Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 10TALIADAU

Talu grantiau neu fenthyciadau ar gyfer ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

68.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn i'w gael i awdurdod academaidd y mae'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn atebol i dalu iddo.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd—

(a)oni fyddant wedi cael cais am daliad oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol; a

(b)bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd ddim hwyrach na 10 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod ym mharagraff (3)(b), neu yn ddi-oed ar ôl i gais am daliad ddod i law, a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn gais dilys, os yw hynny'n digwydd yn hwyrach.

(5Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant ar gyfer ffioedd neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn i'w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.

(6Ni cheir gwneud taliad o'r grant ar gyfer ffioedd, neu'r benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â chwrs dynodedig—

(a)os bydd y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'n bresennol o dan reoliad 13(3) a 13(4), yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'r cwrs; a

(b)os yw'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol eto ar y cwrs neu, yn ôl fel y digwydd, ymgymryd eto â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hi, neu o gwbl.

(7Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu'n rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i'r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn o'r cwrs dynodedig.

Talu grantiau neu fenthyciadau ar gyfer ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd

69.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i'w gael i awdurdod academaidd y mae'r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn atebol i dalu iddo.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd, nac unrhyw randaliad o'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd, y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i'w gael, oni fyddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—

(a)cais am daliad; a

(b)cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig” (“confirmation of the new system eligible student’s attendance on the designated course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—

(a)wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), wedi dechrau ymgymryd â'r cwrs dynodedig, pan fo'r cadarnhad yn ymwneud â thaliad llawn neu randaliad cyntaf o'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd; neu

(b)yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac yn parhau i fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), yn parhau i ymgymryd â'r cwrs dynodedig ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo'r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o'r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd, ac eithrio'r rhandaliad cyntaf.

(5Os yw asesu cais myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu'r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i'w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.

(6Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu'n rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i'r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd o'r cwrs dynodedig.

Talu grantiau at gostau byw

70.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 5 yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae o'r farn eu bod yn briodol.

(2Mae'n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth o dan Ran 5 mewn rhandaliadau, rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth o dan y Rhan honno, i fyfyriwr cymwys cyn i'r cadarnhad o bresenoldeb ddod i law onid oes eithriad yn gymwys, y cyfeirir ato ym mharagraff (4).

(4Mae eithriad yn gymwys at ddibenion paragraff (3)—

(a)pan fo grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy, ac yn yr achos hwnnw caniateir talu'r grant arbennig hwnnw cyn i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law Gweinidogion Cymru; neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol oherwydd amgylchiadau eithriadol i wneud taliad a chadarnhad o bresenoldeb heb eto ddod i law.

(5Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 5.

(6Mae taliadau cymorth o dan Ran 5 i'w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys yn garcharor arno, oni fyddai'n briodol o dan yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r diwrnod hwnnw.

(8Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl.

(9Wrth benderfynu a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (7), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol y byddai peidio â thalu'r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu'r cymorth yn effeithio ar allu'r myfyriwr cymwys i barhau â'r cwrs.

(10Nid oes cymorth yn daladwy o dan Ran 5 mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.

(11Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—

(a)swm pob grant at gostau byw y mae'r myfyriwr hwnnw'n gymwys i'w gael ac a fyddai'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol pe na fyddai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr hwnnw wedi dod i ben (y “swm llawn”); a

(b)faint o'r swm llawn sy'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod sy'n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys i ben (y “swm rhannol”).

(12Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(13Os yw Gweinidogion Cymru wedi talu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys i ben a bod taliad yn fwy na swm rhannol y grant hwnnw—

(a)cânt drin y tâl dros ben fel gordaliad o'r grant hwnnw; neu

(b)os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny cânt estyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr hwnnw mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod swm llawn y grant yn daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(14Yn ddarostyngedig i baragraff (15), os yw taliad grant at gostau byw mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i'w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y'i telir, swm y grant hwnnw sy'n daladwy yw'r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol i estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol ac yn briodol i benderfynu bod swm llawn y grant hwnnw'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(15Nid yw paragraff (14) yn gymwys i daliad grant at gostau byw i fyfyrwyr anabl o ran offer arbenigol.

(16Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr amgylchiadau i gyd i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.

(17Wrth benderfynu pa un a fyddai'n briodol i gymorth fod yn daladwy o dan baragraff (16) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol a achosid pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu.

(18Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'r myfyriwr cymwys yn methu â bod yn bresennol oherwydd salwch ac na fu'n absennol am fwy na 60 diwrnod.

(19Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad o gymorth o dan Ran 5 neu Ran 6, yn penderfynu swm y grant at gostau byw a chostau eraill y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i'w gael, naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—

(a)os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i'w gael yw'r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r swm ychwanegol, a chânt wneud hynny yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol;

(b)os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i'w gael yw'r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddidynnu swm y gostyngiad o weddill y grant hwnnw sydd eto i'w dalu;

(c)os yw swm y gostyngiad yn fwy na gweddill y grant hwnnw sydd eto i'w dalu, rhaid gostwng y gweddill hwnnw i ddim, a didynnu'r balans o unrhyw grant arall at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr yn i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd;

(d)gellir adennill unrhyw ordaliad sy'n weddill yn unol â rheoliad 74.

Darparu rhif yswiriant gwladol y Deyrnas Unedig

71.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o ran unrhyw fenthyciad fod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod amod o dan baragraff (1), rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o ran y benthyciad i'r myfyriwr cymwys cyn iddynt gael eu bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â'r amod hwnnw.

(3Er gwaethaf paragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt wedi eu bodloni y byddai'n briodol iddynt wneud taliad o'r fath oherwydd amgylchiadau eithriadol, wneud taliad o fenthyciad i fyfyriwr cymwys pan nad yw'r myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â'r amod a osodwyd o dan baragraff (1).

Gofynion o ran gwybodaeth

72.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am wybodaeth y maent o'r farn ei bod yn ofynnol ar gyfer adennill benthyciad.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am gael gweld ei gerdyn adnabod dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae'n ddinesydd ynddi, neu ei dystysgrif geni.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, cânt gadw'n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd nes y bo'r ceisydd neu'r myfyriwr cymwys yn darparu'r hyn y gofynnwyd amdano neu'n darparu eglurhad boddhaol am beidio â chydymffurfio â'r cais.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol bod ceisydd neu fyfyriwr cymwys yn ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.

(5Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynglŷn â'r dull o ad-dalu o dan y rheoliad hwn, cânt gadw'n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd nes y bo'r ceisydd neu'r myfyriwr cymwys yn darparu'r hyn y gofynnwyd amdano.

Talu benthyciadau at gostau byw

73.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 6 mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 6 ar y cyfryw adegau ag y maent o'r farn eu bod yn briodol.

(3Mae'n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf, neu pan fyddant wedi penderfynu peidio â thalu cymorth o dan Ran 6 drwy randaliadau, wneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 i'r myfyriwr cymwys hyd oni fydd cadarnhad o bresenoldeb wedi dod i law oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol onid yw'r eithriad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn gymwys.

(5At ddibenion paragraff (4), mae'r eithriad yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol, oherwydd amgylchiadau eithriadol, iddynt wneud taliad heb i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law.

(6Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gan y myfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 6.

(7Mae taliadau cymorth o dan Ran 6 i'w gwneud yn y cyfryw fodd ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod y rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(8Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 5 neu o dan Ran 6 a bod myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan Ran 6 yn gwneud cais am fenthyciad o'r fath neu'n gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff Gweinidogion Cymru dalu'r benthyciad hwnnw neu'r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y maent o'r farn eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i gais boddhaol ddod i law.

(9Yn ddarostyngedig i baragraff (10), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys yn garcharor arno, oni fyddai'n briodol o dan yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r diwrnod hwnnw.

(10Wrth benderfynu a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (9), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol y byddai peidio â thalu'r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu'r cymorth yn effeithio ar allu'r myfyriwr cymwys i barhau â'r cwrs.

(11Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.

(12Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod rhan ohono, oni fyddai'n briodol, ym marn Gweinidogion Cymru, yn yr holl amgylchiadau, i gymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.

(13Wrth benderfynu pa un a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (12) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rhesymau am absenoldeb y myfyriwr cymwys, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol y byddai peidio â thalu i'r myfyriwr cymwys yn ei achosi.

(14Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'r myfyriwr cymwys yn analluog i fod yn bresennol oherwydd salwch ac nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 diwrnod.

(15Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad benthyciad at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o dan Ran 6, yn gwneud penderfyniad bod y swm o fenthyciad at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i'w gael yn llai na'r swm a benderfynwyd yn flaenorol naill ai drwy adolygiad o asesiad dros dro neu fel arall—

(a)rhaid iddynt ddidynnu o unrhyw swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i'w dalu y cyfryw swm sydd ei angen er mwyn sicrhau nad yw'r myfyriwr cymwys yn benthyg swm mwy at gostau byw na'r swm y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i'w gael;

(b)os yw'r swm sydd i'w dynnu i ffwrdd yn fwy na'r swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i'w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim;

(c)gellir adennill unrhyw ordaliad yn unol â rheoliad 74.

Gordaliadau

74.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant ar gyfer ffioedd, grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Rhaid i fyfyriwr cymwys, os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm a delir i'r myfyriwr cymwys o dan Ran 5 neu 6 ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na'r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth arno o dan Ran 5 neu 6.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill onid ydynt o'r farn nad yw'n briodol iddynt wneud hynny.

(4Mae taliad o unrhyw grant at gostau byw a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(5Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (6) neu (7), mae gordaliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl oni fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(6Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw—

(a)mae Gweinidogion Cymru yn defnyddio'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr cymwys;

(b)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nid yw'r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i'w gyfnod cymhwystra ddod i ben.

(7Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw—

(a)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)gwneir taliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys ddod i ben.

(8Os oes gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.

(9Caniateir adennill unrhyw ordaliad o unrhyw grant o dan Ran 5 ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau—

(a)drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr cymwys o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordaliad ag sydd ar gael iddynt.

(10Caniateir adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd os yw, ym marn Gweinidogion Cymru—

(a)y gordaliad wedi digwydd o ganlyniad i fethiant ar ran y myfyriwr i ddarparu'n brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ba un a oes hawl gan y myfyriwr ai peidio i gael benthyciad neu ar swm y benthyciad y mae hawl ganddo i'w gael;

(b)unrhyw wybodaeth y mae'r myfyriwr wedi ei darparu yn anghywir mewn manylyn perthnasol; neu

(c)y myfyriwr wedi methu â darparu gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.

(11Pan fo modd adennill gordaliad o fenthyciad at gostau byw yn unol â pharagraff (10), caniateir ei adennill ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau—

(a)drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordaliad ag sydd ar gael iddynt.

(12Os oes gordaliad wedi bod o fenthyciad at gostau byw nad oes modd ei adennill o dan baragraff (10), caiff Gweinidogion Cymru dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

(13Yn y rheoliad hwn “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

Taliadau — dehongli

75.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yw cadarnhad mewn ysgrifen gan yr awdurdod academaidd—

(i)bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—

(aa)pan fo'r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;

(bb)pan fo gan y myfyriwr cymwys anabledd; ac

(cc)pan fo'r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â'r cwrs ond nad yw'n bresennol ar y cwrs (pa un a yw'r rheswm am beidio â bod yn bresennol yn ymwneud â'i anabledd ai peidio);

(ii)bod y myfyriwr cymwys wedi bod yn bresennol yn y sefydliad ac wedi dechrau mynychu'r cwrs—

(aa)pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;

(bb)pan nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo i'r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad; ac

(cc)nad yw is-baragraff (i)(cc) yn gymwys;

(iii)bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd pan fo'r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

(aa)a hynny am dro heblaw'r tro cyntaf; neu

(bb)am y tro cyntaf wedi i statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o gwrs arall yn yr un sefydliad;

(b)ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw cyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn talu mewn perthynas ag ef y cymorth perthnasol o dan Ran 5 neu Ran 6 neu y byddent wedi talu'r cyfryw gymorth pe na bai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys wedi dod i ben.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources