- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13. Pan fo cadeirydd y Bwrdd —
(a)wedi marw;
(b)wedi peidio â dal ei swydd; neu
(c)yn analluog i gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall,
bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes y bydd y cadeirydd presennol yn ailafael yn ei ddyletswyddau fel cadeirydd, yn ôl y digwydd; a chymerir bod cyfeiriadau at y cadeirydd yn Atodlen 3, cyhyd ag nad oes unrhyw gadeirydd sy'n gallu cyflawni dyletswyddau cadeirydd, yn cynnwys cyfeiriadau at yr is-gadeirydd.
14. Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru, caniateir i'r Bwrdd, ac os caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, rhaid iddo —
(a)penodi pwyllgorau neu is-bwyllgorau'r Bwrdd, neu
(b)penodi, ar y cyd ag un neu fwy o Fyrddau neu Ymddiriedolaethau GIG neu awdurdod lleol yn ardal y Bwrdd, gydbwyllgorau neu gyd-is-bwyllgorau,
a fydd wedi'u ffurfio'n gyfan gwbl neu'n rhannol o aelodau'r Bwrdd neu gyrff gwasanaeth iechyd eraill neu bersonau nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd nac o gyrff gwasanaeth iechyd eraill.
15.—(1) Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y Bwrdd gael eu cynnal yn unol ag Atodlen 3 ac yn unol â'r Rheolau Sefydlog a wneir o dan baragraff (2).
(2) Rhaid i'r Bwrdd wneud Rheolau Sefydlog, i reoleiddio ei drafodion a'i fusnes, gan gynnwys darpariaethau i atal ei hun dros dro.
(3) Caiff y Bwrdd —
(a)amrywio; neu
(b)dirymu ac ail-wneud
ei Reolau Sefydlog.
(4) Caiff y Bwrdd, yn achos pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd yn unol â rheoliad 14(a), wneud, amrywio a dirymu Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.
(5) Pan fo cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor wedi'i sefydlu'n unol â rheoliad 14(b), rhaid i'r Bwrdd gymeradwyo unrhyw Reolau Sefydlog y caniateir eu gwneud gan y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.
(6) Bydd Rheolau Sefydlog a wneir o dan y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y caniateir eu dyroddi gan Weinidogion Cymru a rhaid iddynt gael eu gwneud yn unol â'r cyfarwyddiadau hynny.
16. Ni chaiff aelodau cyswllt bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd neu drafodion Bwrdd.
17.—(1) Yn ddarostyngedig i'r rheoliad hwn —
(a)os oes gan aelod neu aelod cyswllt unrhyw fuddiant ariannol, p'un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall; a
(b)os yw aelod neu aelod cyswllt yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Bwrdd lle mae'r contract, y contract arfaethedig neu'r mater arall yn bwnc sy'n cael ei ystyried,
rhaid i'r aelod hwnnw ddatgelu'r ffaith yn y cyfarfod a chyn gynted â phosibl ar ôl i'r cyfarfod hwnnw ddechrau a rhaid iddo beidio â chymryd rhan yn y broses o ystyried neu drafod y contract, y contract arfaethedig neu'r mater arall neu, os oes gan yr aelod hwnnw hawl i bleidleisio, rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â'r contract, y contract arfaethedig neu'r mater arall hwnnw.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y gwelant yn dda, osod neu ddileu unrhyw anabledd a osodir gan y rheoliad hwn mewn unrhyw achos lle mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru y byddai er budd y gwasanaeth iechyd i wneud hynny.
(3) Caiff Bwrdd, drwy Reoliadau Sefydlog a wneir o dan reoliad 15, ddarparu ar gyfer gwahardd unrhyw aelod neu aelod cyswllt o unrhyw un o gyfarfodydd y Bwrdd tra bo unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall y mae gan yr aelod hwnnw fuddiant ariannol ynddo, p'un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn cael ei ystyried.
(4) Nid yw unrhyw dâl, iawndal neu lwfansau sy'n daladwy i aelod neu aelod cyswllt yn rhinwedd paragraff 10 o Atodlen 2 i'r Ddeddf i gael ei drin neu eu trin fel buddiant ariannol at ddibenion y rheoliad hwn.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (6), mae aelod neu aelod cyswllt i'w drin at ddibenion y rheoliad hwn fel un y mae ganddo fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall os yw'r aelod hwnnw, neu unrhyw un y mae wedi'i enwebu —
(a)yn gyfarwyddwr neu'n swyddog arall cwmni neu gorff arall, nad yw'n gorff cyhoeddus, y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater yn cael ei ystyried; neu
(b)yn berson y gwnaed y contract gydag ef neu y bwriedir gwneud y contract gydag ef, neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater sy'n cael ei ystyried, neu y mae'n bartner i'r person hwnnw, neu'n cael ei gyflogi ganddo;
ac yn achos personau sy'n briod â'i gilydd neu sydd mewn partneriaeth sifil â'i gilydd neu sy'n byw gyda'i gilydd fel rhai sy'n briod neu fel partneriaid sifil, bernir at ddibenion y rheoliad hwn fod buddiant un person o'r fath, os yw'n hysbys i'r llall, yn fuddiant y llall hefyd.
(6) Nid yw aelod neu aelod cyswllt i'w drin fel un y mae ganddo fuddiant ariannol mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall a hynny ddim ond oherwydd —
(a)aelodaeth yr aelod hwnnw mewn cwmni neu gorff arall os nad oes gan yr aelod hwnnw fuddiant llesiannol yn unrhyw rai o warannau'r cwmni neu'r corff hwnnw; neu
(b)buddiant yn unrhyw gwmni, corff neu berson y mae'r aelod hwnnw'n gysylltiedig ag ef, fel y crybwyllir ym mharagraff (5), a hwnnw'n fuddiant sydd mor bell neu ddi-nod fel na ellir yn rhesymol farnu y byddai'n debygol o ddylanwadu ar aelod wrth iddo ystyried neu drafod unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â'r contract, y contract arfaethedig neu'r mater hwnnw na phleidleisio arno.
(7) Pan fo gan aelod neu aelod cyswllt fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall a hynny ddim ond oherwydd buddiant llesiannol mewn gwarannau cwmni neu gorff arall, ac —
(a)nid yw cyfanswm gwerth enwol y gwarannau hynny'n fwy na £5,000 neu ganfed ran o gyfanswm enwol cyfalaf cyfrandaliadau a ddyroddwyd gan y cwmni neu'r corff, pa un bynnag yw'r lleiaf, a
(b)os yw'r cyfalaf cyfrandaliadau yn perthyn i fwy nag un dosbarth, cyfanswm enwol cyfrandaliadau unrhyw ddosbarth unigol y mae gan yr aelod hwnnw fuddiant llesiannol ynddo nad yw'n fwy na chanfed ran o gyfanswm y cyfalaf cyfrandaliadau a ddyroddwyd yn y dosbarth hwnnw,
nid yw'r rheoliad hwn yn gwahardd yr aelod hwnnw rhag cymryd rhan yn y broses o ystyried neu drafod y contract, y contract arfaethedig neu fater arall neu, pan fo gan yr aelod hwnnw hawl i bleidleisio, rhag pleidleisio ar unrhyw gwestiwn yn ei gylch.
(8) Nid yw paragraff (7) yn effeithio ar ddyletswydd aelod neu aelod cyswllt i ddatgelu buddiant o dan baragraff (1).
(9) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran pwyllgor neu is-bwyllgor ac o ran cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor fel y mae'n gymwys o ran Bwrdd, ac mae'n gymwys i aelod o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor neu gyd-bwyllgor neu gyd is-bwyllgor o'r fath (p'un a yw'r person hwnnw hefyd yn aelod o Fwrdd, neu'n aelod cyswllt ohono, ai peidio) fel y mae'n gymwys i aelod o Fwrdd neu aelod cyswllt ohono.
(10) Yn y rheoliad hwn —
mae “corff cyhoeddus” (“public body”) yn cynnwys unrhyw gorff a sefydlwyd at ddibenion rhedeg, o dan berchenogaeth wladol, unrhyw ddiwydiant neu ran o unrhyw ddiwydiant neu ymgymeriad, corff llywodraethu unrhyw brifysgol, coleg prifysgol neu goleg, ysgol neu neuadd prifysgol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Fannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol a ymgorfforwyd gan Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907(1);
ystyr “cyfrandaliadau” (“shares”) yw cyfrandaliadau yng nghyfalaf cyfrandaliadau cwmni neu gorff arall neu yn stoc cwmni neu gorff arall;
ystyr “gwarannau” (“securities”) yw —
cyfrandaliadau neu ddyledebau, p'un a ydynt yn arwystl ar asedau cwmni neu gorff arall, neu'n hawliau neu fuddiannau mewn unrhyw gyfrandaliad neu ddyledebau; neu
hawliau (p'un a ydynt yn wirioneddol neu'n amodol) mewn cysylltiad ag arian a fenthycwyd i unrhyw gymdeithas ddiwydiannol neu ddarbodus neu gymdeithas adeiladu neu a adneuwyd gyda hwy.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: