Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1275 (Cy.132)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008

Gwnaed

8 Mai 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mai 2008

Yn dod i rym

3 Mehefin 2008

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972:

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 3 Mehefin 2008.

Dehongli cyffredinol

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw famal;

ystyr “anifeiliaid hela gwyllt” (“wild game”) yw anifail gwyllt sy'n cael ei hela i'w fwyta gan bobl;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd felly gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu'r Ddeddf ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;

ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn neu'r Ddeddf;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “canolfan driniaeth” (“treatment centre”) yw mangre a ddynodwyd o dan reoliad 5 at ddibenion trin cig o dan un o'r triniaethau a restrir yn Atodlen 2;

mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys—

(a)

trelar, lled-drelar neu rywbeth arall a ddyluniwyd neu a addaswyd i gael ei dynnu gan gerbyd arall;

(b)

rhan o unrhyw gerbyd y gellir ei datgysylltu;

(c)

cynhwysydd neu strwythur arall a ddyluniwyd neu a addaswyd ar gyfer ei gario ar gerbyd;

ystyr “cig” (“meat”) yw unrhyw ran o garcas naill ai anifail neu ddofednyn a fwriadwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl, ac mae'n cynnwys cynnyrch sy'n deillio o brosesu cig o'r anifail neu'r dofednyn hwnnw neu gynnyrch sy'n deillio o brosesu pellach y cyfryw gynnyrch cig a broseswyd;

ystyr “cigydda” (“slaughter”) yw lladd ar gyfer cynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl ond nid yw'n cynnwys lladd anifeiliaid hela gwyllt;

ystyr “clefyd” (“disease”) yw unrhyw un o'r canlynol: clwy clasurol y moch; clwy Affricanaidd y moch; clefyd pothellog y moch; rinderpest; pla'r defaid a'r geifr, clefyd Newcastle;

ystyr “cyflenwi” (“supply”) yw cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i berson sydd wedyn yn cyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac mae'n cynnwys llwyth ar gyfer ei werthu;

ystyr “deddfwriaeth clefydau” (“disease legislation”) yw unrhyw ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 1;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw pob rhywogaeth o ddofednod a fegir neu a gedwir mewn caethiwed ar gyfer cynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta gan bobl, cynhyrchu cynhyrchion masnachol eraill i'w bwyta gan bobl, ailstocio cyflenwadau o anifeiliaid hela neu at ddibenion unrhyw raglen fridio ar gyfer cynhyrchu'r categorïau hyn o adar;

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y cadarnhawyd bod clefyd mewn mangre heintiedig neu mewn sefydliad neu ddyddiad yr heintiad cynharaf os bydd Gweinidogion Cymru yn pennu dyddiad o'r fath;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(3);

ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad lle y mae cigydda a thrin unrhyw anifail neu ddofednyn yn digwydd;

ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw dir, adeilad neu le a ddefnyddir mewn busnes, heblaw lladd-dy neu sefydliad trin anifeiliaid hela;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”), o ran unrhyw fangre neu sefydliad, yw'r person sydd â gofal am y fangre honno neu'r sefydliad hwnnw;

ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw lladd-dy neu sefydliad trin anifeiliaid hela; ac

ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game handling establishment”) yw sefydliad lle y paratoir carcasau anifeiliaid hela gwyllt.

Anifail, dofednod a chig dan gyfyngiadau: diffiniadau

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, “anifail dan gyfyngiadau” (“restricted animal”) yw anifail—

(a)sydd ar, mewn neu o—

(i)mangre dan amheuaeth;

(ii)sefydliad lle yr amheuir bod clefyd yno;

(iii)mangre heintiedig;

(iv)sefydliad lle y cadarnheir bod clefyd yno;

(v)ardal heintiedig;

(vi)parth gwarchod; neu

(vii)parth goruchwylio; a

(b)o rywogaeth a allai gael y clefyd y gosodwyd cyfyngiadau ynglŷn â hi o dan ddeddfwriaeth clefydau.

(2Yn y Rheoliadau hyn, “dofednod dan gyfyngiadau” (“restricted poultry”) yw dofednod sydd ar, mewn neu o unrhyw un o'r canlynol o dan Orchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003(4)

(a)mangre dan amheuaeth;

(b)lladd-dy lle yr amheuir bod clefyd yno;

(c)mangre heintiedig;

(ch)lladd-dy lle y cadarnheir bod clefyd yno;

(d)ardal heintiedig;

(dd)parth gwarchod; neu

(e)parth gwyliadwriaeth.

(3“Mangre dan amheuaeth” (“suspect premises”) yw mangre lle y mae cyfyngiadau symud ar waith o dan ddeddfwriaeth clefydau oherwydd amheuir bod clefyd yno.

(4“Mangre heintiedig” (“infected premises”) yw mangre lle y cadarnhawyd bod clefyd yno o dan ddeddfwriaeth clefydau.

(5“Ardal heintiedig” (“infected area”) yw ardal sy'n dwyn yr enw hwn drwy ddatganiad gan Weinidogion Cymru o dan ddeddfwriaeth clefydau yn dilyn cadarnhad o glefyd.

(6“Parth gwarchod” (“protection zone”) yw ardal sy'n dwyn yr enw hwn drwy ddatganiad gan Weinidogion Cymru o dan ddeddfwriaeth clefydau yn dilyn cadarnhad o glefyd.

(7“Parth goruchwylio” (“surveillance zone”) yw ardal sy'n dwyn yr enw hwn drwy ddatganiad gan Weinidogion Cymru o dan ddeddfwriaeth clefydau yn dilyn cadarnhad o glefyd.

(8“Cig dan gyfyngiadau” (“restricted meat”) yw cig a gynhyrchwyd o'r dyddiad perthnasol o anifail dan gyfyngiadau neu o ddofednod dan gyfyngiadau o ardal heintiedig, parth gwarchod neu barth goruchwylio na chafodd ei drin yn unol ag Atodlen 2 mewn canolfan driniaeth, ac mae'n cynnwys cig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig.

Hysbysiadau

4.  O ran hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig; a

(b)ceir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg.

Dynodi mangreoedd, lladd-dai a sefydliadau trin anifeiliaid hela

5.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi unrhyw sefydliad neu fangre at ddibenion cigydda anifeiliaid neu ddofednod, neu dorri, paratoi, prosesu, pacio, lapio, storio neu drin cig.

(2O ran dynodi o dan y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caiff fod yn ddarostyngedig i amodau; ac

(c)ceir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad.

(3Mae mangreoedd a sefydliadau a ddynodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban neu Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig Gogledd Iwerddon ar gyfer yr un dibenion ag y ceir eu dynodi o dan y Rheoliadau hyn yn fangreodd neu'n sefydliadau dynodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(4Yn y Rheoliadau hyn, mae “dynodedig” (“designated”) yn cyfeirio at fangreoedd a sefydliadau sy'n ddynodedig o dan y rheoliad hwn.

Cyfyngiadau ynghylch symudiadau o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

6.—(1Oni fydd Gweinidogion Cymru'n cyfarwyddo fel arall, mae mesurau yn y Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran unrhyw beth a symudir o unrhyw fangreoedd, sefydliadau, ardaloedd neu barthau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 hefyd yn gymwys o ran symudiad o'r fath o unrhyw fangre, sefydliad, ardal neu barth cyfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

(2Mae'r rheoliad hwn yn gymwys ond dim ond os yw'r person y mae'r mesur yn gymwys iddo yn ymwybodol neu os dylai'n rhesymol fod wedi bod yn ymwybodol bod y symud o fangre, sefydliad, ardal neu barth o'r fath.

RHAN 2Rheolaeth ar gig o anifeiliaid neu ddofednod dan gyfyngiadau

Cig o fangre dan amheuaeth neu fangre heintiedig

7.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar gig sy'n dod o anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau sy'n deillio o fangre dan amheuaeth o'r dyddiad perthnasol, neu gig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig, ddal gafael ar y cig hwnnw hyd nes y bydd y fangre honno yn peidio â bod bellach yn fangre dan amheuaeth.

(2Mae paragraff (1) yn gymwys ond dim ond os yw'r person sy'n meddu ar y cig yn ymwybodol neu os dylai'n rhesymol fod wedi bod yn ymwybodol fod y cig yn dod o anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau sy'n deillio o fangre dan amheuaeth o'r dyddiad perthnasol, neu'n gig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar gig a gynhyrchwyd o anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau sy'n deillio o fangre dan amheuaeth o'r dyddiad perthnasol, neu gig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig, ddistrywio'r cig hwnnw'n ddi-oed.

Olrhain cig o fangre heintiedig

8.  Rhaid i unrhyw berson a fu'n berchen neu'n meddu ar gig y cyfeirir ato yn rheoliad 7(3)—

(a)wneud ei orau i olrhain y cig hwnnw; a

(b)hysbysu derbynnydd y cig hwnnw, heblaw defnyddiwr, bod y cig yn dod o fangre heintiedig.

Gwahardd cyflenwi ac allforio cig

9.—(1Rhaid i berson beidio —

(a)cyflenwi cig dan gyfyngiadau; neu

(b)allforio cig dan gyfyngiadau.

(2Nid yw'r gwaharddiad ym mharagraff (1)(a) yn gymwys i gig dan gyfyngiadau o ddofednod dan gyfyngiadau a fwriadwyd ar gyfer cyflenwi'r farchnad ddomestig ar yr amod—

(a)bod meddiannydd y lladd-dy lle y cynhyrchwyd y cig wedi cydymffurfio â rheoliadau 10, 12, 13 a 15(1) a (2);

(b)bod unrhyw berson sy'n meddu ar y cig yn cydymffurfio â rheoliadau 12(2) a 13; ac

(c)bod meddiannydd y fangre lle y mae torri, paratoi, prosesu, pacio, lapio, storio neu drin y cig yn digwydd yn cydymffurfio â rheoliadau 13 a 15(2) a (3).

(3Y “farchnad ddomestig” (“domestic market”) yw'r farchnad ar gyfer gwerthu cig dofednod yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Lladd-dai

10.—(1Caiff meddiannydd lladd-dy gigydda anifeiliaid dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau ond dim ond os yw'r lladd-dy'n ddynodedig.

(2Rhaid i feddiannydd lladd-dy sicrhau—

(a)bod anifeiliaid dan gyfyngiadau yn cael eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill;

(b)bod anifeiliaid dan gyfyngiadau yn cael eu cigydda ar wahân i anifeiliaid eraill;

(c)bod dofednod dan gyfyngiadau yn cael eu cadw ar wahân i ddofednod eraill;

(ch)bod dofednod dan gyfyngiadau yn cael eu cigydda ar wahân i ddofednod eraill.

(3Rhaid i feddiannydd lladd-dy sy'n cymryd anifeiliaid dan gyfyngiadau na chafodd eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill neu sydd heb gadw anifeiliaid dan gyfyngiadau ar wahân i anifeiliaid eraill, pan gaiff hysbysiad gan arolygydd milfeddygol, drin yr anifeiliaid eraill hynny fel anifeiliaid dan gyfyngiadau.

(4Rhaid i feddiannydd lladd-dy sy'n cymryd dofednod dan gyfyngiadau na chafodd eu cadw ar wahân i ddofednod eraill neu sydd heb gadw dofednod dan gyfyngiadau ar wahân i ddofednod eraill, pan gaiff hysbysiad gan arolygydd milfeddygol, drin y dofednod eraill hynny fel dofednod dan gyfyngiadau.

(5Rhaid i feddiannydd lladd-dy lle yr amheuir bod clefyd yno neu lle y cadarnheir bod clefyd yno ddal gafael ar yr holl gig sydd yn y lladd-dy nes bod arolygydd milfeddygol yn hysbysu'r meddiannydd hwnnw fod yr arolygydd wedi'i fodloni nad oes angen dal gafael bellach yn yr holl gig neu rywfaint o'r cig hwnnw i leihau'r risg o drosglwyddo clefyd.

Sefydliadau trin anifeiliaid hela

11.—(1Caiff meddiannydd sefydliad trin anifeiliaid hela dderbyn cig dan gyfyngiadau ond dim ond os yw'r sefydliad hwnnw'n ddynodedig.

(2Rhaid i feddiannydd sefydliad trin anifeiliaid hela lle yr amheuir bod clefyd yno neu lle y cadarnheir bod clefyd yno ddal gafael ar yr holl gig sydd yn y sefydliad trin anifeiliaid hela nes bod arolygydd milfeddygol yn hysbysu'r meddiannydd hwnnw fod yr arolygydd wedi'i fodloni nad oes angen dal gafael bellach yn yr holl gig neu rywfaint o'r cig hwnnw i leihau'r risg o drosglwyddo clefyd.

Derbyn a meddu ar gig dan gyfyngiadau

12.—(1Caiff meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad dderbyn cig dan gyfyngiadau ond dim ond os yw'r fangre honno neu'r sefydliad hwnnw'n ddynodedig.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar gig dan gyfyngiadau ei gadw ar wahân i gig arall.

Marcio cig

13.—(1Rhaid i feddiannydd sefydliad sicrhau bod cig dan gyfyngiadau wedi'i farcio yn unol ag Atodlen 3.

(2Rhaid i berson beidio â bod â chig dan gyfyngiadau yn ei feddiant neu dan ei reolaeth onid yw wedi'i farcio yn unol ag Atodlen 3.

(3Rhaid i berson beidio â thynnu oddi yno farc a osodwyd o dan y rheoliad hwn ac eithrio er mwyn galluogi torri, paratoi, prosesu, pacio neu drin cig dan gyfyngiadau.

(4Rhaid i unrhyw berson sy'n tynnu oddi yno farc a osodwyd o dan y rheoliad hwn, heblaw person sy'n trin cig mewn canolfan driniaeth â thriniaeth a restrir yn Atodlen 2, ailosod y marc, ynghyd â rhif cymeradwyo priodol y safle, ar ôl torri, paratoi, prosesu, pacio neu drin y cig.

Symud cig dan gyfyngiadau

14.  Ni chaiff neb gludo na threfnu cludo cig dan gyfyngiadau i fangre neu sefydliad onid yw'r fangre honno neu'r sefydliad hwnnw'n ddynodedig.

Cadw cofnodion

15.—(1Rhaid i feddiannydd lladd-dy lle y cigyddir anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau wneud cofnodion o'r canlynol—

(a)y nifer a'r math o anifeiliaid dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau a gigyddwyd;

(b)dyddiad y cyfryw gigydda;

(c)y clefyd a achosodd i'r anifeiliaid neu'r dofednod fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau o dan y ddeddfwriaeth clefydau.

(2Rhaid i unrhyw berson sydd â chig dan gyfyngiadau yn ei feddiant wneud cofnodion o'r canlynol—

(a)pa faint o gig dan gyfyngiadau a drafodwyd;

(b)y clefyd a achosodd i'r cig fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau o dan y ddeddfwriaeth clefydau;

(c)pa faint o gig dan gyfyngiadau a osodwyd mewn storfa oer a'i symud oddi yno;

(ch)dyddiad y cyfryw symud i storfa oer neu ohoni;

(d)pa faint o gig dan gyfyngiadau a waredwyd fel sgil-gynnyrch anifail.

(3Rhaid i feddiannydd canolfan driniaeth lle y caiff cig dan gyfyngiadau ei drin gadw cofnodion o'r canlynol—

(a)dyddiad y driniaeth;

(b)rhywogaeth yr anifail y daeth y cig ohono;

(c)pa faint o gig a driniwyd;

(ch)y driniaeth a roddwyd.

(4Rhaid cadw cofnodion a wnaed o dan y rheoliad hwn am o leiaf 3 blynedd o ddyddiad y cigydda, y symud neu'r driniaeth y maent yn cyfeirio ato neu ati.

RHAN 3Gofynion eraill

Gofynion o ran llaeth a chynhyrchion llaeth

16.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan bod gofynion o ran llaeth a chynhyrchion llaeth yn gymwys os ydynt o'r farn bod y gofynion hynny yn angenrheidiol i leihau'r risg o ymlediad clefyd.

(2Mae “llaeth a chynhyrchion llaeth” (“milk and milk products”) yn cynnwys llaeth gwartheg, llaeth geifr, llaeth mamogiaid a chynhyrchion a gafwyd o'r cyfryw laeth a fwriadwyd ym mhob achos ar gyfer ei yfed neu ei fwyta gan bobl.

(3O ran datganiad o dan baragraff (1)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)ceir ei ddiwygio drwy ddatganiad pellach ar unrhyw bryd; ac

(c)dim ond drwy ddatganiad pellach y gellir ei ddirymu.

RHAN 4Arolygu, tramgwyddau a gorfodi

Pwerau a dyletswyddau arolygwyr

17.—(1Caiff arolygydd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, ar bob adeg resymol fynd i unrhyw fangre, sefydliad neu gerbyd er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn.

(2Caiff arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol bod person sydd ag unrhyw gig yn ei feddiant yn dal gafael yn y cig hwnnw mewn man a bennir gan yr arolygydd.

(3Caiff arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol bod person sydd â chig yn ei feddiant yn gwaredu'r cig hwnnw.

(4Caiff arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol bod person sydd â chig yn ei feddiant yn trin y cig hwnnw.

(5Caiff arolygydd gyflawni'r ymholiadau, archwiliadau a phrofion hynny a chymryd y samplau hynny y mae o'r farn bod eu hangen.

(6Caiff arolygydd farcio unrhyw anifail, cig neu beth arall at ddibenion eu hadnabod.

(7Caiff arolygydd, drwy hysbysu meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gig yn cael ei farcio.

(8Caiff arolygydd, drwy hysbysu meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gig y mae'r meddiannydd wedi ei drafod yn cael ei olrhain.

(9Caiff arolygydd, drwy hysbysu meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw ran o'r fangre honno yn cael ei glanhau a'i diheintio.

(10Caiff arolygydd, drwy hysbysu'r person sydd â gofal am unrhyw beth, ei gwneud yn ofynnol bod y peth hwnnw'n cael ei lanhau a'i ddiheintio.

(11Caiff arolygydd, drwy hysbysu meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad, neu'r person sydd â gofal am unrhyw anifail neu beth ei gwneud yn ofynnol—

(a)bod yr anifail, neu beth yn cael ei ynysu mewn man penodedig;

(b)bod unrhyw anifail, neu beth yn cael ei wahanu oddi wrth unrhyw anifail arall neu beth arall.

(12Caiff arolygydd archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn a mynd â'r cofnodion hynny oddi yno er mwyn eu copïo.

(13Caiff arolygydd archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â llunio a chadw cofnodion o dan y Rheoliadau hyn.

(14Caiff arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol bod cofnodion cyfrifiadurol yn cael eu llunio ar ffurf y gellir ei dwyn ymaith.

(15Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre, sefydliad neu gerbyd fynd â'r canlynol gydag ef—

(a)y personau eraill hynny y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol; a

(b)unrhyw gynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd.

(16Os bydd arolygydd yn mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu neu i unrhyw sefydliad nad yw wedi'i feddiannu rhaid iddo eu gadael wedi'u diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag oeddent pan aeth yno gyntaf.

Darparu cymorth rhesymol, gwybodaeth a chydweithrediad

18.  Rhaid i unrhyw berson y mae unrhyw ofyniad ar ei gyfer yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn, neu unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth resymol i berson sy'n gweithredu'r Rheoliadau hyn, onid oes gan y person hwnnw achos rhesymol, wneud hynny'n ddi-oed.

Costau cydymffurfio

19.  Rhaid i'r costau a dynnir gan unrhyw berson wrth gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol, neu drwy beidio â chymryd camau a waherddir, o dan y Rheoliadau hyn gael eu talu gan y person hwnnw oni fydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall mewn ysgrifen.

Pwerau arolygwyr os ceir diffyg

20.  Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofyniad yn cael ei fodloni ar draul y person hwnnw.

Tramgwyddau ac achosion

21.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—

(a)adran 66 (gwrthod a rhwystro);

(b)adran 71A(5) (erlyniadau: terfyn amser);

(c)adran 73 (tramgwyddau cyffredinol);

(ch)adran 77 (arian y gellir ei adennill yn ddiannod);

(d)adran 79(1) i (4) (tystiolaeth a gweithdrefn).

(2Mae adran 75 o'r Ddeddf(6) (cosbau am dramgwyddau diannod penodol) yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac eithrio bod rhaid i unrhyw gyfnod o garchar ar gollfarn ddiannod beidio â bod yn hwy na thri mis.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

22.—(1Os dangosir bod tramgwydd a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

(a)wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog,

bydd y swyddog yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o dramgwydd ac yn atebol i gael achos yn ei erbyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Os bydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys o ran gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelodau mewn cysylltiad â'u swyddogaethau rheoli fel pe baent yn gyfarwyddwyr y corff.

(3Ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o bwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath.

Datgymhwyso darpariaethau i unrhyw berson sy'n gweithredu neu'n gorfodi'r Rheoliadau hyn

23.  Nid fydd unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar symud neu ddefnyddio unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn yn gymwys ar gyfer y canlynol wrth iddynt weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)arolygydd awdurdod lleol;

(c)unrhyw berson arall a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol i gyflawni'r cyfryw weithredu neu orfodi.

Gorfodi

24.  Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan—

(a)Gweinidogion Cymru mewn unrhyw sefydliad neu safle torri; neu

(b)yr awdurdod lleol, oni fydd Gweinidogion Cymru'n cyfarwyddo fel arall.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Mai 2008

Rheoliad 2

ATODLEN LDeddfwriaeth clefydau

1.  Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003(7)

2.  Gorchymyn Pla'r Gwartheg 1928(8)

3.  Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003(9)

4.  Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003(10)

5.  Gorchymyn Clefyd Pothellog y Moch 1972(11)

6.  Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003(12)

Rheoliad 2

ATODLEN 2Triniaethau cig a gymeradwyir

Y driniaeth i'r cigY clefydau y mae'r driniaeth yn effeithiol yn eu herbyn

(a)Triniaeth wresogi mewn cynhwysydd aerglos â gwerth F o 3 neu fwy (lle F yw effaith lladd sborau bacterol: mae gwerth F o 3 yn golygu bod y pwynt oeraf yn y cynnyrch wedi'i wresogi'n ddigonol i gyflawni'r un effaith ladd â 121°C mewn tair munud gyda chynhesu ac oeri enydaidd)

Pob clefyd

(b)Triniaeth wresogi ar dymheredd sydd o leiaf yn 70°C y mae'n rhaid ei gyrraedd ym mhob cwr o'r cig

Pob clefyd ac eithrio clwy Affricanaidd y moch

(c)Triniaeth wresogi ar dymheredd sydd o leiaf yn 80°C y mae'n rhaid ei gyrraedd ym mhob cwr o'r cig

Pob clefyd

(ch)Triniaeth wresogi mewn cynhwysydd aerglos hyd at o leiaf 60°C am o leiaf 4 awr ac yn ystod yr amser hwn rhaid i'r tymheredd craidd fod o leiaf yn 70°C am 30 o funudau

Pob clefyd ac eithrio Clefyd Newcastle

(d)Eplesu ac aeddfedu am gyfnod heb fod yn llai na naw mis ar gyfer cig heb esgyrn sy'n rhoi o ganlyniad y nodweddion canlynol: Gweithgaredd Dwr (Aw) â gwerth heb fod yn fwy na 0.93 neu werth pH o ddim mwy na 6

Pob clefyd ac eithrio pla'r defaid a'r geifr a chlefyd Newcastle

(dd)Eplesu naturiol fel a geir yn (d) ond gyda'r asgwrn yn dal i fod yn y cig

Clwy clasurol y moch a chlefyd pothellog y moch

(e)Triniaeth o hamiau ac ystlysau sy'n golygu eplesu ac aeddfedu naturiol am o leiaf 190 o ddiwrnodau ar gyfer hamiau a 140 o ddiwrnodau ar gyfer ystlysau

Clwy Affricanaidd y moch

(f)Triniaeth wresogi sy'n sicrhau tymheredd craidd sy'n cyrraedd o leiaf 65°C am yr amser sy'n angenrheidiol i gyflawni gwerth pasteureiddio (pv) sy'n hafal i neu'n fwy na 40

Pla'r defaid a'r geifr

Rheoliad 13

ATODLEN 3Marc adnabod arbennig

1.  Rhaid i gig dan gyfyngiadau o anifeiliaid gael ei farcio â marc adnabod—

(a)sy'n groes groeslin, a osodwyd ar ben y marc iechyd neu'r marc adnabod a osodir o dan erthygl 5 o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodedig ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(13) neu erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 a (EC) Rhif 854/2004(14), sy'n ddwy linell syth sy'n croesdorri ar ganol y stamp ac sy'n caniatáu i'r wybodaeth a geir ar y marc sydd yno barhau'n ddarllenadwy, neu

(b)stamp hirgrwn unigol, ei led yn 6.5 cm a'i uchder yn 4.5 cm, y mae'r wybodaeth ganlynol yn ddarllenadwy arno:

(i)ar y rhan uchaf, y llythrennau UK;

(ii)yn y canol, rhif cymeradwyo'r sefydliad;

(iii)ar y rhan isaf, y llythrennau EC;

(iv)dwy linell syth sy'n croesi ar ganol y stamp yn y fath fodd nad yw'r wybodaeth yn cael ei chuddio;

(v)gwybodaeth sy'n dynodi pwy oedd yr arolygydd milfeddygol a arolygodd y cig.

2.  Os defnyddir y stamp hirgrwn unigol y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b)—

(a)rhaid i'r llythrennau fod yn o leiaf 0.8 cm eu huchder;

(b)rhaid i'r ffigurau fod yn o leiaf 1 cm eu huchder; ac

(c)rhaid i'r defnydd o'r marc gael ei oruchwylio gan swyddog o'r Gwasanaeth Hylendid Cig.

3.  Rhaid i gig dan gyfyngiadau o ddofednod gael ei farcio â marc adnabod—

(a)sy'n farc gwladol y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer cyflawni Rheoliad (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(15); neu

(b)y marc a ddisgrifir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2007/118/EC sy'n gosod rheolau manwl o ran marc adnabod amgen yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC(16).

4.  Ceir gosod y marc adnabod yn unol â'r dulliau ym mharagraff 9, 10, 11 a 13 o adran 1(C) o Atodiad II i Reoliad EC Rhif 853/2004 sy'n gosod rheolau hylendid penodedig ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(17).

5.  Y “Gwasanaeth Hylendid Cig” (“Meat Hygiene Service”) yw'r corff sy'n dwyn yr enw hwnnw ac sy'n asiantaeth weithredol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn trosi yng Nghymru Erthyglau 3 a 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC sy'n gosod rheolau am iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu cynhyrchu, prosesu, dosbarthu a chyflwyno cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L 18, 23.1.2003, t 11).

Mae'r Erthyglau hyn hefyd yn cael eu trosi gan Orchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1079) (Cy.148), Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006 (O.S. 2006/179 (Cy.30)) a Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/2927) (Cy.262).

Trosir Erthyglau eraill o Gyfarwyddeb y Cyngor a mesurau eraill CE sy'n ychwanegu atynt gan—

(a)Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3294) (Cy.290);

(b)Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/196) (Cy.15);

(c)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1536) (Cy.153);

(ch)Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124);

(d)Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/376) (Cy.36); ac

(dd)Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31) (Cy.5).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn trosi, i'r graddau y maent yn gymwys i glefyd Newcastle, Benderfyniad y Comisiwn 2007/118/EC sy'n sefydlu marc iechyd amgen yn unol â Chyfarwyddeb 2002/99/EC (OJ Rhif L 51, 20.2.2007, t 19).

Mae'r Rheoliadau hyn yn creu rhwymedigaethau o ran anifeiliaid neu ddofednod o fangreoedd lle yr amheuir neu lle y cadarnheir bod clwy clasurol y moch, clwy Affricanaidd y moch, clefyd pothellog y moch, rinderpest, pla'r defaid a'r geifr neu glefyd Newcastle yno, a'r ardal heintiedig a/neu'r parth gwarchod a'r parth goruchwylio a roddir ar waith pan gadarnheir un o'r clefydau hyn. Maent hefyd yn creu rhwymedigaethau a gwaharddiadau o ran y cig sy'n dod oddi wrth yr anifeiliaid a'r dofednod hyn.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i ddal gafael mewn cig sy'n dod o fangre a amheuir a distrywio cig sy'n dod o fangre heintiedig. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i olrhain cig sy'n dod o fangre heintiedig. Mae rheoliad 9 yn gwahardd cyflenwi neu allforio “cig dan gyfyngiadau”, sef cig sydd heb ei drin sy'n dod o anifeiliaid a allai gael haint o ardaloedd dan gyfyngiadau, onid yw'r cig yn gig o ddofednod o ardal dan gyfyngiadau clefyd Newcastle. Yn yr achos hwnnw, gellir masnachu'r cig ar y farchnad ddomestig ar yr amod bod gofynion penodol wedi'u bodloni.

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i ladd-dai sy'n ymdrin ag anifeiliaid neu ddofednod dan gyfyngiadau a chig sy'n dod oddi wrth yr anifeiliaid neu'r dofednod hynny gael eu dynodi ac mae'n ei gwneud yn ofynnol gwahanu'r anifeiliaid neu'r dofednod hynny. Mae'n ofynnol dal gafael yn y cig os oes amheuaeth o glefyd, neu os cadarnheir hynny, yn y lladd-dy. Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau trin anifeiliaid hela sy'n trin cig dan gyfyngiadau gael eu dynodi.

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol bod mangreoedd a sefydliadau yn cael eu dynodi cyn derbyn cig dan gyfyngiadau ac yn ei gwneud yn ofynnol bod cig dan gyfyngiadau yn y lleoedd hynny'n cael ei wahanu oddi wrth gig arall.

Mae rheoliad 13 yn ymwneud â marcio cig sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau. Y marc iechyd y cyfeirir ato ym mharagraff 1(a) o Atodlen 3 yw marc hirgrwn pan osodir ef o dan Reoliad y GE 854/2004 sy'n gosod rheolau penodedig ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L 155, 30.4.2004, t 206) marc sgwâr (dofednod) neu farc pentagonol (anifeiliaid hela gwyllt) o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 (OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t.83). Goruchwylir gosod y marc iechyd gan swyddog o'r Gwasanaeth Hylendid Cig. Y marciau adnabod y cyfeirir atynt ym mharagraff 3 o Atodlen 3 yw'r marc cenedlaethol, unwaith eto mae hwn yn sgwâr ar gyfer dofednod a phentagonol ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt, a'r marc adnabod amgen sydd ar siâp mat cwrw a darlunnir ef yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2007/118/EC.

Mae rheoliad 14 yn gymwys i symud cig dan gyfyngiadau ac mae rheoliad 15 yn gymwys i gadw cofnodion o ran y cyfryw gig.

Mae rheoliad 16 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod gofynion o ran llaeth a chynhyrchion llaeth i leihau'r risg o ymlediad clefyd.

Mae rheoliadau 17 i 24 yn ymwneud â gorfodi.

Mae Atodlen 1 yn gosod y ddeddfwriaeth y datgenir parthau ac ardaloedd oddi tani o ran y clefydau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy. Mae Atodlen 2 yn gosod y triniaethau sy'n rhaid i gig dan gyfyngiadau fynd odanynt. Mae Atodlen 3 yn gosod y gofynion marcio cig ar gyfer cig dan gyfyngiadau.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn wedi'i baratoi. Gellir cael copïau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

O.S. 2005/2766. Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 11 iddi.

(3)

1981, p. 22, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, p. 42, O.S. 1992/3293, 2003/1734 a 2006/182.

(5)

Mewnosodwyd adran 71A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 14.

(6)

Mewnosodwyd adran 75 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 13.

(13)

OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t. 22.

(14)

OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 83.

(15)

OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 83.

(16)

OJ Rhif L 51, 20.02.2007, t. 19.

(17)

OJ Rhif L 226, 25.06.2004, t. 22.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources