- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
66.—(1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 5, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o bryd i'w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys.
67.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (7), mae swm sy'n hafal i'r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl fel y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 5 i'w gymhwyso hyd nes dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn—
(a)yn gyntaf, i ostwng GFF;
(b)yn ail, i ostwng ADG;
(c)yn drydydd, i ostwng CCG;
(d)yn bedwerydd, i ostwng PLA;
(e)yn bumed, i ostwng LLC i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;
(f)yn chweched, i ostwng GFT.
(2) Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 17(1) neu 17(7), er mwyn penderfynu swm gwirioneddol y grant ar gyfer ffioedd sy'n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso'r cyfraniad yn unol â pharagraff (1).
(3) Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, pan fo swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 17(2) neu 17(8) a phan fo un o'r amgylchiadau a nodir yn rheoliad 17(4)(b) neu (d) yn gymwys, er mwyn penderfynu swm gwirioneddol y grant ar gyfer ffioedd sy'n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)yn gyntaf, cymhwyso'r cyfraniad i ostwng swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd;
(b)yn ail, os nad yw'r cyfraniad wedi ei ddihysbyddu, didynnu swm sy'n hafal i swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd o'r hyn sy'n weddill o'r cyfraniad gan ostwng gweddill y cyfraniad i ddim llai na dim; ac
(c)yn drydydd, os nad yw'r cyfraniad eto wedi ei ddihysbyddu, cymhwyso'r gweddill yn gyntaf i ostwng ADG, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.
(4) Os yw'r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs ar gyfer gradd gyntaf), nid oes unrhyw gyfraniad i'w gymhwyso yn erbyn swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd, a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.
(5) Yn achos blwyddyn Erasmus, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso swm y rhan o'r cyfraniad sydd dros ben £1,380 i ostwng ADG yn gyntaf, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.
(6) Os nad oes hawl gan y myfyriwr i gael grant ar gyfer ffioedd am unrhyw reswm arall, mae GFF yn ddim, a rhaid cymhwyso'r cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.
(7) Yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, rhaid trin GFF fel pe bai'n ddim a chymhwyso'r cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a)ADG yw swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 34;
(b)CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 34;
(c)GFF yw swm y grant ar gyfer ffioedd, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan Ran 4;
(d)GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliad 37 os oes unrhyw swm o gwbl;
(e)LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys (ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol) hawl i'w gael o dan Ran 6 i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd a bennir ym mharagraff (9);
(f)PLA yw swm, os oes unrhyw swm o gwbl, lwfans dysgu'r rhieni a gyfrifir o dan reoliad 34 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).
(9) Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) ac (11), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yn rheoliad 67(1)(e) yw, yn achos myfyriwr—
(a)yng nghategori 1, £2,990;
(b)yng nghategori 2, £5,412;
(c)yng nghategori 3, £4,606;
(d)yng nghategori 4, £4,606;
(e)yng nghategori 5, £3,863.
(10) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), os y flwyddyn academaidd o dan sylw yw blwyddyn derfynol cwrs ac eithrio cwrs dwys, y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw, yn achos myfyriwr—
(a)yng nghategori 1, £2,706;
(b)yng nghategori 2, £4,928
(c)yng nghategori 3, £4,005
(d)yng nghategori 4, £4,005;
(e)yng nghategori 5, £3,578.
(11) Pan fo categorïau gwahanol yn gymwys i fyfyriwr cymwys ar gyfer gwahanol chwarteri o'r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (9) a (10) yw swm cyfanredol y symiau a benderfynir o dan baragraff (12) ar gyfer pob un o'r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.
(12) Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter yw traean o'r swm ym mharagraff (9) neu (10) sy'n cyfateb i'r gyfradd sy'n gymwys ar gyfer y chwarter.
(13) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyrwyr math 1 a math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddynt hawl i gael grant cynhaliaeth ac y mae eu cyfraniad yn fwy na dim.
(14) Mae'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy o ran blwyddyn academaidd i fyfyriwr y mae paragraff (13) yn gymwys iddo yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn—
A − B
pan fo—
A yn swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r Rhan hon; a
B yw swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy i'r myfyriwr cymwys.
(15) Mae i'r categorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 63.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: