Search Legislation

Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) (Diwygio) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 573 (Cy. 102)

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

2 Mai 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mai 2018

Yn dod i rym

2 Gorffennaf 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 14A(8)(b), 14F a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) (Diwygio) 2018 a deuant i rym ar 2 Gorffennaf 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005(2).

2.  Nid yw rheoliad 4 yn gymwys pan fo, cyn 2 Gorffennaf 2018—

(a)unigolyn wedi rhoi i’r awdurdod lleol priodol hysbysiad ysgrifenedig o’i fwriad i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn unol ag adran 14A(7) o Ddeddf Plant 1989, neu

(b)llys wedi gofyn i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad a llunio adroddiad yn unol ag adran 14A(9) o Ddeddf Plant 1989.

Diwygiadau i Reoliadau 2005

3.  Mae Rheoliadau 2005 wedi eu diwygio yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.

Adroddiadau

4.—(1Mae’r Atodlen i Reoliadau 2005 (adroddiadau – materion a ragnodwyd at ddibenion adran 14A(8)(b) o’r Ddeddf) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 2 o’r Atodlen (materion o ran y plentyn)—

(a)yn is-baragraff (a) ar ôl “cartref” mewnosoder “(gan gynnwys ardal awdurdod lleol)”;

(b)yn is-baragraff (b) yn lle “a statws mewnfudo” rhodder “(a statws mewnfudo pan fo’n briodol)”;

(c)yn is-baragraff (c) cyn “disgrifiad corfforol” mewnosoder “ffotograff a”;

(d)yn is-baragraff (ch) hepgorer “ac adroddiad ar iechyd y plentyn”;

(e)yn is-baragraff (d) ar ôl “cred grefyddol” mewnosoder “(gan gynnwys manylion bedydd, conffyrmasiwn (bedydd esgob) neu seremonïau cyfatebol)”;

(f)yn lle is-baragraff (dd) rhodder—

(dd)manylion unrhyw orchymyn a wnaed gan lys mewn cysylltiad â’r plentyn o dan y Ddeddf gan gynnwys—

(i)enw’r llys;

(ii)y gorchymyn a wnaed; a

(iii)y dyddiad y gwnaed y gorchymyn;;

(g)yn is-baragraff (e) yn lle “ag aelodau teulu’r plentyn” rhodder “â pherthnasau’r plentyn ac unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol”;

(h)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

(ea)unrhyw niwed y mae’r plentyn wedi ei ddioddef;

(eb)unrhyw risg o niwed yn y dyfodol i’r plentyn a berir gan rieni’r plentyn, ei berthnasau neu unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol;;

(i)ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—

(fa)(a yw’r plentyn yn derbyn gofal neu wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol neu a yw llety yn cael ei ddarparu iddo neu wedi cael ei ddarparu iddo gan sefydliad gwirfoddol, a manylion (gan gynnwys dyddiadau) unrhyw leoliadau gan yr awdurdod neu’r sefydliad;

(fb)a yw’r darpar warcheidwad arbennig yn rhiant maeth awdurdod lleol i’r plentyn;;

(j)yn lle is-baragraff (ff) rhodder—

(ff)cyraeddiadau addysgol y plentyn ac a yw’r plentyn yn ddarostyngedig i ddatganiad anghenion addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996(3);;

(k)yn lle is-baragraff (g) rhodder—

(g)asesiad o ddymuniadau a theimladau’r plentyn (gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn) ynghylch—

(i)gwarcheidiaeth arbennig;

(ii)ei fagwraeth grefyddol a diwylliannol; a

(iii)cyswllt â’i berthnasau ac ag unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol;; ac

(l)ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

(ng)y dyddiad yr aseswyd dymuniadau a theimladau’r plentyn ddiweddaf;

(h)disgrifiad o bersonoliaeth y plentyn, ei ddatblygiad cymdeithasol a’i ddatblygiad emosiynol ac ymddygiadol ac unrhyw anghenion cysylltiedig ar hyn o bryd neu unrhyw anghenion tebygol yn y dyfodol;

(i)manylion am ddiddordebau’r plentyn, ei hoff bethau a’i gas bethau;

(j)hanes iechyd a disgrifiad o gyflwr iechyd y plentyn, gan gynnwys unrhyw driniaeth y mae’r plentyn yn ei chael; a

(l)enwau, cyfeiriadau a’r mathau o feithrinfeydd neu ysgolion a fynychwyd, gyda dyddiadau mynychu.

(3Ym mharagraff 3 o’r Atodlen (materion o ran teulu’r plentyn)—

(a)yn is-baragraff (a) yn lle “rhieni’r plentyn” rhodder “(a’r dyddiad y cadarnhawyd ei gyfeiriad ddiwethaf) pob un o rieni’r plentyn”;

(b)yn is-baragraff (b) yn lle “a statws mewnfudo” rhodder “(a statws mewnfudo pan fo’n briodol)”;

(c)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)a oedd rhieni’r plentyn yn briod â’i gilydd ar adeg geni’r plentyn neu a briodasant wedi hynny ac a ydynt wedi ysgaru neu wedi gwahanu;;

(d)yn is-baragraff (ch) cyn “a oes” mewnosoder “pan na fo rhieni’r plentyn yn briod,” ac ar ôl “am y plentyn” mewnosoder “ac, os felly, sut y’i caffaelwyd”;

(e)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(da)os na wyddys pwy yw’r naill riant neu’r llall na ble y mae, yr wybodaeth am y rhiant sydd wedi ei chanfod a chan bwy y cafwyd yr wybodaeth, a’r camau sydd wedi eu cymryd i gadarnhau mamolaeth neu dadolaeth yn ôl y digwydd;

(db)y berthynas a fu a’r berthynas bresennol rhwng rhieni’r plentyn â’i gilydd;;

(f)yn is-baragraff (dd) cyn “disgrifiad” rhodder “ffotograff, os oes un ar gael, a”;

(g)ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—

(dda)pan fo ar gael, hanes iechyd pob un o’r rhieni, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol neu salwch meddwl difrifol, unrhyw glefyd neu anhwylder etifeddol neu anabledd;;

(h)ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—

(fa)personoliaeth a diddordebau’r rhieni;;

(i)yn lle is-baragraff (g) rhodder—

(g)barn, dymuniadau a theimladau rhieni’r plentyn o ran—

(i)y cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig o ran y plentyn;

(ii)magwraeth grefyddol a diwylliannol y plentyn; a

(iii)cyswllt â’r plentyn;; a

(j)ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

(ga)o ran pob un o frodyr a chwiorydd y plentyn sydd o dan 18 oed—

(i)y person y mae’r brawd neu’r chwaer yn byw gydag ef;

(ii)a yw’r brawd neu’r chwaer yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu a yw llety yn cael ei ddarparu iddo neu iddi gan sefydliad gwirfoddol; a

(iii)manylion unrhyw orchymyn llys a wnaed o ran y brawd neu’r chwaer o dan y Ddeddf gan gynnwys enw’r llys, y gorchymyn a wnaed a’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn; ac.

(4Ym mharagraff 4 (materion mewn perthynas â’r darpar warcheidwad arbennig neu, pan fydd dau berson neu fwy yn ddarpar warcheidwaid arbennig ar y cyd, pob un ohonynt)—

(a)yn is-baragraff (a) ar ôl “cartref” mewnosoder “(gan gynnwys ardal awdurdod lleol)”;

(b)yn is-baragraff (b) yn lle “a statws mewnfudo” rhodder “(a statws mewnfudo pan fo’n briodol)”;

(c)yn is-baragraff (ch) cyn “disgrifiad” mewnosoder “ffotograff a”;

(d)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(da)os yw’r darpar warcheidwad arbennig yn aelod o gwpl ac yn gwneud cais ar ei ben ei hun am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig, y rhesymau dros hyn;

(db)manylion unrhyw briodas, partneriaeth sifil neu berthynas arwyddocaol flaenorol;;

(e)ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—

(dda)a yw’r darpar warcheidwad arbennig yn berthynas i’r plentyn;

(ddb)asesiad o berthynas y darpar warcheidwad arbennig ar hyn o bryd ac yn y gorffennol â’r plentyn, rhieni’r plentyn ac unrhyw berson perthynol;;

(f)yn is-baragraff (f) ar ôl “arbennig” mewnosoder “, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol neu salwch meddwl difrifol, unrhyw glefyd neu anhwylder etifeddol neu anabledd”;

(g)yn is-baragraff (ff) ar ôl “gartref” mewnosoder “a chymdogaeth” ac ar ôl “incwm” mewnosoder “a gwariant”;

(h)yn is-baragraff (h) ar ôl “arbennig” mewnosoder “ac i ba raddau y mae’n deall natur ac effaith gwarcheidiaeth arbennig ac a yw’r darpar warcheidwad arbennig wedi trafod gwarcheidiaeth arbennig â’r plentyn”;

(i)yn lle is-baragraff (i) rhodder—

(i)asesiad o gynneddf y darpar warcheidwad arbennig i fod yn rhiant, gan gynnwys—

(i)ei ddealltwriaeth o anghenion presennol y plentyn a’i anghenion tebygol yn y dyfodol a’i allu i ddiwallu’r anghenion hynny, yn benodol, unrhyw anghenion a all fod gan y plentyn sy’n codi o niwed y mae’r plentyn wedi ei ddioddef;

(ii)ei ddealltwriaeth o unrhyw risg bresennol o niwed i’r plentyn neu unrhyw risg o niwed i’r plentyn yn y dyfodol a berir gan rieni’r plentyn, ei berthnasau neu unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol, yn benodol o ran cyswllt rhwng unrhyw berson o’r fath a’r plentyn, a’i allu i amddiffyn y plentyn rhag unrhyw risg o’r fath;

(iii)ei allu, ei addasrwydd a’i ymrwymiad i fagu’r plentyn hyd nes iddo gyrraedd deunaw oed; a

(iv)ei ddealltwriaeth o rôl gwarcheidwad arbennig a’i heffaith debygol ar ei fywyd;

(ia)manylion unrhyw aelodau eraill o aelwyd y darpar warcheidwad arbennig a manylion unrhyw blant y darpar warcheidwad arbennig hyd yn oed os nad ydynt yn preswylio yn yr aelwyd;

(ib)manylion rhieni ac unrhyw frawd neu chwaer y darpar warcheidwad arbennig, gyda’u hoedrannau;

(ic)manylion personoliaeth a diddordebau’r darpar warcheidwad arbennig;

(ich)manylion unrhyw reithdrefnau llys teulu blaenorol y mae’r darpar warcheidwad arbennig wedi bod yn rhan ohonynt (na chyfeiriwyd atynt eto yn unman arall yn yr adroddiad);;

(j)yn lle is-baragraff (j) rhodder—

(j)manylion tri chanolwr personol y darpar warcheidwad arbennig, nad yw mwy nag un ohonynt yn perthyn i’r darpar warcheidwad arbennig, ac adroddiad o bob un o’r cyfweliadau â’r canolwyr;;

(k)ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder—

(ja)barn aelodau eraill o aelwyd y darpar warcheidwad arbennig a’r teulu ehangach (pan fo’n berthnasol) o ran y gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig arfaethedig;

(jb)asesiad o’r rhyngweithio rhwng pob un o aelodau aelwyd y darpar warcheidwad arbennig;

(jc)asesiad o berthynas y plentyn â theulu’r darpar warcheidwad arbennig ar hyn o bryd a’r berthynas debygol rhyngddynt yn y dyfodol;

(jch)unrhyw obeithion a disgwyliadau sydd gan y darpar warcheidwad arbennig ynghylch dyfodol y plentyn;

(jd)dymuniadau a theimladau’r darpar warcheidwad arbennig o ran cyswllt ar hyn o bryd ac yn y dyfodol rhwng y plentyn a pherthnasau’r plentyn neu unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol;;

(l)yn is-baragraff (l) yn lle “.” rhodder “; ac”; a

(m)ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—

(ll)o ran y darpar warcheidwad arbennig ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar warcheidwad arbennig sy’n 18 oed neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(4) sy’n cynnwys gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno).

(5Ym mharagraff 5 (materion mewn perthynas â’r awdurdod lleol a luniodd yr adroddiad)—

(a)yn is-baragraff (d) ar ôl “riant y plentyn” mewnosoder “a’r cyfnod y mae’r gwasanaethau hynny i gael eu darparu ar ei gyfer”; a

(b)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)pan fydd yr awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig, y rhesymau pam;.

(6Ym mharagraff 6 (materion o ran y casgliadau yn yr adroddiad)—

(a)yn is-baragraff (b)—

(i)yn lle paragraff (v) rhodder—

(v)effaith gwneud y gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig ar rieni’r plentyn, darpar warcheidwad arbennig y plentyn a’i deulu ac unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol;;

(ii)ym mharagraff (vi) ar ôl “plentyn;” hepgorer “ac”;

(b)yn is-baragraff (c) yn lle “.” rhodder “; ac”;

(c)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(ch)argymhelliad o ran y trefniadau y dylid eu rhoi ar waith ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn a pherthnasau’r plentyn neu unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol.

Darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig

5.—(1Yn rheoliad 3 (darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig)—

(a)ym mharagraff (1)(d)(ii), yn lle “gofal seibiant” rhodder “seibiannau byr”; a

(b)mae paragraff (2) wedi ei hepgor.

(2Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—

Gwasanaethau ar gyfer personau sydd y tu allan i’r ardal

3A.(1) Mae adran 14F o’r Ddeddf (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig) yn gymwys i awdurdod lleol o ran y personau canlynol sydd y tu allan i ardal yr awdurdod lleol—

(a)plentyn perthnasol sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu a oedd yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn union cyn i orchymyn gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud;

(b)gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig i blentyn o’r fath;

(c)plentyn gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig a grybwyllwyd yn is-baragraff (b).

(2) Ond mae adran 14F yn peidio â bod yn gymwys ar ddiwedd y cyfnod o dair blynedd o ddyddiad y gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig ac eithrio mewn achos pan fydd yr awdurdod lleol yn darparu cymorth ariannol o dan Ran 3 ac y cafodd y penderfyniad i ddarparu’r cymorth hwnnw ei wneud cyn i’r gorchymyn gael ei wneud.

(3) Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n darparu gwasanaethau cymorth gwarchodaeth arbennig i berson sy’n dod o fewn y personau hynny a restrir yn rheoliad 3A(1)(a) i (c), heb fod yn hwyrach na thri mis cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (2)—

(a)adolygu’r gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig a ddarperir i’r person hwnnw;

(b)hysbysu’r awdurdod lleol y mae’r person hwnnw yn byw ynddo am unrhyw angen parhaus am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig; ac

(c)atgyfeirio’r person hwnnw i wybodaeth, cyngor a chymorth lleol perthnasol.

(4) Nid yw unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod lleol rhag darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i bersonau sydd y tu allan i’w ardal pan fydd yn ystyried ei bod yn briodol wneud hynny.

Asesu anghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig

6.  Yn rheoliad 5 (asesu anghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig)—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhagnodir y personau canlynol at ddibenion adran 14F(3) o’r Ddeddf (personau y mae rhaid i asesiad gael ei gyflawni ar eu cais)—

(a)person sy’n dod o fewn adran 14F(3)(a) i (c) o’r Ddeddf;

(b)plentyn perthnasol sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu a oedd yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn union cyn i’r gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud;

(c)plentyn i’r gwarcheidwad arbennig neu’r darpar warcheidwad arbennig a grybwyllir yn is-baragraff (ch);

(ch)gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig i blentyn perthnasol;

(d)rhiant i blentyn perthnasol;

(dd)person perthynol i blentyn perthnasol, ar yr amod, cyn i gais gael ei wneud am asesiad, fod trefniadau ar waith ar gyfer cyswllt rhwng y person a’r plentyn perthnasol; ac

(e)plentyn (ac eithrio un sy’n dod o fewn is-baragraffau (a) i (c) uchod) a enwir mewn adroddiad a lunnir o dan adran 14A(8) o’r Ddeddf.; a

(b)hepgorer paragraff (2).

Huw Irranca-Davies

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

2 Mai 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”).

Y prif newidiadau yw—

(1diwygiadau i’r Atodlen sy’n rhestru’r materion y mae rhaid i’r awdurdod lleol ymdrin â hwy yn ei adroddiad ar gyfer y llys at ddibenion adran 14A(8)(b) o Ddeddf Plant 1989;

(2darpariaeth o dan adran 14F (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig) i ragnodi amgylchiadau y mae adran 14F yn gymwys odanynt i awdurdod lleol mewn cysylltiad â phersonau sydd y tu allan i ardal yr awdurdod lleol hwnnw;

(3darpariaeth i’r awdurdod lleol sy’n darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i bersonau sydd y tu allan i ardal ei awdurdod lleol—

(a)adolygu’r gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig a ddarperir i’r person hwnnw;

(b)hysbysu’r awdurdod lleol y mae’r person hwnnw yn byw ynddo am unrhyw angen parhaus am wasanaethau cymorth; ac

(c)atgyfeirio’r person hwnnw i wasanaethau lleol perthnasol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1989 p. 41. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources