Search Legislation

Rheoliadau Deddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 2541 (Cy.205)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Deddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2009

Gwnaed

15 Medi 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Medi 2009

Yn dod i rym

12 Hydref 2009

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 68(1) a (2), 79C(2) a (3), 79M(1)(c) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1) a pharagraff 4 o Atodlen 9A iddi, adrannau 12(2)(a), 16(1)(a), 22(1), (2)(a), (b), (d) ac (e), 48(1)(a) ac 118(1), (6)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) ac adrannau 9(1), 10(1)(a), (3)(a) ac (e), 140(1) a (7) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(3):

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Hydref 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Gwarchod plant a gofal dydd

Diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002

2.—(1Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002(4) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4 (y person cofrestredig — ei addasrwydd)—

(a)yn lle paragraff 3(c) rhodder—

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person—

(i)ac eithrio os yw paragraff (5) yn gymwys, mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;

(ii)os yw paragraff (5) yn gymwys, mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 4 o Atodlen 2.;

(b)hepgorer paragraff (4).

(3Yn rheoliad 4B(5) (y person â gofal — ei addasrwydd)—

(a)yn lle paragraff (3)(c) rhodder—

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.;

(b)hepgorer paragraff (4).

(4Yn rheoliad 16 (addasrwydd gweithwyr)—

(a)yn lle paragraff (2)(ch) rhodder—

(ch)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.;

(b)ym mharagraff (4)(b), yn lle'r geiriau “oni bai bod paragraff (5) yn gymwys” rhodder “oni bai bod paragraff (5) neu (5A) yn gymwys.”;

(c)yn lle paragraff (5)(b) rhodder—

(b)y cafwyd gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2..

(5Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio gweithredu fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd neu'n ceisio gweithio drostynt)—

(a)yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 10A o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002(6) tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(7) ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2)(8) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A(9) o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi;

(b)hepgorer paragraffau 7 ac 8.

Diwygio Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004

3.—(1Diwygier yr Atodlen i Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004(10) fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 3, yn lle “78C” rhodder “79C”

(3Yn lle paragraff 33 rhodder—

Cyfarwyddyd Deddf Addysg 2002

33.  Person sy'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd a wnaed, neu y mae iddo effaith fel pe bai wedi'i wneud, o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(11) ar y seiliau a osodir yn is-adran (4)(a), (b) neu (d) o'r adran honno.

(4Yn lle paragraff 34 rhodder—

Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 rhestr waharddedig o ran plant

34.  Person sydd wedi'i wahardd rhag gweithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(12)

RHAN 3Sefydliadau ac asiantaethau — plant

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

4.—(1Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(13) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (1) o reoliad 23 (gofyniad i wneud gwiriadau gyda'r heddlu) rhodder—

(1) Mewn cysylltiad â'r darpar fabwysiadydd ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar fabwysiadydd sy'n 18 oed neu drosodd, rhaid i asiantaeth fabwysiadu gael tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno)..

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005

5.—(1Mae Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005(14) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 2 o Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chael am yr unigolyn cyfrifol neu am bersonau sy'n ceisio rheoli neu weithio at ddibenion asiantaeth) rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os yw'r dystysgrif yn ofynnol at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi..

Diwygiadau i Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

6.—(1Mae Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(15) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—

(a)Ym mharagraff (3)(c) rhodder—

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 5 a 6 o Atodlen 2.;

(b)hepgorer paragraff (4).

(3Yn rheoliad 8 (ffitrwydd y rheolwr)—

(a)yn lle paragraff (2)(c) rhodder—

(c)oni bai bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.

(b)yn lle paragraff (2E)(16) rhodder—

(2E) Ni fydd person yn ffit i reoli cartref plant onid yw wedi ei gofrestru'n rheolwr gyda Chyngor Gofal Cymru.;

(c)hepgorer paragraff (3).

(4Yn rheoliad 26 (ffitrwydd gweithwyr)—

(a)yn lle paragraff (2)(ch) rhodder—

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (2G), bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2

(b)ym mharagraff (4)(b), yn lle'r geiriau “oni bai bod paragraff (5) yn gymwys” rhodder “oni bai bod paragraff (5) neu (5A) yn gymwys.”;

(c)yn lle paragraff (5) (b) rhodder—

(b)y cafwyd gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2..

(5Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un) —

(a)yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol safonol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.;

(b)hepgorer paragraffau 7 ac 8.

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003

7.—(1Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(17) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 2 o Atodlen 1 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli gwasanaeth maethu neu weithio at ddibenion y gwasanaeth hwnnw) rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997..

(3Yn lle paragraff 13 o Atodlen 3 ( gwybodaeth am ddarpar riant maeth ac aelodau eraill o aelwyd a theulu'r darpar riant maeth) rhodder—

13.  Mewn cysylltiad â'r darpar riant maeth ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar riant maeth sy'n 18 oed neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno)..

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007

8.—(1Mae Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007(18) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 2 o Atodlen 3 (gwybodaeth y mae ei hangen am bersonau sy'n gwneud cais am reoli neu weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu) rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif ar gyfer swydd sy'n dod o dan reoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi..

Diwygiadau i Reoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003

9.—(1Mae Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003(19) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—

(a)yn lle paragraff (3)(c) rhodder—

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r unigolyn mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.;

(b)hepgorer paragraff (4)

(3Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y rheolwr)—

(a)yn lle paragraff (2)(c) rhodder—

(c)bod gwybodaeth a dogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.

(b)hepgorer paragraff (3).

(4Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli canolfan breswyl i deuluoedd neu weithio mewn un) —

(a)yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno); neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.;

(b)hepgorer paragraff 7.

RHAN 4Sefydliadau ac asiantaethau, gwasanaethau a chyfleusterau — gofal cymdeithasol ac iechyd oedolion

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004

10.—(1Mae Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion Cymru 2004(20) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 2 o Atodlen 3 (gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolion, personau sy'n darparu gwasanaethau gofal at ddibenion lleoliad oedolion, personau sy'n darparu ac yn rheoli cynlluniau lleoli oedolion) rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno); neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997..

Diwygiadau i Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

11.—(1Mae Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(21) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—

(a)yn lle paragraff (3)(c)(ii) rhodder—

(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 6 o Atodlen 2;;

(b)yn lle paragraff (3)(c)(iii) rhodder—

(iii)ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).;

(c)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(a)pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a

(b)pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant..

(3Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig)—

(a)yn lle paragraff (2)(c)(ii) rhodder—

(ii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 6 o Atodlen 2.;

(b)yn lle paragraff (2)(c)(iii) rhodder—

(iii)ac ymhellach, pan fydd paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).;

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(a)pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a

(b)pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant..

(4Yn rheoliad 19 (ffitrwydd y gweithwyr)—

(a)yn lle paragraff (2)(ch)(ii) rhodder—

(ii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 6 o'r Atodlen honno;;

(b)ar ôl paragraff (2)(ch)(ii) mewnosoder—

(iii)ac ymhellach, pan fydd paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).;

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(i)pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a

(ii)pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.;

(ch)yn lle paragraff (5)(b)(iii) rhodder—

(iii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).;

(d)ar ôl paragraff (5A)(b) mewnosoder—

(ba)bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno);;

(dd)hepgorer is-baragraff (6).

(5Yn lle paragraff (5) o reoliad 43 (marwolaeth person cofrestredig) rhodder—

(5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i reoli'r cartref gofal yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant, yn unol â pharagraff (3), yn rhedeg y cartref gofal heb fod wedi eu cofrestru mewn cysylltiad ag ef..

(6Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth a'r dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â phersonau sy'n rhedeg neu reoli cartrefi gofal neu weithio ynddynt)—

(a)yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.;

(b)hepgorer paragraffau 7 ac 8.

Diwygiadau i Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004

12.—(1Mae Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(22) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â darparwyr a rheolwyr cofrestredig asiantaeth a phersonau sydd wedi'u henwi i ddirprwyo ar gyfer person cofrestredig)

(a)yn lle paragraff 3 rhodder—

3.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.;

(b)hepgorer paragraff 11.

(3Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth a'r ddogfennaeth sydd i fod ar gael mewn perthynas â gweithwyr gofal cartref) —

(a)yn lle paragraff 4 rhodder—

4.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.;

(b)hepgorer paragraff 13.

Diwygiadau i Reoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003

13.—(1Mae Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru)2003(23) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—

(a)yn lle paragraff (3)(c)(ii) rhodder—

(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2;;

(b)ar ôl paragraff (3)(c)(ii) mewnosoder—

(iii)ac ymhellach, os yw paragraff (4) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).;

(c)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(a)pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a

(b)pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant..

(3Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr)—

(a)yn lle paragraff (2)(c)(ii) rhodder—

(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2;;

(b)ar ôl paragraff (2)(c)(ii) mewnosoder—

(iii)ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).;

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(a)pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a

(b)pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant..

(4Yn rheoliad 12 (ffitrwydd y nyrsys sy'n cael eu cyflenwi gan asiantaeth)—

(a)yn lle paragraff (1)(ch)(ii) rhodder—

(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 3 a 6 i 13 o Atodlen 3;;

(b)ym mharagraff (1)(ch) mewnosoder ar ôl paragraff (1)(ch)(ii)—

(iii)ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).;

(c)yn lle paragraff (2)(ii) rhodder—

(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2;;

(ch)ar ôl paragraff (2)(ii) mewnosoder—

(iii)ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).;

(d)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(a)pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a

(b)pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant..

(5Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â darparwyr a rheolwyr cofrestredig asiantaeth a nyrsys sy'n gyfrifol am ddewis nyrsys i'w cyflenwi i ddefnyddwyr gwasanaeth)—

(a)yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.;

(b)hepgorer paragraffau 9 ac 10.

(6Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â nyrsys sydd i'w cyflenwi gan asiantaeth)—

(a)yn lle paragraff 4 rhodder—

4.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno neu'r ddwy; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.;

(b)hepgorer paragraffau 5 ac 14.

Diwygiadau i Reoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002

14.—(1Mae Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002(24) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—

(a)yn lle paragraff (3)(c)(ii) rhodder—

(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;.

(b)yn lle paragraff (3)(c)(iii) rhodder—

(iii)ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).;

(c)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(a)pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a

(b)pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant..

(3Yn rheoliad 11 (ffitrwydd y rheolwr)—

(a)yn lle paragraff (2)(c)(ii) rhodder—

(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;;

(b)yn lle paragraff (2)(c)(iii) rhodder—

(iii)ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).;

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(a)pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a

(b)pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.

(4Yn rheoliad 18 (ffitrwydd y gweithwyr)—

(a)yn lle paragraff (2)(ch)(ii) rhodder—

(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;;

(b)ar ôl paragraff (2)(ch)(ii) mewnosoder—

(iii)ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).;

(c)yn lle paragraff (3), rhodder—

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

(i)pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a

(ii)pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.;

(ch)ym mharagraff (4)(b) yn lle'r geiriau “oni bai bod paragraff (5) yn gymwys” rhodder “oni bai bod paragraff (5) neu (5A) yn gymwys”;

(d)yn lle paragraff (5)(b)(iii) rhodder—

(iii)os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).;

(dd)ym mharagraff (5A) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno);.

(5Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sydd am redeg neu reoli sefydliad neu weithio ynddo) —

(a)yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.;

(b)hepgorer paragraffau 8 ac 9 .

Diwygiadau i Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008

15.—(1Mae Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008(25) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (2)(g) o reoliad 5 (gwybodaeth a dogfennau sydd i'w darparu gan geisydd) rhodder—

(g)tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, ac y cydlofnodwyd y cais amdani ar ran yr awdurdod cofrestru;.

(3Yn lle paragraff (4) o reoliad 13 (ffitrwydd person cofrestredig) rhodder—

(4) Caiff yr awdurdod cofrestru ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig wneud cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl wedi ei dyroddi o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, a rhaid i'r cyfryw gais gael ei gydlofnodi ar ran yr awdurdod cofrestru..

(4Yn lle paragraff 2 o Atodlen 2 (gwybodaeth a dogfennau a fydd ar gael ynghylch personau cofrestredig) rhodder—

2.  Tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.

RHAN 5Cyffredinol

Diwygiadau i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002

16.—(1Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(26) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 (y dogfennau i'w cyflenwi wrth i berson wneud cais am gael ei gofrestru'n berson sy'n rhedeg sefydliad neu asiantaeth)—

(a)yn lle paragraff 4 rhodder—

4.  In relation to the responsible person—

(a)an enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes, as applicable, suitability information in relation to vulnerable adults (within the meaning of section 113BB (2) of that Act) or suitability information relating to children (within the meaning of section 113BB (2) of that Act) or both; and

(b)the application for that certificate which was countersigned by the Welsh Ministers.

(b)yn lle paragraff 9A rhodder—

9A  Notwithstanding paragraph 4, where the responsible person has applied for a certificate referred to in paragraph 4, but the certificate has not been issued and the responsible person will not be engaging in regulated activity related to children—

(a)a statement confirming that the documents specified in paragraph 4 have been applied for and that the applicant, or where the applicant is an organisation, the responsible individual, will advise the Welsh Ministers on receipt that they are available for inspection; and

(b)notification under section 113E (4) (a) of the Police Act 1997 that the individual is not included on a specified adults' list (within the meaning of section 113E of that Act)

(c)yn lle paragraff 10(2) rhodder—

(2) The following documents are specified—

(a)where the position falls within regulation 5A of the Police Act 1997 (Criminal Records) Regulations 2002, an enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes, as applicable, suitability information relating to vulnerable adults (within the meaning of section 112BB (2)of that Act) or suitability information relating to children (within the meaning of section 113BA (2) of that Act) or both; or

(b)in any other case, a criminal record certificate issued under section 113A of the Police Act 1997;.

(3Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth a'r dogfennau i'w cyflenwi wrth i berson wneud cais am gael ei gofrestru'n rheolwr sefydliad neu asiantaeth)—

(a)hepgorer paragraff 12.

(b)yn lle paragraff 13, rhodder—

13.(1) An enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes, as applicable, suitability information in relation to vulnerable adults (within the meaning of section 113BB (2) of that Act) or suitability information relating to children (within the meaning of section 113BB (2) of that Act) or both; and

(2) the application for that certificate which was countersigned by the Welsh Ministers.

(c)yn lle paragraff 13A rhodder—

(13A) Notwithstanding paragraph 13, where the responsible person has applied for a certificate referred to in paragraph 13, but the certificate has not been issued and the responsible person will not be engaging in regulated activity related to children—

(a)a statement confirming that the documents specified in paragraph 13 have been applied for and that the applicant, or where the applicant is an organisation, the responsible individual, will advise the Welsh Ministers on receipt that they are available for inspection; and

(b)notification under section 113E (4) (a) of the Police Act 1997 that the individual is not included on a specified adults' list (within the meaning of section 113E of that Act)..

(4Yn Atodlen 8 (y dogfennau i'w cyflenwi wrth i berson wneud cais am gael ei gofrestru'n warchodwr plant neu'n ddarparydd gofal dydd)—

(a)yn lle paragraff 4 rhodder—

4.  In relation to the responsible person and the person in charge—

(a)an enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes suitability information in relation to children (within the meaning of section 113BA (2) of that Act);

(b)the application for that certificate which was countersigned by the Welsh Ministers.;

(b)hepgorer paragraff 9.

(c)yn lle paragraff 10(2) rhodder—

(2) The following documents are specified—

(a)where the position falls within regulation 5A of the Police Act 1997 (Criminal Records) Regulations 2002, an enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes suitability information relating to children (within the meaning of section 113BA (2) of that Act); or

(b)in any other case, a criminal record certificate issued under section 113A of the Police Act 1997..

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau at Ddeddf yr Heddlu 1997 (p.50) mewn darpariaethau a geir mewn amryw setiau o reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Plant 1989 (p.41), Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14) a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38). Mae'r Rheoliadau sy'n cael eu diwygio'n ymwneud â gwarchod plant, gofal dydd, asiantaethau mabwysiadu, asiantaethau cymorth mabwysiadu, cartrefi plant, asiantaethau maethu, gwasanaethau mabwysiadu llywodraeth leol, canolfannau preswyl i deuluoedd, cynlluniau lleoli oedolion, cartrefi gofal, asiantaethau gofal cartref, asiantaethau nyrsys, sefydliadau ac asiantaethau gofal iechyd preifat a gwirfoddol a gwasanaethau deintyddol preifat.

Gwneir y diwygiadau er mwyn adlewyrchu newidiadau sydd wedi digwydd yn sgil diwygiadau sydd wedi eu gwneud i Ddeddf yr Heddlu 1997 gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Un o'r newidiadau yw na fydd gwybodaeth ynghylch p'un a yw person wedi ei wahardd rhag gweithio gyda grwpiau hyglwyf (gwybodaeth am addasrwydd) ar gael ond mewn achosion rhagnodedig pan wneir cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl. Yn gyfredol, mae'r cyfryw wybodaeth hefyd ar gael mewn amgylchiadau penodedig gyda thystysgrif cofnod troseddol safonol.

Mae mwyafrif y diwygiadau a wneir yn y Rheoliadau hyn yn ymwneud â darpariaethau sy'n pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid iddi fod ar gael pan fo person yn bwriadu rhedeg neu reoli asiantaeth neu sefydliad y mae'n ofynnol i berson gael ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â hi neu ag ef, neu weithio at ddibenion asiantaeth neu sefydliad o'r fath. Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnwys diwygiadau sy'n pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid iddi fod ar gael pan fo person am weithredu fel gwarchodwr plant neu am ddarparu gofal dydd neu pan fo am weithio i warchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd pan fo'n ofynnol i berson gael ei gofrestru o dan Ran 10A o Ddeddf Plant 1989. Yn ychwanegol at hyn, mae'r Rheoliadau'n cynnwys diwygiadau sy'n ymwneud â darpariaethau yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1313) sy'n pennu pa wiriadau y mae'n rhaid i asiantaeth fabwysiadu eu gwneud mewn cysylltiad â darpar fabwysiadydd ac aelodau o aelwyd y darpar fabwysiadydd sy'n oedolion a darpariaethau cyffelyb yn Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 (O.S. 2003/237) mewn perthynas â gwiriadau ar ddarpar rieni maeth ac aelodau o'u haelwyd sy'n oedolion.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru cyfeiriadau cyffelyb at ddarpariaethau yn Neddf yr Heddlu 1997 yn Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 (O.S. 2002/919). Mae'r Rheoliadau hyn dyddiedig 2002 yn gymwys i sefydliadau ac asiantaethau sy'n ymwneud ag oedolion, iechyd a phlant, gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd ac maent yn llywodraethu'r wybodaeth a'r dogfennau y mae'n rhaid eu darparu pan fyddant yn gwneud cais am gael eu cofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 neu am gael eu cofrestru o dan ran 10A o Ddeddf Plant 1989.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys diwygiadau i reoliadau amrywiol a wnaed o dan Ddeddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 drwy ddileu cyfeiriadau at wiriadau heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 gan nad yw'r rhain ar gael mwyach. Mae cyfeiriadau at adroddiadau ar wiriadau ar y rhestrau a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (a elwir yn “rhestr POCA”) ac o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (a elwir yn “Rhestr 99”) hefyd wedi eu dileu gan na ellir cyrchu'r wybodaeth ar y rhestrau hyn ond drwy dystysgrif cofnod troseddol fanwl. Effaith y diwygiadau hyn yw bod yn rhaid i dystysgrif cofnod troseddol fanwl fod ar gael pan fo person y mae'r rheoliadau perthnasol yn gymwys iddo'n ymgymryd â gweithgaredd a reolir ac sy'n ymwneud â phlant.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys diwygiadau sy'n cyfeirio at hysbysiadau o dan Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n datgan nad yw unigolyn wedi ei gynnwys ar “restr oedolion penodedig”. Bydd yr uchod yn cynnwys y rhestr Amddiffyn Oedolion Hyglwyf (POVA) a gedwir o dan adran 89 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a'r rhestr oedolion gwaharddedig o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006. Effaith y diwygiadau yw caniatáu i berson y mae'r rheoliadau perthnasol yn gymwys iddo gael ei gofrestru neu weithio at ddibenion asiantaeth neu sefydliad y mae'n ofynnol iddi gael ei chofrestru neu iddo gael ei gofrestru os gwnaed cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl ond nas dyroddwyd ar yr amod bod y cyfryw hysbysiad wedi dod i law.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2695). Gwneir y diwygiadau er mwyn diweddaru'r seiliau ar gyfer datgymhwyso o dan Reoliadau 2004 er mwyn cynnwys pan fydd person wedi'i gynnwys ar y rhestr waharddedig o ran plant a sefydlwyd gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiad i Reoliadau 2004 ynglŷn â seiliau'r datgymhwysiad pan fydd person wedi'i wahardd rhag addysgu. Disodlir cyfeiriad at restr Deddf Diwygio Addysg gan gyfeiriad at gyfarwyddyd a wneir o dan Ddeddf Addysg 2002. Dilewyd hefyd y cyfeiriad at restr Deddf Addysg 1996 am fod y darpariaethau hyn wedi cael eu diddymu.

Gwneir mân ddiwygiad hefyd i Reoliadau 2004 er mwyn cywiro gwall ynglŷn â thramgwyddau penodedig sy'n sail i ddatgymhwysiad.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau i ddarpariaethau penodol yn Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002. Diben y diwygiadau yw dileu anghysonder mewn perthynas â rheoliad 6 (Ffitrwydd y darparydd cofrestredig); mewn perthynas â rheoliad 8 (Ffitrwydd y rheolwr), dirymu ac ailddeddfu gofyniad mewn perthynas â chofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru ac, mewn perthynas â rheoliad 26 (Ffitrwydd gweithwyr), egluro y caniateir i berson gael ei gyflogi i weithio mewn cartref plant tra bydd yn aros i'w gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru, ar yr amod bod y gwaith o'i gofrestru'n cael ei gwblhau cyn pen y cyfnod o amser a bennir yn Rheoliadau 2002.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiad i reoliad 43 o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 er mwyn cywiro gwall.

(1)

1989 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 79C(2) a 104(4) i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

2000 p.14. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

2002 p.38. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(5)

Mewnosodwyd rheoliad 4B gan O.S. 2003/2708 (Cy.259).

(6)

O.S. 2002/233. Mewnosodwyd Rheoliad 5A gan O.S. 2006/748. Mae diwygiadau pellach yn cael eu drafftio i reoliad 5A a bydd y rhain mewn grym o 12 Hydref 2009 ymlaen.

(7)

1997 p.50. Mewnosodwyd adran 113B gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15). Diwygir is-adran (2) o adran 113B gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

(8)

Mewnosodwyd adran 113BA gan adran 63(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) a pharagraff 14 o Atodlen 9 iddi.

(9)

Mewnosodwyd adran 113A gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15).

(11)

2002 p.32.

(12)

2006 p.47.

(16)

Mewnosodwyd paragraff (2E) o reoliad 8 gan O.S. 2007/311 (Cy.28).

(21)

O.S. 2002/324 (Cy.37). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/2622 (Cy.254) ac O.S. 2004/2414 (Cy.222).

(22)

O.S. 2004/219 (Cy.23). Yr offeryn diwygio perthnasol yw 2004/2414 (Cy.222).

(23)

O.S. 2003/2527 (Cy.242). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2003/3054 (Cy.292) ac O.S. 2004/2414 (Cy.222).

(24)

O.S. 2002/325 (Cy.38). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw 2002/2622 (Cy.254) a 2004/2414 (Cy.222).

(26)

O.S. 2002/919 (Cy.107). Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2002/2622 (Cy.254).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources