Search Legislation

Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” yr ystyr a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002(1);

ystyr “cwrs addysg uwch” (“course of higher education”) yw cwrs sy’n dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(2);

mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o’r fath sy’n arwain at radd gyntaf;

ystyr “cwrs blaenorol” (“preceding course”) yw cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015 neu gwrs ar gyfer gradd sylfaen neu gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y mae person (gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn peidio â’i fynychu yn union cyn dechrau mynychu cwrs penben;

mae i “cwrs penben” (“end-on course”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2015;

ystyr “cwrs sengl” (“single course”) yw cwrs y mae rheoliad 5(6) o Reoliadau 2015 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn y rheoliad hwnnw;

ystyr “cymhwyster cyfwerth neu is” (“equivalent or lower qualification”) yw cymhwyster y penderfynir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) ei fod yn gymhwyster cyfwerth neu is;

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004(3);

ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015; ac

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015(4).

(2Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfwerth neu is—

(a)os oes gan y person gymhwyster addysg uwch o sefydliad yn y Deyrnas Unedig; a

(b)os yw’r cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ar lefel academaidd sy’n gyfwerth i gymhwyster y mae’r cwrs cyfredol yn arwain ato neu’n uwch na’r cymhwyster hwnnw.

Disgrifiad rhagnodedig o gwrs cymhwysol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), cwrs cymhwysol at ddiben adran 5(2)(b) o Ddeddf 2015 yw cwrs addysg uwch sy’n gallu cael ei ddynodi drwy reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(5) (ni waeth pa un a yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn cael ei gyllido’n gyhoeddus at ddibenion y rheoliadau hynny).

(2Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os dechreuodd blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cyn 1 Medi 2012.

(3Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol—

(a)os yw’n gwrs penben; a

(b)os nad oedd y cwrs blaenorol yn gwrs cymhwysol oherwydd paragraff (2).

(4Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os yw’n gwrs rhan-amser.

Disgrifiad rhagnodedig o berson cymhwysol

4.—(1Mae person cymhwysol a ragnodir at ddibenion adran 5(5) o Ddeddf 2015 yn berson sy’n dod o fewn yr Atodlen ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd, ac eithrio—

(a)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2015 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (d), (e) neu (f) o’r Rheoliadau hynny; neu

(b)person a grybwyllir ym mharagraffau (2), (3), neu (8).

(2Yn ddarostyngedig i’r eithriadau ym mharagraffau (4), (5), (6) a (7), nid yw person yn berson cymhwysol—

(a)os oes gan y person gymhwyster addysg uwch; a

(b)os yw’r cwrs cymhwysol yn arwain at gymhwyster sy’n gymhwyster cyfwerth neu is.

(3Nid yw person yn berson cymhwysol—

(a)os yw’r person yn rhoi’r gorau i gwrs (“y cwrs cyntaf”) nad yw’n gwrs cymhwysol;

(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, os yw’r person yn mynychu ar unwaith gwrs arall sy’n gwrs cymhwysol; ac

(c)os nad oedd y cwrs cyntaf yn gwrs cymhwysol oherwydd rheoliad 3(2).

(4Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’r cwrs cymhwysol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)pan na fo hyd y cwrs yn hwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan-amser fel hyd y cwrs llawnamser cyfatebol); ac

(c)pan na fo’r person cymhwysol yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig.

(5Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw ran o gwrs sengl—

(a)pan fo’r cwrs sengl yn arwain at radd anrhydedd yn cael ei rhoi i’r person cymhwysol gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig cyn y radd derfynol neu gymhwyster cyfatebol; a

(b)pan fo’r unig radd anrhydedd sydd gan y person cymhwysol wedi ei chael fel rhan o’r cwrs sengl hwnnw.

(6Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r cwrs cymhwysol yn radd sylfaen.

(7Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r cwrs cymhwysol yn arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer.

(8Pan fo person, o ganlyniad i ddigwyddiad yn ystod blwyddyn academaidd, yn dod o fewn yr Atodlen yn ystod blwyddyn academaidd, nid yw’r person hwnnw yn berson cymhwysol mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi neu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn academaidd flaenorol.

Darpariaeth atodol

5.—(1Mae’r geiriau “a ddarperir yng Nghymru” yn adran 5(2)(b) o Ddeddf 2015 yn cael effaith er mwyn cynnwys llunio, yng Nghymru, y deunyddiau sy’n angenrheidiol i gyflwyno cwrs cymhwysol penodol, ni waeth pa un a yw’n ofynnol i fyfyrwyr fynychu’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs.

(2Mae’r geiriau “a ddarperir yng Nghymru” yn adran 17(1) o Ddeddf 2015 yn cael effaith er mwyn cynnwys llunio, yng Nghymru, y deunyddiau sy’n angenrheidiol i ddarparu addysg, ni waeth pa un a yw’n ofynnol i fyfyrwyr fynychu sefydliad i gael yr addysg honno.

6.  At ddibenion paragraff 29(3) o’r Atodlen i Ddeddf 2015, mae cynllun o dan Ddeddf 2004 yn cynnwys cynllun arfaethedig y mae CCAUC yn ei gael fel awdurdod perthnasol(6) o dan adran 34 o Ddeddf 2004 cyn 1 Awst 2015 ond nad yw’n cael ei gymeradwyo gan CCAUC tan ar ôl y dyddiad hwnnw yn dilyn adolygiad o dan reoliadau 11 i 18 o Reoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011(7).

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

7 Gorffennaf 2015

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources