geramig yn mynd mwy na 50% dros y meintiau uchod, mae’r eitem honno i’w chydnabod er hynny fel un sy’n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn sy’n ymwneud ag eitemau o’r fath os yw o leiaf dair eitem arall sy’n dwyn yr un siâp, dimensiynau, addurn a gwydr yn mynd drwy brawf a gynhelir o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3 ac Atodlen 4 ac nad yw meintiau cyfartalog y plwm a/neu’r cadmiwm a echdynnir o’r eitemau hynny yn mynd dros y terfynau a osodwyd, ac nad oes un o’r eitemau hynny yn mynd mwy na 50% dros y terfynau hynny.

(5Ar ôl rheoliad 10 mewnosoder—

10A.(1) Rhaid i berson sy’n rhoi ar y farchnad eitem geramig na ddaeth hyd yn hyn i gysylltiad â bwyd ddarparu datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 1935/2004 i fynd gyda’r eitem yn y cyfnodau marchnata hyd at a chan gynnwys y cyfnod manwerthu.

(2) Rhaid i’r datganiad gael ei ddyroddi gan y gweithgynhyrchydd neu gan werthwr yn y Deyrnas Unedig a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a osodir yn Atodlen 5.

(3) Rhaid i berson sy’n gweithgynhyrchu neu sydd, wrth gynnal busnes, yn mewnforio eitem geramig i’r Deyrnas Unedig drefnu, pan ofynnir iddo wneud hynny, fod dogfennaeth briodol ar gael i swyddog awdurdodedig er mwyn dangos bod yr eitem geramig yn cydymffurfio â’r terfynau ymfudo ar gyfer plwm a chadmiwm a nodir yn rheoliad 10, gan gynnwys—

(a)canlyniadau’r dadansoddi a wnaed;

(b)amodau’r prawf;

(c)enw a chyfeiriad y labordy a gyflawnodd y gwaith profi.

(4) Nid yw paragraffau (1), (2) a (3) yn gymwys o ran eitem geramig sy’n ail law.

(5) Nid yw’r ddogfennaeth a bennwyd ym mharagraff (3)(a), (b) ac (c) yn ofynnol pan fo tystiolaeth ddogfennol yn cael ei darparu i ddangos nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm na chadmiwm.

(6Yn rheoliad 18, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir i wirio a gydymffurfir â pharagraff (1) gydymffurfio â’r meini prawf a nodir ym mharagraffau (4), (5) a (6).

(4) Mae lefel y finyl clorid mewn deunyddiau ac eitemau a lefel y finyl clorid a ryddheir gan ddeunyddiau ac eitemau i fwydydd yn cael eu penderfynu drwy gromatograffaeth gwedd nwy gan ddefnyddio’r dull ‘lle blaen’ (‘headspace’).

(5) At ddibenion penderfynu’r finyl clorid a ryddheir gan ddeunyddiau ac eitemau i fwydydd, y terfyn canfod yw 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd.

(6) Mae’r finyl clorid a ryddheir gan ddeunyddiau ac eitemau i fwydydd yn cael ei benderfynu mewn egwyddor yn y bwydydd. Pan ddangosir bod y penderfyniad yn amhosibl mewn bwydydd penodol am resymau technegol, caiff awdurdod bwyd ganiatáu penderfyniad drwy efelychwyr ar gyfer y bwydydd penodol hyn.

(7Ar ôl Atodlen 2, mewnosoder yr Atodlenni 3 i 5 newydd a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

4.  Yn rheoliad 10(b) o Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013(3), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2019

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources