Search Legislation

Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod)(Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 667 (Cy.59)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod)(Cymru) 2009

Gwnaed

12 Mawrth 2009

Yn dod i rym

6 Ebrill 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 216(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 6 Ebrill 2009.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007

2.—(1Mae Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007(3) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.

3.  Yn yr Atodlen hon—

(a)hepgorer—

(i)“Henley Management College”; a

(ii)“University of Paisley”.

(b)yn lle—

(i)“Buckinghamshire Chilterns University College”, rhodder “Buckinghamshire New University”;

(ii)“University of Central England in Birmingham”, rhodder “Birmingham City University”;

(iii)“College of St. Mark and St. John, Plymouth, The” rhodder “University College Plymouth, St. Mark and St. John”;

(iv)“University College for the Creative Arts at Canterbury, Epsom, Farnham, Maidstone and Rochester” rhodder “University for the Creative Arts”;

(v)“Newman College of Higher Education, Birmingham”, rhodder “Newman University College”.

4.  Yn yr atodlen, mewnosoder yn y man priodol—

(a)“Arts Institute at Bournemouth, The”;

(b)“Ashridge (Bonar Law Memorial) Trust (a elwir hefyd “Ashridge”)”;

(c)“Coleg Prifysgol y Drindod (Trinity University College)”

(ch)“University College Birmingham”;

(d)“Prifysgol Glyndŵr (Glyndŵr University)”;

(dd)“Norwich University College of the Arts”;

(e)“Prifysgol Fetropolitan Abertawe (Swansea Metropolitan University)”;

(f)“UHI Millenium Institute”; ac

(ff)“University of the West of Scotland”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

12 Mawrth 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007 yn yn rhestru'r holl gyrff hynny yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff cydnabyddedig o fewn adran 214 (2) (a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (“Deddf 1988”). Mae cyrff o'r fath naill ai:

(a)yn brifysgolion, yn golegau neu'n gyrff a awdurdodwyd drwy Siarter neu drwy Ddeddf Seneddol neu oddi tani i ddyfarnu graddau; neu

(b)yn gyrff eraill a ganiateir am y tro gan unrhyw gorff sy'n cwympo o fewn paragraff (a) i weithredu ar ei ran wrth ddyfarnu graddau.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2007 ac yn diweddaru'r rhestr o gyrff a geir yn yr atodlen i'r Gorchymyn hwnnw. Caiff nifer o gyrff eu hepgor o'r Atodlen gan nad oes ganddynt bellach bwerau i ddyfarnu graddau neu am eu bod wedi cyfuno â chyrff eraill. Cafodd nifer o gyrff newydd eu mewnosod yn yr Atodlen gan ei bod yn ymddangos i Weinidogion Cymru fod y cyrff hynny bellach yn cwympo o fewn naill ai (a) neu (b) uchod. Cafodd nifer o fân newidiadau hefyd eu gwneud i'r Atodlen i gymryd ystyriaeth o newidiadau i enwau a wnaed ers pan wnaed Gorchymyn 2007.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672) a pharagraff 30(1) a (2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources