Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliadau 16 a 17

ATODLEN 3Labelu a gwerthiannau rhydd

  1. RHAN 1 Cyflwyniad

    1. 1.Mathau o labeli

    2. 2.Amser labelu

    3. 3.Amrywogaethau a addaswyd yn enetig

    4. 4.Trin hadau â chemegion

  2. RHAN 2 Labeli swyddogol

    1. 5.Labeli swyddogol: gofynion cyffredinol

    2. 6.Labeli swyddogol ar gyfer hadau cyn-sylfaenol

    3. 7.Labeli swyddogol ar gyfer hadau sylfaenol a hadau ardystiedig

    4. 8.Labeli swyddogol ar gyfer hadau masnachol sydd heb eu hardystio o ran amrywogaeth

    5. 9.Labelu cymysgeddau

  3. RHAN 3 Gofynion ychwanegol ynghylch labeli swyddogol ar gyfer rhywogaethau penodol

    1. 10.Cyflwyniad

    2. 11.Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau betys

    3. 12.Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau ŷd

    4. 13.Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau porthiant

    5. 14.Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau olew a ffibr

  4. RHAN 4 Labeli cyflenwr

    1. 15.Ystyr “label cyflenwr”

    2. 16.Labelu pecyn

    3. 17.Cyfeiriadau at bwysau yn y Rhan hon

    4. 18.Hadau bridiwr: labeli cyflenwr

    5. 19.Hadau betys: labeli cyflenwr

    6. 20.Hadau ŷd: labeli cyflenwr

    7. 21.Hadau porthiant (amaethyddol neu amwynderol): pecynnau y caniateir eu labelu gyda label cyflenwr

    8. 22.Hadau porthiant ac eithrio cymysgedd: gofynion labelu

    9. 23.Cymysgedd o hadau porthiant: gofynion labelu

    10. 24.Hadau olew a ffibr: labeli cyflenwr

    11. 25.Hadau llysiau: labeli cyflenwr

  5. RHAN 5 Gwerthiannau o hadau rhydd

    1. 26.Gwerthiannau o hadau rhydd

RHAN 1Cyflwyniad

Mathau o labeli

1.—(1Mae dau fath o label ar gyfer hadau, sef labeli swyddogol a labeli cyflenwr.

(2Rhaid defnyddio label cyflenwr ar becyn o hadau bridiwr, a chaniateir ei ddefnyddio ar becyn bach o hadau fel a bennir yn Rhan 4 o'r Atodlen hon ac ar becyn o hadau llysiau safonol o unrhyw faint.

(3Rhaid defnyddio label swyddogol ar unrhyw becyn arall o hadau.

Amser labelu

2.  Rhaid labelu pecyn ar yr adeg y caiff ei selio.

Amrywogaethau a addaswyd yn enetig

3.  Os yw amrywogaeth wedi ei haddasu yn enetig, rhaid datgan hynny ar y label.

Trin hadau â chemegion

4.  Os rhoddwyd unrhyw driniaeth gemegol i hadau, rhaid datgan y ffaith honno ar y label, a natur y driniaeth neu enw perchnogol y cemegyn a ddefnyddiwyd.

RHAN 2Labeli swyddogol

Labeli swyddogol: gofynion cyffredinol

5.—(1Label swyddogol yw label a gyflenwir gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid iddo fod ar y tu allan i'r pecyn.

(3Rhaid iddo beidio â bod wedi ei ddefnyddio o'r blaen.

(4Rhaid iddo fod naill ai'n adlynol neu wedi ei gysylltu gyda dyfais selio a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

(5Rhaid iddo fod mewn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

(6Rhaid iddo fod yn 110 mm x 67 mm o leiaf.

(7Rhaid iddo ddwyn rhif unigryw.

(8Rhaid iddo gael ei osod ynghlwm wrth y pecyn gan swyddog awdurdodedig Gweinidogion Cymru, samplwr hadau trwyddedig neu unrhyw berson sy'n cael ei oruchwylio gan berson o'r fath.

(9Fel rhanddirymiad o'r uchod, yn achos hadau ŷd, hadau porthiant a hadau olew a ffibr a ddosbarthwyd, ym mhob achos, fel CS, C1, C2 neu C3, ceir defnyddio'r bag cyfan fel y label, ar yr amod y gwneir hynny gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru a bod y bag o'r un lliw â'r lliw sy'n ofynnol ar gyfer y label.

Labeli swyddogol ar gyfer hadau cyn-sylfaenol

6.—(1Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar hadau cyn-sylfaenol—

(a)enw'r awdurdod ardystio;

(b)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

(c)rhif cyfeirnod y lot hadau;

(ch)y wlad y'u cynhyrchwyd ynddi;

(d)mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn);

(dd)y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, y ceir ei roi yn ei ffurf gryno a heb gynnwys enwau'r awdurdodau, ac eithrio yn achos hadau betys neu lysiau, pryd y caniateir defnyddio'r enw cyffredin);

(e)yr amrywogaeth;

(f)y disgrifiad “pre-basic” neu “PB”;

(ff)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau (neu, yn achos betys, y nifer datganedig o glystyrau neu hadau pur);

(g)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau (neu, yn achos betys, y gymhareb rhwng pwysau'r hadau pur a chyfanswm y pwysau);

(ng)nifer y cenedlaethau a ragflaenodd y categori “hadau ardystiedig (CS)” neu “hadau ardystiedig cenhedlaeth gyntaf (C1)”.

(2Rhaid i'r label fod yn wyn, gyda streipen groeslinol fioled ar ei draws.

Labeli swyddogol ar gyfer hadau sylfaenol a hadau ardystiedig

7.—(1Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar hadau ardystiedig—

(a)y geiriau “EU Rules and standards”;

(b)enw'r awdurdod ardystio;

(c)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

(ch)rhif cyfeirnod y lot hadau;

(d)naill ai—

(i)mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn); neu

(ii)mis a blwyddyn y samplu swyddogol diwethaf at ddibenion ardystio, a fynegir fel “sampled ...” (mis a blwyddyn);

(dd)y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, naill ai'n llawn neu yn ei ffurf gryno, ac eithrio yn achos hadau betys neu lysiau, pryd y caniateir defnyddio'r enw cyffredin);

(e)yr amrywogaeth;

(f)y categori;

(ff)y wlad y'u cynhyrchwyd ynddi;

(g)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau neu, yn achos betys, y nifer datganedig o glystyrau o hadau pur;

(ng)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau (neu, yn achos betys, y gymhareb rhwng pwysau'r hadau pur a chyfanswm y pwysau);

(h)os yw'r egino wedi ei ailbrofi, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi.

(2Rhaid i'r label fod o liw—

(a)gwyn ar gyfer hadau sylfaenol;

(b)glas ar gyfer hadau ardystiedig a hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf;

(c)coch ar gyfer hadau ardystiedig o'r ail a'r drydedd genhedlaeth.

Labeli swyddogol ar gyfer hadau masnachol sydd heb eu hardystio o ran amrywogaeth

8.—(1Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar hadau masnachol sydd heb eu hardystio o ran amrywogaeth—

(a)y geiriau “EU Rules and standards”;

(b)enw'r awdurdod ardystio;

(c)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

(ch)rhif cyfeirnod y lot hadau;

(d)naill ai—

(i)mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn); neu

(ii)mis a blwyddyn y samplu swyddogol diwethaf at ddibenion ardystio, a fynegir fel “sampled ...” (mis a blwyddyn);

(dd)y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, naill ai'n llawn neu yn ei ffurf gryno, ac eithrio, yn achos hadau betys neu lysiau, pan ganiateir defnyddio'r enw cyffredin);

(e)y geiriau “commercial seed not certified as to variety”;

(f)y wlad neu'r rhanbarth y'u cynhyrchwyd ynddi;

(ff)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau;

(g)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau;

(ng)pan fo'r egino wedi ei ailbrofi, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi.

(2Rhaid i'r label fod o liw brown.

Labelu cymysgeddau

9.—(1Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar gymysgedd o hadau—

(a)yr awdurdod sy'n gyfrifol am selio'r pecyn;

(b)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

(c)rhif cyfeirnod y lot hadau;

(ch)mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn);

(d)y rhywogaeth, y categori, yr amrywogaeth, y wlad y'i cynhyrchwyd ynddi a'r gyfran yn ôl pwysau ar gyfer pob un o'r cydrannau;

(dd)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau;

(e)pan ddynodir y pwysau, ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau pur a chyfanswm y pwysau;

(f)pan fo pob un o gydrannau'r cymysgedd wedi eu hailbrofi o ran egino, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi;

(ff)yn achos ydau, y geiriau “mixture of” a ddilynir gan y rhywogaethau a'r amrywogaethau a datganiad cymhwyso bod y cymysgedd yn effeithiol rhag lledaenu organeb niweidiol;

(g)yn achos planhigion porthiant, y geiriau “mixture of seeds for” a ddilynir gan ddisgrifiad o'r defnydd y bwriedir ar eu cyfer.

(2Ond ar gyfer cymysgeddau porthiant a gofrestrwyd gyda Gweinidogion Cymru, os yw'r label yn dangos enw cofrestredig y cymysgedd, caniateir hepgor y canrannau yn ôl pwysau o bob un o'r cydrannau, ar yr amod—

(a)y cyflenwir yr wybodaeth honno i'r cwsmer os gofynnir amdani, a

(b)y rhoddir gwybod i gwsmeriaid y cânt ofyn am y manylion hyn.

(3Rhaid i'r label fod o liw gwyrdd.

RHAN 3Gofynion ychwanegol ynghylch labeli swyddogol ar gyfer rhywogaethau penodol

Cyflwyniad

10.  Mae'r gofynion canlynol, sydd ar gyfer rhywogaethau penodol, yn ychwanegol at y gofynion yn Rhan 2.

Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau betys

11.  Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau betys bennu—

(a)“monogerm” neu “precision” fel y bo'n briodol;

(b)“fodder beet” neu “sugar beet” fel y bo'n briodol.

Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau ŷd

12.—(1Rhaid i label swyddogol ar gyfer haidd noeth C1 ac C2 gynnwys y geiriau “minimum germination capacity 75%”.

(2Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau ŷd sylfaenol o amrywogaethau sy'n hybridiau neu'n llinellau mewnfrid gynnwys—

(a)ar gyfer hadau sylfaenol pan fo'r hybrid neu'r llinell fewnfrid y mae'r hadau yn perthyn iddo neu iddi wedi ei dderbyn neu wedi ei derbyn ar Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin, yr enw y'i derbyniwyd yn swyddogol odano, gyda chyfeiriad at yr amrywogaeth derfynol neu hebddo, ac os bwriedir yr hadau yn unig fel cydran ar gyfer amrywogaethau terfynol, y gair “component”;

(b)ar gyfer hadau sylfaenol mewn achosion eraill, enw'r gydran y mae'r hadau sylfaenol yn perthyn iddi, y caniateir ei ddangos ar ffurf cod, ynghyd â chyfeiriad at yr amrywogaeth derfynol, gan gyfeirio neu beidio at ei swyddogaeth (gwryw neu fenyw) ynghyd â'r gair “component”.

(3Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau ŷd ardystiedig (CS, C1 neu C2) o amrywogaethau sy'n hybridiau neu'n llinellau mewnfrid gynnwys y gair “hybrid” ar ôl yr amrywogaeth.

(4Pan fo hadau'n cael eu marchnata fel hadau o safon wirfoddol uwch rhaid i'r label gynnwys y llythrennau “HVS”.

Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau porthiant

13.  Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau porthiant gynnwys—

(a)ar gyfer hadau ardystiedig o'r ail genhedlaeth a chenedlaethau dilynol, y nifer o genedlaethau ar ôl hadau sylfaenol;

(b)yn achos hadau o amrywogaethau glaswellt, na chynhaliwyd unrhyw archwiliad swyddogol o'u gwerth o ran eu tyfu a'u defnyddio, y geiriau “Not intended for fodder production”;

(c)os yw'r hadau'n cael eu marchnata ar y safon wirfoddol uwch, y llythrennau “HVS”.

Gofynion ychwanegol ar gyfer hadau olew a ffibr

14.—(1Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau olew a ffibr sylfaenol o amrywogaethau sy'n hybridiau neu'n llinellau mewnfrid gynnwys—

(a)ar gyfer hadau sylfaenol pan fo'r hybrid neu'r llinell fewnfrid y mae'r hadau yn perthyn iddo neu iddi wedi ei dderbyn, neu wedi ei derbyn, ar Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin, yr enw y'i derbyniwyd yn swyddogol odano, gyda chyfeiriad at yr amrywogaeth derfynol neu hebddo, ac os bwriedir yr hadau i'w defnyddio yn unig fel cydran ar gyfer amrywogaethau terfynol, y gair “component”;

(b)ar gyfer hadau sylfaenol mewn achosion eraill, enw'r gydran y mae'r hadau sylfaenol yn perthyn iddi, y caniateir ei roi ar ffurf cod, ynghyd â chyfeiriad at yr amrywogaeth derfynol, gan gyfeirio neu beidio at ei swyddogaeth (gwryw neu fenyw) ynghyd â'r gair “component”.

(2Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau olew a ffibr ardystiedig (CS, C1 neu C2) o amrywogaethau sy'n hybridiau neu'n llinellau mewnfrid gynnwys y gair “hybrid” ar ôl yr amrywogaeth.

(3Rhaid i label swyddogol ar gyfer hadau ardystiedig uniad amrywogaethol fod o liw glas, gyda streipen werdd groeslinol ar ei draws.

RHAN 4Labeli cyflenwr

Ystyr “label cyflenwr”

15.  Label cyflenwr yw label nas darparwyd gan Weinidogion Cymru.

Labelu pecyn

16.  Rhaid i label cyflenwr naill ai gael ei gysylltu â'r pecyn yn yr un modd â label swyddogol neu gael ei argraffu'n annileadwy ar y pecyn.

Cyfeiriadau at bwysau yn y Rhan hon

17.  Yn y Rhan hon, nid yw'r cyfeiriadau at bwysau yn cynnwys unrhyw blaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill.

Hadau bridiwr: labeli cyflenwr

18.—(1Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label cyflenwr ar becyn o hadau bridiwr—

(a)enw, cyfeiriad a rhif cofrestru'r cyflenwr sy'n gyfrifol am osod y label;

(b)rhif cyfeirnod y lot hadau;

(c)y rhywogaeth;

(ch)yr amrywogaeth;

(d)y geiriau “breeder’s seed”;

(dd)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau.

(2Rhaid i'r label fod o liw llwydfelyn.

Hadau betys: labeli cyflenwr

19.—(1Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau betys.

(2Pecyn bach o hadau betys (a adwaenir fel “pecyn UE bach” (“small EU package”)) yw pecyn sydd—

(a)yn achos hadau betys sylfaenol ac ardystiedig o amrywogaethau trachywir neu uneginol, naill ai'n pwyso dim mwy na 2.5 kg neu'n cynnwys dim mwy na 100,000 o glystyrau;

(b)ar gyfer yr holl hadau betys eraill, yn pwyso dim mwy na 10kg.

(3Rhaid i'r label fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.

(4Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—

(a)y geiriau “Small EU package”;

(b)enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy'n gosod y label;

(c)y rhif cyfresol;

(ch)y gwasanaeth a ddyrannodd y rhif cyfresol;

(d)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

(dd)y rhif cyfeirnod os nad yw'r rhif cyfresol swyddogol yn caniatáu adnabod y lot;

(e)y rhywogaeth;

(f)naill ai “sugar beet” neu “fodder beet” fel y bo'n briodol;

(ff)yr amrywogaeth;

(g)y categori;

(ng)y pwysau net neu gros neu'r nifer o glystyrau neu hadau pur;

(h)pan ddynodir y pwysau ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r clystyrau neu'r hadau pur a chyfanswm y pwysau;

(i)naill ai “monogerm” neu “precision” fel y bo'n briodol.

Hadau ŷd: labeli cyflenwr

20.—(1Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau ŷd.

(2Pecyn bach o hadau ŷd yw pecyn o unrhyw hadau ardystiedig, neu unrhyw gymysgedd o hadau ardystiedig, nad yw'n fwy na 15kg.

(3Rhaid i'r label fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.

(4Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—

(a)y geiriau “EU rules and standards”;

(b)enw, cyfeiriad a rhif cofrestru'r cyflenwr sy'n gyfrifol am osod y label;

(c)rhif cyfeirnod y lot hadau;

(ch)y rhywogaeth;

(d)yr amrywogaeth;

(dd)y categori;

(e)y pwysau datganedig net neu'r nifer datganedig o hadau;

(f)ar gyfer amrywogaethau hybrid o indrawn, y gair “hybrid”;

(ff)yn achos hadau C1 ac C2 o haidd noeth, y geiriau “minimum germination capacity 75%”.

Hadau porthiant (amaethyddol neu amwynderol): pecynnau y caniateir eu labelu gyda label cyflenwr

21.—(1Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau porthiant amaethyddol neu amwynderol (gan gynnwys cymysgedd o hadau porthiant).

(2Mae pecyn bach o hadau porthiant naill ai'n becyn UE bach 'A' neu'n becyn UE bach 'B'.

(3Pecyn UE bach 'A' yw pecyn sy'n cynnwys cymysgedd o hadau nas bwriedir ar gyfer cynhyrchu planhigion porthiant, ac sydd â'i bwysau net yn ddim mwy na 2kg.

(4Pecyn UE bach 'B' yw pecyn sy'n cynnwys—

(a)hadau sylfaenol,

(b)hadau ardystiedig (CS, C1 neu C2),

(c)hadau masnachol, neu

(ch)(onid yw'r pecyn yn becyn UE bach 'A') cymysgedd o hadau,

ac sydd â'i bwysau net yn ddim mwy na 10 kg.

Hadau porthiant ac eithrio cymysgedd: gofynion labelu

22.—(1Rhaid i label cyflenwr ar becyn bach o hadau porthiant (ac eithrio cymysgedd cadwraeth, fel y gweler ym mharagraff 23) fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.

(2Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—

(a)y geiriau “small EU 'B' package”;

(b)enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy'n gosod y label;

(c)y rhif cyfresol;

(ch)y rhif cyfeirnod os nad yw'r rhif cyfresol yn caniatáu adnabod y lot hadau;

(d)y rhywogaeth;

(dd)pwysau net neu gros yr hadau pur neu nifer yr hadau pur;

(e)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau;

(f)yn achos hadau ardystiedig—

(i)yr amrywogaeth;

(ii)y categori;

(iii)ar gyfer hadau glaswellt o amrywogaeth nad yw archwiliad o'i gwerth o ran ei thyfu a'i defnyddio yn ofynnol, y geiriau “not intended for the production of fodder plants”;

(ff)yn achos hadau masnachol, y geiriau “commercial seed”.

Cymysgedd o hadau porthiant: gofynion labelu

23.—(1Rhaid i label cyflenwr ar becyn bach o gymysgedd o hadau porthiant fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.

(2Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—

(a)y geiriau “small EU 'A' package” neu “small EU 'B' package” fel y bo'n briodol;

(b)enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy'n gosod y label;

(c) ar gyfer pecyn UE bach 'A'—

(i)y rhif cyfeirnod sy'n caniatáu adnabod y lotiau o hadau a ddefnyddiwyd yn y cymysgedd;

(ii)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

(ch)ar gyfer pecyn UE bach 'B'—

(i)y rhif cyfresol a ddyroddwyd yn swyddogol;

(ii)y person a ddyrannodd y rhif cyfresol;

(iii)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

(iv)y rhif cyfeirnod os nad yw'r rhif cyfresol swyddogol yn caniatáu adnabod y lotiau o hadau a ddefnyddiwyd;

(d)y geiriau “Seed-mixture for ... (y defnydd a fwriedir)”;

(dd)y pwysau net neu gros neu nifer yr hadau pur;

(e)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau;

(f)y canrannau, yn ôl pwysau, o'r gwahanol gydrannau, sydd i'w dangos fesul rhywogaeth, a phan fo'n briodol, fesul amrywogaeth.

(3Ond ar gyfer cymysgeddau a gofrestrwyd gyda Gweinidogion Cymru, os yw'r label yn dangos enw cofrestredig y cymysgedd, caniateir hepgor y canrannau yn ôl pwysau o bob un o'r cydrannau, ar yr amod—

(a)y cyflenwir yr wybodaeth honno i'r cwsmer os gofynnir amdani, a

(b)y rhoddir gwybod i gwsmeriaid y cânt ofyn am y manylion hynny.

Hadau olew a ffibr: labeli cyflenwr

24.—(1Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau olew a ffibr.

(2Pecyn bach o hadau olew a ffibr yw pecyn o unrhyw hadau olew a ffibr ardystiedig neu fasnachol, nad yw ei bwysau'n fwy na 15 kg.

(3Rhaid i'r label fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.

(4Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—

(a)y geiriau “EU Rules and standards”;

(b)enw, cyfeiriad a rhif cofrestru'r cyflenwr sy'n gyfrifol am osod y label;

(c)rhif cyfeirnod y lot hadau;

(ch)y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, naill ai'n llawn neu yn ei ffurf gryno);

(d)yr amrywogaeth;

(dd)ar gyfer hadau ardystiedig, y categori;

(e)ar gyfer hadau masnachol, y geiriau “commercial seed (not certified as to variety)”;

(f)pwysau datganedig net neu gros clystyrau o hadau pur (ac eithrio ar gyfer pecynnau nad ydynt yn fwy na 500 gram);

(ff)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau.

Hadau llysiau: labeli cyflenwr

25.—(1Ceir defnyddio label cyflenwr ar—

(a)pecyn o hadau llysiau safonol, beth bynnag fo'i bwysau;

(b)pecyn bach o hadau llysiau ardystiedig (CS); ac

(c)pecyn bach o gymysgeddau o hadau llysiau safonol o wahanol amrywogaethau o'r un rhywogaeth.

(2Pecyn bach yw pecyn o hadau sy'n pwyso dim mwy nag—

(a)ar gyfer codlysiau, 5 kg;

(b)ar gyfer merllys, betys coch, moron, dail betys neu fetys ysbigoglys, gowrdiau, maros, nionod, radis, ysbigoglys neu faip, 500 gram;

(c)ar gyfer unrhyw rywogaeth arall o lysiau, 100 gram.

(3Rhaid i'r label fod o liw melyn tywyll ar gyfer hadau safonol neu las ar gyfer hadau ardystiedig.

(4Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label pecyn o hadau safonol (ac eithrio cymysgedd o wahanol amrywogaethau o hadau safonol o'r un rhywogaeth) a hadau ardystiedig—

(a)y geiriau “EU rules and standards”;

(b)enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy'n gosod y label;

(c)y flwyddyn farchnata pan seliwyd y pecyn neu pan wnaed yr archwiliad egino diwethaf (ceir dynodi diwedd y flwyddyn farchnata);

(ch)y rhywogaeth;

(d)yr amrywogaeth;

(dd)y categori: yn achos pecynnau bach, ceir marcio hadau ardystiedig gyda'r llythyren 'C' neu 'Z' a hadau safonol gyda'r llythrennau 'ST';

(e)yn achos hadau safonol, y rhif cyfeirnod a roddwyd gan y person sy'n gyfrifol am osod y labeli;

(f)yn achos hadau ardystiedig y rhif cyfeirnod sy'n caniatáu adnabod y lot ardystiedig;

(ff)y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau, ac eithrio ar gyfer pecynnau bach o hyd at 500 gram;

(g)pan ddynodir y pwysau ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r clystyrau neu'r hadau pur a chyfanswm y pwysau.

(5Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label ar becyn o gymysgedd o wahanol amrywogaethau o hadau safonol o'r un rhywogaeth—

(a)y geiriau “EU rules and standards”;

(b)enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy'n gosod y label;

(c)y flwyddyn y seliwyd y pecyn, a fynegir fel “sealed...[blwyddyn]” neu flwyddyn y samplu diwethaf at ddibenion y prawf egino diwethaf a fynegir fel “sampled...[blwyddyn]” (ceir ychwanegu'r geiriau “use before...[dyddiad]”);

(ch)y geiriau “mixture of varieties of...[enw'r rhywogaeth]”;

(d)yr amrywogaethau;

(dd)y gyfran o'r amrywogaethau, a fynegir fel y pwysau net neu fel y nifer o hadau;

(e)y rhif cyfeirnod a roddwyd gan y person sy'n gyfrifol am osod y labeli;

(f)y pwysau net neu gros neu nifer yr hadau;

(ff)os nodir y pwysau ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r clystyrau neu'r hadau pur a chyfanswm y pwysau.

RHAN 5Gwerthiannau o hadau rhydd

Gwerthiannau o hadau rhydd

26.—(1Ceir gwerthu hadau rhydd (heb eu pecynnu) yn unol â'r paragraff hwn.

(2Y meintiau mwyaf y caniateir eu gwerthu yw—

(a)ar gyfer hadau porthiant—

(i)3 kg yn achos ffa'r maes a phys y maes;

(ii)2 kg yn achos yr holl hadau porthiant eraill;

(iii)7 kg yn achos cymysgedd o hadau;

(b)ar gyfer hadau ŷd, 5 kg;

(c)ar gyfer hadau betys, 2.5 kg;

(ch)ar gyfer hadau olew a ffibr, 5 kg;

(d)ar gyfer hadau llysiau—

(i)3 kg yn achos codlysiau;

(ii)1 kg yn achos yr holl hadau llysiau eraill.

(3Rhaid i'r gwerthiant fod i'r defnyddiwr terfynol, a rhaid i'r wybodaeth a fyddai wedi bod yn ofynnol ar becyn o'r hadau hynny gael ei harddangos yn agos at y man gwerthu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources