- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
HADAU, CYMRU
Gwnaed
1 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Chwefror 2012
Yn dod i rym
27 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4), (5) a (5A) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1), ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy'n ymddangos yn berthnasol, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru ddehongli'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y Cyfarwyddebau a bennir yn rheoliad 3(2) fel cyfeiriadau at y Cyfarwyddebau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, O.S. 1977/1112, ac adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49). Gweler adran 38(1) am ddiffiniad o “the Minister”. O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol, ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau, a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn trosglwyddo 1978, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
1972 p. 68; mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: