- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009;
ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw gweithgaredd morol trwyddedadwy;
ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011(1); ac
ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded forol a roddir o dan adran 71(1)(a) neu (b) o’r Ddeddf.
3. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw drwydded ac unrhyw gais am drwydded y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â hwy o dan adran 113 o’r Ddeddf ac mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr awdurdod trwyddedu” i’w darllen yn unol â hynny.
4. Mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â phenderfynu ar gais sy’n dod o fewn band a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf paragraff 1 o Atodlen 1 wedi eu nodi yn ail golofn y paragraff hwnnw.
5. Mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwaith monitro o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 mewn perthynas â thrwyddedau o ddisgrifiad a bennir yn ail golofn yr Atodlen honno wedi eu nodi yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno.
6. Mae’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer penderfynu ar gais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 3 mewn perthynas â thrwyddedau o fath a bennir yn ail golofn yr Atodlen honno wedi eu nodi yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno.
7. Wrth gyfrifo ffioedd drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â chyfradd yr awr, caiff cyfanswm yr oriau a weithiwyd ei fynegi ar ffurf ffracsiwn pan fo—
(a)llai nag un awr wedi ei weithio; neu
(b)cyfanswm yr amser a weithiwyd yn fwy nag un awr ond na ellir ei fynegi fel rhif cyfan mewn oriau.
8.—(1) Mae pob ffi yn daladwy i Weinidogion Cymru pan ofynnir amdani.
(2) Caniateir talu unrhyw ffi drwy gyfrwng electronig.
(3) Nid yw taliad ffi wedi ei gael hyd nes bod Gweinidogion Cymru wedi cael arian cliriedig ar gyfer y swm cyfan sy’n ddyledus.
(4) Caiff unrhyw ffi nad yw wedi ei thalu ei hadennill gan Weinidogion Cymru fel dyled sifil.
9. Rhaid cyfrifo blaendaliadau unrhyw ffioedd sy’n daladwy ar gyfradd yr awr drwy gyfeirio at yr amcangyfrif o hyd y gwaith sy’n debygol o fod yn ofynnol a’r gyfradd yr awr sy’n daladwy.
10. Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw daliad a wnaed sy’n fwy na’r ffi sy’n daladwy, ond nid yw ffioedd a dalwyd yn ad-daladwy fel arall.
11. Yn ddarostyngedig i reoliad 12, mae Rheoliadau 2011 wedi eu dirymu.
12.—(1) Mae Rheoliadau 2011 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gais am drwydded forol, a chais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol sy’n dod i law Gweinidogion Cymru cyn 1 Ebrill 2017 nad oedd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu arno cyn y dyddiad hwnnw.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â phob cais am drwydded forol, a chais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol sy’n dod i law ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r gwaith monitro a ddisgrifir yn Atodlen 2 a gyflawnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017 ni waeth pa un a yw’r gwaith monitro hwnnw yn ymwneud â thrwydded forol a roddwyd cyn, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw cais wedi dod i law hyd nes bod ceisydd wedi darparu pa bynnag wybodaeth neu wedi dangos pa bynnag eitemau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn yr awdurdod trwyddedu i alluogi’r awdurdod trwyddedu i benderfynu ar y cais.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: