- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
17.—(1) Yn yr erthygl hon—
mae “prydles” (“lease”) yn cynnwys is-brydles a phan ddefnyddir “prydlesu” fel berf rhaid ei dehongli yn unol â hynny;
ystyr “y trosglwyddai” (“the transferee”) yw unrhyw berson y prydlesir neu y gwerthir y rheilffyrdd, neu unrhyw ran ohonynt yn unol â'r erthygl hon; ac
ystyr “yr ymgymeraeth a drosglwyddir” (“the transferred undertaking”) yw pa faint bynnag o'r rheilffyrdd a brydlesir neu a werthir yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff yr ymgymerwr—
(a)brydlesu'r rheilffyrdd, neu unrhyw ran ohonynt, i unrhyw berson; neu
(b)gwerthu'r rheilffyrdd, neu unrhyw ran ohonynt, i unrhyw berson;
ar y fath delerau ac amodau ag y cytuna'r ymgymerwr a'r trosglwyddai arnynt.
(3) Rhaid i'r ymgymerwr beidio â phrydlesu na gwerthu'r rheilffyrdd, nac unrhyw ran ohonynt, o dan yr erthygl hon i unrhyw berson ac eithrio gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
(4) Oni bai bod y Gorchymyn hwn yn darparu'n wahanol,
(a)bydd yr ymgymeraeth a drosglwyddir yn parhau i fod yn ddarostyngedig i bob darpariaeth statudol a darpariaeth arall sy'n gymwys i'r ymgymeraeth a drosglwyddir ar ddyddiad y brydles neu'r gwerthiant (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith); a
(b)bydd y trosglwyddai, gan gau allan yr ymgymerwr, (i) yn cael yr hawl i'r buddiant o'r holl hawliau, y pwerau a'r breintiau sy'n ymwneud â'r ymgymeraeth a drosglwyddir, a'r hawl i'w harfer, a (ii) yn ddarostyngedig i'r holl rwymedigaethau, statudol neu eraill, sy'n ymwneud â'r ymgymeraeth a drosglwyddir (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith) gyda'r bwriad y bydd yr ymgymerwr yn cael ei ryddhau o bob cyfryw rwymedigaeth.
(5) Bydd paragraff (4) yn cael effaith yn ystod cyfnod unrhyw brydles a roddir o dan is-baragraff (2)(a) ac o ddyddiad gweithredol unrhyw werthiant o dan is-baragraff (2)(b).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: