- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym—
(h)at ddiben rheoliad 30(a) ar 30 Mehefin 2008, a
(i)at bob diben arall ar 1 Gorffennaf 2008.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ansawdd technegol da” (“good technical quality”) yw ansawdd technegol da o ran y meini prawf purdeb;
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw awdurdod sydd â'r cyfrifoldeb o dan reoliad 15 dros weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;
ystyr “babanod” (“infants”) yw plant o dan ddeuddeng mis oed;
mae i “BADGE” (“BADGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(a) o Reoliad 1895/2005;
mae i “BFDGE” (“BFDGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(b) o Reoliad 1895/2005;
mae “busnes” (“business”) i'w ddehongli yn unol ag adran 1(3) o'r Ddeddf;
mae “bwyd” (“food”) i'w ddehongli yn unol ag adran 16(5) o'r Ddeddf;
ystyr “bwydydd brasterog” (“fatty foods”) yw bwydydd y pennir yng Nghyfarwyddeb 85/572/EEC efelychydd D ar ei gyfer mewn prawf ymfudo;
ystyr “Cyfarwyddeb 82/711” (“Directive 82/711”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 82/711/EEC sy'n gosod y rheolau sylfaenol sy'n angenrheidiol ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(1);
ystyr “Cyfarwyddeb 85/572” (“Directive 85/572”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/572/EEC sy'n gosod y rhestr o efelychwyr sydd i'w defnyddio ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(2);
ystyr “Cyfarwyddeb 88/388” (“Directive 88/388”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 88/388/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â chyflasynnau i'w defnyddio mewn bwydydd ac â deunyddiau crai ar gyfer eu cynhyrchu(3);
ystyr “Cyfarwyddeb 89/107” (“Directive 89/107”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(4);
ystyr “y Cyfarwyddebau Purdeb” (“the Purity Directives”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/31/EC sy'n gosod meini prawf penodol mewn purdeb ar gyfer melysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd(5), Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC sy'n gosod meini prawf penodol mewn purdeb ar gyfer lliwiau i'w defnyddio mewn bwydydd(6) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 96/77/EC sy'n gosod meini prawf penodol mewn purdeb ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau neu felysyddion(7);
ystyr “deunydd neu eitem” (“material or article” ) yw deunydd neu eitem sy'n dod o fewn y diffiniad o ddeunyddiau ac eitemau yn Erthygl 1(2) o Reoliad 1895/2005;
ystyr “deunydd neu eitem amlhaenog plastig” (“plastic multi-layer material or article”) yw deunydd neu eitem plastig wedi ei gyfansoddi o ddwy haen neu fwy o ddeunyddiau sydd bob un ohonynt yn blastigau'n unig, a'r rheini'n haenau sydd wedi eu rhwymo wrth ei gilydd gan adlynion neu drwy ryw ddull arall;
ystyr “deunydd neu eitem plastig” (“plastic material or article”) yw unrhyw beth a gynhwysir at ddibenion y Gyfarwyddeb ymhlith y deunyddiau a'r eitemau plastig hynny a rhannau ohonynt y mae'r Gyfarwyddeb yn gymwys iddynt;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “EFSA” (“EFSA”) yw Awdurdod Diogelu Bwyd Ewrop;
ystyr “gwahanfur swyddogaethol plastig” (“plastic functional barrier”) yw gwahanfur sy'n cynnwys un haen neu fwy o blastigau sy'n sicrhau bod y deunydd neu'r eitem gorffenedig yn cydymffurfio ag Erthygl 3 o Reoliad 1935/2004 a chyda'r Gyfarwyddeb;
ystyr “yn gallu” (“capable”) yw bod yn gallu yn ôl yr hyn a sefydlir o dan reoliad 13;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos rhywbeth i'w werthu neu fod yn meddiannu peth i'w werthu, a rhaid dehongli “gwerthiant” (“sale”) yn unol â hynny;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC” ynglŷn â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(8);
ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio wrth gynnal busnes;
ystyr “monomer” (“monomer”) yw unrhyw sylwedd a gynhwysir at ddibenion y Gyfarwyddeb ymhlith monomerau a sylweddau cychwynnol eraill;
mae i “NOGE” (“NOGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(c) o Reoliad 1895/2005;
ystyr “plant ifanc” (“young children”) yw plant rhwng blwydd a theirblwydd oed;
ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd ac ar ddiddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC(9);
ystyr “Rheoliad 1895/2005” (“Regulation 1895/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar gyfyngu ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd(10);
ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998(11);
ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007(12);
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson, boed yn swyddog i'r awdurdod gorfodi neu beidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr “trin bwyd” (“handling of food”) yw defnyddio mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn bernir bod cyflenwi unrhyw ddeunydd neu eitem ac eithrio drwy werthiant, wrth gynnal busnes, yn werthiant.
(3) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb, Cyfarwyddeb 82/711, Cyfarwyddeb 85/572 neu Reoliad 1895/2005 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddo yn y Gyfarwyddeb honno neu'r Rheoliad hwnnw.
(4) Ac eithrio yn rheoliad 11(3) ac yn Rhan 5 o Atodlen 3, mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw yn y Gyfarwyddeb.
(5) Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i'r Gyfarwyddeb yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
3.—(1) Ni chaiff neb —
(a)defnyddio ar gyfer trin bwyd wrth gynnal busnes;
(b)gwerthu at ddibenion trin bwyd; neu
(c)mewnforio o unrhyw fan ac eithrio Gwladwriaeth AEE at ddibenion trin bwyd,
ddeunydd neu eitem plastig sy'n methu â bodloni'r safon ofynnol.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn mae deunydd neu eitem plastig yn methu â bodloni'r safon ofynnol—
(a)os cafodd ei weithgynhyrchu gyda monomer gwaharddedig fel a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) neu ychwanegyn gwaharddedig fel a ddisgrifir yn rheoliad 5(2); neu
(b)os nad yw'n bodloni'r safonau gofynnol a osodir yn rheoliad 6, 7, 8, 9, 10 neu 11.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw fonomer gwaharddedig wrth weithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem plastig.
(2) Monomer gwaharddedig yw unrhyw fonomer —
(a)nad yw o ansawdd technegol da;
(b)nad yw wedi ei ddynodi gan Rif PM/REF, Rhif CAS (os oes un) ac enw yng ngholofnau 1, 2 a 3 yn eu trefn yn Adrannau A neu B o Atodiad II; ac
(c)nas defnyddir yn unol ag unrhyw gyfyngiadau a manylebion ar gyfer y monomer hwnnw a osodir neu y cyfeirir ato yng ngholofn 4 yn yr Adrannau hynny.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i ddefnyddio monomer wrth weithgynhyrchu unrhyw —
(a)caenenni arwyneb a geir o gynhyrchion resinaidd neu o gynhyrchion a bolymereiddwyd mewn ffurf hylifol, bowdrog neu wasgaredig, gan gynnwys farneisiau, lacrau a phaentiau, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;
(b)resinau epocsi;
(c)adlynion a hyrwyddwyr adlyniad; neu
(ch)inciau argraffu.
(4) Rhaid peidio â chymryd bod paragraff (1) yn gwahardd gweithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem plastig gydag unrhyw sylwedd, os yw'r sylwedd dan sylw yn gymysgedd sy'n dod o fewn paragraff 3(c) (sy'n ymwneud â chymysgeddau o sylweddau a awdurdodir) o Atodiad II a'i fod o ansawdd technegol da.
(5) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio â pharagraff (1) oherwydd iddo gael ei weithgynhyrchu gydag unrhyw fonomer (p'un ai o ansawdd technegol da ai peidio) ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) y mae'n amddiffyniad i'r cyhuddedig brofi bod pob monomer o'r fath—
(a)yn bresennol yn y deunydd plastig gorffenedig fel amhuredd, fel adwaith rhyngol neu fel cynnyrch dadelfeniad sy'n dod o fewn paragraff 3(a) o Atodiad II, neu
(b)yn oligomer neu'n sylwedd macrofoleciwlar naturiol neu synthetig neu'n gymysgedd ohonynt sy'n dod o fewn paragraff 3(b) o'r Atodiad hwnnw,
a'i fod o ansawdd technegol da.
(6) Mae Atodlen 1 yn cael ei heffaith i ychwanegu at y rheoliad hwn.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn gwaharddedig wrth weithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem plastig.
(2) Ychwanegyn gwaharddedig yw —
(a)unrhyw ychwanegyn a ddynodir gan Rif PM/REF, Rhif CAS (os oes un) ac enw yng ngholofnau 1, 2 a 3 yn eu trefn o Adran A neu B o Atodiad III—
(i)nad yw o ansawdd technegol da, neu
(ii)nas defnyddir yn unol ag unrhyw gyfyngiadau a manylebion ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw a osodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 4 yn Adran A neu B o'r Atodiad hwnnw; neu
(b)unrhyw ychwanegyn bwyd a awdurdodir gan Gyfarwyddeb 89/107 neu unrhyw gyflasyn a awdurdodir gan Gyfarwyddeb 88/388 sy'n ymfudo i fwyd —
(i)mewn swmp y mae iddo swyddogaeth dechnolegol yn y cynnyrch bwyd terfynol, neu
(ii)pan fo'r bwyd o fath ag y mae defnyddio ychwanegyn neu gyflasyn bwyd o'r fath ynddo wedi ei awdurdodi yn y modd hwnnw, mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfynau a osodir yng Nghyfarwyddeb 89/107 neu yng Nghyfarwyddeb 88/388 yn ôl y priodoldeb, neu yn Atodiad III, pa un bynnag sydd isaf.
(3) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir bod y tramgwydd wedi ei gyflawni oherwydd gweithgynhyrchu deunydd neu eitem plastig gydag unrhyw ychwanegyn a ddynodir yn Adran A neu B o Atodiad III nad yw o ansawdd technegol da, mae'n amddiffyniad i'r cyhuddedig brofi bod pob ychwanegyn o'r fath yn bresennol yn y deunydd plastig gorffenedig fel amhuredd, fel adwaith rhyngol neu fel cynnyrch dadelfeniad.
(4) Mae Atodlen 1 yn cael ei heffaith i ychwanegu at y rheoliad hwn.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo terfyn ymfudiad a fynegir mewn mg/kg wedi ei ddangos yng ngholofn 4 yn yr adran berthnasol o Adran neu B o Atodiad II o ran unrhyw fonomer, mae unrhyw ddeunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd o'r monomer hwnnw yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo cyfansoddion y monomer hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol, ac at ddibenion y paragraff hwn y terfyn priodol yw —
(a)nifer y miligramau a fynegir yng ngholofn 4 a ryddheir ymhob cilogram o fwyd yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig ac eithrio un a bennir yn is-baragraff (b); a
(b)y chweched ran o nifer y miligramau a fynegir yng ngholofn 4 ym mhob decimetr sgwâr o arwynebedd y deunydd neu'r eitem plastig os yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn—
(i)eitem sy'n gynhwysydd neu sy'n gyffelybadwy â chynhwysydd neu y gellir ei lenwi, ac iddo gynhwysedd o lai na 500 o fililitrau neu fwy na 10 o litrau, neu
(ii)dalen, ffilm neu ddeunydd neu eitem plastig arall na ellir ei llenwi neu ei lenwi neu nad yw'n ymarferol amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd y deunydd neu'r eitem dan sylw a swmp y bwyd sydd mewn cyffyrddiad â'r arwynebedd hwnnw.
(2) Ni fernir bod deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchir o unrhyw fonomer y mynegir ar ei gyfer derfyn ymfudiad mewn mg/kg yng ngholofn 4 o Adran A neu B o Atodiad II yn gallu trosglwyddo cyfansoddion y monomer hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol ym mharagraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw ddod i gyffyrddiad ag ef yw bwyd y mae rheoliad 9(5) yn gymwys iddo.
(3) O ran deunyddiau neu eitemau plastig sy'n cael eu dwyn neu y bwriedir iddynt gael eu dwyn i gyffyrddiad â bwyd i fabanod a phlant bach rhaid cymhwyso, bob amser mewn mg/kg, y terfynau ymfudiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo terfyn ymfudiad a fynegir mewn mg/kg wedi ei ddangos yng ngholofn 4 o Adran A neu B o Atodiad III o ran unrhyw ychwanegyn, mae deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd gan gynnwys yr ychwanegyn hwnnw yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo cyfansoddion yr ychwanegyn hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol, ac at ddibenion y paragraff hwn y terfyn priodol yw —
(a)nifer y miligramau a ddangosir yng ngholofn 4 a ryddheir ymhob cilogram o fwyd yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig ac eithrio un a bennir yn is-baragraff (b); a
(b)y chweched ran o nifer y miligramau a fynegir yng ngholofn 4 ym mhob decimetr sgwâr o arwynebedd y deunydd neu'r eitem plastig os yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cynnwys—
(i)eitem sy'n gynhwysydd neu sy'n gyffelybadwy â chynhwysydd neu y gellir ei lenwi, ac iddo gynhwysedd o lai na 500 o fililitrau neu fwy na 10 o litrau, neu
(ii)dalen, ffilm neu ddeunydd neu eitem plastig arall na ellir ei llenwi neu ei lenwi neu nad yw'n ymarferol amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd y deunydd neu'r eitem dan sylw a swmp y bwyd sydd mewn cyffyrddiad â'r arwynebedd hwnnw.
(2) Ni fernir bod deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchir gan gynnwys ychwanegyn y mynegir ar ei gyfer derfyn ymfudiad mewn mg/kg yng ngholofn 4 yn Adran A neu B o Atodiad III yn gallu trosglwyddo cyfansoddion yr ychwanegyn hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol ym mharagraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw ddod i gyffyrddiad ag ef yw bwyd y mae rheoliad 9(5) yn gymwys iddo.
(3) O ran deunyddiau neu eitemau plastig sy'n cael eu dwyn neu y bwriedir iddynt gael eu dwyn i gyffyrddiad â bwyd i fabanod a phlant bach rhaid cymhwyso bob amser mewn mg/kg y terfynau ymfudiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
8. Mae cynnyrch a geir drwy eplesu bacteriol yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os yw —
(a)o ansawdd technegol da;
(b)wedi ei ddynodi gan Rif PM/REF, Rhif CAS ac enw yng ngholofnau 1, 2 a 3 yn eu trefn yn Atodiad IV; ac
(c)yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebion a osodir yng ngholofn 4 o'r Atodiad hwnnw.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae deunydd neu eitem plastig yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd y gall ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol a bennir ym mharagraff (2) i (4).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig sy'n —
(a)eitem sy'n gynhwysydd neu'n gyffelybadwy â chynhwysydd neu y gellir ei lenwi, ac iddo gynhwysedd o lai na 500 mililitr neu fwy na 10 o litrau, neu
(b)dalen, ffilm neu unrhyw ddeunydd neu eitem arall na ellir ei llenwi neu ei lenwi neu y mae'n anymarferol amcangyfrif ar ei chyfer neu ei gyfer y berthynas rhwng arwynebedd y deunydd neu'r eitem dan sylw a swmp y bwyd sydd mewn cyffyrddiad â'r arwynebedd hwnnw,
y terfyn priodol yw terfyn ymfudiad cyflawn o 10 o filigramau y decimetr sgwâr o arwynebedd y deunydd neu'r eitem plastig.
(3) Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig arall, y terfyn priodol yw terfyn ymfudiad cyflawn o 60 o filigramau o'r cyfansoddion yn cael eu rhyddhau fesul cilogram o fwyd neu o efelychyn bwyd.
(4) O ran deunyddiau neu eitemau plastig y bwriedir eu dwyn i gyffyrddiad neu sydd eisoes mewn cyffyrddiad â bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant bach, y terfyn priodol bob amser yw'r terfyn a bennir ym mharagraff (3).
(5) At ddibenion y rheoliad hwn ni fernir bod deunydd neu eitem plastig yn methu â bodloni'r safon ofynnol o dan baragraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem ddod i gyffyrddiad ag ef yw bwyd—
(a)sydd wedi ei bennu yn y tabl yn Rhan 4 o Atodlen 3; a
(b)pan na fo “X” wedi ei gosod yn unman yn y grŵp o golofnau dan y pennawd “Efelychwyr i'w defnyddio” gyferbyn â'r bwyd hwnnw.
(6) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio â'r rheoliad hwn, mae'r amddiffyniadau sydd ar gael ym mharagraff 10(2) o Atodlen 2 ar gael fel a bennir yn y paragraff hwnnw.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae deunydd neu eitem a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio aminau aromatig sylfaenol yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo'r cyfryw aminau (a fynegir fel anilin), mewn swmp canfyddadwy, i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw ddod i gyffyrddiad ag ef.
(2) Mae Rhan B o Atodlen V yn cael ei heffaith at ddibenion rhagnodi'r manylebion, ar gyfer eitemau penodol a restrir yn Adran A neu B o Atodiad II, Adran A neu B o Atodiad III, neu Atodiad IV, ar gyfer yr eitemau hynny y cyfeirir atynt yng ngholofn 4 o'r Atodiad neu'r Adran o'r Atodiad o dan sylw.
(3) At ddibenion paragraff (1) ystyr swmp canfyddadwy yw o leiaf 0.01 miligram y cilogram o fwyd neu efelychyn bwyd.
(4) Nid yw'r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys i aminau aromatig cynradd a restrir yn y Gyfarwyddeb.
11.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae deunydd neu eitem amlhaenog plastig yn bodloni'r safon ofynnol os yw pob haen y mae wedi ei gyfansoddi ohoni'n cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
(2) Nid oes rhaid i haen nad yw mewn cyffyrddiad uniongyrchol â bwyd ac sydd wedi ei gwahanu oddi wrth gyffyrddiad o'r fath gan wahanfur swyddogaethol plastig gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn ar yr amod —
(a)bod y deunydd neu'r eitem gorffenedig yn cydymffurfio â'r terfynau ymfudiad perthnasol yn benodol ac yn gyflawn; a
(b)os nad yw unrhyw sylwedd a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu'r haen yn cael ei gynnwys yn y Gyfarwyddeb neu mewn rhestrau cenedlaethol y cyfeirir atynt yn y Gyfarwyddeb honno, bod y sylwedd hwnnw'n bodloni gofynion paragraffau (3) a (4).
(3) Rhaid i sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) beidio â bod yn perthyn i gategori'r rhai a ddosberthir—
(a)yn sylweddau y profwyd neu yr amheuir eu bod yn sylweddau carsinogenaidd, mwtagenaidd neu wenwynig i atgenhedlu yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 67/548/EEC(13), neu
(b)o dan y meini prawf hunangyfrifoldeb yn sylweddau carsinogenaidd, mwtagenaidd neu wenwynig i atgenhedlu yn unol â rheolau Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb honno.
(4) Rhaid i ymfudiad sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) i fwyd neu efelychyn bwyd beidio â bod yn fwy na 0.01 mg/kg, wedi ei fesur a'i fynegi yn unol â'r gofynion a'r manylebau a geir yn Erthygl 7a(3) o'r Gyfarwyddeb.
12.—(1) Yn y rheoliad hwn —
(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 1895/2005;
(b)mae paragraffau (2) i (5) yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (eithriad yn ymwneud â chynwysyddion storio a phiblinellau penodol);
(c)at ddibenion Erthygl 6(4) (gofyniad i ddatgelu dyddiad llenwi) yr awdurdod cymwys yw'r awdurdod a ddynodir yn rheoliad 15.
(2) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) (darpariaethau trosiannol) a (4) ( gofynion labelu), ni chaiff neb —
(a)gweithgynhyrchu,
(b)defnyddio ar gyfer trin bwyd wrth gynnal busnes,
(c)gwerthu at ddibenion trin bwyd, neu
(ch)mewnforio at ddibenion trin bwyd
unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 neu Erthygl 4 (gwaharddiadau yn ymwneud â BFDGE a NOGE yn eu trefn).
(3) Ni chaiff neb weithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem mewn modd sy'n groes i ofynion Erthygl 2 (rheolaethau ar ymfudiad BADGE o ddeunyddiau ac eitemau).
(4) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), ni chaiff neb—
(a)defnyddio ar gyfer trin bwyd wrth gynnal busnes,
(b)gwerthu at ddibenion trin bwyd, neu
(c)mewnforio at ddibenion trin bwyd
unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi cael ei weithgynhyrchu mewn modd sy'n groes i ofynion Erthygl 2.
(5) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(3) (darpariaethau trosiannol yn ymwneud â deunyddiau ac eitemau y daethpwyd â hwy i gyffyrddiad â bwyd cyn 1 Ionawr 2007), nid oes neb i fynd yn groes i na methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 5 (rhwymedigaethau ynghylch darparu datganiad ysgrifenedig wrth farchnata deunyddiau neu eitemau sy'n cynnwys BADGE neu ddeilliadau ohono).
(6) Ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, fethu â chydymffurfio â chais a wneir o dan Erthygl 6(4).
13.—(1) Rhaid i ddeunydd neu eitem plastig gael ei drin fel pe bai'n gallu trosglwyddo i fwyd y gall ddod i gyffyrddiad ag ef i'r graddau bod gallu o'r fath yn cael ei sefydlu —
(a)mewn unrhyw achos ac eithrio un y mae is-baragraff (b) neu (c) yn gymwys iddo, ac yn ddarostyngedig i Erthygl 8(4) o'r Gyfarwyddeb (y gellir ei chymhwyso pan gydymffurfir â'r amodau a ddatgenir o'i mewn), gan y dulliau gwirio a bennir yn Atodlen 2 (gan gynnwys y goddefiannau dadansoddol y cyfeirir atynt ym mharagraff 12 o'r Atodlen honno) ac yn Atodlen 3;
(b)mewn unrhyw achos pan fo gofyn sefydlu i ba raddau y mae finyl clorid, fel y'i dynodir yn Adran A o Atodiad II, yn gallu gwneud y fath drosglwyddiad, drwy'r dull y cyfeirir ato yn rheoliad 9(2) o Reoliadau 2007; neu
(c)mewn unrhyw achos pan fo gofyn sefydlu i ba raddau y mae ffthalad a restrir yn Adran B o Atodiad III â rhif cyfeirnod PM o 74640, 74880, 74560, 75100 neu 75105 yn gallu gwneud y fath drosglwyddiad, drwy'r dull y cyfeirir ato yn Erthygl 8(5) o'r Gyfarwyddeb.
(2) Yn Atodlenni 2 a 3, mae cyfeiriadau at ymfudiad neu ryddhad sylweddau i'w dehongli fel cyfeiriadau at drosglwyddo cyfansoddion i'r bwyd neu i'r efelychwr sy'n cynrychioli'r bwyd y gall y sylwedd ddod i gyffyrddiad ag ef.
(3) Rhaid i ymfudiad penodol cyfansoddyn o ddeunydd neu eitem plastig gael ei benderfynu pan fo hynny'n gymwys yn y dull a bennir yn yr is-baragraff perthnasol o baragraff 8 o Atodiad II.
(4) Rhaid i swmp cyfansoddyn mewn deunydd neu eitem plastig gael ei benderfynu pan fo hynny'n gymwys yn y dull a bennir yn yr is-baragraff o baragraff 8 o Atodiad II sy'n ymwneud â'r term “QM(T)”, “QMA(T)” neu “QMA” yn ôl y digwydd.
14.—(1) Ar gamau marchnata ac eithrio'r cam manwerthu rhaid i berson sy'n rhoi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem plastig neu unrhyw sylwedd a fwriedir ar gyfer gweithgynhyrchu deunydd neu eitem plastig sicrhau bod datganiad ysgrifenedig yn mynd gyda'r deunydd neu'r eitem plastig neu'r sylwedd a bod y datganiad —
(a)yn cwrdd â gofynion Erthygl 16(1) o Reoliad (EC) Rhif 1935/2004;
(b)yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 4; ac
(c)yn cydymffurfio â pharagraff (2).
(2) Rhaid adolygu datganiad ysgrifenedig a wneir o dan baragraff (1) pan fydd newidiadau sylweddol yn y gwaith o gynhyrchu deunydd neu eitem plastig y dyroddir y datganiad ar ei gyfer yn peri newidiadau yn yr ymfudiad neu pan fydd gwybodaeth wyddonol newydd ar gael.
(3) Rhaid i berson a grybwyllir ym mharagraff (1) beri bod y ddogfennaeth briodol ar gael i'r awdurdod gorfodi pan ofynnir amdani i ddangos bod y deunydd neu'r eitem plastig neu'r sylwedd a fwriedir ar gyfer ei weithgynhyrchu yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i'r ddogfennaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) gynnwys amodau a chanlyniadau'r profi, y cyfrifo, dadansoddi arall, a thystiolaeth am ddiogelwch neu resymu sy'n dangos cydymffurfedd.
15. Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi —
(a)darpariaethau Rheoliad 1895/2005 a grybwyllir yn rheoliad 12, a
(b)y Rheoliadau hyn.
16.—(1) Bydd unrhyw berson —
(a)sy'n mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad 3(1), 4(1), 5(1), 12(2) i (5) neu 14(1);
(b)sy'n fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi Rheoliad 1895/2005 neu'r Rheoliadau hyn ar waith;
(c)sy'n mynd yn groes i reoliad 12(6), 14(3) neu 21(3) neu, heb esgus rhesymol, yn methu mewn modd arall â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi Rheoliad 1895/2005 neu'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol i'r person hwnnw ofyn amdano; neu
(ch)sydd wrth honni cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllir yn is-baragraff (c), yn fwriadol neu'n ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol,
yn euog o dramgwydd.
(2) Mae person a gollfernir am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—
(a)yn achos tramgwydd o dan baragraff (1)(a) neu (ch)—
(i)o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau;
(ii)o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na chwe mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau;
(b)yn achos unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn i gyfnod o garchar nad yw'n hwy na thri mis neu i ddirwy nad yw'n fwy na lefel pump ar y raddfa safonol neu'r ddau.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (1)(c) i'w ddehongli fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a allai daflu bai arno petai'n gwneud hynny.
17.—(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol —
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff corfforaethol, neu
(b)unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o'r fath,
bernir bod yr unigolyn hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i gael achos wedi ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi'n unol â hynny.
(2) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i gael achos wedi ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi'n unol â hynny.
18. Nid oes erlyniad am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i gael ei gychwyn wedi i dair blynedd ddod i ben er pan gyflawnwyd y tramgwydd neu wedi i flwyddyn fynd heibio ers i'r erlynydd ei ddarganfod, p'un bynnag yw'r cynharaf.
19. Pan fo tramgwyddo gan berson (A) o dan y Rheoliadau hyn i'w briodoli i weithredu neu ddiffyg gweithredu gan ryw berson arall (B), mae person B yn euog o'r tramgwydd a gellir ei gyhuddo a'i gael yn euog o'r tramgwydd p'un a gaiff achos ei ddwyn yn erbyn person A ai peidio.
20.—(1) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r sawl a gyhuddir (“y sawl a gyhuddir”) brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi bod y tramgwydd yn cael ei gyflawni boed gan y sawl a gyhuddir neu gan berson sydd o dan reolaeth y sawl a gyhuddir.
(2) Heb ragfarnu cyffredinedd paragraff (1), cymerir bod person a gyhuddir o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn—
(a)na pharatôdd y deunydd neu'r eitem plastig neu, yn ôl y digwydd, y deunydd neu'r eitem yr honnir bod y tramgwydd wedi cael ei gyflawni ynglŷn ag ef; ac
(b)nas mewnforiodd i'r Deyrnas Unedig,
wedi sefydlu'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (1) os yw yn bodloni gofynion paragraff (3) a (4).
(3) Mae gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os profir —
(a)i'r tramgwydd gael ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y sawl a gyhuddir, neu oherwydd iddo ddibynnu ar wybodaeth a roddwyd gan berson o'r fath;
(b)naill ai —
(i)i'r sawl a gyhuddir wneud yr holl wiriadau ar y deunydd neu'r eitem plastig neu ar y deunydd neu'r eitem dan sylw ag a oedd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu
(ii)ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r sawl a gyhuddir ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a gyflenwodd iddo'r deunydd neu'r eitem plastig neu'r deunydd neu'r eitem dan sylw; ac
(c)nad oedd y sawl a gyhuddir yn gwybod ac nad oedd ganddo reswm i amau ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd y byddai ei weithred neu ei ddiffyg gweithred yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Mae gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os mai gwerthiant yw'r tramgwydd ac os profir —
(a)i'r tramgwydd gael ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y sawl a gyhuddir, neu oherwydd ei bod yn rhesymol i'r sawl a gyhuddir ddibynnu ar wybodaeth a roddwyd gan berson o'r fath;
(b)nad oedd y gwerthiant yr honnir ei fod yn dramgwydd yn werthiant o dan enw neu farc y sawl a gyhuddir; ac
(c)nad oedd y sawl a gyhuddir yn gwybod ac na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl iddo wybod ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd y byddai ei weithred neu ei ddiffyg gweithred yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
(5) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan y rheoliad hwn mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithredu person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir —
(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a
(b)pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos gerbron y llys eisoes mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn mis i'w ymddangosiad cyntaf,
wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd sy'n rhoi iddo'r fath wybodaeth ag a oedd yr adeg honno ym meddiant y sawl a gyhuddir yn dynodi neu'n cynorthwyo i ddynodi'r person arall hwnnw.
(6) At ddibenion paragraff (2), mae “paratoi” yn cynnwys gweithgynhyrchu neu fod yn ddarostyngedig i unrhyw fath ar drin neu brosesu.
21.—(1) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan reoliad 3 ynghylch gwerthu jar wydr—
(a)sy'n cynnwys
(i)fformiwla babanod neu fformiwla ddilynol fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC(14), neu
(ii)bwydydd neu fwydydd babanod wedi'u seilio ar rawn ac wedi'u prosesu ar gyfer babanod a phlant bach fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/125/EC(15), a
(b)y selir ei chaead drwy gyfrwng gasged PVC sy'n cynnwys olew ffa soia wedi'i epocsideiddio ac iddo'r Rhif PM/Ref 88640 yn Adran A o Atodiad III,
mae'n amddiffyniad i brofi'r materion a nodir ym mharagraff (2).
(2) Y materion i'w profi yw'r canlynol —
(a)yr oedd y gasged PVC a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau perthnasol yng ngholofn 4 yn Eitem 259A yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006(16);
(b)llanwyd a seliwyd y jar wydr cyn 19 Tachwedd 2006;
(c)yr oedd dyddiad llenwi neu ddangosiad mewn cod o'r dyddiad hwnnw yn bresennol ar y jar neu ar ei chaead adeg y gwerthiant; ac
(ch)yr oedd y labelu neu'r marcio â'r manylion a grybwyllir yn is-baragraff (c) adeg y gwerthiant yn cydymffurfio â'r gofynion sy'n ymwneud â hirbarhad yn Erthygl 2(1)(a) o Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(17).
(3) Ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, fethu â chydymffurfio â gofyniad a wnaed gan yr awdurdod gorfodi i ddatgelu'r dyddiad a arwyddoceir gan y dangosiad mewn cod a grybwyllir ym mharagraff (2)(c).
22.—(1) Er gwaethaf dirymu Rheoliadau 1998 a wneir gan reoliad 25 o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006 o ran unrhyw ddeunydd neu eitem plastig—
(a)a weithgynhyrchwyd cyn 1 Gorffennaf 1998, yr amddiffyniad yn rheoliad 3(3) o Reoliadau 1998;
(b)a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Ionawr 2003, yr amddiffyniad yn rheol 10(15) o Reoliadau 1998;
(c)a roddwyd i gylchredeg yn rhydd yn y Gymuned Ewropeaidd cyn 30 Tachwedd 2002, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(16) o Reoliadau 1998;
(ch)a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2004, yr amddiffyniad yn rheol 10(21)(a) o Reoliadau 1998;
(d)a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2003, yr amddiffyniad yn rheol 10(21)(b) o Reoliadau 1998;
(dd)sy'n cynnwys azodicarbonamid ac a gafodd ei ddwyn i gyffyrddiad â bwyd cyn 2 Awst 2005, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(23) o Reoliadau 1998; neu
(e)a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2006, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(25) o Reoliadau 1998;
rhaid i'r amddiffyniad fod yn gymwys mewn perthynas â thramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag yr oedd yn gymwys i dramgwyddau o dan y darpariaethau cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.
(2) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio tramgwydd a grybwyllir yn rheoliad 21(1), mae'n amddiffyniad i brofi—
(a)bod y weithred sy'n destun y tramgwydd honedig wedi'i chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 19 Tachwedd 2007; a
(b)na fyddai'r mater sy'n destun y tramgwydd honedig yn dramgwydd fel arall o dan y Rheoliadau hyn pe na byddai'r diwygiadau i'r Gyfarwyddeb a wnaed gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/79/EC wedi eu gweithredu yng Nghymru pan ddigwyddodd y mater.
(3) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio tramgwydd y cyfeirir ato yn rheoliad 21(1), mae profi'r canlynol yn amddiffyniad—
(a)yn achos caeadau y mae ynddynt gasged ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau ar gyfer Rhifau Cyfeirnod 30340, 30401, 56800, 76815, 76866, 88640 neu 93760 a geir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007 sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(18), bod y rhanddirymiad a geir yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008 sy'n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007(19) yn gymwys; neu
(b)yn achos caeadau y mae ynddynt gasged ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau ar gyfer Rhif Cyfeirnod 36640 (azodicarbonamid) a geir yn Atodiad III neu yn achos deunyddiau neu eitemau plastig nad ydynt yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau ar gyfer ffthaladau o dan Rifau Cyfeirnod 74560, 74640, 74880, 75100 neu 75105 a geir yn yr Atodiad hwnnw, bod y weithred yr honnir ei bod yn dramgwydd wedi ei chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Gorffennaf 2008; neu
(c)mewn unrhyw achos ac eithrio'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b), bod y weithred yr honnir ei bod yn dramgwydd honedig wedi ei chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mai 2009; ac
(ch)na fyddai'r weithred yr honnir ei bod yn dramgwydd wedi bod yn dramgwydd fel arall o dan y Rheoliadau hyn pe na byddai'r diwygiadau i'r Gyfarwyddeb a wnaed gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2007/19/EC wedi eu gweithredu yng Nghymru pan ddigwyddodd y mater.
23.—(1) Pan fo swyddog awdurdodedig wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf a phan yw o'r farn y dylid ei dadansoddi rhaid iddo rannu'r sampl yn dair rhan.
(2) Os yw'r sampl yn cynnwys cynhwysyddion wedi eu selio ac y byddai eu hagor, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn llesteirio dadansoddiad priodol, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynhwysyddion mewn tair lot, a chaiff pob lot ei drin fel rhan.
(3) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig—
(a)os oes angen, rhoi pob rhan mewn cynhwysydd addas a'i selio;
(b)marcio pob rhan neu bob cynhwysydd;
(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhoi un rhan i'r perchennog a'i hysbysu yn ysgrifenedig y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;
(ch)cyflwyno un rhan i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; a
(d)cadw un rhan i'w gyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 24.
24.—(1) Pan fo sampl wedi cael ei chadw o dan reoliad 23—
(a)a bod bwriad i gychwyn achos neu fod achos wedi ei gychwyn yn erbyn person am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a
(b)bod yr erlyniad yn bwriadu rhoi canlyniad y dadansoddiad a grybwyllir uchod fel tystiolaeth,
mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.
(2) O ran y swyddog awdurdodedig—
(a)caiff o'i wirfodd ei hun; neu
(b)rhaid iddo—
(i)os bydd yr erlynydd (a bod hwnnw'n berson heblaw'r swyddog awdurdodedig) yn gofyn iddo;
(ii)os bydd y llys yn gorchymyn hynny; neu
(iii)(yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y diffynnydd yn gofyn iddo,
anfon y rhan sydd wedi ei gadw o'r sampl i Gemegydd y Llywodraeth i gael ei ddadansoddi.
(3) Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonir iddo o dan baragraff (2) ac anfon tystysgrif at y swyddog awdurdodedig yn nodi'n benodol ganlyniadau'r dadansoddiad.
(4) Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniad y dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth fod wedi ei llofnodi gan neu ar ran Cemegydd y Llywodraeth, ond caiff unrhyw berson wneud y dadansoddiad o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.
(5) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig roi copi o dystysgrif dadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth i'r erlynydd (os yw hwnnw'n berson heblaw'r swyddog awdurdodedig) ac i'r diffynnydd cyn gynted ag y daw i law.
(6) Pan wneir cais o dan baragraff (2)(b)(iii) caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i adennill rhai o ffioedd Cemegydd y Llywodraeth, neu'r cyfan ohonynt, am wneud y swyddogaethau o dan baragraff (3), ac yn niffyg cytundeb gan y diffynnydd i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r gofyniad.
(7) Yn y rheoliad hwn mae “diffynnydd” yn cynnwys darpar ddiffynnydd.
25.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person wedi gwneud cais i gael cynnwys ychwanegyn cymwys yn rhestr y Gymuned y cyfeirir ati yn Erthygl 4 o'r Gyfarwyddeb.
(2) Rhaid i'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1), gyda data sy'n ei gefnogi, fod wedi ei wneud i EFSA cyn 1 Ionawr 2007.
(3) Os bydd EFSA, yn ystod archwiliad o'r data y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), yn galw am wybodaeth atodol, gellir parhau i ddefnyddio'r ychwanegyn cymwys, os caniateir ei ddefnyddio fel arall dan gyfraith Cymru a Lloegr, hyd nes bydd EFSA wedi dyroddi barn, cyhyd â bod yr wybodaeth atodol wedi cael ei chyflwyno o fewn y terfynau amser a bennir gan EFSA.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, ychwanegyn cymwys yw un y caniateir ei ddefnyddio mewn un neu fwy o Aelod-wladwriaethau cyn 1 Ionawr 2007.
26. Rhaid i'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf fod yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf —
(a)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(b)adran 30(8) (ynghylch tystiolaeth ddogfennol);
(c)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).
27. Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(20), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt) yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2008, rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.
28.—(1) Diwygir Rheoliadau 2007 yn unol â pharagraffau (2) i (3).
(2) Yn rheoliad 2(1) —
(a)hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 2008”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2008(21);”.
(3) Ym mharagraff (5) o reoliad 11 (terfynau ymfudo ar gyfer caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion), yn lle'r ymadrodd “fel y'i darllenir gyda rheoliad 11” rhodder “fel y'i darllenir gyda rheoliad 13”.
29. Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Gasgedi mewn Caeadau) (Cymru) 2008(22), yn lle'r diffiniad “Rheoliad y Comisiwn” rhodder y diffiniad canlynol—
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007, sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd, fel y mae wedi ei ddiwygio gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008(23);”.
30. Dirymir y Rheoliadau a ganlyn neu rannau ohonynt —
(a)Rheoliad 29(c) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2008(24);
(b)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2008; ac
(c)Rheoliad 24 o Reoliadau 2007.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2008
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: