Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1682 (Cy.162)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

27 Mehefin 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Mehefin 2008

Yn dod i rym

at ddiben rheoliad 30(a)

30 Mehefin 2008

at bob diben arall

1 Gorffennaf 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) fel y'i darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr Atodiadau i'r offeryn Cymunedol a bennir yn rheoliad 2(5) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym—

(h)at ddiben rheoliad 30(a) ar 30 Mehefin 2008, a

(i)at bob diben arall ar 1 Gorffennaf 2008.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ansawdd technegol da” (“good technical quality”) yw ansawdd technegol da o ran y meini prawf purdeb;

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw awdurdod sydd â'r cyfrifoldeb o dan reoliad 15 dros weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;

ystyr “babanod” (“infants”) yw plant o dan ddeuddeng mis oed;

mae i “BADGE” (“BADGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(a) o Reoliad 1895/2005;

mae i “BFDGE” (“BFDGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(b) o Reoliad 1895/2005;

mae “busnes” (“business”) i'w ddehongli yn unol ag adran 1(3) o'r Ddeddf;

mae “bwyd” (“food”) i'w ddehongli yn unol ag adran 16(5) o'r Ddeddf;

ystyr “bwydydd brasterog” (“fatty foods”) yw bwydydd y pennir yng Nghyfarwyddeb 85/572/EEC efelychydd D ar ei gyfer mewn prawf ymfudo;

ystyr “Cyfarwyddeb 82/711” (“Directive 82/711”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 82/711/EEC sy'n gosod y rheolau sylfaenol sy'n angenrheidiol ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(5);

ystyr “Cyfarwyddeb 85/572” (“Directive 85/572”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/572/EEC sy'n gosod y rhestr o efelychwyr sydd i'w defnyddio ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(6);

ystyr “Cyfarwyddeb 88/388” (“Directive 88/388”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 88/388/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â chyflasynnau i'w defnyddio mewn bwydydd ac â deunyddiau crai ar gyfer eu cynhyrchu(7);

ystyr “Cyfarwyddeb 89/107” (“Directive 89/107”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(8);

ystyr “y Cyfarwyddebau Purdeb” (“the Purity Directives”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/31/EC sy'n gosod meini prawf penodol mewn purdeb ar gyfer melysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd(9), Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC sy'n gosod meini prawf penodol mewn purdeb ar gyfer lliwiau i'w defnyddio mewn bwydydd(10) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 96/77/EC sy'n gosod meini prawf penodol mewn purdeb ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau neu felysyddion(11);

ystyr “deunydd neu eitem” (“material or article” ) yw deunydd neu eitem sy'n dod o fewn y diffiniad o ddeunyddiau ac eitemau yn Erthygl 1(2) o Reoliad 1895/2005;

ystyr “deunydd neu eitem amlhaenog plastig” (“plastic multi-layer material or article”) yw deunydd neu eitem plastig wedi ei gyfansoddi o ddwy haen neu fwy o ddeunyddiau sydd bob un ohonynt yn blastigau'n unig, a'r rheini'n haenau sydd wedi eu rhwymo wrth ei gilydd gan adlynion neu drwy ryw ddull arall;

ystyr “deunydd neu eitem plastig” (“plastic material or article”) yw unrhyw beth a gynhwysir at ddibenion y Gyfarwyddeb ymhlith y deunyddiau a'r eitemau plastig hynny a rhannau ohonynt y mae'r Gyfarwyddeb yn gymwys iddynt;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “EFSA” (“EFSA”) yw Awdurdod Diogelu Bwyd Ewrop;

ystyr “gwahanfur swyddogaethol plastig” (“plastic functional barrier”) yw gwahanfur sy'n cynnwys un haen neu fwy o blastigau sy'n sicrhau bod y deunydd neu'r eitem gorffenedig yn cydymffurfio ag Erthygl 3 o Reoliad 1935/2004 a chyda'r Gyfarwyddeb;

ystyr “yn gallu” (“capable”) yw bod yn gallu yn ôl yr hyn a sefydlir o dan reoliad 13;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos rhywbeth i'w werthu neu fod yn meddiannu peth i'w werthu, a rhaid dehongli “gwerthiant” (“sale”) yn unol â hynny;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC” ynglŷn â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(12);

ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio wrth gynnal busnes;

ystyr “monomer” (“monomer”) yw unrhyw sylwedd a gynhwysir at ddibenion y Gyfarwyddeb ymhlith monomerau a sylweddau cychwynnol eraill;

mae i “NOGE” (“NOGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(c) o Reoliad 1895/2005;

ystyr “plant ifanc” (“young children”) yw plant rhwng blwydd a theirblwydd oed;

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd ac ar ddiddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC(13);

ystyr “Rheoliad 1895/2005” (“Regulation 1895/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar gyfyngu ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd(14);

ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998(15);

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007(16);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson, boed yn swyddog i'r awdurdod gorfodi neu beidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “trin bwyd” (“handling of food”) yw defnyddio mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn bernir bod cyflenwi unrhyw ddeunydd neu eitem ac eithrio drwy werthiant, wrth gynnal busnes, yn werthiant.

(3Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb, Cyfarwyddeb 82/711, Cyfarwyddeb 85/572 neu Reoliad 1895/2005 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddo yn y Gyfarwyddeb honno neu'r Rheoliad hwnnw.

(4Ac eithrio yn rheoliad 11(3) ac yn Rhan 5 o Atodlen 3, mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw yn y Gyfarwyddeb.

(5Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i'r Gyfarwyddeb yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

RHAN 2Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Cyfyngu ar ddefnyddio, gwerthu neu fewnforio deunyddiau ac eitemau plastig

3.—(1Ni chaiff neb —

(a)defnyddio ar gyfer trin bwyd wrth gynnal busnes;

(b)gwerthu at ddibenion trin bwyd; neu

(c)mewnforio o unrhyw fan ac eithrio Gwladwriaeth AEE at ddibenion trin bwyd,

ddeunydd neu eitem plastig sy'n methu â bodloni'r safon ofynnol.

(2At ddibenion y rheoliad hwn mae deunydd neu eitem plastig yn methu â bodloni'r safon ofynnol—

(a)os cafodd ei weithgynhyrchu gyda monomer gwaharddedig fel a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) neu ychwanegyn gwaharddedig fel a ddisgrifir yn rheoliad 5(2); neu

(b)os nad yw'n bodloni'r safonau gofynnol a osodir yn rheoliad 6, 7, 8, 9, 10 neu 11.

Cyfyngu ar ddefnyddio monomerau wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw fonomer gwaharddedig wrth weithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem plastig.

(2Monomer gwaharddedig yw unrhyw fonomer —

(a)nad yw o ansawdd technegol da;

(b)nad yw wedi ei ddynodi gan Rif PM/REF, Rhif CAS (os oes un) ac enw yng ngholofnau 1, 2 a 3 yn eu trefn yn Adrannau A neu B o Atodiad II; ac

(c)nas defnyddir yn unol ag unrhyw gyfyngiadau a manylebion ar gyfer y monomer hwnnw a osodir neu y cyfeirir ato yng ngholofn 4 yn yr Adrannau hynny.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i ddefnyddio monomer wrth weithgynhyrchu unrhyw —

(a)caenenni arwyneb a geir o gynhyrchion resinaidd neu o gynhyrchion a bolymereiddwyd mewn ffurf hylifol, bowdrog neu wasgaredig, gan gynnwys farneisiau, lacrau a phaentiau, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;

(b)resinau epocsi;

(c)adlynion a hyrwyddwyr adlyniad; neu

(ch)inciau argraffu.

(4Rhaid peidio â chymryd bod paragraff (1) yn gwahardd gweithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem plastig gydag unrhyw sylwedd, os yw'r sylwedd dan sylw yn gymysgedd sy'n dod o fewn paragraff 3(c) (sy'n ymwneud â chymysgeddau o sylweddau a awdurdodir) o Atodiad II a'i fod o ansawdd technegol da.

(5Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio â pharagraff (1) oherwydd iddo gael ei weithgynhyrchu gydag unrhyw fonomer (p'un ai o ansawdd technegol da ai peidio) ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) y mae'n amddiffyniad i'r cyhuddedig brofi bod pob monomer o'r fath—

(a)yn bresennol yn y deunydd plastig gorffenedig fel amhuredd, fel adwaith rhyngol neu fel cynnyrch dadelfeniad sy'n dod o fewn paragraff 3(a) o Atodiad II, neu

(b)yn oligomer neu'n sylwedd macrofoleciwlar naturiol neu synthetig neu'n gymysgedd ohonynt sy'n dod o fewn paragraff 3(b) o'r Atodiad hwnnw,

a'i fod o ansawdd technegol da.

(6Mae Atodlen 1 yn cael ei heffaith i ychwanegu at y rheoliad hwn.

Cyfyngu ar ddefnyddio ychwanegion wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3) ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn gwaharddedig wrth weithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem plastig.

(2Ychwanegyn gwaharddedig yw —

(a)unrhyw ychwanegyn a ddynodir gan Rif PM/REF, Rhif CAS (os oes un) ac enw yng ngholofnau 1, 2 a 3 yn eu trefn o Adran A neu B o Atodiad III—

(i)nad yw o ansawdd technegol da, neu

(ii)nas defnyddir yn unol ag unrhyw gyfyngiadau a manylebion ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw a osodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 4 yn Adran A neu B o'r Atodiad hwnnw; neu

(b)unrhyw ychwanegyn bwyd a awdurdodir gan Gyfarwyddeb 89/107 neu unrhyw gyflasyn a awdurdodir gan Gyfarwyddeb 88/388 sy'n ymfudo i fwyd —

(i)mewn swmp y mae iddo swyddogaeth dechnolegol yn y cynnyrch bwyd terfynol, neu

(ii)pan fo'r bwyd o fath ag y mae defnyddio ychwanegyn neu gyflasyn bwyd o'r fath ynddo wedi ei awdurdodi yn y modd hwnnw, mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfynau a osodir yng Nghyfarwyddeb 89/107 neu yng Nghyfarwyddeb 88/388 yn ôl y priodoldeb, neu yn Atodiad III, pa un bynnag sydd isaf.

(3Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir bod y tramgwydd wedi ei gyflawni oherwydd gweithgynhyrchu deunydd neu eitem plastig gydag unrhyw ychwanegyn a ddynodir yn Adran A neu B o Atodiad III nad yw o ansawdd technegol da, mae'n amddiffyniad i'r cyhuddedig brofi bod pob ychwanegyn o'r fath yn bresennol yn y deunydd plastig gorffenedig fel amhuredd, fel adwaith rhyngol neu fel cynnyrch dadelfeniad.

(4Mae Atodlen 1 yn cael ei heffaith i ychwanegu at y rheoliad hwn.

Y safon ofynnol i sicrhau nad oes ymfudiad cyfansoddion monomerau

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo terfyn ymfudiad a fynegir mewn mg/kg wedi ei ddangos yng ngholofn 4 yn yr adran berthnasol o Adran neu B o Atodiad II o ran unrhyw fonomer, mae unrhyw ddeunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd o'r monomer hwnnw yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo cyfansoddion y monomer hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol, ac at ddibenion y paragraff hwn y terfyn priodol yw —

(a)nifer y miligramau a fynegir yng ngholofn 4 a ryddheir ymhob cilogram o fwyd yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig ac eithrio un a bennir yn is-baragraff (b); a

(b)y chweched ran o nifer y miligramau a fynegir yng ngholofn 4 ym mhob decimetr sgwâr o arwynebedd y deunydd neu'r eitem plastig os yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn—

(i)eitem sy'n gynhwysydd neu sy'n gyffelybadwy â chynhwysydd neu y gellir ei lenwi, ac iddo gynhwysedd o lai na 500 o fililitrau neu fwy na 10 o litrau, neu

(ii)dalen, ffilm neu ddeunydd neu eitem plastig arall na ellir ei llenwi neu ei lenwi neu nad yw'n ymarferol amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd y deunydd neu'r eitem dan sylw a swmp y bwyd sydd mewn cyffyrddiad â'r arwynebedd hwnnw.

(2Ni fernir bod deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchir o unrhyw fonomer y mynegir ar ei gyfer derfyn ymfudiad mewn mg/kg yng ngholofn 4 o Adran A neu B o Atodiad II yn gallu trosglwyddo cyfansoddion y monomer hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol ym mharagraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw ddod i gyffyrddiad ag ef yw bwyd y mae rheoliad 9(5) yn gymwys iddo.

(3O ran deunyddiau neu eitemau plastig sy'n cael eu dwyn neu y bwriedir iddynt gael eu dwyn i gyffyrddiad â bwyd i fabanod a phlant bach rhaid cymhwyso, bob amser mewn mg/kg, y terfynau ymfudiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

Y safon ofynnol i sicrhau nad oes ymfudiad cyfansoddion ychwanegion

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo terfyn ymfudiad a fynegir mewn mg/kg wedi ei ddangos yng ngholofn 4 o Adran A neu B o Atodiad III o ran unrhyw ychwanegyn, mae deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd gan gynnwys yr ychwanegyn hwnnw yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo cyfansoddion yr ychwanegyn hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol, ac at ddibenion y paragraff hwn y terfyn priodol yw —

(a)nifer y miligramau a ddangosir yng ngholofn 4 a ryddheir ymhob cilogram o fwyd yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig ac eithrio un a bennir yn is-baragraff (b); a

(b)y chweched ran o nifer y miligramau a fynegir yng ngholofn 4 ym mhob decimetr sgwâr o arwynebedd y deunydd neu'r eitem plastig os yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cynnwys—

(i)eitem sy'n gynhwysydd neu sy'n gyffelybadwy â chynhwysydd neu y gellir ei lenwi, ac iddo gynhwysedd o lai na 500 o fililitrau neu fwy na 10 o litrau, neu

(ii)dalen, ffilm neu ddeunydd neu eitem plastig arall na ellir ei llenwi neu ei lenwi neu nad yw'n ymarferol amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd y deunydd neu'r eitem dan sylw a swmp y bwyd sydd mewn cyffyrddiad â'r arwynebedd hwnnw.

(2Ni fernir bod deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchir gan gynnwys ychwanegyn y mynegir ar ei gyfer derfyn ymfudiad mewn mg/kg yng ngholofn 4 yn Adran A neu B o Atodiad III yn gallu trosglwyddo cyfansoddion yr ychwanegyn hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol ym mharagraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw ddod i gyffyrddiad ag ef yw bwyd y mae rheoliad 9(5) yn gymwys iddo.

(3O ran deunyddiau neu eitemau plastig sy'n cael eu dwyn neu y bwriedir iddynt gael eu dwyn i gyffyrddiad â bwyd i fabanod a phlant bach rhaid cymhwyso bob amser mewn mg/kg y terfynau ymfudiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

Y safon ofynnol ar gyfer cynhyrchion a geir drwy eplesu bacteriol

8.  Mae cynnyrch a geir drwy eplesu bacteriol yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os yw —

(a)o ansawdd technegol da;

(b)wedi ei ddynodi gan Rif PM/REF, Rhif CAS ac enw yng ngholofnau 1, 2 a 3 yn eu trefn yn Atodiad IV; ac

(c)yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebion a osodir yng ngholofn 4 o'r Atodiad hwnnw.

Y safonau gofynnol ar gyfer terfynau ymfudiad cyflawn

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae deunydd neu eitem plastig yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd y gall ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol a bennir ym mharagraff (2) i (4).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig sy'n —

(a)eitem sy'n gynhwysydd neu'n gyffelybadwy â chynhwysydd neu y gellir ei lenwi, ac iddo gynhwysedd o lai na 500 mililitr neu fwy na 10 o litrau, neu

(b)dalen, ffilm neu unrhyw ddeunydd neu eitem arall na ellir ei llenwi neu ei lenwi neu y mae'n anymarferol amcangyfrif ar ei chyfer neu ei gyfer y berthynas rhwng arwynebedd y deunydd neu'r eitem dan sylw a swmp y bwyd sydd mewn cyffyrddiad â'r arwynebedd hwnnw,

y terfyn priodol yw terfyn ymfudiad cyflawn o 10 o filigramau y decimetr sgwâr o arwynebedd y deunydd neu'r eitem plastig.

(3Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig arall, y terfyn priodol yw terfyn ymfudiad cyflawn o 60 o filigramau o'r cyfansoddion yn cael eu rhyddhau fesul cilogram o fwyd neu o efelychyn bwyd.

(4O ran deunyddiau neu eitemau plastig y bwriedir eu dwyn i gyffyrddiad neu sydd eisoes mewn cyffyrddiad â bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant bach, y terfyn priodol bob amser yw'r terfyn a bennir ym mharagraff (3).

(5At ddibenion y rheoliad hwn ni fernir bod deunydd neu eitem plastig yn methu â bodloni'r safon ofynnol o dan baragraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem ddod i gyffyrddiad ag ef yw bwyd—

(a)sydd wedi ei bennu yn y tabl yn Rhan 4 o Atodlen 3; a

(b)pan na fo “X” wedi ei gosod yn unman yn y grŵp o golofnau dan y pennawd “Efelychwyr i'w defnyddio” gyferbyn â'r bwyd hwnnw.

(6Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio â'r rheoliad hwn, mae'r amddiffyniadau sydd ar gael ym mharagraff 10(2) o Atodlen 2 ar gael fel a bennir yn y paragraff hwnnw.

Y safon ofynnol i sicrhau nad oes ymfudiad aminau aromatig cynradd

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae deunydd neu eitem a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio aminau aromatig sylfaenol yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo'r cyfryw aminau (a fynegir fel anilin), mewn swmp canfyddadwy, i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw ddod i gyffyrddiad ag ef.

(2Mae Rhan B o Atodlen V yn cael ei heffaith at ddibenion rhagnodi'r manylebion, ar gyfer eitemau penodol a restrir yn Adran A neu B o Atodiad II, Adran A neu B o Atodiad III, neu Atodiad IV, ar gyfer yr eitemau hynny y cyfeirir atynt yng ngholofn 4 o'r Atodiad neu'r Adran o'r Atodiad o dan sylw.

(3At ddibenion paragraff (1) ystyr swmp canfyddadwy yw o leiaf 0.01 miligram y cilogram o fwyd neu efelychyn bwyd.

(4Nid yw'r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys i aminau aromatig cynradd a restrir yn y Gyfarwyddeb.

Y safon ofynnol mewn perthynas â deunyddiau ac eitemau amlhaenog plastig

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae deunydd neu eitem amlhaenog plastig yn bodloni'r safon ofynnol os yw pob haen y mae wedi ei gyfansoddi ohoni'n cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(2Nid oes rhaid i haen nad yw mewn cyffyrddiad uniongyrchol â bwyd ac sydd wedi ei gwahanu oddi wrth gyffyrddiad o'r fath gan wahanfur swyddogaethol plastig gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn ar yr amod —

(a)bod y deunydd neu'r eitem gorffenedig yn cydymffurfio â'r terfynau ymfudiad perthnasol yn benodol ac yn gyflawn; a

(b)os nad yw unrhyw sylwedd a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu'r haen yn cael ei gynnwys yn y Gyfarwyddeb neu mewn rhestrau cenedlaethol y cyfeirir atynt yn y Gyfarwyddeb honno, bod y sylwedd hwnnw'n bodloni gofynion paragraffau (3) a (4).

(3Rhaid i sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) beidio â bod yn perthyn i gategori'r rhai a ddosberthir—

(a)yn sylweddau y profwyd neu yr amheuir eu bod yn sylweddau carsinogenaidd, mwtagenaidd neu wenwynig i atgenhedlu yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 67/548/EEC(17), neu

(b)o dan y meini prawf hunangyfrifoldeb yn sylweddau carsinogenaidd, mwtagenaidd neu wenwynig i atgenhedlu yn unol â rheolau Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb honno.

(4Rhaid i ymfudiad sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) i fwyd neu efelychyn bwyd beidio â bod yn fwy na 0.01 mg/kg, wedi ei fesur a'i fynegi yn unol â'r gofynion a'r manylebau a geir yn Erthygl 7a(3) o'r Gyfarwyddeb.

Darpariaethau yn ymwneud â defnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE)

12.—(1Yn y rheoliad hwn —

(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 1895/2005;

(b)mae paragraffau (2) i (5) yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (eithriad yn ymwneud â chynwysyddion storio a phiblinellau penodol);

(c)at ddibenion Erthygl 6(4) (gofyniad i ddatgelu dyddiad llenwi) yr awdurdod cymwys yw'r awdurdod a ddynodir yn rheoliad 15.

(2Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) (darpariaethau trosiannol) a (4) ( gofynion labelu), ni chaiff neb —

(a)gweithgynhyrchu,

(b)defnyddio ar gyfer trin bwyd wrth gynnal busnes,

(c)gwerthu at ddibenion trin bwyd, neu

(ch)mewnforio at ddibenion trin bwyd

unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 neu Erthygl 4 (gwaharddiadau yn ymwneud â BFDGE a NOGE yn eu trefn).

(3Ni chaiff neb weithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem mewn modd sy'n groes i ofynion Erthygl 2 (rheolaethau ar ymfudiad BADGE o ddeunyddiau ac eitemau).

(4Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), ni chaiff neb—

(a)defnyddio ar gyfer trin bwyd wrth gynnal busnes,

(b)gwerthu at ddibenion trin bwyd, neu

(c)mewnforio at ddibenion trin bwyd

unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi cael ei weithgynhyrchu mewn modd sy'n groes i ofynion Erthygl 2.

(5Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(3) (darpariaethau trosiannol yn ymwneud â deunyddiau ac eitemau y daethpwyd â hwy i gyffyrddiad â bwyd cyn 1 Ionawr 2007), nid oes neb i fynd yn groes i na methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 5 (rhwymedigaethau ynghylch darparu datganiad ysgrifenedig wrth farchnata deunyddiau neu eitemau sy'n cynnwys BADGE neu ddeilliadau ohono).

(6Ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, fethu â chydymffurfio â chais a wneir o dan Erthygl 6(4).

Dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion, a dulliau dadansoddi

13.—(1Rhaid i ddeunydd neu eitem plastig gael ei drin fel pe bai'n gallu trosglwyddo i fwyd y gall ddod i gyffyrddiad ag ef i'r graddau bod gallu o'r fath yn cael ei sefydlu —

(a)mewn unrhyw achos ac eithrio un y mae is-baragraff (b) neu (c) yn gymwys iddo, ac yn ddarostyngedig i Erthygl 8(4) o'r Gyfarwyddeb (y gellir ei chymhwyso pan gydymffurfir â'r amodau a ddatgenir o'i mewn), gan y dulliau gwirio a bennir yn Atodlen 2 (gan gynnwys y goddefiannau dadansoddol y cyfeirir atynt ym mharagraff 12 o'r Atodlen honno) ac yn Atodlen 3;

(b)mewn unrhyw achos pan fo gofyn sefydlu i ba raddau y mae finyl clorid, fel y'i dynodir yn Adran A o Atodiad II, yn gallu gwneud y fath drosglwyddiad, drwy'r dull y cyfeirir ato yn rheoliad 9(2) o Reoliadau 2007; neu

(c)mewn unrhyw achos pan fo gofyn sefydlu i ba raddau y mae ffthalad a restrir yn Adran B o Atodiad III â rhif cyfeirnod PM o 74640, 74880, 74560, 75100 neu 75105 yn gallu gwneud y fath drosglwyddiad, drwy'r dull y cyfeirir ato yn Erthygl 8(5) o'r Gyfarwyddeb.

(2Yn Atodlenni 2 a 3, mae cyfeiriadau at ymfudiad neu ryddhad sylweddau i'w dehongli fel cyfeiriadau at drosglwyddo cyfansoddion i'r bwyd neu i'r efelychwr sy'n cynrychioli'r bwyd y gall y sylwedd ddod i gyffyrddiad ag ef.

(3Rhaid i ymfudiad penodol cyfansoddyn o ddeunydd neu eitem plastig gael ei benderfynu pan fo hynny'n gymwys yn y dull a bennir yn yr is-baragraff perthnasol o baragraff 8 o Atodiad II.

(4Rhaid i swmp cyfansoddyn mewn deunydd neu eitem plastig gael ei benderfynu pan fo hynny'n gymwys yn y dull a bennir yn yr is-baragraff o baragraff 8 o Atodiad II sy'n ymwneud â'r term “QM(T)”, “QMA(T)” neu “QMA” yn ôl y digwydd.

Labelu a dogfennaeth

14.—(1Ar gamau marchnata ac eithrio'r cam manwerthu rhaid i berson sy'n rhoi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem plastig neu unrhyw sylwedd a fwriedir ar gyfer gweithgynhyrchu deunydd neu eitem plastig sicrhau bod datganiad ysgrifenedig yn mynd gyda'r deunydd neu'r eitem plastig neu'r sylwedd a bod y datganiad —

(a)yn cwrdd â gofynion Erthygl 16(1) o Reoliad (EC) Rhif 1935/2004;

(b)yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 4; ac

(c)yn cydymffurfio â pharagraff (2).

(2Rhaid adolygu datganiad ysgrifenedig a wneir o dan baragraff (1) pan fydd newidiadau sylweddol yn y gwaith o gynhyrchu deunydd neu eitem plastig y dyroddir y datganiad ar ei gyfer yn peri newidiadau yn yr ymfudiad neu pan fydd gwybodaeth wyddonol newydd ar gael.

(3Rhaid i berson a grybwyllir ym mharagraff (1) beri bod y ddogfennaeth briodol ar gael i'r awdurdod gorfodi pan ofynnir amdani i ddangos bod y deunydd neu'r eitem plastig neu'r sylwedd a fwriedir ar gyfer ei weithgynhyrchu yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn.

(4Rhaid i'r ddogfennaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) gynnwys amodau a chanlyniadau'r profi, y cyfrifo, dadansoddi arall, a thystiolaeth am ddiogelwch neu resymu sy'n dangos cydymffurfedd.

RHAN 3Gweithredu a Gorfodi

Gorfodi

15.  Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi —

(a)darpariaethau Rheoliad 1895/2005 a grybwyllir yn rheoliad 12, a

(b)y Rheoliadau hyn.

Tramgwyddau a Chosbau

16.—(1Bydd unrhyw berson —

(a)sy'n mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad 3(1), 4(1), 5(1), 12(2) i (5) neu 14(1);

(b)sy'n fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi Rheoliad 1895/2005 neu'r Rheoliadau hyn ar waith;

(c)sy'n mynd yn groes i reoliad 12(6), 14(3) neu 21(3) neu, heb esgus rhesymol, yn methu mewn modd arall â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi Rheoliad 1895/2005 neu'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol i'r person hwnnw ofyn amdano; neu

(ch)sydd wrth honni cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllir yn is-baragraff (c), yn fwriadol neu'n ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol,

yn euog o dramgwydd.

(2Mae person a gollfernir am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)yn achos tramgwydd o dan baragraff (1)(a) neu (ch)—

(i)o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau;

(ii)o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na chwe mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau;

(b)yn achos unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn i gyfnod o garchar nad yw'n hwy na thri mis neu i ddirwy nad yw'n fwy na lefel pump ar y raddfa safonol neu'r ddau.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1)(c) i'w ddehongli fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a allai daflu bai arno petai'n gwneud hynny.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd

17.—(1Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol —

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o'r fath,

bernir bod yr unigolyn hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i gael achos wedi ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi'n unol â hynny.

(2Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i gael achos wedi ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi'n unol â hynny.

Terfyn amser ar gyfer erlyniadau

18.  Nid oes erlyniad am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i gael ei gychwyn wedi i dair blynedd ddod i ben er pan gyflawnwyd y tramgwydd neu wedi i flwyddyn fynd heibio ers i'r erlynydd ei ddarganfod, p'un bynnag yw'r cynharaf.

Tramgwyddau a briodolir i weithredu neu ddiffyg gweithredu gan drydydd parti

19.  Pan fo tramgwyddo gan berson (A) o dan y Rheoliadau hyn i'w briodoli i weithredu neu ddiffyg gweithredu gan ryw berson arall (B), mae person B yn euog o'r tramgwydd a gellir ei gyhuddo a'i gael yn euog o'r tramgwydd p'un a gaiff achos ei ddwyn yn erbyn person A ai peidio.

Amddiffyniad o arfer diwydrwydd dyladwy etc.

20.—(1Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r sawl a gyhuddir (“y sawl a gyhuddir”) brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi bod y tramgwydd yn cael ei gyflawni boed gan y sawl a gyhuddir neu gan berson sydd o dan reolaeth y sawl a gyhuddir.

(2Heb ragfarnu cyffredinedd paragraff (1), cymerir bod person a gyhuddir o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn—

(a)na pharatôdd y deunydd neu'r eitem plastig neu, yn ôl y digwydd, y deunydd neu'r eitem yr honnir bod y tramgwydd wedi cael ei gyflawni ynglŷn ag ef; ac

(b)nas mewnforiodd i'r Deyrnas Unedig,

wedi sefydlu'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (1) os yw yn bodloni gofynion paragraff (3) a (4).

(3Mae gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os profir —

(a)i'r tramgwydd gael ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y sawl a gyhuddir, neu oherwydd iddo ddibynnu ar wybodaeth a roddwyd gan berson o'r fath;

(b)naill ai —

(i)i'r sawl a gyhuddir wneud yr holl wiriadau ar y deunydd neu'r eitem plastig neu ar y deunydd neu'r eitem dan sylw ag a oedd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu

(ii)ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r sawl a gyhuddir ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a gyflenwodd iddo'r deunydd neu'r eitem plastig neu'r deunydd neu'r eitem dan sylw; ac

(c)nad oedd y sawl a gyhuddir yn gwybod ac nad oedd ganddo reswm i amau ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd y byddai ei weithred neu ei ddiffyg gweithred yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(4Mae gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os mai gwerthiant yw'r tramgwydd ac os profir —

(a)i'r tramgwydd gael ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y sawl a gyhuddir, neu oherwydd ei bod yn rhesymol i'r sawl a gyhuddir ddibynnu ar wybodaeth a roddwyd gan berson o'r fath;

(b)nad oedd y gwerthiant yr honnir ei fod yn dramgwydd yn werthiant o dan enw neu farc y sawl a gyhuddir; ac

(c)nad oedd y sawl a gyhuddir yn gwybod ac na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl iddo wybod ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd y byddai ei weithred neu ei ddiffyg gweithred yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(5Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan y rheoliad hwn mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithredu person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir —

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos gerbron y llys eisoes mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn mis i'w ymddangosiad cyntaf,

wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd sy'n rhoi iddo'r fath wybodaeth ag a oedd yr adeg honno ym meddiant y sawl a gyhuddir yn dynodi neu'n cynorthwyo i ddynodi'r person arall hwnnw.

(6At ddibenion paragraff (2), mae “paratoi” yn cynnwys gweithgynhyrchu neu fod yn ddarostyngedig i unrhyw fath ar drin neu brosesu.

Amddiffyniad trosiannol o ran gasgedi PVC sy'n cynnwys olew ffa soia wedi'i epocsideiddio

21.—(1Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan reoliad 3 ynghylch gwerthu jar wydr—

(a)sy'n cynnwys

(i)fformiwla babanod neu fformiwla ddilynol fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC(18), neu

(ii)bwydydd neu fwydydd babanod wedi'u seilio ar rawn ac wedi'u prosesu ar gyfer babanod a phlant bach fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/125/EC(19), a

(b)y selir ei chaead drwy gyfrwng gasged PVC sy'n cynnwys olew ffa soia wedi'i epocsideiddio ac iddo'r Rhif PM/Ref 88640 yn Adran A o Atodiad III,

mae'n amddiffyniad i brofi'r materion a nodir ym mharagraff (2).

(2Y materion i'w profi yw'r canlynol —

(a)yr oedd y gasged PVC a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau perthnasol yng ngholofn 4 yn Eitem 259A yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006(20);

(b)llanwyd a seliwyd y jar wydr cyn 19 Tachwedd 2006;

(c)yr oedd dyddiad llenwi neu ddangosiad mewn cod o'r dyddiad hwnnw yn bresennol ar y jar neu ar ei chaead adeg y gwerthiant; ac

(ch)yr oedd y labelu neu'r marcio â'r manylion a grybwyllir yn is-baragraff (c) adeg y gwerthiant yn cydymffurfio â'r gofynion sy'n ymwneud â hirbarhad yn Erthygl 2(1)(a) o Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(21).

(3Ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, fethu â chydymffurfio â gofyniad a wnaed gan yr awdurdod gorfodi i ddatgelu'r dyddiad a arwyddoceir gan y dangosiad mewn cod a grybwyllir ym mharagraff (2)(c).

Darpariaethau trosiannol ac arbedion eraill

22.—(1Er gwaethaf dirymu Rheoliadau 1998 a wneir gan reoliad 25 o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006 o ran unrhyw ddeunydd neu eitem plastig—

(a)a weithgynhyrchwyd cyn 1 Gorffennaf 1998, yr amddiffyniad yn rheoliad 3(3) o Reoliadau 1998;

(b)a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Ionawr 2003, yr amddiffyniad yn rheol 10(15) o Reoliadau 1998;

(c)a roddwyd i gylchredeg yn rhydd yn y Gymuned Ewropeaidd cyn 30 Tachwedd 2002, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(16) o Reoliadau 1998;

(ch)a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2004, yr amddiffyniad yn rheol 10(21)(a) o Reoliadau 1998;

(d)a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2003, yr amddiffyniad yn rheol 10(21)(b) o Reoliadau 1998;

(dd)sy'n cynnwys azodicarbonamid ac a gafodd ei ddwyn i gyffyrddiad â bwyd cyn 2 Awst 2005, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(23) o Reoliadau 1998; neu

(e)a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2006, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(25) o Reoliadau 1998;

rhaid i'r amddiffyniad fod yn gymwys mewn perthynas â thramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag yr oedd yn gymwys i dramgwyddau o dan y darpariaethau cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.

(2Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio tramgwydd a grybwyllir yn rheoliad 21(1), mae'n amddiffyniad i brofi—

(a)bod y weithred sy'n destun y tramgwydd honedig wedi'i chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 19 Tachwedd 2007; a

(b)na fyddai'r mater sy'n destun y tramgwydd honedig yn dramgwydd fel arall o dan y Rheoliadau hyn pe na byddai'r diwygiadau i'r Gyfarwyddeb a wnaed gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/79/EC wedi eu gweithredu yng Nghymru pan ddigwyddodd y mater.

(3Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio tramgwydd y cyfeirir ato yn rheoliad 21(1), mae profi'r canlynol yn amddiffyniad—

(a)yn achos caeadau y mae ynddynt gasged ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau ar gyfer Rhifau Cyfeirnod 30340, 30401, 56800, 76815, 76866, 88640 neu 93760 a geir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007 sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(22), bod y rhanddirymiad a geir yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008 sy'n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007(23) yn gymwys; neu

(b)yn achos caeadau y mae ynddynt gasged ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau ar gyfer Rhif Cyfeirnod 36640 (azodicarbonamid) a geir yn Atodiad III neu yn achos deunyddiau neu eitemau plastig nad ydynt yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau ar gyfer ffthaladau o dan Rifau Cyfeirnod 74560, 74640, 74880, 75100 neu 75105 a geir yn yr Atodiad hwnnw, bod y weithred yr honnir ei bod yn dramgwydd wedi ei chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Gorffennaf 2008; neu

(c)mewn unrhyw achos ac eithrio'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b), bod y weithred yr honnir ei bod yn dramgwydd honedig wedi ei chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mai 2009; ac

(ch)na fyddai'r weithred yr honnir ei bod yn dramgwydd wedi bod yn dramgwydd fel arall o dan y Rheoliadau hyn pe na byddai'r diwygiadau i'r Gyfarwyddeb a wnaed gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2007/19/EC wedi eu gweithredu yng Nghymru pan ddigwyddodd y mater.

Gweithdrefnau pan fo sampl i gael ei dadansoddi

23.—(1Pan fo swyddog awdurdodedig wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf a phan yw o'r farn y dylid ei dadansoddi rhaid iddo rannu'r sampl yn dair rhan.

(2Os yw'r sampl yn cynnwys cynhwysyddion wedi eu selio ac y byddai eu hagor, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn llesteirio dadansoddiad priodol, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynhwysyddion mewn tair lot, a chaiff pob lot ei drin fel rhan.

(3Rhaid i'r swyddog awdurdodedig—

(a)os oes angen, rhoi pob rhan mewn cynhwysydd addas a'i selio;

(b)marcio pob rhan neu bob cynhwysydd;

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhoi un rhan i'r perchennog a'i hysbysu yn ysgrifenedig y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

(ch)cyflwyno un rhan i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; a

(d)cadw un rhan i'w gyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 24.

Ail ddadansoddiad gan Gemegydd y Llywodraeth

24.—(1Pan fo sampl wedi cael ei chadw o dan reoliad 23—

(a)a bod bwriad i gychwyn achos neu fod achos wedi ei gychwyn yn erbyn person am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)bod yr erlyniad yn bwriadu rhoi canlyniad y dadansoddiad a grybwyllir uchod fel tystiolaeth,

mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

(2O ran y swyddog awdurdodedig—

(a)caiff o'i wirfodd ei hun; neu

(b)rhaid iddo—

(i)os bydd yr erlynydd (a bod hwnnw'n berson heblaw'r swyddog awdurdodedig) yn gofyn iddo;

(ii)os bydd y llys yn gorchymyn hynny; neu

(iii)(yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y diffynnydd yn gofyn iddo,

anfon y rhan sydd wedi ei gadw o'r sampl i Gemegydd y Llywodraeth i gael ei ddadansoddi.

(3Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonir iddo o dan baragraff (2) ac anfon tystysgrif at y swyddog awdurdodedig yn nodi'n benodol ganlyniadau'r dadansoddiad.

(4Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniad y dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth fod wedi ei llofnodi gan neu ar ran Cemegydd y Llywodraeth, ond caiff unrhyw berson wneud y dadansoddiad o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.

(5Rhaid i'r swyddog awdurdodedig roi copi o dystysgrif dadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth i'r erlynydd (os yw hwnnw'n berson heblaw'r swyddog awdurdodedig) ac i'r diffynnydd cyn gynted ag y daw i law.

(6Pan wneir cais o dan baragraff (2)(b)(iii) caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i adennill rhai o ffioedd Cemegydd y Llywodraeth, neu'r cyfan ohonynt, am wneud y swyddogaethau o dan baragraff (3), ac yn niffyg cytundeb gan y diffynnydd i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r gofyniad.

(7Yn y rheoliad hwn mae “diffynnydd” yn cynnwys darpar ddiffynnydd.

RHAN 4Cais am Awdurdodiad

Cais i gynnwys ychwanegyn yn rhestr y Gymuned o ychwanegion awdurdodedig

25.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person wedi gwneud cais i gael cynnwys ychwanegyn cymwys yn rhestr y Gymuned y cyfeirir ati yn Erthygl 4 o'r Gyfarwyddeb.

(2Rhaid i'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1), gyda data sy'n ei gefnogi, fod wedi ei wneud i EFSA cyn 1 Ionawr 2007.

(3Os bydd EFSA, yn ystod archwiliad o'r data y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), yn galw am wybodaeth atodol, gellir parhau i ddefnyddio'r ychwanegyn cymwys, os caniateir ei ddefnyddio fel arall dan gyfraith Cymru a Lloegr, hyd nes bydd EFSA wedi dyroddi barn, cyhyd â bod yr wybodaeth atodol wedi cael ei chyflwyno o fewn y terfynau amser a bennir gan EFSA.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, ychwanegyn cymwys yw un y caniateir ei ddefnyddio mewn un neu fwy o Aelod-wladwriaethau cyn 1 Ionawr 2007.

RHAN 5Cyffredinol ac Atodol

Cymhwyso darpariaethau'r Ddeddf

26.  Rhaid i'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf fod yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf —

(a)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(b)adran 30(8) (ynghylch tystiolaeth ddogfennol);

(c)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).

Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990

27.  Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(24), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt) yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2008, rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.

Diwygiadau i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007

28.—(1Diwygir Rheoliadau 2007 yn unol â pharagraffau (2) i (3).

(2Yn rheoliad 2(1) —

(a)hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 2008”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2008(25);.

(3Ym mharagraff (5) o reoliad 11 (terfynau ymfudo ar gyfer caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion), yn lle'r ymadrodd “fel y'i darllenir gyda rheoliad 11” rhodder “fel y'i darllenir gyda rheoliad 13”.

Diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Gasgedi mewn Caeadau) (Cymru) 2008

29.  Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Gasgedi mewn Caeadau) (Cymru) 2008(26), yn lle'r diffiniad “Rheoliad y Comisiwn” rhodder y diffiniad canlynol—

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007, sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd, fel y mae wedi ei ddiwygio gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008(27);.

Dirymiadau

30.  Dirymir y Rheoliadau a ganlyn neu rannau ohonynt —

(a)Rheoliad 29(c) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2008(28);

(b)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2008; ac

(c)Rheoliad 24 o Reoliadau 2007.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Mehefin 2008

Rheoliadau 4 a 5

ATODLEN 1Darpariaethau atodol sy'n berthnasol i Atodiadau II a III

1.  Yn Adrannau A a B o Atodiadau II a III (y cyfeirir atynt gyda'i gilydd at ddibenion yr Atodlen hon fel “yr Atodiadau”)—

(a)rhif PM/REF unrhyw sylwedd yw ei rif cyfeirnod deunydd pacio CEE;

(b)rhif CAS unrhyw sylwedd yw ei Rif Cofrestrfa CAS (Gwasanaeth Crynoadau Cemegion);

(c)enw unrhyw sylwedd yw ei enw cemegol, ac i'r graddau y bydd unrhyw anghysondeb rhwng y rhif CAS a'r enw, rhaid i'r enw gael blaenoriaeth dros y rhif CAS; ac

(ch)cymerir mai ystyr cyfeiriadau at ymfudiad penodol yw ymfudiad penodol fel y'i mesurir yn unol ag Atodlenni 2 a 3.

2.  Os bydd sylwedd sy'n ymddangos yn yr Atodiadau fel cyfansoddyn unigol hefyd yn dod o fewn term generig a geir ynddynt, mae'n orfodol mai'r cyfyngiad a ddynodir ar gyfer y cyfansoddyn unigol fydd y cyfyngiad sy'n gymwys i'r sylwedd hwnnw a rhaid trin y cofnod sy'n gymwys i'r term generig fel amrywiad i'r cyfryw raddau ag sy'n angenrheidiol.

3.—(1Rhaid barnu bod yr eitemau a nodir yn Adran A neu B o Atodiad II yn cynnwys—

(a)sylweddau sy'n polymeru (gan gynnwys polygyddwyso, poly-ychwanegu neu unrhyw broses debyg arall) i weithgynhyrchu macromoleciwlau;

(b)sylweddau macromoleciwlaidd naturiol neu synthetig a ddefnyddir i weithgynhyrchu macromoleciwlau wedi eu haddasu, os nad yw'r monomerau sy'n ofynnol ar gyfer eu syntheseiddio wedi eu nodi felly; ac

(c)sylweddau a ddefnyddir i addasu sylweddau macromoleciwlaidd naturiol neu synthetig sy'n bodoli eisoes.

(2Nid yw halwynau'r canlynol (gan gynnwys halwynau dwbl a halwynau asidau) yn cael eu cynnwys yn y rhestrau yn yr Atodiadau hyd yn oed os ydynt wedi eu hawdurdodi ac yn cael eu defnyddio'n fwriadol: alwminiwm, amoniwm, calsiwm, haearn, magnesiwm, potasiwm a sodiwm asidau, ffenolau neu alcoholau a awdurdodir; er hynny mae enwau sy'n cynnwys “…asid(au), halwynau” yn ymddangos yn y rhestrau os na chrybwyllir yr asid(au) rhydd cyfatebol.

(3Nid yw halwynau'r canlynol (gan gynnwys halwynau dwbl a halwynau asidau) yn cael eu cynnwys yn y rhestrau yn yr Atodiadau hyd yn oed os ydynt wedi eu hawdurdodi ac yn cael eu defnyddio'n fwriadol: sinc asidau, ffenolau neu alcoholau a awdurdodir. Ar gyfer yr halwynau hyn mae SML Grŵp = 25/mg/kg (a fynegir fel Zn) yn gymwys. Mae'r un cyfyngiad o ran Zn yn gymwys i—

(a)sylweddau y mae eu henwau'n cynnwys “ ... ... ... ...asid(au), halwynau” ac a geir yn y rhestrau, os na chrybwyllir yr asid(au) rhydd cyfatebol; a

(b)sylweddau y cyfeirir atynt yn nodyn 38 yn Atodiad VI.

4.  Yn achos sylweddau a restrir yn Adran B o Atodiad III, rhaid i derfynau ymfudiad penodol a bennir yng ngholofn 4 gael effaith pan wneir gwiriad o gydymffurfiad yn Efelychydd D neu mewn cyfryngau profi profion disodli fel a ragnodwyd yng Nghyfarwyddeb 82/711/EEC ac 85/572/EEC.

5.  Pan fo cofnod yng ngholofn 4 yn yr Atodiadau (cyfyngiadau a manylebau) yn cynnwys rhif mewn cromfachau, mae'r cofnod hwnnw'n ddarostyngedig i nodyn sy'n ymwneud â'r rhif hwnnw fel y'i ceir yn Atodiad VI.

Rheoliadau 9 a 13

ATODLEN 2Darpariaethau sy'n Gymwys pan Brofir Cydymffurfedd â'r Terfynau Ymfudiad

Darpariaethau Cyffredinol

1.  Pan benderfynir yn ddadansoddol ganlyniadau'r profion ymfudiad a bennir yn yr Atodlen hon a, phan fo hynny'n briodol, yn Atodlen 3, rhaid tybio mai 1 fydd disgyrchiant penodol unrhyw efelychwyr a ddefnyddir, fel y bydd nifer y miligramau o unrhyw sylwedd a ryddheir fesul litr o efelychydd yn cyfateb yn rhifol i nifer y miligramau o'r sylwedd hwnnw a ryddheir fesul cilogram o'r efelychydd hwnnw.

2.  Pan wneir ar unrhyw sampl a gymerir o unrhyw ddeunydd neu eitem plastig unrhyw brawf ymfudiad a bennir yn yr Atodlen hon a, phan fo hynny'n briodol, yn Atodlen 3, a phan fo'r sympiau o fwyd neu efelychydd a osodir mewn cyffyrddiad â'r sampl yn wahanol i'r rhai a ddefnyddir yn yr amgylchiadau go iawn y mae'r deunydd neu'r eitem plastig yn cael ei ddefnyddio neu y bydd yn cael ei ddefnyddio oddi tanynt, dylid cywiro'r canlyniadau a geir drwy gymhwyso'r fformiwla M = (( m.a2/a1.q). 1000) os —

(a)M yw'r ymfudiad mewn mg/kg:

(b)m yw'r màs yn yr mg o sylwedd a ryddheir gan y sampl fel y'i penderfynir gan y prawf ymfudiad;

(c)a1 yw arwynebedd mewn decimetrau sgwâr y sampl mewn cyffyrddiad â'r bwyd neu'r efelychydd yn ystod y prawf ymfudiad;

(ch)a2 yw arwynebedd mewn decimetrau sgwâr y deunydd neu'r eitem plastig o dan amgylchiadau defnyddio go iawn; a

(d)q yw'r swmp o fwyd mewn gramau sydd mewn cyffyrddiad â'r deunydd neu'r eitem plastig o dan amgylchiadau defnyddio go iawn.

3.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i unrhyw brofi a wneir ar ymfudiad o unrhyw ddeunydd neu eitem plastig gael ei wneud ar y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw.

(2Mewn unrhyw achos pan fydd penderfyniad yn unol ag is-baragraff (1) uchod yn anymarferol, rhaid gwneud gwaith profi o'r fath, gan ddefnyddio naill ai sbesimenau a gymerir o'r deunydd neu'r eitem plastig hwnnw, neu lle y bo'n briodol, sbesimenau sy'n gynrychioliadol o'r deunydd neu'r eitem plastig hwnnw.

(3Rhaid gosod unrhyw sampl a ddefnyddir ar gyfer gwaith profi o'r fath mewn cyffyrddiad â'r efelychydd neu'r bwyd, yn ôl y digwydd, mewn dull sy'n cynrychioli amodau cyffyrddiad defnyddio go iawn, ac at y diben hwn rhaid gwneud y gwaith profi yn y fath fodd fel mai dim ond y rhannau hynny o'r sampl y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â'r bwyd mewn amgylchiadau defnyddio go iawn fydd mewn cyffyrddiad â'r efelychydd neu'r bwyd.

(4Rhaid i unrhyw brofion ymfudiad ar gapiau, gasgedi, topiau neu ddyfeisiadau tebyg ar gyfer selio gael eu gwneud ar yr eitemau hyn drwy eu rhoi ar y cynwysyddion y bwriedir hwy ar eu cyfer mewn dull sy'n cyfateb i amodau cau'r cynwysyddion pan y'i defnyddir yn arferol neu mewn ffordd a ragwelir.

4.—(1Rhaid i unrhyw sampl o ddeunydd neu eitem plastig gael ei ddwyn i gyffyrddiad â'r efelychydd priodol neu'r bwyd am gyfnod ac ar dymheredd a ddewisir drwy gyfeirio at yr amodau cyffyrddiad defnyddio go iawn yn unol â darpariaethau'r Atodlen hon a, phan fo hynny'n briodol, Atodlen 3.

(2Ar ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), rhaid gwneud, ar yr efelychydd neu'r bwyd, yn ôl y digwydd, benderfyniad dadansoddol o swmp cyfan sylweddau (ymfudiad cyflawn), o bob swmp penodol sylwedd (ymfudiad penodol) neu, yn ôl y digwydd, o'r swmp cyfan hwnnw ac o'r swmp penodol hwnnw a ryddheir gan y sampl.

(3Rhaid gwirio bod ymfudiad i fwyd yn cydymffurfio â therfyn ymfudiad a bennir yn rheoliad 9 neu yn Atodiad II, III neu IV (at ddibenion yr Atodlen hon ac Atodlen 3 y cyfeirir atynt ar y cyd fel “yr Atodiadau”) a rhaid gwneud hynny o dan yr amodau defnyddio go iawn sydd hefyd y mwyaf eithafol a ragwelir o ran amser a thymheredd mewn amgylchiadau defnyddio go iawn yn unol â darpariaethau'r Atodlen hon.

(4Yn unol â darpariaethau'r Atodlen hon a thrwy ddefnyddio profion ymfudiad confensiynol, y ceir y rheolau sylfaenol ar eu cyfer yn Atodlen 3, rhaid gwirio bod ymfudiad i efelychwyr bwyd yn cydymffurfio â therfyn ymfudiad a bennir yn rheoliad 9, neu yn yr Atodiadau.

5.  Os bwriedir i ddeunydd neu eitem plastig ddod i gyffyrddiad dro ar ôl tro â bwyd, (yn ddarostyngedig i baragraff 7 isod) rhaid gwneud unrhyw brawf ymfudiad deirgwaith ar un sampl unigol yn unol â'r amodau a bennir yn yr Atodlen hon a, phan fo hynny'n briodol, yn Atodlen 3 gan ddefnyddio samplau gwahanol o'r efelychydd neu, yn ôl y digwydd, o'r bwyd, ar bob achlysur, rhaid trin y lefel ymfudiad a ganfyddir yn y trydydd prawf fel y lefel ymfudiad sy'n berthnasol i'r prawf hwnnw.

Darpariaethau arbennig sy'n berthnasol i'r ffactor rhydwytho braster

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 7, rhaid cywiro canlyniadau profion ar gyfer ymfudiad penodol i fwydydd y mae mwy nag 20% ohonynt yn fraster, a hynny gan y ffactor rhydwytho braster (“FRF”), sef ffactor rhwng 1 a 5 (a fynegir fel MFRF) y mae ymfudiad mesuredig i fwyd brasterog neu i efelychydd D a'r hyn a ddefnyddir yn ei le gan sylweddau lipoffilig a restrir yn Atodiad IVa yn cael ei rannu ganddo cyn cymharu â therfynau ymfudiad penodol.

(2Rhaid cymhwyso'r hafaliadau a ganlyn cyn cymharu â'r terfyn ymfudiad penodol —

(a)MFRF = M/FRF, a

(b)FRF = (g braster mewn bwyd/kg o fwyd)/200 = (% braster × 5)/100.

7.—(1Ni chaniateir cywiro gan yr FRF —

(a)os yw'r deunydd neu'r eitem plastig mewn cyffyrddiad â bwydydd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant bach neu os bwriedir ei ddwyn i gyffyrddiad â'r bwydydd o'r fath;

(b)mewn perthynas â sylweddau a restrir yn yr Atodiadau a chanddynt gyfyngiad yng ngholofn (4) o SML = ND;

(c)mewn perthynas â sylweddau nas rhestrir yn yr Atodiadau ac a ddefnyddir y tu ôl i wahanfur swyddogaethol plastig gyda therfyn ymfudiad o 0.01 mg/kg;

(ch)ac eithrio yn yr amgylchiadau a bennir yn is-baragraff (2), mewn perthynas â deunyddiau neu eitemau plastig —

(i)y mae'n anymarferol amcangyfrif y berthynas rhwng yr arwynebedd a swmp y bwyd mewn cyffyrddiad ag ef, oherwydd siâp, dull defnyddio a ffactorau eraill, a

(ii)os cyfrifir yr ymfudiad drwy ddefnyddio'r ffactor trosi confensiynol arwynebedd /cyfaint o 6 dm2/kg.

(2Mewn perthynas â chynwysyddion ac eitemau eraill y gellir eu llenwi a chanddynt gapasiti o lai na 500 o fililitrau neu o fwy na 10 o litrau ac mewn perthynas â dalennau a ffilmiau mewn cyffyrddiad â bwydydd y mae mwy nag 20% ohonynt yn fraster —

(a)caniateir cyfrifo'r ymfudiad fel crynodiad (wedi ei fynegi fel mg/kg) yn y bwyd neu'r efelychydd bwyd a'i gywiro gan yr FRF; neu

(b)caniateir ail-gyfrifo'r ymfudiad fel mg/dm2 heb gymhwyso'r FRF,

ac ar yr amod bod y gwerth sy'n ganlyniad y cyfrifo o dan naill ai is-baragraff (a) neu (b) yn is na'r SML rhaid ystyried bod y deunydd neu'r eitem plastig yn cydymffurfio.

8.  Os yw defnyddio'r FRF o dan baragraff 6 neu 7(2) yn arwain at ganlyniad sy'n dynodi yr aed dros ben y terfyn ymfudiad cyflawn, rhaid peidio ag ystyried bod y deunydd neu'r eitem plastig o dan sylw yn cydymffurfio.

Darpariaethau arbennig sy'n berthnasol i gywiro ymfudiad penodol yn efelychydd D

9.  Rhaid cywiro ymfudiad penodol i efelychydd D a'r hyn a ddefnyddir yn ei le gan y sylweddau lipoffilig hynny a restrir yn Atodiad IV gan—

(a)ffactor rhydwytho efelychydd D (“DRF”), sef y ffactor rhydwytho y cyfeirir ato ym mharagraff 2(2) o Ran 3 a pharagraffau 2 a 3 o Ran 4 o Atodlen 3, ar yr amod —

(i)mewn achosion pan fo'r ymfudiad penodol i efelychydd D yn uwch nag 80% o gynnwys y sylwedd yn y deunydd neu'r eitem plastig gorffenedig, y gellir dangos drwy gyfrwng tystiolaeth wyddonol neu arbrofol, megis profi gyda'r bwydydd mwyaf critigol, bod y DRF yn briodol, a

(ii)nad yw'r sylwedd yn un a grybwyllir ym mharagraff 7(1)(b) neu (c);

(b)yr FRF, ar yr amod bod cynnwys braster y bwyd sydd i'w bacio yn hysbys a bod gofynion paragraffau 6, 7 ac 8 wedi eu bodloni; neu

(c)y ffactor rhydwytho crynswth (“TRF”), sef y ffactor —

(i)y mae'n rhaid rhannu ag ef, cyn cymharu â'r terfyn ymfudiad penodol, ymfudiad penodol mesuredig i efelychydd D neu i'r hyn a ddefnyddir yn ei le, a

(ii)a geir drwy luosi'r DRF gan yr FRF ag uchafswm gwerth o 5, pan fydd y ddau ffactor yn gymwys.

Darpariaethau arbennig sy'n berthnasol i ymfudiad cyflawn

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), caniateir defnyddio unrhyw ddull penderfynu dadansoddol i brofi ymfudiad dros ben y terfyn ymfudiad cyflawn mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig.

(2Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio â rheoliad 9 bydd yn amddiffyniad i'r person sy'n cael ei gyhuddo brofi'r canlynol—

(a)os oedd efelychydd dyfrllyd a bennir yn Atodlen 3 wedi ei ddefnyddio, a bod y penderfyniad dadansoddol o swmp cyfan y sylweddau a ryddhawyd gan sampl o'r deunydd neu'r eitem plastig a brofwyd wedi ei wneud drwy anweddu'r efelychydd a phwyso'r gweddillion; neu

(b)os oedd olew olewydd coeth neu unrhyw beth a ddefnyddiwyd yn ei le wedi ei ddefnyddio fel efelychydd a—

(i)bod sampl o'r deunydd neu'r eitem plastig wedi cael ei bwyso cyn ac ar ôl dod i gyffyrddiad â'r efelychydd;

(ii)bod yr efelychydd a amsugnwyd gan y sampl wedi ei echdynnu a'i benderfynu yn feintiol;

(iii)bod swmp yr efelychydd a ddarganfuwyd felly wedi ei dynnu o bwysau'r sampl a fesurwyd ar ôl iddo ddod i gyffyrddiad â'r efelychydd; ac

(iv)bod y gwahaniaeth rhwng y pwysau cychwynnol, a'r pwysau terfynol sydd wedi ei gywiro, wedi ei benderfynu i gynrychioli ymfudiad cyflawn y sampl a archwiliwyd,

ni fyddai'r cyfryw ymfudiad dros ben y terfyn wedi ei benderfynu.

11.—(1Os bwriedir i ddeunydd neu eitem plastig ddod i gyffyrddiad â bwyd dro ar ôl tro a'i bod yn dechnegol amhosibl gwneud y prawf a ddisgrifir ym mharagraff 5, rhaid addasu'r prawf yn unol ag is-baragraff (2) neu yn y fath fodd arall a fydd yn galluogi penderfynu'r lefel ymfudiad sy'n digwydd yn ystod y trydydd prawf o'r fath, a chaniateir defnyddio penderfyniad yn dystiolaeth o'r ymfudiad cyflawn mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig.

(2Mae tri sampl o'r deunydd neu'r eitem plastig sy'n union yr un fath â'i gilydd i'w caffael, ac yn dilyn hynny—

(a)mae prawf priodol i'w wneud ar y sampl cyntaf yn unol â pharagraff 4 uchod a'r ymfudiad cyflawn i'w benderfynu (M1);

(b)mae'r ail sampl a'r trydydd i'w cadw o dan yr un amodau tymheredd ond mae'r cyfnod cyffyrddiad i fod yn ddwywaith neu deirgwaith y cyfnod a bennir ac mae ymfudiad cyflawn i'w benderfynu ym mhob achos (M2 a M3).

(3Os gwnaed prawf addasedig yn unol ag is-baragraff (2), ar yr amod na fu i M1 nac M3 − M2 fynd dros ben y terfyn ymfudiad cyflawn, rhaid barnu bod y deunydd neu'r eitem plastig y gwnaed y prawf arno yn cydymffurfio â'r terfyn hwnnw.

12.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid barnu nad yw unrhyw ddeunydd neu eitem plastig sy'n mynd dros ben ei derfyn ymfudiad cyflawn o swm nad yw'n fwy na'r goddefiant dadansoddol a bennir yn is-baragraff (2) yn mynd dros ben ei derfyn ymfudiad cyflawn.

(2Rhaid cymhwyso'r goddefiannau dadansoddol canlynol i derfynau ymfudiad cyflawn—

(a)20 mg/kg neu, yn ôl y digwydd, 3 miligram y decimetr sgwâr mewn profion ymfudiad gan ddefnyddio olew olewydd coeth neu rywbeth arall yn ei le fel efelychydd;

(b)12mg/kg neu, yn ôl y digwydd, 2 filigram y decimetr sgwâr mewn profion ymfudiad gan ddefnyddio efelychwyr eraill y cyfeirir atynt yn Atodlen 3.

Darpariaethau arbennig yn ymwneud â chapiau, caeadau, gasgedi, topiau ac eitemau selio tebyg

13.—(1Os yw'r defnydd y bwriedir ei wneud o gapiau, caeadau, gasgedi, topiau ac eitemau selio tebyg yn hysbys, rhaid eu profi drwy eu rhoi ar y cynwysyddion y bwriedir hwy ar eu cyfer, a hynny o dan amodau cau sy'n cyfateb i'r defnydd arferol a ragwelir a chan dybio bod y cyfryw eitemau mewn cyffyrddiad â swmp o fwyd sy'n llenwi'r cynhwysydd.

(2Rhaid mynegi canlyniadau unrhyw brofion a wneir o dan is-baragraff (1) mewn mg/kg neu mg/dm2 fel y bo'n briodol yn unol â gofynion rheoliad 9(2), gan ystyried, o ran yr eitem selio a'r cynhwysydd, y cyfanswm arwynebedd cyffyrddiad y mae'n bosibl iddo fod mewn cyffyrddiad â'r bwyd.

(3Os nad yw'r defnydd y bwriedir ei wneud o eitem o'r math a grybwyllir yn is-baragraff (1) yn hysbys, rhaid—

(a)profi'r eitem ar wahân i'r cynhwysydd y bwriedir ef ar ei gyfer, a mynegi'r canlyniad mewn mg/eitem; a

(b)ychwanegu'r gwerth, os yw hynny'n briodol, at y swm sydd wedi ymfudo o'r cynhwysydd hwnnw.

Rheoliadau 9 a 13

ATODLEN 3Profi Ymfudiad Cyflawn a Phenodol drwy Ddefnyddio Efelychwyr Bwyd

RHAN 1Rheolau Sylfaenol

1.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 2, 3 a 4 o'r Rhan hon, rhaid gwneud profion ymfudiad i benderfynu ymfudiad penodol a chyflawn drwy ddefnyddio'r efelychwyr bwyd a bennir yn Rhannau 2, 3 a, phan fo hynny'n briodol 4, ac o dan amodau prawf ymfudiad confensiynol fel a bennir yn Rhan 5.

2.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 3 a 4 o'r Rhan hon, rhaid gwneud profion disodli sy'n defnyddio cyfryngau prawf o dan yr amodau profion disodli confensiynol fel a bennir yn Rhan 6 os nad yw'r prawf ymfudiad sy'n defnyddio'r efelychwyr bwyd brasterog a bennir yn Rhan 3 yn bosibl am resymau technegol sy'n gysylltiedig â'r dull dadansoddi.

3.  Yn ddarostyngedig i baragraff 4 o'r Rhan hon, caniateir defnyddio profion amgen fel a bennir yn Rhan 7 yn lle'r prawf ymfudiad gydag efelychwyr bwyd brasterog a bennir yn Rhan 3 ond ni chaniateir defnyddio canlyniadau'r cyfryw brofion amgen i benderfynu cydymffurfedd â therfyn ymfudiad oni chyflawnir yr amodau a bennir yn Rhan 7.

4.  Mewn profion ymfudiad caniateir—

(a)gostwng nifer y profion sydd i'w gwneud gan ddefnyddio dim ond y prawf hwnnw neu'r profion hynny y cydnabyddir yn gyffredinol mai ef neu hwy, yn yr achos penodol o dan sylw, yw'r rhai mwyaf heriol ar sail tystiolaeth wyddonol;

(b)hepgor y profion ymfudiad, y profion disodli neu'r profion amgen —

(i)os bod prawf digamsyniol na ellir mynd dros ben y terfynau ymfudiad o dan unrhyw amodau y gellir eu rhagweld o ran defnyddio'r deunydd neu'r eitem, neu

(ii)os bodlonir yr amodau ar gyfer profion nad ydynt yn orfodol a geir yn Erthygl 8(2) neu 8(3) o'r Gyfarwyddeb.

RHAN 2Efelychwyr Bwyd i'w defnyddio mewn Profion Ymfudiad

1.  Yn ddarostyngedig i Rannau 3, 4, 5 a 7, mae'r efelychwyr sydd i'w defnyddio mewn profion ymfudiad yn cael eu pennu yn y Tabl yn y paragraff hwn (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y Tabl”).

12
ByrfoddEfelychydd Bwyd
Efelychydd A: cyfatebolDŵr distyll neu ddŵr o ansawdd
Efelychydd B:3% Asid asetig (w/v) mewn hydoddiant dyfrllyd
Efelychydd C10% Ethanol (v/v) mewn hydoddiant dyfrllyd ac eithrio bod yn rhaid i grynodiad yr hydoddiant ethanol gael ei addasu yn ôl gwir gryfder alcoholaidd y bwyd os yw'n fwy na 10% (v/v)
Efelychydd D:Olew olewydd coeth ac iddo'r nodweddion a bennir ym mharagraff 3 neu, yn ddarostyngedig i baragraff 5, unrhyw un neu rai o'r efelychwyr bwyd brasterog a bennir ym mharagraff 4

2.  At ddibenion yr Atodlen hon ystyr cyfeiriad at fyrfodd yng ngholofn 1 yn y Tabl yw cyfeiriad at yr efelychydd yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw sydd gyferbyn â'r byrfodd hwnnw.

3.  Y nodweddion olew olewydd coeth y cyfeirir atynt yn y Tabl yw —

(a)Gwerth ïodin (Wijs) = 80 i 88;

(b)Indecs plygiant ar 25°C = 1.4665 i 1.4679;

(c)Asidedd (wedi ei fynegi fel % o asid olëig) = mwyafswm o 0.5%;

(ch)Rhif perocsid (wedi ei fynegi fel miligyfwerthoedd ocsigen fesul kg o olew) = mwyafswm o 10.

4.  Yr efelychwyr bwyd brasterog y cyfeirir atynt yn y Tabl yw—

(a)olew corn ac iddo fanylebau wedi eu safoni;

(b)olew blodau'r haul, y mae ei nodweddion fel a ganlyn —

(i)Gwerth ïodin (Wijs) = 120 i 145;

(ii)Indecs plygiant ar 20°C = 1.474 i 1.476;

(iii)Rhif seboneiddiad = 188 i 193;

(iv)Crynodiad cymharol ar 20°C = 0.918 i 0.925;

(v)Deunydd anseboneiddiadwy = 0.5% i 1.5%;

(c)cymysgedd synthetig o driglyseridau y mae ei gyfansoddiad fel a nodir yn y tablau a ganlyn:

Dosbarthiad asid brasterog

Y nifer o C-atomau mewn gweddillion asid brasterog681012141618eraill
Maes GLC (%)16—98—1145—5212—158—108—121

Purdeb

Cynnwys monogl yseridau (yn ensymig)<0.2%
Cynnwys diglyseridau (yn ensymig)<2.0%
Deunydd anseboneiddiadwy<0.2%
Gwerth ïodin(Wijs)<0.1%
Gwerth asid<0.1%
Cynnwys dŵr (K Fischer)<0.1%
Ymdoddbwynt28 ± 2°C

Sbectrwm amsugno nodweddiadol (trwch haen: d = 1 cm; Cyfeirnod: dŵr ar dymheredd o 35°C)

Tonfedd (nm)290310330350370390430470510
Trawsyriant (%)21537648088959798
Trawsyriant golau o 10% o leiaf ar 310 nm

5.  Pan ddefnyddir efelychydd bwyd brasterog a bennir ym mharagraff 4 mewn prawf ymfudiad a bod canlyniad y prawf hwnnw'n dangos nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio ag unrhyw derfyn ymfudiad a bennir yn rheoliad 9 neu yn yr Atodiadau, rhaid gwirio nad yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cydymffurfio â'r ymfudiad penodedig drwy brofi'r deunydd neu'r eitem hwnnw gan ddefnyddio olew olewydd os yw profi o'r fath yn dechnegol bosibl, ac os nad yw'r cyfryw brofi'n dechnegol bosibl bernir nad yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cydymffurfio â'r terfyn ymfudiad penodedig.

RHAN 3Dewis Efelychwyr Bwyd

Profion, ffactorau rhydwytho a diffiniad o deipiau o fwyd

1.  Rhaid profi deunyddiau ac eitemau plastig o dan yr amodau prawf a bennir yn Rhan 5 gan ddefnyddio efelychydd neu efelychwyr a ddewisir yn unol â'r Rhan hon a chan gymryd sbesimen newydd i'w brofi o'r deunydd neu'r eitem plastig ar gyfer pob efelychydd a ddefnyddir.

2.—(1Pan fo prawf yn cael ei wneud ar ddeunydd neu eitem plastig y bwriedir iddo ddod i gyffyrddiad â mwy nag un bwyd neu grŵp o fwydydd a bod ffactor rhydwytho wedi ei bennu ar gyfer un neu fwy o'r bwydydd hynny neu o'r grwpiau hynny o fwydydd nad yw'n gyfwerth â'r ffactor rhydwytho sydd wedi ei bennu ar gyfer un neu fwy o'r bwydydd eraill neu o'r grwpiau eraill o fwydydd y bwriedir i'r deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad â hwy—

(a)rhaid cymhwyso i ganlyniad y prawf y ffactor rhydwytho sydd wedi ei bennu ar gyfer pob bwyd neu grŵp o fwydydd, fel y bo'n briodol; a

(b)rhaid trin y deunydd neu'r eitem plastig fel pe bai'n gallu trosglwyddo'i gyfansoddion i fwyd y gallai ddod i gyffyrddiad ag ef dros ben y terfyn ymfudiad sydd wedi ei bennu yn rheoliad 9 neu yn yr Atodiadau os bydd un neu fwy o'r canlyniadau, yn dilyn cymhwyso'r ffactorau rhydwytho penodedig hynny, yn dangos nad yw'r deunydd neu'r eitem yn cydymffurfio â'r terfyn ymfudiad penodedig hwnnw.

(2At ddibenion y paragraff hwn —

(a)y ffigur sy'n dilyn “X” a blaenslaes yn y grŵp o golofnau sy'n dwyn y pennawd “Efelychwyr i'w defnyddio” yn y Tabl i Ran 4 yw'r ffactor rhydwytho;

(b)mae ffactor rhydwytho wedi ei bennu ar gyfer bwyd neu grŵp o fwydydd pan fydd, yn y Tabl yn Rhan 4 —

(i)y bwyd neu'r grŵp o fwydydd wedi ei ddisgrifo yn y golofn sy'n dwyn y pennawd “Disgrifiad o'r bwyd”, a

(ii)“X” wedi ei osod mewn colofn ac iddi efelychydd penodedig yn bennawd, gyferbyn â'r bwyd hwnnw neu'r grŵp hwnnw o fwydydd a chyda blaenslaes a ffactor rhydwytho ar ei ôl;

(c)mae ffactor rhydwytho i'w gymhwyso i ganlyniad prawf drwy rannu'r canlyniad â'r ffactor rhydwytho hwnnw.

3.  Mae mathau o fwyd wedi eu diffinio yn Nhabl 1 isod fel a ganlyn—

Tabl 1:
Mathau o fwyd
DiffiniadYstyr
Bwydydd dyfrllyd â pH > 4.5Bwydydd nad oes ond efelychydd A wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4
Bwydydd asidig â pH < 4.5Bwydydd nad oes ond efelychydd B wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4
Bwydydd alcoholaiddBwydydd nad oes ond efelychydd C wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4
Bwydydd brasterogBwydydd nad oes ond efelychydd D wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4
Bwydydd SychBwydydd nad oes efelychydd wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4

Dewis efelychwyr ar gyfer profi deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â phob math o fwyd

4.  Efelychydd B, efelychydd C ac efelychydd D, sef y rhai a gânt eu hystyried yn rhai mwy heriol o dan yr amodau prawf sydd wedi eu diffinio yn Rhan 5 yw'r efelychwyr sydd i'w defnyddio i brofi deunydd neu eitem plastig y bwriedir iddo ddod i gyffyrddiad â phob math o fwyd.

Dewis efelychwyr ar gyfer profi deunyddiau ac eitemau sydd eisoes mewn cyffyrddiad â bwyd hysbys

5.  Y canlynol yw'r efelychydd neu'r efelychwyr sydd i'w defnyddio i brofi deunydd neu eitem plastig sydd eisoes mewn cyffyrddiad â bwyd hysbys—

(a)pan fydd—

(i)y bwyd hysbys yn fwyd penodol neu'n fwyd sydd yn dod o fewn grŵp penodol o fwydydd a ddisgrifir yng ngholofn 2 o'r Tabl yn Rhan 4 a,

(ii)at ddibenion y Rhan honno, efelychydd neu efelychwyr wedi ei bennu neu eu pennu mewn perthynas â'r bwyd penodol hwnnw neu'r grŵp penodol hwnnw o fwydydd,

yr efelychydd neu'r efelychwyr a bennir felly;

(b)pan—

(i)nad yw'r bwyd hysbys yn fwyd penodol, nac

(ii)yn dod o fewn grŵp penodol o fwydydd a ddisgrifir yn y Tabl yn Rhan 4 o'r Atodlen hon,

yr efelychydd neu'r efelychwyr yng ngholofn 2 yn Nhabl 2 gyferbyn â'r disgrifiad o'r bwyd yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw sy'n cyfateb yn fwyaf agos i'r bwyd hysbys.

Dewis efelychwyr ar gyfer profi deunyddiau ac eitemau y mae dangosiad penodol yn mynd gyda hwy

6.  Mae'n orfodol mai'r efelychydd neu'r efelychwyr, a geir yng ngholofn 2 yn Nhabl 2 gyferbyn â'r bwyd mewn cyffyrddiad a geir yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw, ac sy'n cyfateb yn fwyaf agos at y math neu'r mathau o fwyd y caniateir defnyddio'r deunydd neu'r eitem plastig gydag ef, fel a nodir gan y dangosiad sy'n mynd gyda'r deunydd neu'r eitem plastig, yw'r efelychydd neu'r efelychwyr sydd i'w ddefnyddio neu i'w defnyddio i brofi deunydd neu eitem plastig y mae yn mynd gydag ef, yn unol â Rheoliad 1935/2004, ddangosiad penodol sy'n nodi unrhyw fath neu fathau o fwyd a ddisgrifir yn Nhabl 1 ac y caniateir neu na chaniateir defnyddio'r deunydd neu'r eitem plastig gydag ef neu gyda hwy.

7.  Y canlynol yw'r efelychydd neu'r efelychwyr sydd i'w defnyddio i brofi deunydd neu eitem plastig y mae yn mynd gydag ef, yn unol â Rheoliad 1935/2004, ddangosiad penodol wedi ei fynegi yn unol â pharagraff 8, sy'n nodi unrhyw fwyd neu grŵp o fwydydd a ddisgrifir yn y Tabl yn Rhan 4 y caniateir neu na chaniateir defnyddio'r deunydd neu'r eitem plastig gydag ef—

(a)pan fydd y dangosiad yn datgan y caniateir i'r deunydd neu'r eitem plastig gael ei ddefnyddio gyda bwyd neu grŵp o fwydydd a ddisgrifir yng ngholofn 2 yn y Tabl yn Rhan 4, yr efelychydd bwyd neu'r efelychwyr bwyd sydd, at ddibenion Rhan 4, wedi ei bennu neu eu pennu mewn perthynas â'r bwyd hwnnw neu â'r grŵp hwnnw o fwydydd;

(b)pan fydd y dangosiad yn datgan na chaniateir i'r deunydd neu'r eitem plastig gael ei ddefnyddio gydag unrhyw fwyd neu grŵp o fwydydd a ddisgrifir yng ngholofn 2 yn y Tabl yn Rhan 4, efelychydd ac eithrio'r un sydd, at ddibenion Rhan 4, wedi ei bennu mewn perthynas â'r bwyd hwnnw neu â'r grŵp hwnnw o fwydydd.

8.  Mae dangosiad penodol y cyfeirir ato ym mharagraff 7 wedi ei fynegi'n unol â'r paragraff hwn os yw wedi ei fynegi—

(a)ar gam marchnata ac eithrio manwerthu, drwy ddefnyddio'r rhif cyfeirnod yng ngholofn 1 yn y Tabl yn Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn neu'r disgrifiad o fwyd yng ngholofn 2 o'r Tabl hwnnw sydd, yn y naill achos a'r llall, yn cyfateb i'r bwyd;

(b)ar y cam manwerthu, drwy ddefnyddio dangosiad sy'n cyfeirio at rai bwydydd neu grwpiau o fwydydd a ddisgrifir yn y Tabl yn Rhan 4 yn unig.

Tabl 2:
Efelychwyr i'w dewis ar gyfer profi deunyddiau mewn cyffyrddiad â bwyd mewn achosion arbennig
Bwyd sy'n dod i gyffyrddiadEfelychydd
Dim ond bwydydd dyfrllydEfelychydd A
Dim ond bwydydd asidigEfelychydd B
Dim ond bwydydd alcoholaiddEfelychydd C
Dim ond bwydydd brasterogEfelychydd D
Pob bwyd dyfrllyd ac asidigEfelychydd B
Pob bwyd alcoholaidd a dyfrllydEfelychydd C
Pob bwyd alcoholaidd ac asidigEfelychydd C a B
Pob bwyd brasterog a dyfrllydEfelychwyr D ac A
Pob bwyd brasterog ac asidigEfelychwyr D a B
Pob bwyd brasterog, alcoholaidd a dyfrllydEfelychwyr D ac C
Pob bwyd brasterog, alcoholaidd ac asidigEfelychwyr D, C a B

RHAN 4Efelychwyr i'w defnyddio mewn perthynas â Bwyd Penodol neu Grŵp Penodol o Fwydydd

1.  At ddibenion yr Atodlen hon mae efelychydd wedi ei bennu mewn perthynas â bwyd penodol neu grŵp penodol o fwydydd pan fo “X” wedi ei osod yn y golofn â'r efelychydd hwnnw'n bennawd iddi gyferbyn â'r bwyd penodol hwnnw neu'r grŵp penodol hwnnw o fwydydd yn y Tabl yn y Rhan hon, a rhaid darllen y Tabl ar y cyd â'r nodiadau ar y tabl a chyda pharagraffau 2 i 5.

2.  At ddibenion y Rhan hon —

(a)y ffigur sy'n dilyn “X” a blaenslaes yn y grŵp o golofnau sy'n dwyn y pennawd “Efelychwyr i'w defnyddio” yn y Tabl yn y Rhan hon yw'r ffactor rhydwytho;

(b)mae ffactor rhydwytho wedi ei bennu mewn perthynas â bwyd penodol neu grŵp penodol o fwydydd pan fydd, yn y Tabl—

(i)y bwyd neu'r grŵp o fwydydd wedi ei ddisgrifio yn y golofn sy'n dwyn y pennawd “Disgrifiad o'r bwyd”; a

(ii)“X” wedi ei osod mewn colofn ag efelychydd penodedig yn bennawd iddi, gyferbyn â'r bwyd hwnnw neu'r grŵp hwnnw o fwydydd a chyda blaenslaes a ffactor rhydwytho ar ei ôl.

3.  Pan fydd ffactor rhydwytho wedi ei bennu yn y Tabl mewn perthynas â bwyd penodol neu grŵp penodol o fwydydd, rhaid i'r ffactor rhydwytho hwnnw gael ei gymhwyso i ganlyniad unrhyw brawf ymfudiad gan ddefnyddio'r efelychydd sydd wedi ei bennu mewn perthynas â'r bwyd hwnnw neu'r grŵp hwnnw o fwydydd drwy rannu canlyniad y prawf â'r ffactor rhydwytho.

4.—(1Os ceir y llythyren “a” mewn cromfachau ar ôl yr “X”, rhaid defnyddio yn y prawf ymfudiad ddim ond un o'r ddau efelychydd a bennir, hynny yw —

(a)os yw gwerth pH y bwyd yn uwch na 4.5, rhaid defnyddio efelychydd A;

(b)os 4.5 neu lai yw gwerth pH y deunydd bwyd, rhaid defnyddio efelychydd B.

(2Os ceir y llythyren “b” mewn cromfachau ar ôl yr “X”, rhaid gwneud y prawf a ddynodir gydag ethanol 50% (v/v).

5.  Os yw bwyd wedi ei restru yn y Tabl o dan bennawd penodol ac o dan bennawd cyffredinol, yr efelychydd sy'n berthnasol i'r pennawd penodol yw'r efelychydd sydd i'w ddefnyddio ar gyfer y prawf ymfudiad.

Rhif CyfeirnodDisgrifiad o'r bwydEfelychwyr i'w defnyddio
ABCD
(1)

Rhaid peidio â defnyddio efelychydd B pan fydd y pH yn fwy na 4.5.

(2)

Rhaid gwneud y prawf hwn yn achos hylifau neu ddiodydd o gryfder alcoholaidd sy'n fwy na chyfaint o 10% gyda hydoddiannau dyfrllyd o ethanol o gryfder tebyg.

(3)

Os gellir dangos o dan reoliad 13(2) neu brofi drwy gyfrwng prawf priodol nad oes cyffyrddiad brasterog i fod â'r deunydd neu'r eitem plastig, rhaid peidio â defnyddio efelychydd D.

01Diodydd
01.01

Diodydd nad ydynt yn rhai alcoholaidd neu ddiodydd alcoholaidd â chryfder alcoholaidd sy'n llai na chyfaint o 5%:

  • Dŵr, seidrau, suddoedd ffrwythau neu suddoedd llysiau o gryfder arferol neu grynoedig, mystau, neithdarau ffrwythau, lemonêd a dŵr mwynol, syrypau, chwerwau, trwythau, coffi, te, siocled hylif, cwryfau ac eraill

X (a)X (a)
01.02

Diodydd alcoholaidd â chryfder alcoholaidd sy'n gyfwerth â neu'n fwy na chyfaint o 5%

  • Diodydd a geir o dan y pennawd 01.01 ond â chryfder alcoholaidd sy'n gyfwerth â neu'n fwy na chyfaint o 5%

  • Gwinoedd, gwirodydd a liqueurs

X(1)X(2)
01.03Amrywiol: alcohol ethyl a'i nodweddion heb eu newidX(1)X(1)
02Grawnfwydydd, cynnyrch grawn, crwst, bisgedi, cacennau a nwyddau eraill a werthir gan bobyddion
02.01Startsiau
02.02Grawnfwydydd heb eu prosesu, pyffion grawnfwydydd, creision grawnfwydydd (gan gynnwys popgorn, creision ŷd a'u tebyg)
02.03Blawd a phowdr grawnfwydydd
02.04Macaroni, sbageti a chynhyrchion tebyg
02.05Crwst, bisgedi, cacennau a nwyddau eraill a werthir gan bobyddion, sych:
A Å sylweddau brasterog ar yr wynebX/5
B Arall
02.06Crwst, bisgedi, cacennau a nwyddau eraill a werthir gan bobyddion, ffresh
A Å sylweddau brasterog ar yr wynebX(5)
B ArallX
03Siocled, siwgr a'u cynhyrchion Cynhyrchion melys
03.01Siocled, cynhyrchion ac arnynt haenen o siocled, yr hyn a ddefnyddir yn lle siocled, a chynhyrchion ac arnynt haenen o'r hyn a ddefnyddir yn lle siocledX/5
03.02Cynhyrchion melys:
A ar ffurf solid
— gyda sylweddau brasterog ar yr wynebX/5
— Arall
B ar ffurf pâst:
— gyda sylweddau brasterog ar yr wynebX/3
— llaithX
03.03Siwgr a chynhyrchion siwgr
A Ar ffurf solid
B Mêl a'i debygX
C Triagl a syrypau siwgrX
04Ffrwythau, llysiau a'u cynhyrchion
04.01Ffrwythau cyfan, ffres neu o'r oergell
04.02Ffrwythau wedi eu prosesu:
A Ffrwythau sych neu ddadhydredig, cyfan neu ar ffurf blawd neu bowdr
B Ffrwythau ar ffurf darnau, piwrî neu bâstX (a)X (a)
C Cyffeithiau ffrwythau (jamiau a chynhyrchion tebyg
— ffrwythau cyfan neu mewn darnau neu ar ffurf blawd neu bowdr, wedi eu cadw mewn cyfrwng hylifol):
— i) Mewn cyfrwng dyfrllydX (a)X (a)
— ii) Mewn cyfrwng olewogX (a)X (a)X
— iii) Mewn cyfrwng alcoholaidd> cyfaint 5%X(1)X
04.03Cnau (pysgnau, cnau castan, cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau pin ac eraill)
A Heb y plisgyn, sych
B Heb y plisgyn ac wedi eu rhostioX/5(3)
C Ar ffurf pâst neu hufenXX/3(3)
04.04Llysiau cyfan, ffres neu o'r oergell
04.05Llysiau wedi eu prosesu:
A Llysiau sych neu ddadhydredig yn gyfan neu ar ffurf blawd neu bowdr
B Llysiau, wedi eu torri, ar ffurf piwrîX (a)X (a)
C Llysiau wedi eu cadw:
— i) Mewn cyfrwng dyfrllydX (a)X (a)
— ii) Mewn cyfrwng olewogX (a)X (a)X
— iii) Mewn cyfrwng alcoholaidd (> 5% cyfaint)X(1)X
05Brasterau ac olewau
05.01Brasterau ac olewau anifeiliaid a llysiau, p'un a ydynt yn naturiol neu wedi eu trin (gan gynnwys saim coco, lard, a menyn wedi ailymsolido)X
05.02Margarîn, menyn a brasterau ac olewau eraill wedi eu gwneud o emylsiynau dŵr mewn olewX/2
06Cynhyrchion anifeiliaid ac wyau
06.01Pysgod:
A Ffres, o'r oergell, wedi eu halltu, wedi eu myguXX/3(3)
B Ar ffurf pâstXX/3(3)
06.02Cramenogion a molwsgiaid (gan gynnwys wystrys, cregyn glas, malwod) nad yw eu cregyn yn eu diogelu'n naturiolX
06.03Cig pob rhywogaeth sŵolegol (gan gynnwys dofednod a helgig):
A Ffres, o'r oergell, wedi ei halltu, wedi ei fyguXX/4
B Ar ffurf pâst, hufennauXX/4
06.04Cynhyrchion cig wedi eu prosesu (ham, salami, bacwn ac eraill)XX/4
06.05Cig a physgod wedi eu cadw neu wedi eu rhan-gadw:
A Mewn cyfrwng dyfrllydX (a)X (a)
B Mewn cyfrwng olewogX (a)X (a)X
06.06Wyau heb fod yn eu plisgyn:
Powdr neu sych
B ArallX
06.07Melynwy:
A HylifX
B Powdr neu o'r rhewgell
06.08Gwynwy sych
07Cynhyrchion llaeth
07.01Llaeth:
A CyflawnX(b)
B Wedi ei sychu'n rhannolX(b)
C Sgim neu'n rhannol sgimX(b)
D Sych
07.02Llaeth wedi ei eplesu megis iogwrt, llaeth enwyn a'r cyfryw gynhyrchion mewn cysylltiad â ffrwythau a chynhyrchion ffrwythauXX(b)
07.03Hufen a hufen surX (a)X (b)
07:04Cawsiau:
A Cyfan, ac arnynt groen anfwytadwy B Pob un arallX (a)X (a)X/3(3)
B Pob un arall
07:05Rennet:
A Ar ffurf hylifol neu ludiogX (a)X (a)
B Powdr neu sych
08Cynhyrchion amrywiol
08.01FinegrX
08.02Bwydydd wedi eu ffrio neu eu rhostio:
A Tatws wedi eu ffrio, ffriteri a'u tebygX/5
B Sy'n dod o anifeiliaidX/4
08.03Paratoadau ar gyfer cawl, potes ar ffurf hylif, solid neu bowdr (echdyniadau, crynodiadau); paratoadau bwyd cyfansawdd wedi eu homogeneiddio, prydau parod:
Powdr neu sych
— i) Å sylweddau brasterog ar yr wynebX/5
— ii) Arall
B Hylif neu bâst:
— i) Å sylweddau brasterog ar yr wynebX (a)X (a)X/3
— ii) ArallX (a)X (a)
08.04Burumau a chyfryngau codi:
A Ar ffurf pâstX(a)X(a)
B Sych
08.05Halen
08.06Sawsiau:
A Heb sylweddau brasterog ar yr wynebX(a)X(a)
B Mayonnaise, sawsiau sy'n deillio o mayonnaise, hufennau salad ac emylsiynau eraill olew mewn dŵrX(a)X(a)X/3
C Saws sy'n cynnwys olew a dŵr sy'n ffurfio dwy haenen ar wahânX(a)X(a)X
08.07Mwstard (ac eithrio mwstard mewn powdr o dan bennawd 08.17)X(a)X(a)X/3(3)
08.08Brechdanau, bara wedi ei grasu a'u tebyg sy'n cynnwys unrhyw fath o ddeunydd bwyd:
Å sylweddau brasterog ar yr wynebX/5
B Arall
08.09Hufen iâX
08.10Bwydydd sych:
Å sylweddau brasterog ar yr wynebX/5
B Arall
08.11Bwyd wedi ei rewi neu wedi ei rewi'n galed
08.12Echdyniadau crynodedig o gryfder alcoholaidd sy'n gyfwerth â neu'n fwy na chyfaint o 5%X(1)X
08.13Coco:
A Powdr cocoX/5(3)
B Pâst cocoX/3(3)
08.14Coffi, p'un ai wedi ei rostio ai peidio, digaffein neu hydawdd, yr hyn a ddefnyddir yn lle coffi, gronynnau neu bowdr
08.15Echdyniadau coffi hylifolX
08.16Perlysiau aromatig a pherlysiau eraill:
Camil, hocys, mintys, te, blodau leim ac eraill
08.17Sbeisiau a sesnin yn eu cyflwr naturiol:
Sinamon, clofs, mwstard mewn powdr, pupur, fanila, saffrwm ac eraill

RHAN 5Amodau'r Prawf Ymfudiad (Amser a Thymheredd)

Meini prawf cyffredinol

1.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 2, 4, 6 a 7 isod ac i baragraff 4.4 o Bennod II o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 82/711, rhaid defnyddio, ar gyfer yr amser a'r tymheredd a ddefnyddir pan gynhelir profion ymfudiad, yr amser a'r tymheredd a ddewisir o golofn 2 yn y Tabl yn y Rhan hon ac sy'n cyfateb i'r amodau cyffyrddiad gwaethaf a ragwelir ac a bennir yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw ar gyfer y deunydd neu'r eitem plastig sy'n cael ei brofi ac sy'n cyfateb hefyd i unrhyw wybodaeth ar label am y tymheredd defnyddio uchaf.

2.  Os bwriedir i'r cyfuniad canlynol fod yn berthnasol i'r defnydd a wneir o'r deunydd neu'r eitem plastig sy'n cael ei brofi, sef ei fod yn cael ei ddwyn i gyffyrddiad â bwyd ddwywaith neu fwy ac ar dymheredd a bennir yng ngholofn 2 yn y Tabl yn y Rhan hon, rhaid i'r prawf ymfudiad gael ei wneud drwy gymhwyso'r holl amodau gwaethaf sy'n gymwys ac a ragwelir ac sy'n briodol i'r sbesimen a brofir, a hynny un ar ôl y llall a chan ddefnyddio'r un gyfran o efelychydd bwyd.

3.  At ddibenion y Rhan hon yr amodau cyffyrddiad gwaethaf a ragwelir yw'r rhai y cydnabyddir mai hwy yw'r mwyaf heriol ar sail tystiolaeth wyddonol.

Ymfudwyr anweddol

4.  Pan fydd prawf yn cael ei gynnal i brofi ymfudiad penodol sylweddau anweddol rhaid i unrhyw brawf sy'n defnyddio efelychydd gael ei gyflawni mewn dull sy'n cydnabod colli ymfudwyr anweddol, sef rhywbeth a all ddigwydd yn yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir.

Achosion arbennig

5.  Pan fydd prawf ymfudiad yn cael ei wneud ar ddeunydd neu eitem plastig y bwriedir ei ddefnyddio mewn ffwrn microdon, os dewisir yr amser a'r tymheredd priodol o'r tabl yn y Rhan hon, caniateir defnyddio naill ai ffwrn gonfensiynol neu ffwrn microdon.

6.  Os bydd gwneud prawf ymfudiad o dan amodau cyffyrddiad a bennir yn y Tabl yn y Rhan hon yn peri unrhyw newid ffisegol neu newid arall i'r sbesimen a brofir, a hwnnw'n newid nad yw'n digwydd o dan yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir ar gyfer y deunydd neu'r eitem plastig, rhaid i'r prawf ymfudiad gael ei wneud yn yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir ac nad yw newidiadau ffisegol neu newidiadau eraill yn digwydd oddi tanynt.

7.  Pan fydd y deunydd neu'r eitem plastig yn cael ei ddefnyddio go iawn, os bwriedir ei ddefnyddio am gyfnodau llai na 15 munud ar unrhyw dymheredd nad yw'n is na 70°C ac nad yw'n fwy na 100°C a bod ei ddefnyddio felly'n cael ei ddangos ar label neu gyfarwyddyd priodol, nid oes rhaid gwneud unrhyw brawf ac eithrio am 2 awr ar dymheredd o 70°C ar y deunydd neu'r eitem plastig oni fwriedir hefyd i'r defnydd neu'r eitem plastig gael ei ddefnyddio ar gyfer storio ar dymheredd ystafell, ac yn yr achos hwn nid oes rhaid ond gwneud prawf am 10 niwrnod ar dymheredd o 40°C.

8.  Darllenir y Tabl yn y Rhan hon ar y cyd â'r nodiadau i'r Tabl.

Amodau cyffyrddiad o ran y defnydd gwaethaf a ragwelirAmodau'r prawf
(1)

Y cyfnod o amser sy'n cynrychioli'r amodau cyffyrddiad gwaethaf posibl a ragwelir.

(2)

Dim ond ar gyfer efelychydd D y caniateir defnyddio'r tymheredd hwn. Ar gyfer efelychydd A, B neu C caniateir disodli'r prawf â phrawf ar 100°C neu ar dymheredd adlifo am gyfnod sy'n para pedair gwaith yr amser a ddewisir yn unol â pharagraff 1 o'r Rhan hon.

Amser cyffyrddiad:Amser profi:
Llai na neu gymaint â 5 munud(1)
>5 munud ond llai na neu gymaint â 0.5 awr0.5 awr
>0.5 awr ond llai na neu gymaint ag 1 awr1 awr
>1 awr ond llai na neu gymaint â 2 awr2 awr
>2 awr ond llai na neu gymaint â 4 awr4 awr
>4 awr ond llai na neu gymaint â 24 awr24 awr
>24 awr10 niwrnod
Tymheredd cyffyrddiad:Tymheredd profi:
Llai na neu gyfuwch â 5°C5°C
>5°C ond llai na neu gyfuwch ag 20°C20°C
>20°C ond llai na neu gyfuwch â 40°C40°C
>40°C ond llai na neu gyfuwch ag 70°C70°C
>70°C ond llai na neu gyfuwch â 100°C100°C neu dymheredd adlifo
>100°C ond llai na neu gyfuwch ag 121°C121°C (2)
>121°C ond llai na neu gyfuwch â 130°C130°C (2)
>130°C ond llai na 150°C150°C (2)
>150°C175°C (2)

RHAN 6Prawf Braster Disodli i brofi Ymfudiad Cyflawn a Phenodol

1.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 2, 4 a 5, rhaid i'r holl gyfryngau profi a bennir yn y Tabl yn y Rhan hon gael eu defnyddio yn y prawf braster disodli ar gyfer ymfudiad cyflawn neu benodol o dan amodau prawf sy'n cyfateb i'r amodau prawf ar gyfer efelychydd D.

2.  Caniateir defnyddio amodau prawf ac eithrio'r rhai a bennir yn y Tabl yn y Rhan hon yn y prawf braster disodli os rhoddir ystyriaeth i'r tybiaethau sydd wrth wraidd yr amodau prawf a bennir yn y Tabl hwnnw ac, os polymer yw'r deunydd neu'r eitem plastig sy'n cael ei brofi, ystyriaeth i'r profiad presennol o'r math hwnnw o bolymer.

3.  Ar gyfer pob prawf—

(a)rhaid defnyddio sbesimen newydd i'w brofi;

(b)rhaid cymhwyso'r rheolau sydd wedi eu rhagnodi ar gyfer efelychydd D yn Rhannau 3, 4 a 5 o'r Atodlen hon i bob cyfrwng prawf;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff 4, rhaid penderfynu cydymffurfedd â therfyn ymfudiad drwy ddewis y gwerth uchaf drwy ddefnyddio'r holl ddulliau profi.

4.  Os bydd gwneud prawf ymfudiad yn peri unrhyw newid ffisegol neu newid arall i'r sbesimen a brofir, a hwnnw'n newid nad yw'n digwydd o dan yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir o ran y deunydd neu'r eitem plastig, rhaid i ganlyniad y prawf hwnnw beidio â chael ei ddefnyddio i gadarnhau cydymffurfedd â'r terfyn ymfudiad.

5.  Rhaid peidio â defnyddio unrhyw amodau prawf a geir yn y Tabl yn y Rhan hon y cydnabyddir yn gyffredinol ar sail tystiolaeth wyddonol nad ydynt yn briodol i'r deunydd neu'r eitem sydd i'w brofi.

6.  Rhaid darllen y Tabl yn y Rhan hon gyda'r nodiadau i'r Tabl.

Amodau confensiynol ar gyfer profion disodli

Amodau'r prawf gydag efelychydd DAmodau'r prawf gydag isooctenAmodau'r prawf gydag ethanol 95%Amodau'r prawf gydag MPPO(1)
(1)

MPPO = Ocsid polyphenylen addasedig

(2)

Defnyddir y cyfryngau profi anweddol hyd at dymheredd uchaf o 60°C. Rhagamod o ddefnyddio'r profion hyn yw y bydd y deunydd neu'r eitem yn gwrthsefyll amodau'r prawf a fyddai fel arall yn cael ei ddefnyddio gydag efelychydd D. Trochwch sbesimen i'w brofi mewn olew olewydd o dan yr amodau priodol. Os newidir y nodweddion ffisegol (e.e. toddi, anffurfio) yna ystyrir bod y deunydd yn anaddas ar gyfer ei ddefnyddio ar y tymheredd hwnnw. Os na newidir y nodweddion ffisegol yna ewch ymlaen gyda'r profion disodli gan ddefnyddio sbesimenau newydd.

10 niwrnod ar 5°C0.5 diwrnod ar 5°C10 niwrnod ar 5°C
10 niwrnod ar 20°C1 diwrnod ar 20°C10 niwrnod ar 20°C
10 niwrnod ar 40°C2 ddiwrnod ar 20°C10 niwrnod ar 40°C
2 awr ar 70°C0.5 awr ar 40°C2 awr ar 60°C
0.5 awr ar 100°C0.5 awr ar 60°C(2)2.5 awr ar 60°C0.5 awr ar 100°C
1 awr ar 100°C1 awr ar 60°C(2)3 awr ar 60°C(2)1 awr ar 100°C
2 awr ar 100°C1.5 awr ar 60°C(2)3.5 awr ar 60°C(2)2 awr ar 100°C
0.5 awr ar 121°C1.5 awr ar 60°C(2)3.5 awr ar 60°C(2)0.5 awr ar 121°C
1 awr ar 121°C2 awr ar 60°C(2)4 awr ar 60°C(2)1 awr ar 121°C
2 awr ar 121°C2.5 awr ar 60°C(2)4.5 awr ar 60°C(2)2 awr ar 121°C
0.5 awr ar 130°C2 awr ar 60°C(2)4 awr ar 60°C(2)0.5 awr ar 130°C
1 awr ar 130°C2.5 awr ar 60°C(2)4.5 awr ar 60°C(2)1 awr ar 130°C
2 awr ar 150°C3 awr ar 60°C(2)5 awr ar 60°C(2)2 awr ar 150°C
2 awr ar 175°C4 awr ar 60°C(2)6 awr ar 60°C(2)2 awr ar 175°C

RHAN 7Profion Braster Amgen i brofi Ymfudiad Cyflawn a Phenodol

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 2 o'r Rhan hon y canlynol yw'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni i ganiatáu i ganlyniad y naill brawf neu'r llall a bennir ym mharagraff 3 gael ei ddefnyddio fel dewis amgen yn lle canlyniad prawf ymfudiad a wneir o dan Ran 3—

(a)mae'r canlyniad a geir mewn “prawf cymharu” yn dangos bod y gwerthoedd yn gyfwerth â neu'n fwy na'r rhai a geir yn y prawf gydag efelychydd D; a

(b)nid yw'r ymfudiad sy'n digwydd yn y naill brawf neu'r llall a bennir ym mharagraff 3 dros ben y terfyn ymfudiad priodol, ar ôl cymhwyso'r ffactor rhydwytho priodol.

2.  Nid oes raid i'r amod yn is-baragraff (a) o baragraff 1 gael ei fodloni os gellir dangos ar sail canlyniad arbrawf gwyddonol fod y gwerthoedd a geir yn y naill brawf neu'r llall a bennir ym mharagraff 3 yn gyfwerth â neu'n fwy na'r rhai a geir yn unrhyw brofion ymfudiad a bennir yn Rhan 3.

3.  Y canlynol yw'r profion ymfudiad y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 a 3—

(a)prawf a wneir gan ddefnyddio cyfryngau anweddol gan gynnwys isoocten, ethanol 95%, toddyddion anweddol eraill neu gymysgedd o doddyddion o dan y cyfryw amodau cyffyrddiad ag a fyddai'n arwain at werthoedd cyfwerth â neu fwy na'r rhai a geir mewn prawf yn defnyddio efelychydd D;

(b)profion eraill sy'n defnyddio cyfryngau a chanddynt bŵer echdynnu cryf iawn o dan amodau prawf heriol iawn os cydnabyddir yn gyffredinol, ar sail tystiolaeth wyddonol, bod y canlyniadau, o ddefnyddio'r profion hyn, yn gyfwerth â neu'n uwch na'r rhai a geir mewn prawf yn defnyddio efelychydd D.

Rheoliad 14

ATODLEN 4Gwybodaeth i'w chynnwys mewn datganiad o gydymffurfedd

1.  Enw a chyfeiriad y gweithredwr busnes sy'n gweithgynhyrchu neu'n mewnforio'r deunyddiau neu'r eitemau plastig neu'r sylweddau a fwriedir ar gyfer gweithgynhyrchu'r deunyddiau neu'r eitemau hynny.

2.  Enw'r deunyddiau, yr eitemau neu'r sylweddau a fwriedir ar gyfer eu gweithgynhyrchu.

3.  Dyddiad y datganiad.

4.  Cadarnhad bod y deunyddiau neu'r eitemau plastig yn bodloni'r gofynion perthnasol a osodir yn y Gyfarwyddeb ac yn Rheoliad 1935/2004.

5.  Gwybodaeth ddigonol mewn perthynas â'r sylweddau a ddefnyddir y mae cyfyngiadau neu fanylebau yn bodoli ar eu cyfer o dan y Gyfarwyddeb er mwyn caniatáu gweithredwyr busnes derbyn i sicrhau cydymffurfedd â hwy.

6.  Gwybodaeth ddigonol mewn perthynas â'r sylweddau sy'n ddarostyngedig i gyfyngiad ar fwyd, a geir drwy gyfrwng data arbrofol neu gyfrifo theoretig ynghylch lefel eu hymfudiad penodol a, phan fo hynny'n briodol, feini prawf purdeb yn unol â'r Cyfarwyddebau purdeb i alluogi defnyddiwr y deunyddiau neu'r eitemau plastig i gydymffurfio â'r darpariaethau Cymunedol perthnasol neu, yn absenoldeb y cyfryw ddarpariaethau, â darpariaethau cenedlaethol sy'n gymwys i fwyd.

7.  Manylebau ynghylch defnyddio'r deunydd neu'r eitem plastig, megis —

(a)y mathau o fwyd y bwriedir iddo fod mewn cyffyrddiad â hwy;

(b)amser a thymheredd ei drin a'i storio mewn cyffyrddiad â'r bwyd;

(c)cymhareb arwynebedd cyffyrddiad â bwyd i gyfaint a ddefnyddir i gadarnhau cydymffurfedd y deunydd neu'r eitem plastig.

8.  Cadarnhad, pan ddefnyddir gwahanfur swyddogaethol plastig mewn plastig amlhaenog, bod y deunydd neu'r eitem plastig yn cydymffurfio â gofynion paragraffau 2 i 4 o Erthygl 7a o'r Gyfarwyddeb.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2008, (O.S. 2008/1237 (Cy.124)), ac yn ailddeddfu'r Rheoliadau hynny gyda newidiadau penodol. Y prif newid yw darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008 sy'n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007 sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd, (OJ Rhif L164 25.6.2008 tt.12—13), (“y Rheoliad Comisiwn newydd”). Mae'r Rheoliad Comisiwn newydd yn estyn y dyddiad terfyn perthnasol ar gyfer y cyfryw ddeunyddiau ac eitemau i 30 Ebrill 2009. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi'r Rheoliad Comisiwn newydd yn rheoliadau 22(3)(a) a 30(a).

2.  Mae'r Rheoliadau yn Rhan 2—

(a)yn gwahardd gweithgareddau penodedig mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd neu eitem plastig (fel y'i diffinnir yn rheoliad 2) sy'n methu â bodloni'r safonau gofynnol priodol a osodir yn y Rheoliadau (rheoliad 3);

(b)yn gwahardd defnyddio monomerau ac ychwanegion wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig ac eithrio yn unol ag amodau penodedig (rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn achos monomerau a rheoliad 5 ac Atodlen 1 yn achos ychwanegion);

(c)yn pennu'r safonau gofynnol sy'n ymwneud â galluogrwydd monomer neu ychwanegyn i drosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd (rheoliad 6 ar gyfer monomerau a rheoliad 7 ar gyfer ychwanegion);

(ch)yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn â chynhyrchion a geir drwy eplesu bacterol (rheoliad 8 );

(d)yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn â therfynau ymfudiad cyflawn o ddeunyddiau neu eitemau plastig i fwyd (rheoliad 9);

(dd)yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn ag ymfudiad aminau aromatig sylfaenol o ddeunyddiau neu eitemau plastig i fwyd (rheoliad 10);

(e)yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn â deunyddiau ac eitemau amlhaenog plastig (rheoliad 11);

(f)yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad 1895/2005 ar gyfyngu ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28), sy'n cynnwys darpariaethau Cymunedol ynglŷn â'r deilliadau epocsi a elwir BADGE, BFDGE a NOGE (rheoliad 12);

(ff)yn pennu'r dulliau o benderfynu ar allu deunydd neu eitem plastig i drosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd, ac i ganfod presenoldeb unrhyw gyfansoddion o'r fath mewn bwyd (rheoliad 13 ac Atodlenni 2 a 3);

(g)yn darparu bod rhaid, cyn y cam manwerthu, i wybodaeth ysgrifenedig benodedig benodol, gan gynnwys datganiad o gydymffurfiad deddfwriaethol, fynd gyda deunyddiau ac eitemau plastig (rheoliad 14 ac Atodlen 4).

3.  Mae'r Rheoliadau yn Rhan 3 —

(a)yn dynodi awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladd yn awdurdodau gorfodi yn eu hardaloedd neu yn eu rhanbarthau yn eu trefn (rheoliad 15);

(b)yn pennu'r tramgwyddau y gellir eu cyflawni o dan y Rheoliadau hyn ac yn gosod uchafswm y cosbau ar gollfarn (rheoliad 16);

(c)yn darparu y caniateir i unigolion sy'n gyfrifol am weithredoedd corff corfforaethol neu bartneriaeth Albanaidd gael eu herlyn ar y cyd am dramgwyddau gan y corff hwnnw neu'r bartneriaeth honno (rheoliad 17);

(ch)yn pennu terfyn amser ar gyfer cychwyn erlyniad (rheoliad 18);

(d)yn darparu ar gyfer erlyn person sy'n peri i berson arall dramgwyddo, p'un a yw achos yn cael ei ddwyn yn erbyn y tramgwyddwr gwreiddiol ai peidio (rheoliad 19);

(dd)yn darparu ar gyfer amddiffyniad o arfer diwydrwydd dyladwy am dramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 20);

(e)yn darparu amddiffyniad o ran gwerthu jariau gwydr sy'n cynnwys bwydydd penodol i fabanod a phlant bach ac sydd wedi eu selio â gasged PVC yn cynnwys olew ffa soia wedi ei epocsideiddio (rheoliad 21);

(f)yn darparu amddiffyniadau trosiannol o ran deunyddiau neu eitemau plastig penodol sydd eisoes wedi eu gweithgynhyrchu neu eu cylchredeg cyn bod newid yn y gyfraith a fyddai fel arall wedi gwneud eu gweithgynhyrchu neu eu cylchredeg yn anghyfreithlon (rheoliad 22);

(ff)yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan anfonir sampl i gael ei dadansoddi (rheoliad 23);

(g)yn darparu ar gyfer cael dadansoddi sampl gyfeiriadol gan Labordy Cemegydd y Llywodraeth (rheoliad 24).

4.  Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â'r cyfnod interim rhwng gwneud cais i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop am awdurdodiad i ychwanegyn newydd a'r penderfyniad terfynol gan yr Awdurdod hwnnw (rheoliad 25).

5.  Y prif Gyfarwyddebau a weithredwyd gan y Rheoliadau hyn yw —

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 82/711/EEC (OJ Rhif L297, 23.10.1982, t.26) sy'n gosod y rheolau sylfaenol sy'n angenrheidiol ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd, fel y mae wedi ei diwygio gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 93/8/EEC (OJ Rhif L90, 14.4.1993, t.22) a 97/48/EC (OJ Rhif L222, 12.8.1997, t.10);

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 85/572/EEC sy'n gosod y rhestr o efelychwyr sydd i'w defnyddio ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd (OJ Rhif L372, 31.12.1985, t.14), fel y mae wedi ei diwygio gan Gyfarwyddeb newydd y Comisiwn;

(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC (OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18) ynglŷn â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45) a 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8) a 2005/79/EC (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.35), a Chyfarwyddeb newydd y Comisiwn.

6.  Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn.

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn y drefn honno o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.

(2)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006, p.51).

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac fe'u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (2006 p.32).

(4)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17).

(5)

OJ Rhif L297, 23.10.1982, t.26. Diwygiwyd hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 97/48/EC (OJ Rhif L222, 12.8.1997, t.10).

(6)

OJ Rhif L372, 31.12.1985, t.14. Diwygiwyd hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2007/19/EC (OJ Rhif L97, 12.4.2007, t.50).

(7)

OJ Rhif L184, 15.7.1988, t.61.

(8)

OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27.

(9)

OJ Rhif L178, 28.7.95, t.1. Diwygiwyd hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/46, OJ Rhif L114, 21.4.2004, t.15.

(10)

OJ Rhif L226, 22.9.95, t.1. Diwygiwyd hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/47, OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.24.

(11)

OJ Rhif L339, 30.12.96, t.1. Diwygiwyd hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/95, OJ Rhif L283, 31.10.2003, t.71.

(12)

OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18. Diwygiwyd hon gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45), 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8), 2005/79/EC (OJ Rhif L302, 19.11.2005, p.35), a 2007/19/EC (a gyhoeddwyd ar ffurf wedi'i diwygio a'i chywiro yn OJ Rhif L97, 12.4.2007, p.50).

(13)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.

(14)

OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28.

(17)

OJ Rhif 196, 16.8.1967, t.1.

(18)

OJ Rhif L401, 30.12.2006, t.1.

(19)

OJ Rhif L339, 6.12.2006, t.16.

(21)

OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/89/EC (OJ Rhif L308, 25.11.2003, t.15).

(22)

OJ Rhif L92, 3.4.2007, t.9.

(23)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008 (OJ Rhif L164 25.06.2008, tt.12-13).

(27)

OJ Rhif L164 25.6.2008 tt.12-13.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources