- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(1) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) o reoliad 23 (gofyniad i wneud gwiriadau gyda'r heddlu) rhodder—
“(1) Mewn cysylltiad â'r darpar fabwysiadydd ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar fabwysiadydd sy'n 18 oed neu drosodd, rhaid i asiantaeth fabwysiadu gael tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno).”.
5.—(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005(2) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chael am yr unigolyn cyfrifol neu am bersonau sy'n ceisio rheoli neu weithio at ddibenion asiantaeth) rhodder—
“2. Naill ai—
(a)os yw'r dystysgrif yn ofynnol at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.”.
6.—(1) Mae Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a)Ym mharagraff (3)(c) rhodder—
“(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 5 a 6 o Atodlen 2.”;
(b)hepgorer paragraff (4).
(3) Yn rheoliad 8 (ffitrwydd y rheolwr)—
(a)yn lle paragraff (2)(c) rhodder—
“(c)oni bai bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.”
(b)yn lle paragraff (2E)(4) rhodder—
“(2E) Ni fydd person yn ffit i reoli cartref plant onid yw wedi ei gofrestru'n rheolwr gyda Chyngor Gofal Cymru.”;
(c)hepgorer paragraff (3).
(4) Yn rheoliad 26 (ffitrwydd gweithwyr)—
(a)yn lle paragraff (2)(ch) rhodder—
“(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (2G), bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2”
(b)ym mharagraff (4)(b), yn lle'r geiriau “oni bai bod paragraff (5) yn gymwys” rhodder “oni bai bod paragraff (5) neu (5A) yn gymwys.”;
(c)yn lle paragraff (5) (b) rhodder—
“(b)y cafwyd gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2.”.
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un) —
(a)yn lle paragraff 2 rhodder—
“2. Naill ai—
(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol safonol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.”;
(b)hepgorer paragraffau 7 ac 8.
7.—(1) Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(5) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 1 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli gwasanaeth maethu neu weithio at ddibenion y gwasanaeth hwnnw) rhodder—
“2. Naill ai—
(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.”.
(3) Yn lle paragraff 13 o Atodlen 3 ( gwybodaeth am ddarpar riant maeth ac aelodau eraill o aelwyd a theulu'r darpar riant maeth) rhodder—
“13. Mewn cysylltiad â'r darpar riant maeth ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar riant maeth sy'n 18 oed neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno).”.
8.—(1) Mae Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007(6) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 3 (gwybodaeth y mae ei hangen am bersonau sy'n gwneud cais am reoli neu weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu) rhodder—
“2. Naill ai—
(a)os oes angen y dystysgrif ar gyfer swydd sy'n dod o dan reoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.”.
9.—(1) Mae Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003(7) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a)yn lle paragraff (3)(c) rhodder—
“(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r unigolyn mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.”;
(b)hepgorer paragraff (4)
(3) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y rheolwr)—
(a)yn lle paragraff (2)(c) rhodder—
“(c)bod gwybodaeth a dogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.”
(b)hepgorer paragraff (3).
(4) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli canolfan breswyl i deuluoedd neu weithio mewn un) —
(a)yn lle paragraff 2 rhodder—
“2. Naill ai—
(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.”;
(b)hepgorer paragraff 7.
O.S. 2002/327 (Cy.40). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/2622 (Cy.254), O.S. 2004/2414 (Cy.222) ac O.S. 2007/311 (Cy.28).
Mewnosodwyd paragraff (2E) o reoliad 8 gan O.S. 2007/311 (Cy.28).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: