Search Legislation

Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 4

YR ATODLEN

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon—

ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw—

(a)

mewn perthynas â gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o’r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o’r AEE—

(i)

priod neu bartner sifil y person hwnnw;

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person—

(aa)

sydd o dan 21 oed; neu

(bb)

sy’n ddibynyddion i’r person neu’n ddibynyddion i briod neu bartner sifil y person; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

(b)

mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

(i)

priod neu bartner sifil y person; neu

(ii)

plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;

(c)

mewn perthynas â gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn—

(aa)

sydd o dan 21 oed; neu

(bb)

sy’n ddibynyddion i’r gwladolyn neu’n ddibynyddion i briod neu bartner sifil y gwladolyn;

(d)

mewn perthynas â gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn—

(aa)

sydd o dan 21 oed; neu

(bb)

sy’n ddibynyddion i’r gwladolyn neu’n ddibynyddion i briod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(e)

mewn perthynas â gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn—

(aa)

sydd o dan 21 oed; neu

(bb)

sy’n ddibynyddion i’r gwladolyn neu’n ddibynyddion i briod neu bartner sifil y gwladolyn;

ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw’r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl pa un a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teulu i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(1);

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth lawnamser neu ran-amser;

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a’r Cydffederasiwn Swisaidd, o’r llall, ar Rydd Symudiad Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(2) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “ffoadur” yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr “refugee” yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(3) fel y’i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(4);

ystyr “gweithiwr” (“worker”) yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o’r AEE—

(a)

sy’n weithiwr yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “gweithiwr mudol o’r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd—

(a)

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn o’r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn o’r UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

(a)

sy’n berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

(a)

mewn perthynas â gwladolyn o’r AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

(b)

mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE—

(a)

sy’n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE(5) ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

(a)

sy’n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig o’r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“P”)—

(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros yno, ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, er yr ystyrir nad yw’n gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur; neu

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros yno ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn;

(b)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(c)

nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(6) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; a

(d)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan roddwyd caniatâd i P ddod i mewn neu aros;

ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Aruba; Bermwda; Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Montserrat; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius a Sint Maarten); Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St-Barthélemy; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan de Cunha); St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Ynysoedd Turks a Caicos a Wallis a Futuna;

ystyr “yr Undeb Ewropeaidd” (“European Union”) yw’r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd fel y’i cyfansoddir o bryd i’w gilydd;

mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(7); ac

ystyr “yr Ynysoedd” (“the Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny.

(3At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P” yn y diffiniad hwn) i gael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir, yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith—

(a)bod P;

(b)bod priod neu bartner sifil P;

(c)bod rhiant P; neu

(d)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, fod plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

yn cael, neu wedi cael, ei gyflogi dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.

(4At ddibenion is-baragraff (3), mae cyflogaeth dros dro yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o lynges, byddin neu awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; ac

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.

(5At ddibenion yr Atodlen hon, mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd, ar unrhyw adeg cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym neu ar ôl hynny, wedi dod yn rhan o’r naill neu’r llall neu’r ddwy o’r ardaloedd hyn,

i gael ei hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

(6At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, am ei fod wedi symud o un o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—

(a)y cwrs presennol; neu

(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol,

i gael ei ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2.—(1Person sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio drwy fod wedi caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

(b)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu ei breswyliad yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(3).

3.  Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio’n barhaol ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd ar y cwrs;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)a oedd, mewn achos pan oedd y preswyliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn union cyn y cyfnod o breswylio y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Ffoaduriaid ac aelodau o’u teulu

4.—(1Person—

(a)sy’n ffoadur;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd y person ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i ffoadur;

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur gais am loches;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd y ffoadur ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu bartner sifil ffoadur;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur gais am loches, yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur gais am loches;

(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd y ffoadur ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(e)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Personau â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teulu

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros; a

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na fo cais am loches wedi ei wneud; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i briod neu bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na fo cais am loches wedi ei wneud,

yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na fo cais am loches wedi ei wneud; a

(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teulu

6.—(1Person—

(a)sydd—

(i)yn weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE;

(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr ffin yr AEE neu’n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;

(v)yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu’n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

(b)sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o’r is-baragraff hwnnw.

7.  Person—

(a)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb(8), fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall

8.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)sydd wedi ymadael â’r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fo tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(e)a oedd, mewn achos pan oedd y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) wedi arfer hawl i breswylio—

(a)pan fo A yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol, bod A wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig; neu

(b)pan fo A wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a’i fod â hawl i breswylio’n barhaol, bod A yn mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae A yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae A yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

Gwladolion o’r UE

9.—(1Person—

(a)sydd naill ai—

(i)yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd ar y cwrs; neu

(ii)yn aelod o deulu person o’r fath;

(b)sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig;

(c)sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth berthnasol yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu gwladolyn o’r UE—

(a)pan—

(i)fo’r gwladolyn hwnnw o’r UE yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth arall o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38; neu

(ii)na fo’r gwladolyn hwnnw o’r UE yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig; a

(b)pan fo’r gwladolyn hwnnw o’r UE wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth berthnasol yn unol â pharagraff 1(3).

10.—(1Person—

(a)sy’n wladolyn o’r UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)a oedd, mewn achos pan oedd y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1), sef bod rhaid bod yn wladolyn o’r UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, fel pe bai wedi ei fodloni.

Plant gwladolion Swisaidd

11.  Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd ac sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)a oedd, mewn achos pan oedd y preswyliad arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Plant gweithwyr Twrcaidd

12.  Person—

(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(1)

OJ L158, 30.04.2004, tt. 77-123.

(2)

Gorch. 4904 ac OJ Rhif L114, 30.04.02, t. 6.

(3)

Gorchmn. 9171.

(4)

Gorchmn. 3906, (allan o brint; mae llungopïau ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth yr Is-adran Cymorth i Fyfyrwyr, yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

(5)

Diffinnir “EEA State” yn Neddf Dehongli 1978 (p. 30).

(6)

Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc.) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4; gan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), a chan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau’r Tribiwnlys Lloches a Mewnfudo 2010 (O.S. 2010/21), Atodlen 1.

(7)

Mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).

(8)

OJ Rhif L141, 27.05.2011, t. 1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources