Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Rheoliad 2

ATODLEN LDeddfwriaeth clefydau

1.  Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003(1)

2.  Gorchymyn Pla'r Gwartheg 1928(2)

3.  Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003(3)

4.  Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003(4)

5.  Gorchymyn Clefyd Pothellog y Moch 1972(5)

6.  Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003(6)

Rheoliad 2

ATODLEN 2Triniaethau cig a gymeradwyir

Y driniaeth i'r cigY clefydau y mae'r driniaeth yn effeithiol yn eu herbyn

(a)Triniaeth wresogi mewn cynhwysydd aerglos â gwerth F o 3 neu fwy (lle F yw effaith lladd sborau bacterol: mae gwerth F o 3 yn golygu bod y pwynt oeraf yn y cynnyrch wedi'i wresogi'n ddigonol i gyflawni'r un effaith ladd â 121°C mewn tair munud gyda chynhesu ac oeri enydaidd)

Pob clefyd

(b)Triniaeth wresogi ar dymheredd sydd o leiaf yn 70°C y mae'n rhaid ei gyrraedd ym mhob cwr o'r cig

Pob clefyd ac eithrio clwy Affricanaidd y moch

(c)Triniaeth wresogi ar dymheredd sydd o leiaf yn 80°C y mae'n rhaid ei gyrraedd ym mhob cwr o'r cig

Pob clefyd

(ch)Triniaeth wresogi mewn cynhwysydd aerglos hyd at o leiaf 60°C am o leiaf 4 awr ac yn ystod yr amser hwn rhaid i'r tymheredd craidd fod o leiaf yn 70°C am 30 o funudau

Pob clefyd ac eithrio Clefyd Newcastle

(d)Eplesu ac aeddfedu am gyfnod heb fod yn llai na naw mis ar gyfer cig heb esgyrn sy'n rhoi o ganlyniad y nodweddion canlynol: Gweithgaredd Dwr (Aw) â gwerth heb fod yn fwy na 0.93 neu werth pH o ddim mwy na 6

Pob clefyd ac eithrio pla'r defaid a'r geifr a chlefyd Newcastle

(dd)Eplesu naturiol fel a geir yn (d) ond gyda'r asgwrn yn dal i fod yn y cig

Clwy clasurol y moch a chlefyd pothellog y moch

(e)Triniaeth o hamiau ac ystlysau sy'n golygu eplesu ac aeddfedu naturiol am o leiaf 190 o ddiwrnodau ar gyfer hamiau a 140 o ddiwrnodau ar gyfer ystlysau

Clwy Affricanaidd y moch

(f)Triniaeth wresogi sy'n sicrhau tymheredd craidd sy'n cyrraedd o leiaf 65°C am yr amser sy'n angenrheidiol i gyflawni gwerth pasteureiddio (pv) sy'n hafal i neu'n fwy na 40

Pla'r defaid a'r geifr

Rheoliad 13

ATODLEN 3Marc adnabod arbennig

1.  Rhaid i gig dan gyfyngiadau o anifeiliaid gael ei farcio â marc adnabod—

(a)sy'n groes groeslin, a osodwyd ar ben y marc iechyd neu'r marc adnabod a osodir o dan erthygl 5 o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodedig ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(7) neu erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 a (EC) Rhif 854/2004(8), sy'n ddwy linell syth sy'n croesdorri ar ganol y stamp ac sy'n caniatáu i'r wybodaeth a geir ar y marc sydd yno barhau'n ddarllenadwy, neu

(b)stamp hirgrwn unigol, ei led yn 6.5 cm a'i uchder yn 4.5 cm, y mae'r wybodaeth ganlynol yn ddarllenadwy arno:

(i)ar y rhan uchaf, y llythrennau UK;

(ii)yn y canol, rhif cymeradwyo'r sefydliad;

(iii)ar y rhan isaf, y llythrennau EC;

(iv)dwy linell syth sy'n croesi ar ganol y stamp yn y fath fodd nad yw'r wybodaeth yn cael ei chuddio;

(v)gwybodaeth sy'n dynodi pwy oedd yr arolygydd milfeddygol a arolygodd y cig.

2.  Os defnyddir y stamp hirgrwn unigol y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b)—

(a)rhaid i'r llythrennau fod yn o leiaf 0.8 cm eu huchder;

(b)rhaid i'r ffigurau fod yn o leiaf 1 cm eu huchder; ac

(c)rhaid i'r defnydd o'r marc gael ei oruchwylio gan swyddog o'r Gwasanaeth Hylendid Cig.

3.  Rhaid i gig dan gyfyngiadau o ddofednod gael ei farcio â marc adnabod—

(a)sy'n farc gwladol y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer cyflawni Rheoliad (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(9); neu

(b)y marc a ddisgrifir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2007/118/EC sy'n gosod rheolau manwl o ran marc adnabod amgen yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC(10).

4.  Ceir gosod y marc adnabod yn unol â'r dulliau ym mharagraff 9, 10, 11 a 13 o adran 1(C) o Atodiad II i Reoliad EC Rhif 853/2004 sy'n gosod rheolau hylendid penodedig ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(11).

5.  Y “Gwasanaeth Hylendid Cig” (“Meat Hygiene Service”) yw'r corff sy'n dwyn yr enw hwnnw ac sy'n asiantaeth weithredol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

(7)

OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t. 22.

(8)

OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 83.

(9)

OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 83.

(10)

OJ Rhif L 51, 20.02.2007, t. 19.

(11)

OJ Rhif L 226, 25.06.2004, t. 22.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources