Search Legislation

Rheoliadau Bwydydd Newydd (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 1103 (Cy. 279)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwydydd Newydd (Cymru) 2017

Gwnaed

14 Tachwedd 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Tachwedd 2017

Yn dod i rym

1 Ionawr 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 18(1)(a), 26(1)(a) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac, â chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(2) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3).

Yn unol ag adran 48(4A)(4) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gwneud y Rheoliadau hyn.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Newydd (Cymru) 2017.

(2Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2018.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “darpariaeth UE benodedig” (specified EU provision) yw darpariaeth yn Rheoliad (EU) 2015/2283 a bennir yng ngholofn 1, ac a ddisgrifir yng ngholofn 2, o’r tabl yn Atodlen 1;

ystyr “y Ddeddf” (the Act) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “Rheoliad (EU) 2015/2283” (“Regulation (EU) 2015/2283”) yw Rheoliad (EU) 2015/2283 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 25 Tachwedd 2015 ar fwydydd newydd, sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Rheoliad (EC) Rhif 258/97 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1852/2001(6).

(2Onid amlygir bwriad i’r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a Rheoliad (EU) 2015/2283 yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliad (EU) 2015/2283.

Gorfodi

3.  Dyletswydd awdurdod bwyd o fewn ei ardal yw gorfodi Rheoliad (EU) 2015/2283 a’r Rheoliadau hyn.

Trosedd a chosb

4.  Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 6(2) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 24 a 35(2) o Reoliad (EU) 2015/2283 yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf

5.—(1Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 at ddibenion—

(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio â darpariaeth UE benodedig; a

(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

(2Mae adran 9 o’r Ddeddf (arolygu bwyd amheus ac ymafael ynddo) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 2 at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, os yw’n ymddangos i’r swyddog awdurdodedig fod Erthygl 6(2) o Reoliad (EU) 2015/2283, yn cael, neu wedi cael, ei thorri mewn perthynas ag unrhyw fwyd sydd wedi ei roi ar y farchnad, i naill ai—

(a)rhoi hysbysiad i’r person a chanddo ofal am y bwyd nad yw’r bwyd i gael ei fwyta gan bobl, ac nad yw i gael ei symud ymaith neu nad yw i gael ei symud ymaith ac eithrio i ryw fan a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)ymafael yn y bwyd a’i symud ymaith er mwyn i ynad heddwch ymdrin ag ef.

(3Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Rhan 3 o Atodlen 2 yn gymwys, gyda’r addasiadau (os oes rhai) a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(4Nid yw paragraffau (1) i (3) yn rhagfarnu cymhwyso’r Ddeddf i’r Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir ym mharagraffau (1) a (2).

Dirymiadau

6.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd 1997(7);

(b)Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd (Ffioedd) 1997(8);

(c)Rheoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009(9).

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

14 Tachwedd 2017

Rydym yn cydsynio

Guto Bebb

David Evennett

Dau o Gomisiynwyr Trysorlys ei Mawrhydi

10 Hydref 2017

YR ATODLENNI

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Darpariaethau UE penodedig

1. Darpariaeth UE benodedig2. Y pwnc
1. Erthygl 4(1).Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn gwirhau a yw’r bwyd y maent yn bwriadu ei roi ar y farchnad o fewn cwmpas Rheoliad (EU) 2015/2283.
2. Erthygl 6(2) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 24 a 35(2).Gofyniad mai dim ond bwydydd newydd a awdurdodir ac a gynhwysir yn rhestr yr Undeb y caniateir eu rhoi ar y farchnad felly, neu eu defnyddio mewn neu ar fwyd, yn unol â’r amodau defnyddio a’r gofynion labelu a bennir, ac ag unrhyw ofynion monitro ar ôl i’r bwydydd newydd gael eu rhoi ar y farchnad.
3. Erthygl 25.

Gofyniad bod rhaid i weithredwr busnes bwyd sydd wedi rhoi bwyd newydd ar y farchnad hysbysu’r Comisiwn Ewropeaidd ar unwaith am unrhyw wybodaeth y daw’n ymwybodol ohoni ynghylch—

(a) unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai ddylanwadu ar werthuso diogelwch defnyddio’r bwyd newydd; neu

(b) unrhyw waharddiad neu gyfyngiad a osodir gan drydedd wlad y rhoddir y bwyd newydd ar y farchnad ynddi.

Rheoliad 5

ATODLEN 2Cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf

RHAN 1Addasu adran 10(1)

1.  Yn lle adran 10(1) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) rhodder—

If an authorised officer has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any provision specified in Schedule 1 to the Novel Foods (Wales) Regulations 2017, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)

state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(c)

specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;

(d)

specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(e)

require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.

RHAN 2Addasu adran 9

2.  Yn lle adran 9 o’r Ddeddf (arolygu bwyd amheus ac ymafael ynddo) rhodder—

(1) This section applies where it appears to any authorised officer of a food authority that Article 6(2) of Regulation (EU) 2015/2283 is being is being, or has been, contravened in relation to any food which has been placed on the market.

(2) The authorised officer may either—

(a)give notice to the person in charge of the food that, until the notice is withdrawn, the food—

(i)is not to be used for human consumption; and

(ii)either is not to be removed or is not to be removed except to some place specified in the notice; or

(b)seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace;

and any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under paragraph (a) above is guilty of an offence and liable on summary conviction to a fine.

(3) Where the authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(a) above, the authorised officer must, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, determine whether or not they are satisfied that the food complies with Article 6(2) of Regulation (EU) 2015/2283, and—

(a)if so satisfied, immediately withdraw the notice;

(b)if not so satisfied, seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.

(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, the authorised officer must inform the person in charge of the food that it is to be dealt with by a justice of the peace and—

(a)any person who might be liable to a prosecution in respect of the food must, if attending before the justice of the peace by whom the food falls to be dealt with, be entitled to be heard and to call witnesses; and

(b)that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is charged with an offence in relation to that food.

(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as the justice of the peace considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with under this section fails to comply with Article 6(2) of Regulation (EU) 2015/2283, the justice of the peace must condemn the food and order—

(a)the food to be destroyed or to be disposed of as to prevent it from being used for human consumption; and

(b)any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the owner of the food.

(6) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it, the food authority must compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.

(7) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (6) above is to be determined by arbitration.

(8) For the purposes of this section, “Regulation (EU) 2015/2283” means Regulation (EU) 2015/2283 of the European Parliament and of the Council of 25 November 2015 on novel foods, amending Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council and repealing Regulation (EC) No 258/97 of the European Parliament and of the Council and Commission Regulation (EC) No 1852/2001.

RHAN 3Cymhwyso ac addasu darpariaethau eraill o’r Ddeddf

Colofn 1

Darpariaeth y Ddeddf

Colofn 2

Addasiadau

(1)

Mae adran 35(1) wedi ei diwygio gan baragraff 42 o Atodlen 26 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44), o ddyddiad i’w bennu. Mae diwygiadau eraill i adran 35(1) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Mewnosodwyd adran 36A gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) a pharagraffau 7 ac 16 o Atodlen 5 iddi.

Adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.)Yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Novel Foods (Wales) Regulations 2017”.
Adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Novel Foods (Wales) Regulations 2017”.
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 5(1) of the Novel Foods (Wales) Regulations 2017 or under regulation 4 of those Regulations”.
Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 5(1) of the Novel Foods (Wales) Regulations 2017 or under regulation 4 of those Regulations”.
Adran 30(6) ac (8) (tystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd)Yn is-adran (8), yn lle “this Act” rhodder “the Novel Foods (Wales) Regulations 2017”.
Adran 32 (pwerau mynediad)Yn is-adran (1), yn lle paragraffau (a) i (c), rhodder “(a) to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether Article 6(2) of Regulation 2015/2283, is being or has been contravened on the premises;”.
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Novel Foods (Wales) Regulations 2017”.
Adran 35(1)(1) a (2) (cosbi troseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “, as applied and modified by regulation 5 of, and Part 3 of Schedule 2 to, the Novel Foods (Wales) Regulations 2017”.

Yn is-adran (2), yn y geiriau agoriadol, yn lle “any other offence under this Act” rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 5 of, and Part 3 of Schedule 2 to, the Novel Foods (Wales) Regulations 2017,”.

Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 5(1) of the Novel Foods (Wales) Regulations 2017 or under regulation 4 of those Regulations”.
Adran 36A(2)(troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 5(1) of the Novel Foods (Wales) Regulations 2017 or under regulation 4 of those Regulations”.
Adran 37(1) a (6) (apelau i lys ynadon)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of a food authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 5 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Novel Foods (Wales) Regulations 2017, may appeal to a magistrates’ court.

Yn is-adran (6)—

yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”, ac

ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10(1), as applied and modified by regulation 5 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Novel Foods (Wales) Regulations 2017, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the magistrates’ court may in the circumstances think fit.

Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad (EU) 2015/2283 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 25 Tachwedd 2015 ar fwydydd newydd, sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Rheoliad (EC) Rhif 258/97 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1852/2001 (OJ Rhif L 327, 11.12.2015, t 1) (“y Rheoliad Bwydydd Newydd”).

Mae rheoliad 3 yn gwneud awdurdodau bwyd yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau.

Mae rheoliad 4 yn darparu ei bod yn drosedd i berson fethu â chydymffurfio ag Erthygl 6(2) o’r Rheoliad Bwydydd Newydd ac y caniateir i’r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy. Mae Erthygl 6(2) yn darparu mai dim ond bwydydd newydd a awdurdodir gan y Comisiwn Ewropeaidd ac a gynhwysir yn rhestr yr Undeb Ewropeaidd o fwydydd newydd y caniateir eu rhoi ar y farchnad o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a bod rhaid i’r bwydydd fod yn unol â’r amodau defnyddio a’r gofynion labelu a nodir yn y rhestr.

Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) gydag addasiadau. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso (gydag addasiadau)—

(a)adran 9, sy’n galluogi swyddog awdurdodedig, os yw’n ystyried bod Erthygl 6(2) o’r Rheoliad Bwydydd Newydd yn cael neu wedi cael ei thorri, i roi hysbysiad i’r person a chanddo ofal am y bwyd nad yw’r bwyd i gael ei fwyta gan bobl neu nad yw i gael ei symud ymaith ac eithrio i ryw fan a bennir yn yr hysbysiad, neu i ymafael yn y bwyd er mwyn i ynad heddwch ymdrin ag ef; a

(b)adran 10(1), sy’n galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a chanddo ofal am y bwyd gydymffurfio â darpariaethau’r Rheoliad Bwydydd Newydd a bennir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn. Mae’r darpariaethau, fel y’u cymhwysir, yn gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd.

Mae rheoliad 6 yn dirymu—

(a)Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd 1997 (O.S. 1997/1335) o ran Cymru;

(b)Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd (Ffioedd) 1997 (O.S. 1997/1336) o ran Cymru;

(c)Rheoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3377 (Cy. 299)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu oddi ar wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/wales/wales.

(1)

1990 p. 16. Diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40), paragraff 10(1) a (3) o Atodlen 5 ac Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”), ac O.S. 2002/794. Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 17(2) gan baragraffau 8 a 12(a) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i ddarllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

1973 p. 51. Diwygiwyd is-adran (1) gan erthygl 6(1)(e) o O.S. 2011/1043.

(3)

Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(4)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(5)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t 1).

(6)

OJ Rhif L 327, 11.12.2015, t 1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources