- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002(1) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (y person cofrestredig — ei addasrwydd)—
(a)yn lle paragraff 3(c) rhodder—
“(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person—
(i)ac eithrio os yw paragraff (5) yn gymwys, mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (5) yn gymwys, mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 4 o Atodlen 2.”;
(b)hepgorer paragraff (4).
(3) Yn rheoliad 4B(2) (y person â gofal — ei addasrwydd)—
(a)yn lle paragraff (3)(c) rhodder—
“(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.”;
(b)hepgorer paragraff (4).
(4) Yn rheoliad 16 (addasrwydd gweithwyr)—
(a)yn lle paragraff (2)(ch) rhodder—
“(ch)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.”;
(b)ym mharagraff (4)(b), yn lle'r geiriau “oni bai bod paragraff (5) yn gymwys” rhodder “oni bai bod paragraff (5) neu (5A) yn gymwys.”;
(c)yn lle paragraff (5)(b) rhodder—
“(b)y cafwyd gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2.”.
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio gweithredu fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd neu'n ceisio gweithio drostynt)—
(a)yn lle paragraff 2 rhodder—
“2. Naill ai—
(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 10A o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002(3) tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(4) ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2)(5) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi”;
(b)hepgorer paragraffau 7 ac 8.
3.—(1) Diwygier yr Atodlen i Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004(7) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 3, yn lle “78C” rhodder “79C”
(3) Yn lle paragraff 33 rhodder—
33. Person sy'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd a wnaed, neu y mae iddo effaith fel pe bai wedi'i wneud, o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(8) ar y seiliau a osodir yn is-adran (4)(a), (b) neu (d) o'r adran honno.”
(4) Yn lle paragraff 34 rhodder—
34. Person sydd wedi'i wahardd rhag gweithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(9)”
O.S. 2002/812 (Cy.92). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/2171 (Cy.218), O.S. 2002/2622 (Cy.254), O.S. 2003/2708 (Cy.259) ac O.S. 2004/2414 (Cy.222).
Mewnosodwyd rheoliad 4B gan O.S. 2003/2708 (Cy.259).
O.S. 2002/233. Mewnosodwyd Rheoliad 5A gan O.S. 2006/748. Mae diwygiadau pellach yn cael eu drafftio i reoliad 5A a bydd y rhain mewn grym o 12 Hydref 2009 ymlaen.
1997 p.50. Mewnosodwyd adran 113B gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15). Diwygir is-adran (2) o adran 113B gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
Mewnosodwyd adran 113BA gan adran 63(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) a pharagraff 14 o Atodlen 9 iddi.
Mewnosodwyd adran 113A gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: