Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014.

(2Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliadau 22 a 23, i rym ar 31 Hydref 2014.

(3Daw rheoliadau 22 a 23 i rym ar 23 Chwefror 2015.

(4Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o bwyllgor a benodir neu a etholir yn unol â’r Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod” (“authority”), mewn perthynas ag uned, yw’r awdurdod lleol y cynhelir yr uned ganddo;

ystyr “clerc y pwyllgor” (“clerk to the committee”) yw clerc a benodir i bwyllgor yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(1);

ystyr “cynrychiolydd ysgol” (“school representative”) yw person sy’n llywodraethwr neu’n aelod o staff ysgol a gynhelir yn y gymuned a wasanaethir gan yr uned (neu, yn ôl y digwydd, y grŵp o unedau);

ystyr “grŵp o unedau” (“group of units”) yw dwy neu ragor o unedau a reolir gan yr un pwyllgor yn unol â rheoliad 4;

ystyr “offeryn llywodraethu” (“instrument of government”) yw offeryn llywodraethu uned, neu grŵp o unedau, a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn;

ystyr “pwyllgor” (“committee”) yw pwyllgor rheoli uned, neu grŵp o unedau, a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn; ac

ystyr “uned” (“unit”) yw uned cyfeirio disgyblion.

RHAN 2SEFYDLU PWYLLGORAU RHEOLI

Sefydlu pwyllgorau

3.  Yn ddarostyngedig i reoliad 4, rhaid i awdurdod sefydlu pwyllgor i weithredu fel pwyllgor rheoli pob uned a gynhelir ganddo—

(a)mewn perthynas ag uned a agorir cyn 31 Hydref 2014, erbyn 23 Chwefror 2015; a

(b)mewn perthynas ag uned a agorir ar neu ar ôl 31 Hydref 2014, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a beth bynnag heb fod yn hwyrach na’r diwrnod cyntaf y mae’r uned ar agor i ddisgyblion.

Cyd-bwyllgorau

4.  Caiff awdurdod—

(a)sefydlu pwyllgor i weithredu fel pwyllgor rheoli dwy neu ragor o unedau a gynhelir ganddo; neu

(b)gwneud trefniadau i bwyllgor a sefydlir ganddo o dan reoliad 3 neu baragraff (a) weithredu fel pwyllgor rheoli uned, neu unedau, ychwanegol a gynhelir ganddo.

Dyletswydd i wneud offeryn llywodraethu a phenodi’r aelodau cyntaf

5.  Rhaid i awdurdod—

(a)gwneud offeryn llywodraethu, i benderfynu ar y cyfansoddiad a materion eraill sy’n ymwneud â’r pwyllgor, mewn cysylltiad â phob uned (neu, yn ôl y digwydd, bob grŵp o unedau) a gynhelir ganddo; a

(b)penodi aelodau cyntaf pob pwyllgor a sefydlir ganddo o dan reoliad 3 neu 4, (ac eithrio rhiant-aelodau, a staff-aelodau y mae’n ofynnol iddynt gael eu hethol o dan reoliad 10(1)(b)).

Cynnwys yr offeryn llywodraethu

6.  Rhaid i’r offeryn llywodraethu nodi—

(a)enw’r uned (neu’r grŵp o unedau);

(b)enw’r pwyllgor;

(c)y modd y mae’r pwyllgor i gael ei gyfansoddi yn unol â rheoliad 14, gan bennu—

(i)nifer yr aelodau ym mhob categori o aelod, a

(ii)cyfanswm nifer aelodau’r pwyllgor, gan gynnwys unrhyw noddwr-aelodau;

(d)pan fo tymor y swydd ar gyfer categori o aelod i fod yn llai na phedair blynedd, hyd tymor y swydd honno;

(e)enw unrhyw noddwr sydd â’r hawl i enwebu personau i’w penodi yn aelodau o’r fath o dan Atodlen 1; ac

(f)y dyddiad pan fydd yr offeryn llywodraethu yn cymryd effaith.

Adolygu’r offeryn llywodraethu

7.—(1Caiff y pwyllgor neu’r awdurdod adolygu’r offeryn llywodraethu ar unrhyw adeg ar ôl iddo gael ei wneud.

(2Pan fo’r pwyllgor neu’r awdurdod yn penderfynu, ar ôl unrhyw adolygiad, y dylid amrywio’r offeryn llywodraethu, rhaid i’r pwyllgor neu (yn ôl y digwydd) yr awdurdod hysbysu’r llall am yr amrywiad a gynigir ganddo ynghyd â’i resymau dros gynnig amrywiad o’r fath.

(3Pan fo’r pwyllgor wedi cael hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod pa un a yw’n fodlon ar yr amrywiad a gynigir ai peidio ac, os nad yw’n fodlon, am ba resymau.

(4Os—

(a)yw’r pwyllgor neu’r awdurdod, pa un bynnag sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (2), yn cytuno â’r amrywiad a gynigir; neu

(b)oes cytundeb rhwng yr awdurdod a’r pwyllgor y dylid gwneud rhyw amrywiad arall yn ei le, rhaid i’r awdurdod amrywio’r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.

(5Os nad yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod—

(a)hysbysu’r pwyllgor am y rhesymau—

(i)pam nad yw’n fodlon ar yr amrywiad a gynigir gan y pwyllgor, neu yn ôl y digwydd,

(ii)pam y mae’n dymuno bwrw ymlaen â’i amrywiad ei hun; a

(b)rhoi cyfle rhesymol i’r pwyllgor i ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â’r amrywiad, a rhaid iddo amrywio’r offeryn llywodraethu naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo ef a’r pwyllgor neu (yn absenoldeb cytundeb o’r fath) ym mha bynnag fodd y gwêl yn dda.

(6Pan fo’r offeryn llywodraethu wedi ei amrywio o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo nodi’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cymryd effaith.

Gofynion eraill mewn perthynas ag offerynnau llywodraethu

8.—(1Rhaid i’r awdurdod sicrhau y darperir i’r personau a nodir ym mharagraff (2) (yn rhad ac am ddim)—

(a)copi o’r offeryn llywodraethu; a

(b)pan fo unrhyw amrywiad wedi ei wneud i’r offeryn llywodraethu, fersiwn wedi ei chydgrynhoi o’r offeryn llywodraethu sy’n ymgorffori pob amrywiad a wnaed gan yr awdurdod (ac eithrio amrywiadau sydd wedi peidio â chael effaith).

(2Dyma’r personau y mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i gael ei darparu iddynt—

(a)pob aelod o’r pwyllgor; a

(b)yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned, os nad yw’n aelod o’r pwyllgor (neu, yn achos grŵp o unedau, unrhyw athro neu athrawes â gofal nad yw’n aelod o’r pwyllgor).

RHAN 3CATEGORÏAU O AELODAU

Rhiant-aelodau

9.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “rhiant-aelod” (“parent member”) yw—

(a)person sydd wedi ei ethol yn aelod yn unol â pharagraffau 2 i 6 o Atodlen 1 gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr uned (neu, yn ôl y digwydd, ym mhob un o’r unedau yn y grŵp o unedau), ac sy’n rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr uned (neu, yn ôl y digwydd, unrhyw uned yn y grŵp o unedau) ar yr adeg pan etholir y person hwnnw; neu

(b)person a benodir yn rhiant-aelod yn unol â pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 1.

(2Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu ei benodi yn rhiant-aelod os yw’r person hwnnw—

(a)yn aelod etholedig o’r awdurdod; neu

(b)wedi ei anghymhwyso o dan reoliad 10(2).

(3Nid yw person wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd rhiant-aelod pan fo’r person hwnnw yn peidio â bod yn rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr uned (neu, yn ôl y digwydd, unrhyw uned yn y grŵp o unedau) neu’n methu â bodloni unrhyw un neu ragor o’r gofynion a nodir ym mharagraff 8 o Atodlen 1 oni bai bod y person hwnnw wedi ei anghymhwyso fel arall o dan y Rheoliadau hyn.

Staff-aelodau

10.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “staff-aelod” (“staff member”) yw—

(a)yr athro neu’r athrawes â gofal am uned (neu, yn achos grŵp o unedau, yr athro neu’r athrawes â gofal am bob un o’r unedau); neu

(b)person sydd wedi ei ethol yn aelod yn unol â pharagraffau 9 i 11 o Atodlen 1 gan bersonau sy’n cael eu talu i weithio yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned (neu, yn ôl y digwydd, unrhyw uned yn y grŵp o unedau) ac sy’n berson sy’n gweithio felly ar yr adeg pan etholir y person hwnnw.

(2Nid yw person sy’n gymwys i’w ethol yn staff-aelod ac sy’n cael ei dalu i weithio yn yr uned honno am fwy na 500 awr ym mhob blwyddyn academaidd yn gymwys i’w ethol neu ei benodi yn aelod o dan reoliad 9, 11, 12 neu 13.

(3Pan fydd staff-aelod yn peidio â gweithio yn yr uned honno, mae i’w anghymhwyso rhag parhau i ddal ei swydd fel aelod o’r fath.

Aelodau a benodir gan yr awdurdod

11.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “aelod a benodir gan yr awdurdod” (“authority appointed member”) yw person sydd wedi ei benodi yn aelod gan yr awdurdod (ac eithrio staff-aelod, aelod cymunedol, neu noddwr-aelod a benodir gan yr awdurdod o dan reoliad 5(b)).

(2Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi yn aelod a benodir gan yr awdurdod os yw’r person hwnnw yn gymwys i fod yn staff-aelod.

Aelodau cymunedol

12.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “aelod cymunedol” (“community member”) yw person sydd wedi ei benodi yn aelod gan y pwyllgor (neu gan yr awdurdod o dan reoliad 5(b)) ac sy’n—

(a)cynrychiolydd ysgol;

(b)person sy’n byw neu’n gweithio yn y gymuned a wasanaethir gan yr uned (neu, yn ôl y digwydd, y grŵp o unedau); neu

(c)person sydd, ym marn y pwyllgor (neu, yn achos aelod cymunedol a benodir o dan reoliad 5(b), yr awdurdod), wedi ymrwymo i lywodraethu da ac i lwyddiant yr uned (neu, yn ôl y digwydd, y grŵp o unedau).

(2Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi yn aelod cymunedol os yw’r person hwnnw—

(a)yn gymwys i fod yn staff-aelod o’r pwyllgor; neu

(b)yn aelod etholedig o’r awdurdod.

Noddwr-aelodau

13.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “noddwr-aelod” (“sponsor member”) yw person sydd wedi ei enwebu’n noddwr-aelod ac sydd wedi ei benodi felly gan y pwyllgor yn unol â pharagraffau 12 i 14 o Atodlen 1 (neu sydd wedi ei benodi’n noddwr-aelod gan yr awdurdod o dan reoliad 5(b)).

RHAN 4CYFANSODDIAD Y PWYLLGORAU

Egwyddorion cyffredinol

14.—(1Mae’r offeryn llywodraethu i bennu maint ac aelodaeth y pwyllgor nad yw i fod yn llai na 7 aelod nac yn fwy nag 20 o aelodau (gan ddiystyru unrhyw noddwr-aelodau).

(2Mae’r offeryn llywodraethu i bennu nifer yr aelodau i’w hethol neu eu penodi o bob un o’r categorïau o aelod a ganlyn—

(a)rhiant-aelod;

(b)staff-aelod;

(c)aelod a benodir gan yr awdurdod;

(d)aelod cymunedol;

(e)noddwr-aelod.

(3Wrth gyfrifo nifer yr aelodau sy’n ofynnol ym mhob categori yn unol â pharagraff (5), rhaid talgrynnu’r nifer i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan agosaf.

(4Wrth gyfrifo nifer y staff-aelodau sy’n ofynnol, rhaid cynnwys yr athro neu’r athrawes â gofal (neu, yn achos grŵp o unedau, yr athro neu’r athrawes â gofal am bob un o’r unedau) pa un a yw’r person hwnnw wedi ymddiswyddo fel aelod ai peidio.

(5O ran cyfanswm nifer yr aelodau—

(a)rhaid bod o leiaf un ond dim mwy na phumed ran ohono yn rhiant-aelodau;

(b)rhaid bod o leiaf un ond dim mwy na thraean ohono yn staff-aelodau;

(c)rhaid bod o leiaf un ond dim mwy na thraean ohono yn aelodau a benodir gan yr awdurdod;

(d)rhaid bod o leiaf un ond dim mwy na dau yn noddwr-aelodau; ac

(e)rhaid i nifer yr aelodau cymunedol fod yn fwy na nifer yr holl aelodau eraill a restrir yn is-baragraffau (a) i (d).

Hysbysu ynghylch penodiadau

15.  Pan fo person yn gwneud penodiad neu’n enwebu person i’w benodi i’r pwyllgor rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig am y penodiad neu’r enwebiad i glerc y pwyllgor, gan bennu enw a phreswylfa arferol y person a benodir neu a enwebir.

RHAN 5CYMHWYSTER A DEILIADAETH SWYDD AELODAU

Cymhwyso ac anghymhwyso

16.  Mae Atodlen 2 yn nodi’r amgylchiadau pan fo person yn gymwys i ddal swydd neu barhau yn ei swydd fel aelod, neu pan fo wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau yn ei swydd fel aelod.

Tymor y swydd

17.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae aelod i ddal swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o’r dyddiad y’i hetholir neu y’i penodir.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw staff-aelod sy’n athro neu’n athrawes â gofal am uned, a gaiff ddal y swydd cyhyd ag y bo’r person hwnnw yn parhau yn ei swydd fel yr athro neu’r athrawes â gofal.

(3Caiff yr offeryn llywodraethu bennu tymor swydd llai ar gyfer categori penodol o aelod, ond ni chaiff y tymor fod yn llai na blwyddyn.

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn rhwystro aelod rhag—

(a)cael ei ethol neu ei benodi am dymor pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn;

(b)ymddiswyddo yn unol â rheoliad 18(1);

(c)cael ei symud o’i swydd yn unol â rheoliad 19; neu

(d)cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd.

Ymddiswyddo

18.—(1Caiff aelod ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y pwyllgor.

(2Caiff yr athro neu’r athrawes â gofal am uned dynnu ei ymddiswyddiad neu ei hymddiswyddiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y pwyllgor.

Symud aelodau o’u swyddi

19.—(1Caniateir i unrhyw aelod a benodir gan yr awdurdod gael ei symud o’i swydd gan yr awdurdod, a rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad ysgrifenedig am hynny i glerc y pwyllgor, ac i’r aelod a symudir o’i swydd felly.

(2Caniateir i unrhyw aelod cymunedol neu noddwr-aelod gael ei symud o’i swydd gan y pwyllgor yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 20.

(3Rhaid i gorff enwebu sy’n cynnig symud aelod cymunedol neu noddwr-aelod o’i swydd hysbysu clerc y pwyllgor, a’r aelod o dan sylw, yn ysgrifenedig am ei resymau dros gynnig bod yr aelod hwnnw yn cael ei symud o’i swydd.

(4Caiff y pwyllgor, yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 20, symud unrhyw aelod cymunedol, neu unrhyw noddwr-aelod, o’i swydd yn dilyn cais gan y corff enwebu.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “corff enwebu” (“nominating body”) yw unrhyw berson y ceisiwyd enwebiadau ganddo at y diben o benodi’r aelod o dan sylw, ac a enwebodd yr aelod o dan sylw.

(6Caniateir i unrhyw riant-aelod a benodir gan y pwyllgor o dan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 1 gael ei symud o’i swydd gan y pwyllgor yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 20.

Y weithdrefn ar gyfer symud aelodau o’u swyddi gan y pwyllgor

20.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â symud aelod o’i swydd yn unol â rheoliad 19.

(2Ni fydd penderfyniad i symud aelod o’i swydd a gaiff ei basio mewn cyfarfod o’r pwyllgor yn cael effaith—

(a)oni bai, mewn perthynas â symud aelod a enwebwyd gan gorff enwebu o’i swydd, cyn bod y pwyllgor yn penderfynu symud yr aelod o’i swydd, fod clerc y pwyllgor yn rhoi’r rhesymau a ddarparwyd gan y corff enwebu (fel y bo’n briodol) dros symud yr aelod o’i swydd, a bod yr aelod hwnnw y cynigir ei fod yn cael ei symud o’i swydd yn cael cyfle i wneud datganiad er mwyn ymateb i hynny;

(b)oni bai, mewn perthynas â symud aelod cymunedol, noddwr-aelod neu riant-aelod o’i swydd, cyn bod y pwyllgor yn penderfynu symud yr aelod o’i swydd, fod yr aelod neu’r aelodau sy’n cynnig bod yr aelod yn cael ei symud yn datgan, yn y cyfarfod hwnnw, eu rhesymau dros wneud hynny a bod yr aelod y cynigir ei fod yn cael ei symud o’i swydd yn cael cyfle i wneud datganiad er mwyn ymateb i hynny;

(c)oni bai ei fod wedi ei gadarnhau drwy benderfyniad a gaiff ei basio mewn ail gyfarfod o’r pwyllgor a gynhelir heb fod yn llai na phedwar diwrnod ar ddeg ar ôl y cyfarfod cyntaf; a

(d)oni bai bod y mater o symud aelod o’i swydd wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer pob un o’r cyfarfodydd hynny.

RHAN 6GWEITHDREFNAU’R PWYLLGORAU

Cymhwyso Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

21.  Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 yn gymwys mewn perthynas ag unedau fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir i’r graddau a chyda’r addasiadau a ragnodir yn Atodlen 3 (ac yn y Rheoliadau hynny fel y’u cymhwyswyd felly mae gan unrhyw ymadrodd sydd wedi ei ddiffinio yn rheoliad 2 yr un ystyr ag yn y rheoliad hwnnw).

RHAN 7DIRPRWYO SWYDDOGAETHAU I BWYLLGORAU A’R CWRICWLWM

Dirprwyo swyddogaethau

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod ddirprwyo’r swyddogaethau a grybwyllir ym mharagraff (2) sy’n ymwneud ag uned i’r pwyllgor, ynghyd ag unrhyw bwerau sydd gan yr awdurdod sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau hynny.

(2Dyma’r swyddogaethau—

(a)cynnal yr uned;

(b)swyddogaethau’r awdurdod o dan baragraff 6(3) o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 (cwynion sy’n ymwneud â’r cwricwlwm);

(c)swyddogaethau’r awdurdod o dan adran 88 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(2) (cyfrifoldeb dros ddisgyblu); a

(d)mewn cysylltiad ag athrawon a gyflogir gan yr awdurdod i weithio yn yr uned, swyddogaethau’r awdurdod o dan Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011(3).

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i’r canlynol—

(a)swyddogaethau’r awdurdod o dan—

(i)adran 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(4) (pŵer i ymyrryd),

(ii)rheoliadau a wneir o dan adran 31 o Ddeddf Addysg 2002(5) (rheoli mangreoedd ysgol), a

(iii)adran 29(5) o Ddeddf Addysg 2002 (cyfarwyddyd gan awdurdod mewn perthynas ag iechyd a diogelwch);

(b)unrhyw bŵer i benodi neu ddiswyddo athrawon a staff nad ydynt yn addysgu yn yr uned, neu eu hatal dros dro;

(c)unrhyw bŵer i wario unrhyw swm o arian a neilltuwyd gan yr awdurdod at ddibenion yr uned.

Cwricwlwm

23.  Rhaid i’r awdurdod, y pwyllgor a’r athro neu’r athrawes â gofal am uned (gan weithio ar y cyd) wneud, ac adolygu o bryd i’w gilydd, ddatganiad polisi ysgrifenedig mewn perthynas â’r cwricwlwm ar gyfer yr uned.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

7 Hydref 2014

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources