- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 4(1)
1. Mae'r Atodlen hon yn gymwys i ddethol a phenodi cadeiryddion, is-gadeiryddion ac aelodau nad ydynt swyddogion..
2. Bydd Gweinidogion Cymru'n sicrhau bod trefniadau priodol wedi'u gwneud ar gyfer dethol a phenodi personau'n aelodau a bod y trefniadau hynny'n cymryd i ystyriaeth —
(a)yr egwyddorion a osodir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ac yng Nghod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus;
(b)ei bod yn ofynnol bod dethol a phenodi'n brosesau agored a thryloyw;
(c)ei bod yn ofynnol bod detholi a phenodi yn cael ei wneud drwy gystadleuaeth deg ac agored; a
(ch)yr angen i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni'r gofynion perthnasol ynghylch cymhwystra a nodir yn Atodlen 2 a'u bod yn bodloni'r meini prawf dethol a'r safonau cymhwysedd a ddefnyddir gan y Bwrdd.
Rheoliad 5
1.—(1) Mae Rhan 1 o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra aelodau ac aelodau cyswllt i gael eu penodi.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt os yw —
(a)yn ystod y pum mlynedd blaenorol wedi'i gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un a yw wedi'i hatal ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy;
(b)yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim i gyfyngu methdaliad neu wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr;
(c)wedi'i ddiswyddo, ac eithrio oherwydd anghyflogaeth, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd;
(ch)os yw ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd, wedi'i therfynu am reswm ac eithrio anghyflogaeth, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person hwnnw iddi wedi dod i ben;
(3) At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu yw'r dyddiad y bydd y cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais, neu'r dyddiad y rhoddir y gorau i'r naill neu'r llall ohonynt, neu'r dyddiad y mae'r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu'r dyddiad y mae'r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.
(4) At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod yn aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.
(5) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)( b) —
(a)os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar ddyddiad y diddymiad;
(b)os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar ddyddiad y rhyddhau;
(c)os telir dyledion y person yn llawn ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar y dyddiad y caiff y dyledion hynny eu talu'n llawn; ac
(ch)os bydd y person, ar ôl iddo wneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, yn dod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar derfyn pum mlynedd o'r dyddiad y cyflawnwyd telerau gweithred y compownd neu'r drefniant.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oblegid paragraff (2)(c), caiff, ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymhwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yr anghymhwystra'n dod i ben.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.
(8) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(ch), bydd yn anghymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad terfynu'r aelodaeth neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan yr awdurdod ac a barodd i'r aelodaeth gael ei therfynu, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan fo cais wedi'i wneud iddynt gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymhwystra.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person yn anghymwys i fod yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu'n aelod nad yw'n swyddog os yw'r person hwnnw yn cael, neu wedi cael yn y flwyddyn flaenorol, ei gyflogi am dâl gan unrhyw un o'r Byrddau Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn.
(a)Bwrdd Iechyd Lleol a restrir yn Atodlen 2 neu Atodlen 3 i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 20009 os yw, neu os oedd, o fewn ardal y Bwrdd;
(b)Ymddiriedolaeth GIG a restrir yn yr Atodlen i Orchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diddymu) (Cymru) 2009(1) os yw, neu os oedd, o fewn ardal y Bwrdd;
(c)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre(2); neu
(ch)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru(3).
(2) Nid yw person yn anghymwys o dan baragraff (1) os penodir y person hwnnw yn —
(a)aelod undeb llafur yn unol â rheoliad 3(4)(c); neu
(b)aelod prifysgol yn unol â rheoliad 3(4)(ch).
(3) At ddibenion paragraff (1), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi'i gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw'n swyddog o Fwrdd Iechyd Lleol neu swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol Ymddiriedolaeth GIG.
3. I fod yn gymwys i gael ei benodi'n swyddog meddygol yn rheoliad 3(2)(b), rhaid i berson fod wedi'i restru yng Nghofrestr Ymarferwyr Cyffredinol y Cyngor Meddygol Cyffredinol(4) neu'r Gofrestr Arbenigwyr(5).
4. I fod yn gymwys i gael ei benodi fel y swyddog nyrsio yn rheoliad 3(2)(ch), rhaid i berson fod wedi'i gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(6).
5. I fod yn gymwys i gael ei benodi'n swyddog sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd o dan reoliad 3(2)(e) rhaid i'r person fod wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol uwch mewn iechyd y cyhoedd neu ddisgyblaeth gysylltiedig a bod wedi'i restru yng Nghofrestr Arbenigwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Rhestr y Cyngor Deintyddol Cyffredinol o Arbenigwyr mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol(7) neu Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU(8).
6. I fod yn gymwys i gael ei benodi yn aelod a benodir o dan reoliad 3(2)(ff), rhaid i berson gael ei gynnwys yn y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd(9).
7. I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(a), rhaid i'r person fod yn aelod etholedig o awdurdod lleol y mae ei ardal o fewn ardal y Bwrdd.
8. I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(b), rhaid i'r person fod yn gyflogai sefydliad gwirfoddol sy'n weithredu o fewn ardal y Bwrdd neu'n aelod ohono.
9. I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(c), rhaid i'r person fod—
(a)yn berson sy'n cael ei gyflogi gan y Bwrdd; a
(b)yn aelod o undeb llafur sy'n cael ei gydnabod gan y Bwrdd mewn perthynas â materion cyflogi.
Rheoliad 15
1. Rhaid i gyfarfodydd Bwrdd gael eu cynnal ar y diwrnod ac yn y man a bennir gan y cadeirydd a'r cadeirydd sy'n gyfrifol am gynnull y cyfarfod.
2.—(1) Caiff y cadeirydd alw cyfarfod o'r Bwrdd ar unrhyw bryd.
(2) Os bydd y cadeirydd yn gwrthod galw cyfarfod ar ôl i gais at y diben hwnnw, a lofnodwyd gan o leiaf draean o'r aelodau, gael ei gyflwyno iddo, neu os nad yw'n galw cyfarfod, ac yntau heb wrthod ei alw, o fewn saith niwrnod ar ôl i gais o'r fath gael ei gyflwyno iddo, caiff y traean hwnnw neu fwy o'r aelodau alw am gynnal cyfarfod ar unwaith.
(3) Cyn pob cyfarfod Bwrdd, rhaid i hysbysiad o'r cyfarfod, sy'n nodi'r busnes y bwriedir ei drin ynddo, ac sydd wedi'i lofnodi gan y cadeirydd neu gan un o swyddogion a awdurdodwyd gan y cadeirydd i lofnodi ar ei ran, gael ei draddodi i bob aelod ac aelod cyswllt, neu gael ei anfon drwy'r post i breswylfa arferol yr aelod, er mwyn iddo fod ar gael i'r aelod hwnnw o leiaf deg diwrnod clir cyn y cyfarfod.
(4) Ni fydd diffyg cyflwyno'r hysbysiad i unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod.
(5) Yn achos cyfarfod sy'n cael ei alw gan aelodau oherwydd diffyg y cadeirydd, rhaid i'r hysbysiad gael ei lofnodi gan yr aelodau hynny ac ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei drin yn y cyfarfod ac eithrio'r hyn a bennir yn yr hysbysiad.
3.—(1) Mewn unrhyw gyfarfod o'r Bwrdd, y cadeirydd, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.
(2) Os yw'r cadeirydd yn absennol o'r cyfarfod, yr is-gadeirydd, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.
(3) Os yw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd yn absennol, yr aelod nad yw'n swyddog, ac a ddewisir gan yr aelodau sy'n bresennol, a fydd yn llywyddu.
4.—(1) Penderfynir pob cwestiwn mewn cyfarfod drwy fwyafrif o bleidleisiau'r aelodau sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn ac, yn achos pleidlais gyfartal, mae gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a honno'n bleidlais fwrw.
(2) Wrth benderfynu pob cwestiwn mewn cyfarfod rhaid i'r aelodau gymryd i ystyriaeth, pan fo'n berthnasol, sylwadau a gyflwynwyd gan bersonau sy'n cynrychioli buddiannau'r gymuned sydd o fewn ardal y Bwrdd a buddiannau proffesiynolion iechyd.
(3) Yn y paragraff hwn mae i'r term “proffesiynolion iechyd” yr ystyr a briodolir i “health professionals” yn adran 69 o Ddeddf Diogelu Data 1998(10).
5. Rhaid cofnodi enwau'r cadeirydd, yr aelodau a'r aelodau cyswllt sy'n bresennol yn y cyfarfod.
6. Ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei drin mewn cyfarfod —
(a)onid oes o leiaf chwe aelod yn bresennol; a
(b)onid yw'r rhai sy'n bresennol yn cynnwys o leiaf dri swyddog-aelod a thri o aelodau nad ydynt yn swyddogion.
7. Rhaid i gofnodion trafodion cyfarfod gael eu llunio a'u cyflwyno i gael cytundeb arnynt yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd, lle bydd rhaid iddynt gael eu llofnodi, os cytunir arnynt, gan y person sy'n llywyddu.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i unrhyw gyfarfod Bwrdd fod yn agored i'r cyhoedd.
(2) Caiff Bwrdd benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod yn unol â darpariaethau adran 1(2) a (3) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960(11).
Rheoliad 4(10)
Colofn 1 | Colofn 2 | |
---|---|---|
Y brifysgol | ||
1 | Prifysgol Caerdydd | Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
2 | Prifysgol Caerdydd | Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf |
3 | Prifysgol Caerdydd | Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro |
4 | Prifysgol Abertawe | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
5 | Prifysgol Abertawe | Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda |
6 | Prifysgol Bangor | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
7 | Prifysgol Caerdydd | Bwrdd Iechyd Lleol Addysgol Powys |
A sefydlwyd gan O.S. 1993/2838.
A sefydlwyd gan O.S. 1998/678.
Cedwir y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 10 o Orchymyn Ymarfer Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).
Cedwir y Gofrestr Arbenigwyr gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 13 o Orchymyn Ymarfer Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).
Cedwir cofrestr gan Gyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2002 (O.S. 2002/253).
Mae'r Rhestr o Arbenigwyr mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol wedi'i rhagnodi gan Reoliadau'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (Rhestr Arbenigwyr) 2008 a wneud gan y Cyngor o dan adrannau 26 a 52 o Ddeddf Deintyddol 1984 (p.24).
Cedwir Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU gan y Public Health Register, cwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr o dan rif gofrestru 4776439.
Cedwir cofrestr gan Gyngor Proffesiynau Iechyd yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (O.S. 2002/254).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: