- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliadau 10, 11, 13 a 23
RHAN 1 Betys
1.Cwmpas Rhan 1
2.Dehongli
3.Mathau a ganiateir o hadau betys
4.Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”
5.Ystyr “hadau sylfaenol”
6.Ystyr “hadau ardystiedig”
7.Gofynion cnydau a hadau
RHAN 2 Ydau
PENNOD 1 Mathau o hadau
8.Cwmpas Rhan 2
9.Mathau a ganiateir o hadau ŷd
10.Ystyr “hadau cyn-sylfaenol” (gan gynnwys hybridiau)
11.Ystyr “hadau sylfaenol”
12.Ystyr “hadau ardystiedig”
13.Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”
14.Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”
15.Gofynion cnydau a hadau
PENNOD 2 Safonau gwirfoddol uwch
16.Safonau gwirfoddol uwch ar gyfer ydau
17.Gofynion ychwanegol ar gyfer haidd, gwenith, gwenith caled a gwenith yr Almaen
18.Hadau o blanhigion eraill
19.Mallryg a sglerotia
RHAN 3 Planhigion porthiant
PENNOD 1 Safonau sylfaenol
20.Cwmpas Rhan 3
21.Mathau a ganiateir o hadau porthiant
22.Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”
23.Ystyr “hadau sylfaenol”
24.Ystyr “hadau ardystiedig”
25.Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”
26.Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”
27.Ystyr “hadau masnachol”
28.Gofynion cnydau a hadau
PENNOD 2 Safonau gwirfoddol uwch
29.Safonau gwirfoddol uwch ar gyfer hadau porthiant
30.Safonau gofynnol o ran purdeb a rhywogaethau eraill o hadau yn y sampl
RHAN 4 Olew a ffibr
31.Cwmpas Rhan 4
32.Mathau a ganiateir o hadau olew a ffibr
33.Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”
34.Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer amrywogaethau nad ydynt yn hybridiau
35.Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer llinellau mewnfrid
36.Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer hybridiau syml
37.Ystyr “hadau ardystiedig”
38.Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”
39.Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”
40.Ystyr “hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth”
41.Ystyr “hadau masnachol”
42.Gofynion cnydau a hadau
43.Gofynion ar gyfer uniad amrywogaethol
RHAN 5 Llysiau
44.Cwmpas Rhan 5
45.Mathau a ganiateir o hadau llysiau
46.Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”
47.Ystyr “hadau sylfaenol”
48.Ystyr “hadau ardystiedig”
49.Ystyr “hadau safonol”
50.Gofynion cnydau a hadau
1. Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r math o fetys yn Atodlen 1.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “hadau uneginol” (“monogerm seed”) yw hadau sy'n uneginol yn enetig; a
(b)“hadau trachywir” (“precision seed”) yw hadau a baratowyd i'w defnyddio mewn heuwr trachywir i gynhyrchu eginblanhigion sengl.
3. Rhaid i hadau betys fod yn—
(a)hadau cyn-sylfaenol;
(b)hadau sylfaenol; neu
(c)hadau ardystiedig.
4. Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr, yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(ii)hadau sylfaenol; neu
(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig.
5. Hadau sylfaenol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
6. Hadau ardystiedig yw hadau sy'n ddisgynyddion uniongyrchol hadau sylfaenol ac a fwriedir ar gyfer cynhyrchu betys.
7.—(1) Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys(1) ac Atodiad I(A) i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Erthygl 9(2) o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad II iddi, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad I(B) i'r Gyfarwyddeb honno.
(3) Rhaid i'r hadau gael eu labelu yn unol ag Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno.
(4) Rhaid i'r cynnwys lleithedd mwyaf beidio â bod yn fwy na 15% yn ôl pwysau.
(5) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
8. Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o ydau yn Atodlen 1.
9.—(1) Rhaid i hadau ŷd fod yn—
(a)hadau cyn-sylfaenol;
(b)hadau sylfaenol;
(c)hadau ardystiedig;
(ch)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;
(d)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth; neu
(dd)hadau o safon wirfoddol uwch.
(2) Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o rywogaethau ŷd o wahanol amrywogaethau ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd wedi ei hardystio ac yn effeithiol rhag lledaenu organebau niweidiol.
10. Hadau cyn-sylfaenol (gan gynnwys hybridiau) yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol neu o hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(ii)hadau sylfaenol; neu
(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig o'r categorïau CS, C1 neu C2 (ni chaniateir cynhyrchu amrywogaethau hybrid i C1 neu C2).
11. Hadau sylfaenol yw hadau sy'n cydymffurfio â'r amodau canlynol.
Math o ŷd | Amod |
---|---|
Amrywogaethau hunanbeilliol o geirch, ceirch noeth, haidd, rhyg, rhygwenith, gwenith, gwenith caled a gwenith yr Almaen | Rhaid i'r hadau fod— (a) wedi eu cynhyrchu o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a (b) wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig o'r categorïau CS, C1 neu C2 |
Amrywogaethau hybrid o geirch, haidd, rhyg, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen, rhygwenith ac indrawn | Rhaid i'r hadau fod wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu hybridiau |
Amrywogaethau o rywogaethau indrawn sy'n beillwyr agored | Rhaid i'r hadau fod— (a) wedi eu cynhyrchu o dan gyfrifoldeb y bridiwr, yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; (b) wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu hadau o'r amrywogaeth honno o'r categori 'hadau ardystiedig' croesiad triphlyg, neu o amrywogaeth hybrid “top cross”, neu o hybridiau rhyngamrywogaethol |
Indrawn, llinellau mewnfrid | Unrhyw hadau |
12. Hadau ardystiedig yw hadau—
(a)o ryg, indrawn neu rygwenith a hybridiau o haidd, ceirch, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen;
(b)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac
(c)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau ŷd.
13. Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf yw hadau—
(a)ceirch, haidd, rhygwenith, gwenith, gwenith caled, neu wenith yr Almaen, ac eithrio hybridiau ym mhob achos;
(b)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac
(c)a fwriedir naill ai ar gyfer cynhyrchu hadau o'r categori 'hadau ardystiedig, ail genhedlaeth' neu at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau ŷd.
14. Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth yw hadau—
(a)ceirch, haidd, rhygwenith, gwenith, gwenith caled, neu wenith yr Almaen, ac eithrio hybridiau ym mhob achos;
(b)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf, neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac
(c)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau ŷd.
15.—(1) Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd(2) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Erthygl 7 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad III iddi, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.
(3) Rhaid i'r cynnwys lleithedd mwyaf beidio â bod yn fwy na 17% yn ôl pwysau.
(4) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
16.—(1) Ceir marchnata haidd, ceirch, gwenith (gan gynnwys gwenith caled a gwenith yr Almaen) neu geirch noeth, a ddosbarthwyd yn hadau sylfaenol neu'n hadau ardystiedig o'r categorïau C1 neu C2, fel hadau o safon wirfoddol uwch, sef safon uwch na'r un a reoleiddir o dan Bennod 1, os ydynt yn bodloni'r safonau uwch yn y Bennod hon.
(2) Rhaid i burdeb rhywogaethol y cnwd fod yn 99.99% o leiaf (yn ôl nifer).
(3) Ac eithrio hybrid, y purdeb amrywogaethol lleiaf ar gyfer hadau yw—
(a)99.95% ar gyfer hadau sylfaenol;
(b)99.9% ar gyfer hadau C1;
(c)99.7% ar gyfer hadau C2.
(4) Yn achos C1 ac C2 rhaid i burdeb dadansoddol yr hadau fod yn 99% yn ôl pwysau.
17. Yn achos haidd, gwenith, gwenith caled a gwenith yr Almaen—
(a)y nifer mwyaf o geirch gwyllt mewn cnwd fydd 7 am bob hectar.
(b)y ganran fwyaf yn ôl nifer o'r heintiad penddu mewn hadau fydd—
(i)0.1% ar gyfer hadau sylfaenol;
(ii)0.2% ar gyfer hadau C1 ac C2.
18. Rhaid i'r nifer o hadau o rywogaethau planhigion eraill mewn sampl o 1000g beidio â bod yn fwy na'r canlynol.
Categori o hadau a samplwyd | Pob rhywogaeth arall o blanhigion (gan gynnwys rhywogaethau a bennir yng ngholofnau 3 i 6) | Rhywogaethau ŷd eraill | Pob rhywogaeth o blanhigion ac eithrio ydau | Ceirch gwyllt neu efrau | Rhuddygl gwyllt, bulwg yr ŷd, pawrwellt anhiliog neu farchwellt |
---|---|---|---|---|---|
a Mewn perthynas â rhuddygl gwyllt a bulwg yr ŷd yn unig. | |||||
Hadau sylfaenol | 1 | 0 | 1 | 0 | 0a |
C1 | 2 | 1 | 1 | 0 | 1 |
C2 | 4 | 3 | 2 | 0 | 1 |
19. Mewn sampl o 1000g—
(a)yn achos hadau sylfaenol, rhaid bod dim mallryg na sglerotia;
(b)yn achos hadau ardystiedig (C1 neu C2) rhaid bod dim mwy nag un darn o fallryg neu sglerotia.
20. Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o blanhigion porthiant yn Atodlen 1.
21.—(1) Rhaid i hadau porthiant fod yn—
(a)hadau cyn-sylfaenol;
(b)hadau sylfaenol;
(c)hadau ardystiedig;
(ch)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;
(d)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;
(dd)hadau masnachol; neu
(e)hadau o safon wirfoddol uwch.
(2) Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o rywogaethau porthiant o wahanol amrywogaethau ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd wedi ei hardystio.
22. Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(ii)hadau sylfaenol; neu
(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig CS, C1 neu C2.
23.—(1) Hadau sylfaenol yw hadau—
(a)amrywogaethau a fridiwyd; neu
(b)amrywogaethau lleol.
(2) Hadau amrywogaethau a fridiwyd yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
(3) Hadau amrywogaethau lleol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o dan reolaeth swyddogol, allan o ddeunydd y derbyniwyd ei fod o'r amrywogaeth leol, ar un neu ragor o ddaliadau o fewn rhanbarth tarddiad y diffiniwyd ei derfynau yn eglur;
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
24. Hadau ardystiedig yw hadau (ac eithrio ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa), bysedd-y-blaidd a ffacbys)—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu yn uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac
(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau.
25. Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf mewn perthynas â ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa) bysedd-y-blaidd a ffacbys yw hadau—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a
(b)a fwriedir ar gyfer—
(i)cynhyrchu hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (yn achos ffa'r maes a phys y maes yn unig); neu
(ii)dibenion ac eithrio cynhyrchu hadau (ym mhob achos).
26. Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth mewn perthynas â ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa) bysedd-y-blaidd a ffacbys yw hadau—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf (C1), neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a
(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion porthiant.
27. Hadau masnachol yw hadau gweunwellt unflwydd, ffacbys Hwngari neu'r godog, y gellir eu hadnabod fel rhai sy'n perthyn i rywogaeth.
28.—(1) Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(3) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.
(3) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
29. Yn achos troed y ceiliog, festulolium, rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, maglys rhuddlas, peiswellt, rhygwellt parhaol, meillion coch, peiswellt coch, y godog, rhonwellt bach, rhonwellt, gweunwellt llyfn, peiswellt tal a meillion gwyn, ceir marchnata hadau ardystiedig (CS) fel hadau ardystiedig o safon wirfoddol uwch.
30. Rhaid i'r sampl a gymerir o dan baragraff 28(2) at ddiben Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC gyrraedd y safonau gofynnol a bennir yn y tabl canlynol.
Pennawd colofn | Purdeb dadansoddol gofynnol (% yn ôl pwysau) | Cyfanswm pwysau'r holl rywogaethau eraill (% yn ôl pwysau) | Cyfanswm pwysau un rhywogaeth unigol arall (% yn ôl pwysau) | Hadau Rumex spp ac eithrio R acetosella ac R maritimus | Hadau marchwellt | Hadau cynffonwellt du | Terfynau ar gyfer rhywogaethau penodol eraill |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Glaswelltau meinddail | |||||||
festulolium | 98 | 1.5 | 0 | 0 | 10 | 0 | |
peiswellt coch | 95 | 1.5 | 0.5 | 5 | 10 | 10 | Ni chaiff y sampl gynnwys mwy na phedwar hedyn o rygwellt, troed y ceiliog, peiswellt a 0.3% gweunwellt garw |
gweunwellt llyfn | 90 | 1.5 | 0.5 | 2 | 3 | 3 | Uchafswm o 0.4% yn ôl pwysau o hadau gweunwelltau eraill |
Glaswelltau porthiant | |||||||
troed y ceiliog | 90 | 1.5 | 0.5 | 5 | 10 | 10 | |
peiswellt, peiswellt tal | 98 | 1.5 | 0.5 | 5 | 10 | 10 | 0.3% gweunwellt garw, 0.3% rhygwellt |
rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, rhygwellt parhaol | 98 | 1.5 | 0.5 | 5 | 10 | 10 | 0.4% gweunwellt unflwydd, 0.3% gweunwellt garw |
rhonwellt bach, rhonwellt | 98 | 1.5 | 0.5 | 4 | 10 | 10 | 0.3% Agrostis xmlns="http://www.tso.co.uk/assets/namespace/legislation">spp |
Codlysiau hadau bach> | |||||||
maglys rhuddlas, meillion coch, meillion gwyn | 98 | 1.5 | 0.5 | 10 | 10 | 10 | 0.3% Melitotus xmlns="http://www.tso.co.uk/assets/namespace/legislation">spp |
y godog | 98 | 1.5 | 0.5 | 5 | 10 | 10 | 0.3% Melitotus xmlns="http://www.tso.co.uk/assets/namespace/legislation">spp |
31. Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o blanhigion olew a ffibr yn Atodlen 1.
32. Rhaid i hadau olew a ffibr fod yn—
(a)hadau cyn-sylfaenol;
(b)hadau sylfaenol;
(c)hadau ardystiedig;
(ch)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;
(d)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;
(dd)hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth; neu
(e)hadau masnachol.
33.—(1) “Hadau cyn-sylfaenol” yw hadau cenhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth, a
(b)a fwriedir i'w defnyddio i gynhyrchu mwy o hadau cyn-sylfaenol, hadau sylfaenol, neu, gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr—
(i)yn achos mwstard du, mwstard brown, cywarch deuoecaidd, blodau'r haul, rêp swêds, rêp maip, neu fwstard gwyn, hadau CS;
(ii) yn achos cywarch monoecaidd neu ffa soia, hadau C1 neu C2;
(iii)yn achos llin neu had llin, hadau C1, C2 neu C3.
(2) Ond mewn perthynas â chydran mewn amrywogaeth hybrid, ystyr “hadau cyn-sylfaenol” yw hadau o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol, a fwriedir i'w defnyddio i gynhyrchu—
(a)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(b)hadau sylfaenol; neu
(c)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau CS.
34. Yn achos amrywogaeth nad yw'n hybrid, hadau sylfaenol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i)hadau ardystiedig,
(ii)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf,
(iii)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth; neu
(iv)hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth.
35. Yn achos llinell fewnfrid, hadau sylfaenol yw hadau llinell fewnfrid o hybrid, sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol.
36. Yn achos hybrid syml, hadau sylfaenol yw hadau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hybridiau.
37. Hadau ardystiedig yw hadau mwstard du, mwstard Tsieina, mwstard gwyn, cywarch deuoceaidd, blodau'r haul, rêp swêds neu rêp maip—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol, sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol;
(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion olew neu ffibr.
38. Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf yw hadau cywarch monoecaidd, llin, had llin neu soia—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol;
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu naill ai—
(i)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;
(ii)pan fo'n briodol, hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth; neu
(iii)at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion olew neu ffibr.
39.—(1) Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth yw hadau llin, had llin, soia neu gywarch monoecaidd.
(2) Yn achos llin, had llin a soia, maent yn hadau—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf, neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a
(b)a fwriedir—
(i)at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau, neu,
(ii)pan fo'n briodol, cynhyrchu hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth.
(3) Yn achos cywarch monoceaidd, maent yn hadau—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf, a sefydlwyd ac a reolwyd yn swyddogol gyda golwg ar gynhyrchu hadau ardystiedig o'r ail genhedlaeth; a
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu cywarch sydd i'w gynaeafu yn ei flodau.
40. Hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth yw hadau o lin neu had llin—
(a)sy'n ddisgynyddion uniongyrchol hadau sylfaenol, hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf neu'r ail neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol; a
(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau.
41. Hadau masnachol (hadau mwstard du yn unig) yw hadau y gellir eu hadnabod fel rhai sy'n perthyn i rywogaeth.
42.—(1) Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(5)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr(4) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.
(3) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
43.—(1) Rhaid i hadau sy'n cael eu marchnata fel uniad amrywogaethol gydymffurfio â'r paragraff hwn.
(2) Rhaid i'r uniad amrywogaethol fod yn uniad rhwng hadau CS ardystiedig amrywogaeth hybrid peillydd-ddibynnol benodedig, a hadau CS ardystiedig un neu ragor o amrywogaethau peillydd penodedig, a rhaid i'r ddau fath o hadau fod wedi eu derbyn ar Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin.
(3) Rhaid i hadau'r cydrannau benyw a gwryw mewn uniad amrywogaethol fod wedi eu trin gan ddefnyddio sylweddau trin hadau o liwiau gwahanol.
(4) Rhaid cyfuno'r hadau yn fecanyddol yn y cyfrannau a benderfynwyd ar y cyd gan y personau sy'n gyfrifol am gynnal y cydrannau dan sylw.
(5) Rhaid hysbysu Gweinidogion Cymru o'r cyfrannau hyn, gan y person sy'n gyfrifol am gynnal yr hybrid peillydd-ddibynnol a'r peillyddion sydd o fewn yr uniad amrywogaethol.
(6) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “hybrid peillydd-ddibynnol” (“pollinator-dependent hybrid”) yw'r gydran wryw-anhiliog o fewn yr uniad amrywogaethol (y gydran fenyw);
(b)ystyr “peillydd” (“pollinator”) yw cydran sy'n gollwng paill o fewn uniad amrywogaethol.
44. Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o lysiau yn Atodlen 1.
45. Rhaid i hadau llysiau fod yn—
(a)hadau cyn-sylfaenol;
(b)hadau sylfaenol; neu
(c)hadau ardystiedig; neu
(ch)hadau safonol.
(2) Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o wahanol amrywogaethau o'r un rhywogaeth o lysiau, ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd yn hadau safonol.
46. Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(ii)hadau sylfaenol; neu
(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig.
47.—(1) Hadau sylfaenol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
(2) Er mwyn osgoi amheuaeth, mae hyn yn cynnwys hadau y bwriedir iddynt fod yn gydran o amrywogaeth hybrid o lysieuyn.
48. Hadau ardystiedig yw hadau—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol;
(b)a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu llysiau.
49. Hadau safonol yw hadau a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu llysiau, ac sydd wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru fel hadau sydd â phurdeb amrywogaethol a hunaniaeth amrywogaethol digonol.
50.—(1) Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(4)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau(5) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Erthygl 25 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad III iddi, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos hadau safonol.
(4) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
(5) Ar ôl eu marchnata, mae hadau llysiau yn ddarostyngedig i reolaeth gan Weinidogion Cymru, o ran hunaniaeth amrywogaethol a phurdeb amrywogaethol.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 12, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/117/EC (OJ Rhif L 14, 18.1.2005, t.18).
OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2309, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t.74, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t.40).
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: