- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Newydd (Cymru) 2017.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2018.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “darpariaeth UE benodedig” (“specified EU provision”) yw darpariaeth yn Rheoliad (EU) 2015/2283 a bennir yng ngholofn 1, ac a ddisgrifir yng ngholofn 2, o’r tabl yn Atodlen 1;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “Rheoliad (EU) 2015/2283” (“Regulation (EU) 2015/2283”) yw Rheoliad (EU) 2015/2283 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 25 Tachwedd 2015 ar fwydydd newydd, sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Rheoliad (EC) Rhif 258/97 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1852/2001(1).
(2) Onid amlygir bwriad i’r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a Rheoliad (EU) 2015/2283 yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliad (EU) 2015/2283.
3. Dyletswydd awdurdod bwyd o fewn ei ardal yw gorfodi Rheoliad (EU) 2015/2283 a’r Rheoliadau hyn.
4. Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 6(2) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 24 a 35(2) o Reoliad (EU) 2015/2283 yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
5.—(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 at ddibenion—
(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio â darpariaeth UE benodedig; a
(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.
(2) Mae adran 9 o’r Ddeddf (arolygu bwyd amheus ac ymafael ynddo) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 2 at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, os yw’n ymddangos i’r swyddog awdurdodedig fod Erthygl 6(2) o Reoliad (EU) 2015/2283, yn cael, neu wedi cael, ei thorri mewn perthynas ag unrhyw fwyd sydd wedi ei roi ar y farchnad, i naill ai—
(a)rhoi hysbysiad i’r person a chanddo ofal am y bwyd nad yw’r bwyd i gael ei fwyta gan bobl, ac nad yw i gael ei symud ymaith neu nad yw i gael ei symud ymaith ac eithrio i ryw fan a bennir yn yr hysbysiad, neu
(b)ymafael yn y bwyd a’i symud ymaith er mwyn i ynad heddwch ymdrin ag ef.
(3) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Rhan 3 o Atodlen 2 yn gymwys, gyda’r addasiadau (os oes rhai) a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(4) Nid yw paragraffau (1) i (3) yn rhagfarnu cymhwyso’r Ddeddf i’r Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir ym mharagraffau (1) a (2).
6. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd 1997(2);
(b)Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd (Ffioedd) 1997(3);
(c)Rheoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009(4).
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Tachwedd 2017
Rydym yn cydsynio
Guto Bebb
David Evennett
Dau o Gomisiynwyr Trysorlys ei Mawrhydi
10 Hydref 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: