Search Legislation

Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2009.

Dehongli

2.  Mae i'r geiriau a'r ymadroddion a ganlyn yr ystyron canlynol—

  • Ystyr “aelod” (“member”) yw cadeirydd, is-gadeirydd neu swyddog-aelod Bwrdd, neu aelod nad yw'n swyddog i Fwrdd;

  • ystyr “aelod cyswllt” (“associate member”) yw person a benodwyd yn unol â rheoliad 4(3) neu 4(4);

  • ystyr “aelod nad yw'n swyddog” (“non-officer member”) yw aelod Bwrdd sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(4);

  • ystyr “ardal y Bwrdd” (“Board’s area”) yw'r ardal y mae Bwrdd wedi'i sefydlu ar ei chyfer fel a nodir—

    (a)

    yng Ngorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(1);

    (b)

    o ran Bwrdd Iechyd Lleol Powys, yng Ngorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003(2),

    oherwydd caniateir i ardal o'r fath gael ei hamrywio o bryd i'w gilydd;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “Bwrdd” (“Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol;

  • ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Awdurdod Iechyd Arbennig, Awdurdod Iechyd Strategol, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;

  • ystyr “cyfnod cysgodol” (“shadow period”) yw'r cyfnod rhwng y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac 1 Hydref 2009;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • mae i “sefydliadau gwirfoddol” yr ystyr a briodolir i “voluntary organisations” yn adran 206(1) o'r Ddeddf;

  • ystyr “swyddog-aelod” (“officer member”) yw aelod Bwrdd sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2);

  • mae i'r term “undeb llafur” yr ystyr a bennir i “trade union” yn adran 1 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth (Cydgrynhoi) 1992(3) ac hwnnw'n undeb llafur sydd wedi'i gofrestru ar y rhestr o undebau llafur a ddelir gan y Swyddog Ardystio yn unol ag adran 2 o'r Ddeddf honno.

RHAN 2Aelodaeth

Aelodaeth o Fyrddau Iechyd Lleol

3.—(1Mae aelodau o'r Bwrdd yn cynnwys—

(a)cadeirydd;

(b)is-gadeirydd;

(c)swyddog-aelodau; ac

(ch)aelodau nad ydynt yn swyddogion.

(2Mae'r swyddog-aelodau yn cynnwys y—

(a)prif swyddog;

(b)swyddog meddygol;

(c)swyddog cyllid;

(ch)swyddog nyrsio;

(d)swyddog sy'n gyfrifol am ddarparu'r canlynol—

(i)gwasanaethau gofal sylfaenol;

(ii)gwasanaethau gofal cymunedol; a

(iii)gwasanaethau iechyd meddwl.

(dd)swyddog sy'n gyfrifol am ddatblygu'r gweithlu a datblygu sefydliadol;

(e)swyddog sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd;

(f)swyddog sy'n gyfrifol am y cynllunio strategol a gweithredol i ddarparu gwasanaethau iechyd;

(g)Swyddog sy'n gyfrifol am therapïau a gwyddor iechyd.

(3Bydd gan y swyddog-aelodau ym mharagraff 2 unrhyw gyfrifoldebau eraill a ragnodir gan y Bwrdd.

(4Mae naw o aelodau nad ydynt yn swyddogion a rhaid iddynt gynnwys—

(a)aelod awdurdod lleol;

(b)aelod sefydliad gwirfoddol;

(c)aelod undeb llafur;

(ch)person sy'n dal swydd mewn prifysgol sy'n gysylltiedig ag iechyd.

(5Yn ychwanegol, caniateir i aelodau cyswllt gael eu penodi'n unol â rheoliad 4(3) a (4).

Penodi aelodau Bwrdd Iechyd Lleol

4.—(1Mae'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru.

(2Mae'r swyddog-aelodau yn cael eu penodi gan y Bwrdd.

(3Caiff Gweinidogion Cymru benodi dim mwy na thri aelod cyswllt.

(4Os yw'r Bwrdd yn barnu ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn cyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau, caiff benodi un aelod cyswllt.

(5Cyn gwneud penodiad yn unol â pharagraff (4), rhaid i'r Bwrdd fod wedi cael cydsyniad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

(6Pan fo'r Bwrdd yn gwneud penodiad yn unol â pharagraffau (2) neu (4), rhaid iddo roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd ynghylch penodiadau.

(7Bydd penodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) yn unol â darpariaethau yn Atodlen (1) (pan fônt yn gymwys).

(8Pan fo person yn cael ei benodi'n unol â pharagraffau (1), (3) a (4), rhaid rhoi sylw i'r angen i hyrwyddo amrywiaeth yn y rhychwant o bersonau y caniateir eu penodi ac i sicrhau eu bod yn cynrychioli buddiannau'r gymuned yn ardal y Bwrdd.

(9Caiff pob awdurdod lleol yn ardal y Bwrdd enwebu dau berson a chaiff Gweinidogion Cymru ddewis person o blith y personau a enwebir i fod yn aelod awdurdod lleol o dan reoliad 3(4)(a).

(10Caiff y brifysgol yn ngholofn 1 o Atodlen 4 enwebu dau berson a chaiff Gweinidogion Cymru ddewis person o blith y personau hynny a enwebir i fod yn aelod prifysgol o dan reoliad 3(4)(ch) ar gyfer y Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi'i neilltuo iddi yng ngholofn 2 o Atodlen 4.

Y gofynion o ran cymhwystra i fod yn aelod o Fwrdd Iechyd Lleol

5.  Cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt, rhaid iddo fodloni'r gofynion perthnasol o ran cymhwystra yn Atodlen 2 a pharhau i gyflawni'r gofynion perthnasol tra bo'n dal y swydd honno.

Deiliadaeth swydd cadeirydd, is-gadeirydd, aelodau nad ydynt yn swyddogion ac aelodau cyswllt

6.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

(a)yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu'n aelod nad yw'n swyddog; neu

(b)yn aelod cyswllt sy'n cael ei benodi gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 4(3).

(2Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, bydd aelod neu aelod cyswllt yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ei benodiad.

(3Caniateir i aelod neu aelod cyswllt gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na phedair blynedd.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i aelod neu aelod cyswllt, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliadau 4(1) neu 4(3).

(5Ni chaiff person ddal swydd fel aelod nac fel aelod cyswllt i'r un Bwrdd am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.

Deiliadaeth swydd aelodau cyswllt a benodir gan y Bwrdd

7.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn aelod cyswllt gan y Bwrdd yn unol â rheoliad 4(4).

(2Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, mae aelod cyswllt yn dal a gadael swydd yn unol â thelerau ei benodiad.

(3Caniateir i aelod cyswllt gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na blwyddyn.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i aelod cyswllt, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(4).

(5Ni chaiff person ddal swydd fel aelod cyswllt i'r un Bwrdd am gyfnod cyfan o fwy na phedair blynedd.

Terfynu penodiad swyddog-aelodau a'u hatal dros dro

8.—(1Caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion symud swyddog-aelod o'i swydd ar unwaith—

(a)os ydynt o'r farn nad yw er budd y Bwrdd i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal swydd fel aelod; neu

(b)os ydynt, ar ôl cael eu hysbysu gan swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), o'r farn nad yw er budd y Bwrdd i berson sy'n swyddog-aelod barhau ei ddal swydd fel aelod.

(2Os bydd yr holl swyddog-aelodau (ac eithrio swyddog-aelod sy'n destun hysbysiad i'r cadeirydd o dan y paragraff hwn) o'r farn na ddylai person sy'n swyddog-aelod barhau i ddal swydd fel aelod, cânt hysbysu'r Bwrdd.

(3Pan fo'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn symud person o swydd yn unol â pharagraff (1) neu, ar ôl iddynt gael eu hysbysu gan y swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), yn penderfynu y dylai person barhau i ddal swydd, rhaid iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros eu penderfyniad.

(4Pan fo person wedi'i benodi i fod yn swyddog-aelod, a'i bod yn dod i sylw'r cadeirydd, yr is-gadeirydd neu unrhyw aelod nad yw'n swyddog fod y person —

(a)wedi dod yn anghymwys i gael ei benodi o dan Atodlen 2; neu

(b)adeg ei benodi, yn anghymwys i gael ei benodi o dan Atodlen 2.

rhaid iddynt hysbysu'r Bwrdd ar unwaith a rhaid i'r cadeirydd hysbysu'r swyddog-aelod hwnnw a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen o'r anghymhwystra hwnnw.

(5Rhaid i swyddog-aelod hysbysu'r Bwrdd ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Atodlen 2.

(6Pan fo hysbysiad wedi'i roi'n unol â pharagraff (4), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion symud y person hwnnw o'r swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.

(7Os yw'n ymddangos i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion fod swyddog-aelod wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17, caniateir iddynt symud y person hwnnw o'r swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.

(8Pan fo swyddog-aelod wedi'i symud o'i swydd yn unol â pharagraffau (6) a (7), rhaid i'r cadeirydd hysbysu Gweinidogion Cymru o hynny ar unwaith.

(9Os bydd person sy'n swyddog-aelod wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod y Bwrdd am gyfnod o chwe mis neu fwy, rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion symud y person hwnnw o'r swydd oni chânt eu bodloni—

(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)y bydd y person yn gallu bod yn bresennol mewn cyfryw gyfarfodydd ac o fewn unrhyw gyfnod y bydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn credu sy'n rhesymol.

Atal swyddog-aelodau dros dro

9.—(1Cyn penderfynu a ddylid symud person o swydd yn unol â rheoliad 8, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion, os byddant yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, atal dros dro ddeiliadaeth swydd swyddog-aelod am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.

(2Pan fo swyddog-aelod wedi'i atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion hysbysu'r aelod hwnnw a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.

(3Ni chaiff swyddog-aelod y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi'i hatal dros dro gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod o'r Bwrdd.

Terfynu penodiad aelodau ac aelodau cyswllt a benodwyd gan Weinidogion Cymru

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

(a)yn gadeirydd;

(b)yn is-gadeirydd;

(c)yn aelod nad yw'n swyddog;

(ch)yn aelod cyswllt sy'n cael ei benodi gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 4(3).

(2Caiff Gweinidogion Cymru symud person o swydd ar unwaith os byddant yn penderfynu —

(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yn yr ardal y mae'r Bwrdd yn gweithredu ar ei chyfer; neu

(b)nad yw'n gydnaws â rheoli Bwrdd yn dda,

i'r person hwnnw barhau i ddal swydd.

(3Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod person a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 neu wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17, caiff Gweinidogion Cymru ei symud o'r swydd honno.

(4Rhaid i berson a benodir hysbysu'r Bwrdd ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Atodlen 2.

(5Os yw person a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol yn unrhyw gyfarfod y Bwrdd am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff Gweinidogion Cymru ei symud o'r swydd honno oni chânt eu bodloni —

(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)y bydd y person yn gallu bod yn bresennol yn y cyfryw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn credu sy'n rhesymol.

(6Caiff person ymddiswyddo ar unrhyw bryd o'i swydd fel aelod neu aelod cyswllt drwy roi hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru ac i'r Bwrdd ond bydd ei ymddiswyddiad yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

Atal dros dro aelodau ac aelodau cyswllt a benodwyd gan Weinidogion Cymru

11.—(1Cyn gwneud penderfyniad i symud person o swydd o dan reoliad 10, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ei ddeiliadaeth swydd am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.

(2Pan fo aelod wedi'i atal dros dro yn unol â pharagraff (1), bydd Weinidogion Cymru'n hysbysu'r aelod hwnnw ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.

(3Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi'i atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod.

Terfynu penodiad aelodau cyswllt a benodwyd gan y Bwrdd

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i aelodau cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 4(4).

(2Caiff y Bwrdd symud person o swydd ar unwaith os yw'n penderfynu —

(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yn yr ardal y mae'r Bwrdd yn gweithredu ar ei chyfer; neu

(b)nad yw'n gydnaws â rheoli Bwrdd yn dda,

i berson barhau i ddal swydd.

(3Os daw i sylw'r Bwrdd fod person a benodwyd wedi dod yn anghymwys i gael ei benodi o dan Atodlen 2 neu wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17, caiff y Bwrdd ei symud o'r swydd honno.

(4Rhaid i berson a benodir hysbysu'r Bwrdd ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Atodlen 2.

(5Os yw'n ofynnol i berson a benodwyd yn aelod cyswllt fod yn bresennol mewn un o gyfarfodydd y Bwrdd ond ei fod wedi methu â gwneud hynny am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff y Bwrdd symud y person hwnnw o'r swydd honno oni chaiff ei fodloni —

(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)y bydd y person yn gallu bod yn bresennol yn y cyfryw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd y Bwrdd yn credu sy'n rhesymol.

(6Caiff unrhyw aelod ymddiswyddo ar unrhyw bryd o'i swydd fel aelod cyswllt drwy roi hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru ac i'r Bwrdd ond bydd ei ymddiswyddiad yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

RHAN 3Trafodion a threfniadau gweinyddol y Byrddau

Pwerau'r is-gadeirydd

13.  Pan fo cadeirydd y Bwrdd —

(a)wedi marw;

(b)wedi peidio â dal ei swydd; neu

(c)yn analluog i gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall,

bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes y bydd y cadeirydd presennol yn ailafael yn ei ddyletswyddau fel cadeirydd, yn ôl y digwydd; a chymerir bod cyfeiriadau at y cadeirydd yn Atodlen 3, cyhyd ag nad oes unrhyw gadeirydd sy'n gallu cyflawni dyletswyddau cadeirydd, yn cynnwys cyfeiriadau at yr is-gadeirydd.

Penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau

14.  Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru, caniateir i'r Bwrdd, ac os caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, rhaid iddo —

(a)penodi pwyllgorau neu is-bwyllgorau'r Bwrdd, neu

(b)penodi, ar y cyd ag un neu fwy o Fyrddau neu Ymddiriedolaethau GIG neu awdurdod lleol yn ardal y Bwrdd, gydbwyllgorau neu gyd-is-bwyllgorau,

a fydd wedi'u ffurfio'n gyfan gwbl neu'n rhannol o aelodau'r Bwrdd neu gyrff gwasanaeth iechyd eraill neu bersonau nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd nac o gyrff gwasanaeth iechyd eraill.

Cyfarfodydd a thrafodion

15.—(1Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y Bwrdd gael eu cynnal yn unol ag Atodlen 3 ac yn unol â'r Rheolau Sefydlog a wneir o dan baragraff (2).

(2Rhaid i'r Bwrdd wneud Rheolau Sefydlog, i reoleiddio ei drafodion a'i fusnes, gan gynnwys darpariaethau i atal ei hun dros dro.

(3Caiff y Bwrdd —

(a)amrywio; neu

(b)dirymu ac ail-wneud

ei Reolau Sefydlog.

(4Caiff y Bwrdd, yn achos pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd yn unol â rheoliad 14(a), wneud, amrywio a dirymu Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.

(5Pan fo cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor wedi'i sefydlu'n unol â rheoliad 14(b), rhaid i'r Bwrdd gymeradwyo unrhyw Reolau Sefydlog y caniateir eu gwneud gan y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.

(6Bydd Rheolau Sefydlog a wneir o dan y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y caniateir eu dyroddi gan Weinidogion Cymru a rhaid iddynt gael eu gwneud yn unol â'r cyfarwyddiadau hynny.

Aelodau cyswllt

16.  Ni chaiff aelodau cyswllt bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd neu drafodion Bwrdd.

Anabledd aelodau oherwydd buddiant ariannol

17.—(1Yn ddarostyngedig i'r rheoliad hwn —

(a)os oes gan aelod neu aelod cyswllt unrhyw fuddiant ariannol, p'un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall; a

(b)os yw aelod neu aelod cyswllt yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Bwrdd lle mae'r contract, y contract arfaethedig neu'r mater arall yn bwnc sy'n cael ei ystyried,

rhaid i'r aelod hwnnw ddatgelu'r ffaith yn y cyfarfod a chyn gynted â phosibl ar ôl i'r cyfarfod hwnnw ddechrau a rhaid iddo beidio â chymryd rhan yn y broses o ystyried neu drafod y contract, y contract arfaethedig neu'r mater arall neu, os oes gan yr aelod hwnnw hawl i bleidleisio, rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â'r contract, y contract arfaethedig neu'r mater arall hwnnw.

(2Caiff Gweinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y gwelant yn dda, osod neu ddileu unrhyw anabledd a osodir gan y rheoliad hwn mewn unrhyw achos lle mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru y byddai er budd y gwasanaeth iechyd i wneud hynny.

(3Caiff Bwrdd, drwy Reoliadau Sefydlog a wneir o dan reoliad 15, ddarparu ar gyfer gwahardd unrhyw aelod neu aelod cyswllt o unrhyw un o gyfarfodydd y Bwrdd tra bo unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall y mae gan yr aelod hwnnw fuddiant ariannol ynddo, p'un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn cael ei ystyried.

(4Nid yw unrhyw dâl, iawndal neu lwfansau sy'n daladwy i aelod neu aelod cyswllt yn rhinwedd paragraff 10 o Atodlen 2 i'r Ddeddf i gael ei drin neu eu trin fel buddiant ariannol at ddibenion y rheoliad hwn.

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (6), mae aelod neu aelod cyswllt i'w drin at ddibenion y rheoliad hwn fel un y mae ganddo fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall os yw'r aelod hwnnw, neu unrhyw un y mae wedi'i enwebu —

(a)yn gyfarwyddwr neu'n swyddog arall cwmni neu gorff arall, nad yw'n gorff cyhoeddus, y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater yn cael ei ystyried; neu

(b)yn berson y gwnaed y contract gydag ef neu y bwriedir gwneud y contract gydag ef, neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater sy'n cael ei ystyried, neu y mae'n bartner i'r person hwnnw, neu'n cael ei gyflogi ganddo;

ac yn achos personau sy'n briod â'i gilydd neu sydd mewn partneriaeth sifil â'i gilydd neu sy'n byw gyda'i gilydd fel rhai sy'n briod neu fel partneriaid sifil, bernir at ddibenion y rheoliad hwn fod buddiant un person o'r fath, os yw'n hysbys i'r llall, yn fuddiant y llall hefyd.

(6Nid yw aelod neu aelod cyswllt i'w drin fel un y mae ganddo fuddiant ariannol mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall a hynny ddim ond oherwydd —

(a)aelodaeth yr aelod hwnnw mewn cwmni neu gorff arall os nad oes gan yr aelod hwnnw fuddiant llesiannol yn unrhyw rai o warannau'r cwmni neu'r corff hwnnw; neu

(b)buddiant yn unrhyw gwmni, corff neu berson y mae'r aelod hwnnw'n gysylltiedig ag ef, fel y crybwyllir ym mharagraff (5), a hwnnw'n fuddiant sydd mor bell neu ddi-nod fel na ellir yn rhesymol farnu y byddai'n debygol o ddylanwadu ar aelod wrth iddo ystyried neu drafod unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â'r contract, y contract arfaethedig neu'r mater hwnnw na phleidleisio arno.

(7Pan fo gan aelod neu aelod cyswllt fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall a hynny ddim ond oherwydd buddiant llesiannol mewn gwarannau cwmni neu gorff arall, ac —

(a)nid yw cyfanswm gwerth enwol y gwarannau hynny'n fwy na £5,000 neu ganfed ran o gyfanswm enwol cyfalaf cyfrandaliadau a ddyroddwyd gan y cwmni neu'r corff, pa un bynnag yw'r lleiaf, a

(b)os yw'r cyfalaf cyfrandaliadau yn perthyn i fwy nag un dosbarth, cyfanswm enwol cyfrandaliadau unrhyw ddosbarth unigol y mae gan yr aelod hwnnw fuddiant llesiannol ynddo nad yw'n fwy na chanfed ran o gyfanswm y cyfalaf cyfrandaliadau a ddyroddwyd yn y dosbarth hwnnw,

nid yw'r rheoliad hwn yn gwahardd yr aelod hwnnw rhag cymryd rhan yn y broses o ystyried neu drafod y contract, y contract arfaethedig neu fater arall neu, pan fo gan yr aelod hwnnw hawl i bleidleisio, rhag pleidleisio ar unrhyw gwestiwn yn ei gylch.

(8Nid yw paragraff (7) yn effeithio ar ddyletswydd aelod neu aelod cyswllt i ddatgelu buddiant o dan baragraff (1).

(9Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran pwyllgor neu is-bwyllgor ac o ran cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor fel y mae'n gymwys o ran Bwrdd, ac mae'n gymwys i aelod o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor neu gyd-bwyllgor neu gyd is-bwyllgor o'r fath (p'un a yw'r person hwnnw hefyd yn aelod o Fwrdd, neu'n aelod cyswllt ohono, ai peidio) fel y mae'n gymwys i aelod o Fwrdd neu aelod cyswllt ohono.

(10Yn y rheoliad hwn —

  • mae “corff cyhoeddus” (“public body”) yn cynnwys unrhyw gorff a sefydlwyd at ddibenion rhedeg, o dan berchenogaeth wladol, unrhyw ddiwydiant neu ran o unrhyw ddiwydiant neu ymgymeriad, corff llywodraethu unrhyw brifysgol, coleg prifysgol neu goleg, ysgol neu neuadd prifysgol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Fannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol a ymgorfforwyd gan Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907(4);

  • ystyr “cyfrandaliadau” (“shares”) yw cyfrandaliadau yng nghyfalaf cyfrandaliadau cwmni neu gorff arall neu yn stoc cwmni neu gorff arall;

  • ystyr “gwarannau” (“securities”) yw —

    (a)

    cyfrandaliadau neu ddyledebau, p'un a ydynt yn arwystl ar asedau cwmni neu gorff arall, neu'n hawliau neu fuddiannau mewn unrhyw gyfrandaliad neu ddyledebau; neu

    (b)

    hawliau (p'un a ydynt yn wirioneddol neu'n amodol) mewn cysylltiad ag arian a fenthycwyd i unrhyw gymdeithas ddiwydiannol neu ddarbodus neu gymdeithas adeiladu neu a adneuwyd gyda hwy.

RHAN 4Trefniadau Trosiannol ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys

18.  Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys.

Trefniadau ar gyfer aelodau presennol Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys

19.  Bydd unrhyw berson sy'n cael, neu sydd wedi cael, ei benodi'n aelod neu'n aelod cyfetholedig yn unol â Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003(5) yn peidio â bod yn aelod neu'n aelod cyfetholedig ar ddiwedd y cyfnod cysgodol.

Trefniadau ar gyfer y bwrdd cysgodol

20.—(1Y personau a benodir yn unol â pharagraffau (2) a (3) a fydd yn ffurfio'r Bwrdd cysgodol tan ddiwedd y cyfnod cysgodol.

(2Bydd Gweinidogion Cymru yn penodi personau a ddaw'n gadeirydd, yn is-gadeirydd ac yn aelodau nad ydynt yn swyddogion ar ddiwedd y cyfnod cysgodol.

(3Bydd y Bwrdd cysgodol yn penodi personau a ddaw'n swyddog-aelodau ar ddiwedd y cyfnod cysgodol.

(4Bydd y Bwrdd yn cydweithredu â'r Bwrdd cysgodol i alluogi'r Bwrdd cysgodol i weithredu fel y Bwrdd o ddiwedd y cyfnod cysgodol.

(5Rhaid i bersonau a benodir yn unol â pharagraffau (2) a (3) gydymffurfio â'r gofynion o ran cymhwystra yn Atodlen 2 ac fe'u trinnir fel petaent yn aelodau a benodwyd yn unol â rheoliad 4.

RHAN 5Amrywiol

Trefniadau trosiannol yn ystod y cyfnod cysgodol

21.  Yn ystod y cyfnod cysgodol bydd paragraff 6 o Atodlen 3 yn gymwys fel petai'n darllen —

  • Ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei drafod mewn cyfarfod onid yw nifer yr aelodau sy'n bresennol yn ddau o leiaf..

Dirymu

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu —

(a)Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003(6);

(b)Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2007(7).

(2O ran y Byrddau a restrir yn Atodlen 2 i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(8)

(a)mae'r Rheoliadau ym mharagraff (1) wedi'u dirymu ar ddiwedd y cyfnod cysgodol;

(b)ac eithrio'r rheoliad hwn, nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys.

(3O ran Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), caiff y Rheoliadau ym mharagraff (1) eu dirymu ar ddiwedd y cyfnod cysgodol;

(b)bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys ar ddiwedd y cyfnod cysgodol ac eithrio'r ffaith y byddant yn gymwys at ddibenion penodiadau o dan reoliad 20 ac ar gyfer y rheoliad hwn o ddechrau'r cyfnod cysgodol.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Mawrth 2009

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources