- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 4
1. Mae’r bandiau a’r ffioedd fel a ganlyn—
Band y cais a disgrifiad ohono | Y ffi ar gyfer penderfynu ar gais |
---|---|
Band 1 | |
Unrhyw gais sy’n ymwneud ag: (a) atgyweirio neu ailosod bolltau, fflapiau, falfiau, byrddau ar lanfa neu ysgraff; (b) symud ymaith dyfiant morol a gwano oddi ar unrhyw adeilad neu strwythur neu unrhyw ran ohono; (c) gosod ysgolion wrth unrhyw adeilad neu strwythur; (d) dyddodi pyst a’u symud ymaith wedi hynny at ddibenion marcio sianeli, ardaloedd dwr bâs, arllwysfeydd a grwynau; (e) dyddodi bwiau marcio a’u symud ymaith wedi hynny; (f) defnyddio cerbyd neu lestr i symud ymaith fân ddarnau arwahanol o falurion nad ydynt ynghlwm wrth wely’r môr (gan gynnwys polion, trawstiau, distiau a mân wrthrychau tebyg) sy’n gysylltiedig ag adeiladu, dymchwel, difrod neu adfeiliad adeilad neu strwythur; (g) cael gwared ar ysbwriel gan ddefnyddio cerbyd neu lestr; neu (h) unrhyw mân weithgaredd tebyg. | £600 |
Band 2 | |
Unrhyw gais nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1, neu nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 yn unig, ac sy’n ymwneud â gweithgaredd penodedig. | £1,920 |
Band 3 | |
Unrhyw gais nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 neu Fand 2, neu nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 neu Fand 2 yn unig. | Cyfrifir y ffi ar gyfradd o £120 yr awr. |
2. Ym mharagraff 1, yn ddarostyngedig i’r eithriad ym mharagraff 3, ystyr “gweithgaredd penodedig” (“specified activity”) yw unrhyw weithgaredd sy’n dod o fewn un neu ddwy o’r eitemau a ganlyn—
(a)eitem 1 (dyddodion o fewn ardal trwyddedu morol y DU etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf;
(b)eitem 7 (adeiladu, addasu neu wella gweithfeydd etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf;
(c)eitem 8 (defnyddio cerbyd, llestr, awyren, strwythur morol neu gynhwysydd arnofiol i symud sylweddau ymaith etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf; neu
(d)eitem 9 (cyflawni unrhyw ffurf ar dreillio etc.) o adran 66(1) o’r Ddeddf ond dim ond i’r graddau y mae eitem 9 yn ymwneud â threillio o ran cynnal a chadw.
3. Nid yw gweithgaredd penodedig yn cynnwys—
(a)unrhyw weithgaredd sydd i’w gyflawni fel rhan o brosiect o fath a bennir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/92/EU(1)ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd;
(b)unrhyw weithgaredd sydd i’w gyflawni fel rhan o brosiect o fath a bennir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno, os yw’n debygol oherwydd ei faint, ei natur neu ei leoliad o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd;
(c)gweithgaredd y mae asesiad o’r effaith amgylcheddol yn ofynnol mewn cysylltiad ag ef yn rhinwedd rheoliad 5 (gofyniad am asesiad drwy gytundeb) o Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007(2);
(d)gweithgaredd sy’n cynnwys eitemau 7 a 9 a ddisgrifir ym mharagraff 2(b) a (d);
(e)unrhyw weithgaredd neu weithgareddau, neu fwy nag un gweithgaredd gyda’i gilydd, sydd â chost amcangyfrifedig o fwy na £1,000,000.
Rheoliad 5
Disgrifiad o’r gwaith monitro | Disgrifiad o’r drwydded | Y ffi |
---|---|---|
Bodloni amodau’r drwydded | ||
Cymeradwyaeth gan yr awdurdod trwyddedu fel sy’n ofynnol gan unrhyw amod o fewn trwydded forol. | Trwydded yr oedd y cais ar ei chyfer yn destun ffi Band 1 neu Fand 2 o dan Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn neu os caiff ei rhoi cyn dyddiad y Rheoliadau hyn, drwydded sy’n debyg i honno a fyddai’n destun ffi Band 1 neu Fand 2 o dan Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn. | Ffi benodedig o £480 ar gyfer pob amod sy’n gysylltiedig â thrwydded. |
Trwydded yr oedd y cais ar ei chyfer yn destun ffi Band 3 o dan y Rheoliadau hyn neu os caiff ei rhoi cyn dyddiad y Rheoliadau hyn, drwydded sy’n debyg i honno a fyddai’n destun ffi Band 3 o dan y Rheoliadau hyn. | Ffi a gyfrifir ar gyfradd o £120 yr awr. | |
Pob gwaith monitro arall | ||
Unrhyw waith monitro arall fel y darperir ar ei gyfer yn adran 72A(2)(a), (b) a (3) o’r Ddeddf. | Unrhyw drwydded. | Ffi a gyfrifir ar gyfradd o £120 yr awr. |
Rheoliad 6
Disgrifiad o’r amgylchiadau | Disgrifiad o’r drwydded | Y ffi |
---|---|---|
Categori 1 | ||
Amrywio trwydded ar gais y ceisydd pan fo enw’r llestr, rhif cofrestru’r cerbyd, enw neu gyfeiriad yr asiant neu’r contractwr wedi ei ddiwygio neu pan fo diwygiadau gweinyddol tebyg eraill yn cael eu gwneud. | Unrhyw drwydded. | Ffi o £240 y cais. |
Categori 2 | ||
Amrywio unrhyw ddarpariaeth arall o drwydded pan fo’r awdurdod trwyddedu yn ymgynghori â pherson neu gorff (gan gynnwys ymgynghori mewnol o fewn yr awdurdod trwyddedu) heblaw am ddeiliad y drwydded er mwyn penderfynu pa un ai i amrywio’r drwydded honno, neu sut i’w hamrywio. | Unrhyw drwydded. | Ffi a gyfrifir ar gyfradd o £120 yr awr. |
Categori 3 | ||
Amrywio unrhyw ddarpariaeth arall o drwydded o dan unrhyw amgylchiadau eraill. | Unrhyw drwydded. | Ffi o £480. |
Trosglwyddo | ||
Trosglwyddo trwydded o’r trwyddedai i berson arall a’i hamrywio yn unol â hynny. | Unrhyw drwydded. | Ffi o £480. |
OJ L 26, 28.1.2012, t.1.
O.S. 2007/1518; diwygiwyd gan O.S. 2011/735, 1043, 2013/755 a 2015/446.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: